martedì, maggio 13, 2008

Yr Haf Hiraf yn Dyfod

Asu dwi’n oriog ar y funud, yn enwedig ers colli fy ffôn hyfryd iawn efo’i gerddoriaeth a’i luniau a phob math. Yn wahanol i bawb arall un oriog dwi yn y tywydd hwn beth bynnag, achos mae’n llygaid i’n cosi a’m gwddf yn gallu brifo’n eithriadol waeth bynnag faint a yfaf.

Felly mi fues i’n gollwr a chreu grŵp Facebook. Wyddoch chi, un o’r rhai sy’n dweud COLLI RHIFAU ANGEN RHIFAU PAWB. Dim ond deg o bobl sy wedi ymuno. Mae o leiaf tri o’r rheiny eisoes efo fy rhif ddydd Sul newydd. O diar. Doeddwn i’m yn gwybod bod fy amhoblogrwydd wedi diosg a phydru i’r fath raddau (er, mi oedd gen i syniad go dda).

Fyddai’m yn teimlo fel blogio yn ystod yr haf. Dwi’m yn teimlo y dylwn, a dwi’m efo’r un egni i fynd ar rants a, hyd yn oed, weithiau, dweud ambell i ffraethineb slei. Fe fyddaf, fel y chi, yn hoff o fanteisio ar y gerddi cwrw (sydd ddim yn bodoli yn Grangetown hyd y gwelaf i) a gwneud fawr o ddim arall; wn i ddim beth arall i’w wneud.

Ond fydd ‘na lai o yfed yr haf hwn na’r arfer. Ydi, mae hyd yn oed yr Hogyn yn teimlo’r tyndra ariannol y dyddiau hyn rhwng morgais a phetrol a bwyd a chael hwyl: mae’r siopa wythnosol yn costio mwy, y daith i’r gogledd yn dwyn mwy o geiniogau, popeth yn mynd yn waeth. Dwi’n ei ffendio’n eitha digalon na fyddaf allan cymaint ag yr hoffwn yr haf hwn. Bydd rhaid i mi ffendio rhywbeth rhad i wneud, debyg.

venerdì, maggio 09, 2008

Dydd Gwener

Dydd Gwener. Beth all rhywun ddweud am y dydd hwn? Byddaf bob tro yn disgwyl gwyrthiau o ddydd Gwener, ac mae’n fy siomi’n ddi-ben-draw. Byddaf yn disgwyl i rywbeth anhygoel ddigwydd, a hwyl a sbri’r byd a’i manion bethau ddod i’m canlyn i ddathlu diwedd yr wythnos waith. Disgwyliaf adar yn dawnsio canu yn y coed a’r gwair yn sglein a chlywed chwerthin plant a geiriau mwyn cariadon, cofleidio cyfeillion a chanu a cherddi’n llu.

Nid y fi ydi’r person mwyaf realistig, ni fedraf wadu hyn.

Fodd bynnag, dwi’n disgwyl cynnwrf yn yr awel ar ddydd Gwener ond byth yn ei gael. Prin iawn ar ôl dechrau gweithio mae rhywun yn sylwi mai diwrnod arall ydi dydd Gwener a bod yn rhaid i rywun gweithio, er gyda chryn lai o frwdfrydedd ac ymdrech nac unrhyw ddiwrnod arall. Rhaid i rywun weithio ar ddydd Gwener a dyna ddiwedd arni.

Gall nos Wener fod yn wag iawn heb fynd allan. Byddaf, mi fyddaf yn iawn efo botel o win coch mwyn yn y tŷ, ond nid yr un peth mohono ag ymryson ffraeth ffrindiau (neu, yn fy achos i, mwydro gwag a blinderog Lowri Dwd) dros beint mewn tafarndy.

Mae problem fawr yn hyn o beth. Dwi’n ffan o’r ‘peint distaw’, yr ambell beint a geir gyda’r nos cyn mynd adref. Yn Nyffryn Ogwen draw mae’n hanfod, ond rhaid dweud yng Nghaerdydd mae’n lled amhosib. Bai Caerdydd am fod yn fach ydyw. Ar ôl y peintiau distaw, mae’n ormod o demtasiwn, ac yn rhy hawdd o lawer, mynd i mewn i dre a meddwi’n jibidêrs tan yr oriau mân. Dydi hyn ddim yn arwain at gymdeithasu yn y modd arferol, chwaith, ond malu cachu o radd arallfydol (ac mi fynnaf fan hyn bod hyn yn benodol wir am y Cymry Cymraeg, sy’n hil o falwrs cachu didrugaredd, cythryblus) ac eithaf pen mawr y bore wedyn.

giovedì, maggio 08, 2008

Dwisho Facebook ac yn chwerw o'i herwydd, fel y gwelwch

Fel arfer dwi’n chwerwach na lemon y mae ei wraig wedi rhedeg i ffwrdd gyda banana gan ddwyn y siwgr ‘run pryd. Nid gwahanol mo heddiw.

Dwi’n ôl yn y ddinas ac yn ddig. Nid anaml y byddaf yn ddig, ac yn aml iawn pan fyddaf naill ai o amgylch Lowri Llewelyn (sy’n fy nigio) neu’n gwylio twat dosbarth canol yn sôn am fwyd organig (sy’n fy nigio) neu’n clywed rhywun yn mynegi barn dwi’n cytuno â hi ond ddim yn licio’r person (sy’n fy nigio), ond dig roeddwn neithiwr. Dwi ‘di malu’r rhyngrwyd acw. Fedrai’m mynd ar Facebook. Sydd, rhaid dweud, wedi fy nigio.

Un peth bach arall sy’n fy nigio ydi’r haul fastad ‘ma. Mae pawb yn licio haul, ond dwi’m yn licio haul. Ar y funud mae’n llygid i’n teimlo fel pe bai llwch ynddynt ac yn brifo. Hynny fydd yn digwydd i mi yn yr haf, wrth geisio manteisio ar y gerddi cwrw neu beint ar lannau’r dŵr, dwi’n mynd yn ddall ac yn teimlo eithaf trueni dros fy hun (sy’n ddigon teg achos ‘does neb arall yn teimlo trueni drosof – taswn i’n colli fy nghoesau mewn damwain erchyll â bwyell, neu fadfall, bosib, chwerthin y byddai pawb, cewch weled os daw’r dydd hwnnw).

Fyddai’m fel y bobl ofnadwy hynny sy’n dioddef yn erchyll o glefyd gwair. Maen nhw’n bobl ofnadwy canys eu bod yn tisian yn uchel ac yn snotian yn helaeth, a’u llygid yn troi’n goch ac yn siarad yn gwynfanllyd (fel Haydn yn hungover, braidd), w, hen bobl annifyr ydynt bob un.
Ond dyna ddigon o chwerwder am rŵan, rhaid i mi ei gronni hyd fy sgwrs nesaf.

martedì, maggio 06, 2008

Ben Foel

Ew, dwi’m wedi bod atoch chi ers sbel, naddo? Roeddwn yn bwriadu rhoi dadansoddiad manwl o’r etholiadau cyngor cyn penderfynu nad oeddwn i wirioneddol isio gwneud hynny. Wel, roeddwn i isio, ond wnes i ddim, felly dyna ddiwedd ar hynny.

Mi es ddoe i ben Foel. Mae’n bosib iawn mai ben Moel Faban ydi fy hoff le yn y byd i gyd; ‘doeddwn i heb fod am flynyddoedd felly mi es. Yr ochr draw i Foel ceir cwm diffaith, ond dwi wrth fy modd yno. Yr unig beth a glywch yno ydi brain a defaid, gweld y ceffylau gwyllt yn mynd ar eu busnes rhwng y carnau. Mae rhywbeth dwfn am heddwch y fan honno sy’n rhoi rhyw flas tangnefeddus i mi.

Serch hynny, dim ond Saesneg sydd i’w chlywed ar uchaf gyrion Rachub erbyn hyn. Fedra’ i ddim disgrifio’r teimlad yn llawn i chi o glywed Saesneg yn y pentref. Wn i ddim os mai casineb ydyw, neu dristwch, neu ddicter, neu anobaith, hyd yn oed, ond mae’n deimlad pwerus iawn nad ydw i’n cweit gallu delio efo fo, nac yn gallu ei anwybyddu. Mae’n waeth na chrafu ar fwrdd du neu sgrechian elyrch (sy’n sŵn afiach, cofiwch). Ond dyna ni, mae ‘na ddiwedd i bob cân, waeth pa mor gofiadwy ydyw.

venerdì, maggio 02, 2008

Plaid yn cipio Gerlan - hwrê!

Hoffwn i fod y cyntaf i gynnig llongyfarchiadau gwresog i Dyfrig am ennill ward Gerlan (sydd, yn bwysicach fyth, yn cynnwys Rachub – a dweud y gwir dwi’m yn hapus iawn na Gerlan ydi enw’r ward. Cynnig enw mwy addas: Rachub) yn disodli Llafur. Dwi ddim yn gwybod yr union ganlyniad oherwydd na fedraf fynd i safle Gwynedd, a ph’un bynnag Maes E sydd â’r gossip diweddaraf i gyd heddiw!

Er fy nadrithio diweddar o'r Blaid, dwi’n eithaf ffigwr o gasineb i rai o Lafurwyr Rachub, felly mae’n wirioneddol wneud i mi wenu’n slei tu fewn bod Plaid Cymru wedi, am y tro cyntaf erioed, cipio’r ward ar y cyngor oddi wrthynt. Llongyfarchiadau eto!

(Methu disgwyl i weld a ydi Sion White yn ennill heno yng Nghwmderi!!)

giovedì, maggio 01, 2008

Mae 'na hwyl i gael â phleidlais

Mi bleidleisiais cyn gwaith a gwneud fy mhenderfyniad terfynol wrth groesi. Roedd gen i dair pleidlais ond dwy a ddefnyddiais. Mae 'na hwyl i gael efo'r pleidleisio tactegol 'ma!

Hefyd, dyma, wedi rhywfaint o ymchwil, ddarogan canlyniad Cyngor Caerdydd:

Dem Rhydd 26 (-6)
Ceidwadwyr 21 (+11)
Llafur 19 (-8)
Plaid Cymru 7 (+3)
Annibynnol 2 (D/N)

Os mae'r Gath Ddu yn darllen, beth am fotel arall o win coch os mae hynny'n gywir? ;-)

mercoledì, aprile 30, 2008

Comrade Hogyn o Rachub

Dwi’n siomedig gyda fy hun am flogio’r nesaf peth i ddim am yr etholiadau lleol. Dwi’n siŵr fy mod wedi mynegi pe bawn yn defnyddio fy mhleidlais yn Rachub mai Plaid Cymru fyddai’n ei chael. Dim ond Plaid a Llafur sy’n sefyll yn Rachub. Dydi Llais Gwynedd ddim, ond pe byddent mi fyddwn yn fwy tebygol fyth o bleidleisio Plaid Cymru. Caiff pobl ddweud beth a fynnant, ond dydi Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ddim yn ddrwg ar y cyfan, ar wahân i ambell i un nad enwaf.

Fodd bynnag, gyda’r etholiad ei hun yn dyfod yfory dwi wedi gwneud fy mhenderfyniad dros bwy i fwrw fy mhleidlais. Fel y dywedais, mae’n gas gen i bobl nad ydynt yn pleidleisio, neu o leiaf sbwylio’u papur. Ond dydw i ddim am wneud hynny. Yfory, mi fyddaf yn rhoi croes wrth enw’r Comiwnyddion.

Mae hynny’n eithaf cam i mi. Bob etholiad a fu ers fy neunaw dwi wedi bwrw pleidlais dros Blaid Cymru, ond mae’r Comiwnyddion yn addo ehangu addysg Gymraeg, a gwyddom oll record Plaid Cymru am wneud hynny yng Nghaerdydd. Gwarth. Wrth ddarllen eu pamffled prin i mi anghytuno gydag unrhyw beth a ddywedwyd sy’n ddiawl o chwa o awyr iach o’i gymharu â Lib Dem Focus Team neu Can’t Win Here a chachu mat felly, ond i fy syndod roeddwn yn dueddol o anghytuno gyda nifer o gynigion Plaid Cymru. Afraid dweud, i’r bin yn syth aeth rhai’r pleidiau mawrion.

Dwi wastad wedi fflyrtio braidd â chomiwnyddiaeth, er na ddisodlir fy nghenedlaetholdeb gan ddim, ond fel dwi wedi dweud ers cyfnod, dydi Plaid Cymru ddim yn haeddu fy mhleidlais, a chan fy mod i’n hoff o be sydd gan Gomiwnyddion Grangetown i’w ddweud, nhw gaiff fy mhleidlais, er gwaetha’r ffaith nad oes ganddynt gyfle o ennill sedd.

martedì, aprile 29, 2008

Pensiwn

Hoffech chi glywed ystadegyn trist? Fydda’ i ddim yn ymddeol nes y flwyddyn 2052, sef pan fyddaf yn 68, sydd mewn 45 o flynyddoedd (mae gen i ddwbl beth yw fy oedran rŵan, i bob pwrpas, i ddal i weithio). Dwi’n meddwl bod hynny’n erchyll, fy hun. Heb sôn am feddwl am fyw mewn byd y bydd yn hollol estron i chi, pwy ddiawl sydd isio gweithio nes eu bod nhw’n 68 oed?

Mae rhan ohonof yn rhywle sydd wastad yn meddwl nad lle dyn yw swyddfa neu floc neu rhwng muriau yn gweithio’n gaeth i drefn sydd ohoni. Mae rhan sy’n gweiddi’n groch am fod yn yr awyr iach ac wrth y môr a’r coed yn rhydd o ddesgiau a chyfrifiaduron. Gan ddweud hynny, mi wn yn iawn mi fi fyddai’r cyntaf i gwyno ar yr arwydd gyntaf o law mân neu pan y mae’n ddiawl o oer. Dydi hi byth yn peidio â’m rhyfeddu pa mor gaeth ydi’r byd rhydd, a chreulon fyddai rhyddid pur. Bob dim yn baradocs, mae’n rhaid.

Yn ddiweddar iawn mi ‘sgwennais ddarn ofnadwy am fethu’r Gogledd, yn fras, ac ar fy myw dwi’n edifar ei ysgrifennu. Os ydi rhywun yn ysgrifennu rhywbeth, mae’n ei wneud o’n go iawn, rhywsut. Fydda i’n mynd yn ôl ddydd Gwener tan y Mercher nesaf. Fedrai’m disgwyl arogli’r awyr unwaith eto, na gweld gwyrddni. Mae dallt y mynyddoedd yn dangnefedd ac yn gancr, yn eich arbed chi ac yn eich difa’n araf deg. Ydw, dw i angen brêc.