giovedì, ottobre 02, 2008

Yr Egg Heads

Da ydi’r hen Eggheads. Yna fyddan nhw am 6 yn siarp bob noson o’r wythnos yn dallt popeth, a minnau yna gyda nhw’n aml yn eithriadol o falch, bron yn wenfflam fy ngorfoledd fy mod bron bob tro yn cael y cwestiynau hanes yn gywir, a dwi’n eithaf sicr yn dal i ddisgwyl cael un ar y celfyddydau’n gywir.

Dwi ddim cweit yn siŵr pam fy mod yn hoffi’r rhaglen hon gymaint, nac yn siŵr pam fod cymaint o bobl eraill yn ei hoffi chwaith. Wrth gwrs, dwi’n un o’r bobl hynny sy’n licio dangos ei fod yn glyfar drwy ddweud llwythi o ffeithiau di-bwrpas a bod yn feddylgar a sylwgar, ond ar yr un pryd mae’n gas ganddo bobl ddeallusol, glyfar. Hynny ydi, pobl ddeallusol, glyfar go iawn, nid y math o berson sy’n darllen y Bumper Book of Useless Information cryn dipyn yn fwy nag y dylai.

Dwi wedi hen benderfynu pwy nad ydw i’n licio a phwy dwi wrth fy modd efo. Fel pawb a fydd yn darllen dwi’n meddwl mai CJ ydi’r gwaethaf. Efallai y bydd yn eich synnu o wybod bod y dyn yn gyn-fodel. I ba beth, ni wn. Fydda i’n casáu ei wyneb bach crintachlyd, smyg ar y sioe, ac un o bleserau bywyd yw ei weld yn colli, sy’n digwydd yn ddigon aml diolch byth.

‘Rhen Jiwdiff sy ddim fod yno. ‘Runig beth mae ‘rhen Jiwdiff yn gwybod ydi pethau am Ffrainc ac mae hi mond yno gan iddi ateb 15 cwestiwn yn iawn. Gas gen i’r ffaith bod y gont yn glyfrach na mi o beth ddiawl.

Dwi, yn bersonol, ddim yn ffan o Kevin. Mae ‘na rywbeth anghymdeithasol iawn am Kevin; di-bersonoliaeth ydyw. Does neb isho ateb cwestiynau yn erbyn Kevin achos mae Kevin yn glyfar glyfar, ac ella dyna pam ei fod yn brennaidd. Dwi ddim isio bod yn gas (wel, oes) ond dwi’n meddwl bo Kevin ychydig yn ‘ffyni’.

Rŵan, y wirdo ydi Chris, y boi efo sbecs a dim gwallt, gan iddo’i fwyta ni synnwn, achos mae Chris yn ffat boi. Ta waeth, pe bai’n rhaid i mi fynd am beint efo un o’r Eggheads, Chris a ddewiswn, oherwydd er ei fod o’n wirdo mae 'na haen o normalrwydd yn perthyn iddo. Fedrwch chi ddychmygu y medrai’r boi ‘ma eich diddori efo ffeithiau heb overload. Ond mae o dal yn dew a fydd hynny byth yn beth da.

Ond, o! Daffni annwyl. Pwy na fyddai am i hon fod yn hen fodryb yn drewi o berffiwm a Fishman’s Friends i chi? Fydda i’n licio Daffni, nid jyst achos ei bod hi’n annwyl ac yn amlwg ddim yn licio’r CJ, mae Daffni yn ddiawledig o beniog. Mae Dyfed Blewfran yn beniog ond pen mawr gwag sydd ganddo fo yn hytrach na phen clyfar. Peniog medrus ydi Daffni. Bob tro yn ddi-ffael Daffni neu Kevin fydd yr Egghead nas heriwyd yn y pen-i-bens, heblaw diwrnod o’r blaen ac mi ges ddiawl o syndod mai Jiwdiff nas heriwyd.

Collodd y tîm hwnnw a da ‘fyd. ‘Sneb yn cael meddwl bo Daffni’n fwy thic na Jiwdiff, uda i wrthoch chi rŵan.

mercoledì, ottobre 01, 2008

martedì, settembre 30, 2008

Mae Dydd Mawrth yn oren

Bron bob gair a glywaf, ac yng nghwmni rhai pobl mae hynny grynswth yn fwy na hoffwn, gwelaf liw yn fy mhen. Dwi’n darllen llyfr ‘O Ran’ Mererid Hopwood ar y funud, ac er i fod yn onest dwi’n cael eithaf trafferth ei ddarllen mi gyrhaeddais ddarn ddoe a oedd yn sôn am liwiau dyddiau’r wythnos. Mae rhai Mererid Hopwood yn wahanol i mi. Am ryw reswm:

Dydd Llun sy’n wyrdd
Dydd Mawrth sy’n orenfelyn
Dydd Mercher sy’n wyrdd fel pwll
Dydd Iau sy’n aur
Dydd Gwener sy’n ddu
Dydd Sadwrn sy’n goch
Dydd Sul sy’n felyn golau

Hoffwn wybod a oes rhywbeth seicolojical y tu ôl i feddwl y ffasiwn bethau. Rydyn ni gyd, o’r symlaf i’r cymhlethaf, yn hoff iawn, yn anad dim, o ddadansoddi ein hunain. Rŵan, os un o’r symlaf ydych, sef er enghraifft Kinch neu’n gynghorydd Llais Gwynedd, cyflawnid y dasg ar fyr o dro. I’r cymhlethaf gall fod yn ddiderfyn.

Byddaf i â’r Dwd yn aml yn treulio oriau yn dadansoddi eraill, dros banad neu yn y car ar daith faith, ac yn dod i gasgliadau tra dwfn. Yn wir, er yn gyfuniad afiach a phlentynnaidd sy’n destun casineb darlithwyr a phrinder amynedd gan gyfeillion, rydym hefyd yn gyfuniad sy’n amgyffred llawer ac yn dallt gwreiddiau pob anghydfod a theimlad sy’n hofran o’n cwmpas.

Ond beth sydd gan hynny i wneud â’r ffaith bod Mawrth yn orenfelyn yn fy mhen, wn i ddim, a doedd Wikipedia fawr o help, chwaith.

lunedì, settembre 29, 2008

Sbonc y glennydd

Gwyddoch yn iawn mae un o’m dileits ydi enwau anfeiliaid yn Gymraeg, a dyna ydi enw ar anifail: sbonc y glennydd. Wyddoch chi beth ydyw, pan fyddwch yn chwilota drwy wymon (dwi ddim yn ymgymryd â hyn yn aml, gyda llaw) y creaduriaid bach chweinllyd hynny sy’n llechu yno. Wel, sbonc y glennydd ydi honno. Hoffwn fod yn sbonc y glennydd yn anad dim, yn wymonllyd fodlon ar y byd.

Rhyfedd ydi gweld hefyd un neu ddau o amrywiaethau. Fel y gwyddoch morgi ydi siarc, ond catfish ydi morflaidd. A chath fôr ydi ray. Sut ddaru hynny ddigwydd ni wn, ond bydd pethau felly wastad yn fy niddori hyd fy ngwely angau.

venerdì, settembre 26, 2008

Te mefus - siomedigaeth arw

Fel arfer dwi ddim yn cynhyrfu am bethau fel hyn ond un o’m dileits pennaf yn Amsterdam oedd panad o de mefus bob bore. Roedd o’n hyfryd, ac mi ges sioc pa mor hyfryd ydoedd.

Dwi ‘di bod i Sainsburys, Morristons, ASDA a hyd yn oed Tesco i chwilio amdano, ac wedi rhoi cynnig ar ddau math gwahanol oedd yn ffiaidd. Fe ges syndod pa mor wirioneddol, o waelod calon siomedig yr oeddwn wrth i mi ddod o hyd i wefan y cwmni sy’n cynhyrchu’r te (doeddwn i ddim yn cofio’r enw) a gweld nad ydi o’n gwerthu’r cynnyrch ym Mhrydain.

A rŵan mi fyddai’n rili trist am weddil y penwythnos.

giovedì, settembre 25, 2008

Stêc dda

Does fawr o bethau dwi’n eu casáu yn fwy na Llafurwyr (sori Rhys a Gwenan a Dad, ond asu maesho ffycin gras efo chi ... ) ond un peth y bydda i’n ei hoffi’n fawr ydi stêc dda. A hithau’n ben-blwydd ar Mam ddoe, aethom i’r Bae am fwyd, a stêc dda a gefais. Pam lai, meddwn i wrth fy hun, a minnau heb gael un ers hydoedd.

Rŵan, mi fydda i’n hoffi fy stêc yn benodol iawn. Canolig. Ddim wedi’i choginio gymaint fel bod y blas yn diflannu, a tai’m i gael gwaed yn nofio o amgylch y plât achos nid hen beth sâl mohonof.

Ydi wir, mae’r teulu i lawr ar y funud, ac er y diffyg llonydd llwyr y dônt â hwy, mae’n braf cael y teulu lawr, ‘nenwedig rŵan fydd gen i gyfle i brynu stôf a rhewgell newydd. Onid oes yn rhaid i ni gyd fanteisio ar y sefyllfaoedd anoddaf?

Y mis diwethaf mi wariais lawer mwy na’m cyflog, rhwng Amsterdam, lle’r wyf isio mynd yn ôl iddo'r funud hon, bil enfawr y Dreth Gyngor, y morgais, y biliau eraill, er bod fy nhreth wedi mynd i lawr am ryw reswm a’r cwmni benthyciadau myfyrwyr wedi penderfynu peidio â’m conio. Y bastads twyllodrus iddynt.

A pham ffwc dwi wastad isio talu mwy o drethi pan dwi wedi meddwi?

lunedì, settembre 22, 2008

Yr Uffern Daith

Taswn wedi rhedeg y marathon deirgwaith ac wedyn ‘di gorfod cael sgwrs efo Lowri Llewelyn, ni fyddwn fwy blinedig nag wyf ar hyn o bryd. Fy mai ydi’r peth oherwydd fy mod yn ystyfnig. Gair Lowri Llewelyn amdanaf oedd ‘ystyfnig’, gyda llaw, y geiriau a ddefnyddiwyd gennyf i oedd ‘penderfynol’ neu ‘anturus’.

Gwraidd y blinder a’r anghydfod ydi’r daith a wnaed i Aberystwyth ar y penwythnos. Tai’m i mewn i siarad am y meddwi ac ati, ond wedi gweld bod Lord of the Rings ar y teledu yn Y Llew Du a slagio off myfyrwyr a Saeson a digio am fod yr Academi yn hen gapel a drowyd yn dafarn ond eto yn ddigon bodlon cael peint yno, mi drodd pethau’n eithaf llanast. Hidia befo am hynny.

Yn lle mynd i fyny’r A470, sy’n lôn erchyll, ddiflas ar y gorau adegau, penderfynais fel y gyrrwr fynd drwy Gaerfyrddin. Rŵan, mi aeth pethau rhagddynt yn ddigon di-hid a hapus ar y ffordd yno, a minnau’n cael gweld rhywfaint o Sir Gaerfyrddin ac, am y tro cyntaf, y Geredigion arfordirol y tu hwnt i fae Aber. Gwych.

Ond dydi gwneud bron unrhyw beth ddwywaith mewn cyfnod mor fyr ddim yn hawdd. Ar y ffordd nôl cymerwyd troad anghywir, yn rhyw le, rhyw bryd, ac mi ddechreuais betruso fymryn wrth ddod i mewn i Lanymddyfri, gan wybod yr iawn nad y ffordd honno ddeuthum. Ar ôl cyrraedd Pontsenni, lle bynnag uffern mae Pontsenni, daethpwyd o’r diwedd at Aberhonddu a llwyddwyd dilyn y A470 nôl i Gaerdydd. Ni welwyd mo Chaerfyrddin na’r M4, felly o leiaf yn y canol rhywle pan ofynnwyd a oeddem wedi ei heibio, gallwn ddweud yn onest ein bod.

Dwi byth yn mynd nôl o Aberystwyth “drwy Gaerfyrddin” eto.

mercoledì, settembre 17, 2008

Dirywiad safon yr iaith

Efallai fy mod i’n swnio’n rêl cyfieithydd bach trist, ond mae safon iaith yn bwysig i mi, ac mae bratiaith yn troi fy stumog. Wn i ddim p’un a wnaethoch wylio Taro 9 neithiwr, a drafododd ddirywiad y Gymraeg ymhlith plant ysgol, ond dydi hi fawr o syndod, er ei fod yn benbleth ac yn gwneud fawr o synnwyr.

Fy “nghenhedlaeth” i (nid dyma’r gair cywir ac mi egluraf pam nes ymlaen) ydi un o’r rhai olaf, mi gredaf, fydd â Chymraeg cref, naturiol. Yn 23 oed, mae gen i a llawer iawn o’m cyfeillion, yng Nghaerdydd o bob rhan o’r wlad neu’r rhai yn Nyffryn Ogwen, grap ar ymadroddion ac idiomau, ac rydym yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd.

Dwi ddim yn honni o gwbl fod i ni Gymraeg perffaith di-wall, mae hynny’n gwbl anghywir. Ond eto mae hynny’n rhywbeth sy’n gyffredinol gan y cenedlaethau. Os ystyrir cenhedlaeth fy Nain (70+), maen nhw’n defnyddio llawer mwy o eiriau Saesneg unigol na ni, ‘eroplên’, ‘compiwtar’, ‘e-mail’ ac ati. Yn wir, bu i fy modryb sydd newydd gyrraedd ei 60, dwi’n credu, ddweud wrthyf fod gan fy nghenhedlaeth ‘Cymraeg posh’. Clod yn wir.

Ia wir, Cymraeg gwerinol sydd gennym ni. Mae gen i brofiad prin o’r Gymraeg yn ysgolion y cymoedd, ac er mor braf yw gweld twf yn nifer siaradwyr Cymraeg (h.y. y nifer sy’n medru Cymraeg - gwyddom oll yn iawn fod nifer y bobl sy’n defnyddio Cymraeg fel eu prif iaith ar drai ers cyn cof) de Cymru ni ellir disgwyl i blant ysgol yn y fan honno ddysgu Cymraeg naturiol - daw Cymraeg naturiol o siarad Cymraeg gyda’r teulu, gyda ffrindiau ac i raddau helaeth drwy fyw mewn cymdeithas Gymraeg. Gyda dirywiad enbyd y pethau hynny, dirywiad a welir yn y Gymraeg ei hun, hefyd.

Ond yn yr ardaloedd Cymraeg ac ymhlith teuluoedd Cymraeg digwyddodd rhywbeth i’r ‘genhedlaeth’ nesaf. Sôn wyf i am genhedlaeth fy chwaer. Dydyn nhw ddim yn genhedlaeth wahanol i ni - tair blynedd yn iau, ond o siarad â ffrindiau sydd â brodyr a chwiorydd o’r oedran hwnnw daw un peth yn drist o amlwg - mae safon eu Cymraeg yn is na ni, ac maent hefyd yn siarad llai o Gymraeg na ni.

Mi dorrodd rhywbeth yn rhywle, rhywsut. A hynny’n ddiweddar. Nid ydynt mor hoff o gerddoriaeth Gymraeg - galla i ddim dychmygu fy chwaer yn defnyddio Facebook Cymraeg neu’n ymuno â Maes E (yn wir, pan sefydlwyd Maes E roedd rhai o’r aelodau amlycaf yn ifanc - tua 16-17 oed - faint o bobl mor ifanc â hynny sydd bellach ar Faes E? Ddim cymaint). Dydi’r un cariad at iaith ddim yn amlwg yn eu plith.

Y peth trist ydi, dw i ddim yn meddwl fy mod yn gor-gyffredinoli.

Efallai bod y cymunedau Cymraeg wedi dirywio ychydig yn ormod, wn i ddim. Efallai bod oes datganoli wedi gwneud pobl yn rhy gyfforddus parthed yr iaith. Ond mae un ffaith yn sicr. Mae’r Gymraeg yn wannach ymhlith yr ifanc (sef i’r perwyl hwn pobl sy’n 20 oed ac yn iau) nag y bu erioed, ac yn deillio o hynny mae safon y Gymraeg yn dirywio. I nifer, dydi hi jyst ddim digon pwysig i boeni amdani. Geiriau yw iaith – dyna’r cyfan.

Wn i ddim, efallai bod rhywbeth felly’n dod ag aeddfedrwydd. Efallai mai’r lleiafrif a gynhaliodd safon erioed. Ond os yw iaith yn datgymalu, mae hi’n marw. Os mae hi’n colli ei chystrawen, yn cyfieithu yn slafaidd ac yn ymwared â’i hymadroddion, nid iaith mohoni mwyach.

Wn i ddim, ychwaith, ddyfodol y Gymraeg, neu p’un a oes dyfodol iddi mewn gwirionedd. Ond mi wn os bydd y duedd sydd ohoni’n parhau, bydd y dyfodol hwnnw ychydig yn llai goleuach nag y bu.