venerdì, gennaio 23, 2009
Car Bach Fi
Nid nos Sul dda i mi mo ista o flaen y teledu yn gwylio Top Gear. I mi dydi car ddim yn rhywbeth i’w arddangos i bawb. I fod yn onest gas gen i’r bobl gyfoethog ‘ma sy’n prynu ceir mawr drud, a hynny dim ond er mwyn dangos eu bod nhw’n gallu. I mi, car ydi rhywbeth sy’n mynd â fi i siopa bob wythnos, dyfais aiff â mi i’r gogledd bob hyn a hyn. Teclyn ydyw, nid pleser. Pe byddwn filiwnydd, rhywbeth na fyddwn yn ei brynu byddai car newyddsbondanllyd. Car bach fi ydi car bach fi.
Gan ddweud hynny dwi’n licio fy Fiesta fach lwyd, yr un a fu gennyf ers i mi ddechrau gyrru. Mae hynny dros bum mlynedd nôl erbyn hyn. Hen gyfeilles ddibynadwy ydyw, nid hwran i’w pharedio; hen wraig sy’n g’neud y smwddio ac sy efo te ar y bwrdd, grefi a iau wedi’u ffrio mewn nionod a phanad (y banad ar wahân – manylyn bach ond angenrheidiol mewn swper o’r fath), nid priod-ast newydd a’i bwyd meicrodon sy’n buta Milci Wê yn gwely. Na, un da ydi’r Fiesta.
Os oes i gar le i gadw’n CD’s Celt a digon o le i roi sticars ar y cefn, ffenestri mawrion a bŵt da, fydda i’n hapus â char.
Cofiwch chi, dwi ddim yn gwbl ddall i geir, ond fel â phopeth nad ydw i’n ei ddallt (gwleidyddiaeth, chwaraeon, blogio), nid dewis fy hoffterau a wnaf eithr fy nghasinebau. I mi, diawl y ffordd, sgymbeth y lonydd, diced y draffordd, ydi’r Vauxhall. Os cymera i’n erbyn rhywbeth (sy’n ddigon posibl gyda’r nesaf peth i bopeth) dyna ddiwedd arni. Mae Vauxhalls yn hyll, maen nhw’n crap ac yn fwy na hynny roedd mam Jarrod yn berchen ar Gorsa flynyddoedd nôl, a dydi mam Jarrod ddim yn licio fi am i mi ei galw’n Dame Linda Cabij.
giovedì, gennaio 22, 2009
Ddirgel stôn y golled
Ond dwi, yr eithriad ag wyf, wedi colli stôn ers y Nadolig. Mae ‘na ddwy glorian yn cadarnhau hyn. Y mae dau eglurhad posibl.
Y cyntaf ydi dwi’n bwyta llai ac yn yfed llai (heblaw nad ydw i) a bod chwarae sboncen yn ymwared â’r bloneg, sy ddim yn wir achos dwi’n edrych ‘run mor dew ag ydw i wedi ers y Brifysgol. Dydi chwarae sboncen saith gwaith ddim yn fodd i golli stôn, rhaid imi fynnu. Tasa hynny’n wir byddai pawb yn chwara sboncen, a rhyngoch chi a fi, dydi pawb ddim yn chwara sboncen; nid amlygir y ffaith yn fwy na noson lawr yn stryd Pesda i brofi hyn.
Fe es neithiwr gyda’r gyfeilles ddiserch, ddiflas sef Ellen Angharad. Mae’r ddau ohonom cyn waethed â’n gilydd yn chwarae – fi ydi’r un sy’n meddu ar y dechneg, hi ydi’r un mwya ffit. Yn draddodiadol felly fi fydd yn cael y fantais o’r dechrau a hithau tua diwedd sesiwn. ‘Does ‘run ohonom yn ddel ein chwarae, ond cawn ymarfer corff o ryw fath. Allwn i ddim ar fy myw fynd i gampfa, dwi’n hoffi’r elfen gystadleuol a geir mewn chwaraeon fel badminton a sboncen a thenis. ‘Does dim cymhelliant i fynd i gampfa – a p’un bynnag byddwn i’n edrych fel rêl coc ynghanol yr holl gyhyrion wŷr.
Yn ôl o’r gwyriad a’r ail reswm posibl dros y golled o ran pwysau ydi bod gen i lyngyren ruban (tapeworm i chwithau heb radd yn y Gymraeg / sy ddim efo Cysgeir yn o handi). Byddai gwybod y fath ffaith yn troi arna i. Gwelais raglen ryw bryd am foi yn tyfu un ynddo ar bwrpas a honno’n tyfu’n hirfaith a hyll a fynta’n colli pwysau. Gobeithio nad oes y ffasiwn beth yn digwydd i mi. Dowt gen i y gall hyd yn oed llyngyren ruban fyw ar datws trwy’u crwyn a Skol efo antipasti Marks a Sparks achos bo Mam wedi rhoi vouchers i mi.
Tai’m i fynd i Marks a Sparks i brynu bwyd oni bai bod gen i vouchers. Fyddai’n farchnad nes ymlaen yn buta wy a sglods efo Dwd y Dwd, ac yn y fan honno wyf gyfforddus – wn i nad iach mo hynny, ond mae’n bosib fy mod yn bwyta i ddau cofiwch.
mercoledì, gennaio 21, 2009
Well gen i chwara sboncen
Tra bod gweddill y byd yn gwylio Barack Obama ro’n i’n gweithio, yn chwarae sboncen neu’n gwylio Man Utd. Yn y Bae yr oeddwn i yn gwylio’r gêm, yn fflat Rhys Moel a’i gariad Sioned Alci sy wastad yn yfad gwin gwyn pan fydda i’n galw heibio (wn i ddim os mai cyd-ddigwyddiad ydi hynny). Roedden ni’n troi’r sianel ambell i dro i weld p’un a oedd Barack dal yn fyw, yn poeni mymryn nad dyma’r achos, ond y consensws oedd mai lol uffern oedd yr holl ddathlu gwirion ‘ma, heblaw gan yr Alci a oedd wedi recordio’r sioe ar SgeiPlys.
Hi ddywedodd ei fod yn ddigwyddiad hanesyddol. Dydw i methu anghytuno efo hynny, ond tai’m i licio lol, ac mi fyddai’n well gen i SgeiPlysio Celebrity Come Dine With Me, ond ‘sgen i ddim SgeiPlys. Dwi’n fodlon iawn ar fy 6 sianel analog – wn i ddim pam fod angen i ni gael y cachu digidol ‘ma i fod yn hollol onest.
Cymharodd y sylwebydd y ffys arlywyddol (dw i ddim yn gwybod beth ydi ‘inauguration’ yn Gymraeg ond ffys oedd y cwbl i mi) efo Blêr yn cael ei ethol yn ’97. Bolycs medda fi, cyn troi eto i ddweud “Ew, ‘na ni” ambell dro pan oedd gan Nani’r bêl (pethau felly ydi deiet sylfaenol jôcs Gogs, a betingalw Indian efo un goes, sef Balan Singh, wrth gwrs).
martedì, gennaio 20, 2009
Sgidia, Hwdis a Lliwiau
Rhai neis oedd y rhain, £35 o Next cofiwch. Mi a’u gwisgais yno, cerad o gwmpas mymryn, a dyna ni roedden nhw’n iawn. Rhywbeth arall wedyn ydi cerad i’r gwaith efo pâr o sgidia newydd. Mae ‘na linell goch o amgylch fy nhraed – mae’r cont yn crafu arnaf (brawddeg wych, os caf ddywedyd). Mynd â hwythau’n ôl y gallwn, neu eu gadael ar yr ochr efo’r llu o sgidia gwrthodedig gan Mam, ond na, eu gwisgo a wnaf gan fy mod i, y fi, wedi eu prynu. Os y fi a’u prynodd, maen nhw’n iawn, a tha waeth p’un a yw ‘nhraed yn brifo ac yn glwyfedig o’u herwydd, dwi am eu gwisgo, a’u gwisgo aml.
Mae’n eithaf ergyd pan fydd rhywun yn meddwl bod dilledyn yn smart ond dydi’r peth jyst ddim yn eu siwtio. Dwi’n edrych yn ofnadwy o forol-hoyw mewn dillad efo streips, er enghraifft.
Fydd o’n fy rhyfeddu hefyd sut y mae rhywun yn ei chael i mewn i’w pen na fydd lliw arbennig yn eu siwtio. Du a phinc ydi’r lliwiau hynny i mi a dai’m i wisgo’r un. Byddwn i’n dweud piws ond pwy a welodd hogyn yn gwisgo piws erioed? Mi benderfynais yn ddiweddar hefyd ar fympwy nad ydw i’n siwtio coch ddim mwy. Afraid dweud, mae gen i gryn dipyn o ddillad coch.
Mae gan enethod wendid ofnadwy efo sgidia (sy’n wirion achos ‘sneb am edrych ar eu sgidia nhw), ac mae gennyf innau un gwendid marwol o ran dillad, sef hwdis. Dwi ddim yn gwybod ar faint yr wyf yn berchen, ond dyna’r unig ddilledyn mewn siop a fydd yn gwneud i mi droi ‘mhen a mynd w, dyna neis. Synnwn i ddim fy mod wedi chwalu delwedd sawl un o chavs drwy yrru drwy Grangetown mewn amrywiol hwdis a thracsiwts, efo sticer Cymdeithas yr Iaith ar y cefn a Goreuon Hogia’r Wyddfa yn sgrechian o’r stereo. Nid ymddiheuraf.
lunedì, gennaio 19, 2009
Blog Personol
Ond anodd weithiau ydi cadw blog personol, neu yn achos y flog hon sy’n fenywaidd, blog bersonol. Rŵan maen blogiau gwleidyddiaeth yn iawn achos mae ‘na wastad rhywbeth i’w ddweud (er nad ydi’r pethau hynny wastad yn ddiddorol iawn i 99% o’r boblogaeth), ac mae blogiau chwaraeon hefyd o’r un anian (er wn i ddim a oes blog chwaraeon sy’n parhau i gael ei ddiweddaru yn Gymraeg). Yn wir, mae rhai blogiau sy’n trafod pethau amrywiol fel gwefannau a thechnoleg, ond mae’n rhaid i rywun ddallt y ffasiwn bethau i gymryd diddordeb yn y rheini.
Yn berthonol, dwi’n ffan o’r blog personol. Fydda i’n ffendio pobl a’u bywydau yn ddiddorol. Nid a wnelent ddim â mi ond mae ‘na rhywbeth ‘cynnes’ am flog personol nad ydi blogiau eraill yn meddu arno. Maen nhw’n ddibwrpas. Yn wir, mae fy mlog fy hun yn erchyll o ddibwrpas, ond fydda i yn licio ysgrifennu a darllen pethau dibwynt. Fydda i’n licio gweld ar hyd ba drywydd y mae meddyliau pobl eraill yn mynd, ac nid yn anaml fydda i’n eithaf synnu ar rai o’r pethau y bydda i’n eu dweud.
Mae pobl eraill yn ddiddorol (ar y cyfan, dydi fy ffrindiau, er enghraifft, ddim yn y lleiaf). Byddaf innau a’r Dwd, fy nghyfeilles flêr a chrychlyd, yn cael trafodaethau hirfaith am bobl a’r meddwl ac ymddygiad a phethau felly. Os mai llygaid yw pyrth y galon, blog, yn anad dim, yw porth yr enaid.
(malu cachu dwi rŵan, wn i ddim am be dwi’n sôn y tro hwn)
venerdì, gennaio 16, 2009
Yr Ornest Farddonol Fawr rhwng yr Hogyn a Lowri Llewelyn
Lowri Llew mewn coeden,
Beth goblyn wyt ti’n gwneud?
“Honno yw ‘nghyfrinach
Dydw i ddim am ddweud!”
Lowri Llew pam ydwyt
Mewn afon yn y dŵr,
“Ni allaf i ddweud celwydd,
Dydw i ddim yn siŵr,”
Mae Lowri Llew ymhobman,
Mewn llan a llannerch a lli,
Tasa hi ddim yn fanno
Wn i ddim lle fyddai hi.
--
Mae Lowri fatha Duw
Duw Cariad yw.
Dyw Lowri ddim yn Jew,
dyw Jews ddim yn Dduw.
Ond Lowri yw Duw;
Duw gyda Piwbs!
So pwy yw Duw?
Lowri yw y Duw.
--
Dwyt ddim yn Dduw
Wn i ddim a wyt yn Jew
Y ffaith sy'n glir ydyw:
Nid wyt yn Mrs Pugh
--
Os nad fi yw duw,
ydy Duw yn amryliw?
Fatha huw bob lliw?
sy'n byw yn flat huw puw.
ag yn bymio jews,
gan weiddi "jiw jiw"?
nacydyw.
Lowri yw Duw.
--
Er fy mod yn mwynhau ein cystadleuaeth farddoni
Nid oedd rhaid dod â rhyw i mewn i'r un rhan ohoni,
Nid mater doniol yw "rhyw anal" Iddewon
(Ar y llinell honno yr oeddwn anfodlon),
Duw nid wyt, fy nghyfaill bol jeli
Ond fi, Iason Morgan, yw Arglwydd y Cerddi,
Llunio cerddi mi fedraf heb drafod yn fudur,
Dwi'n licio fy sglodion heb halen na phupur....er....
--
Y llinell olaf nid oedd yn wir,
Gwell cadarnhau hynny, i fod yn glir.
--
Ymddiheuriadau am drafod rhyw.
Rhaid dweud, rwyt yn unigryw
syn sensitif i faterion fel yma.
Well gen ti siarad am fwyta.
rwyt yn hoff o dy sglodion -
ond beth am facrell neu salmon?
neu iar neu gig eidion?
neu fresych neu foron?
Dwi'n hoff o bizza
a bara
a llawer o wya'
fatha dada
--
Sglodion sy'n dda, â sos coch yn bennaf,
Macrell o'r môr wedi'u ffrio sydd harddaf,
Salmon sy'n ddrud, ond trît neis rhaid cyfadda,
Cyw iâr nas coginiwyd sy'n llawn salmonella,
Cig eidion sy'n iawn i bobl sy'n gul,
A bresych a moron mewn cinio dydd Sul.
Dy ddewisiadau sy'n dda, dwi'n ffan mawr o bizza,
A bara ac wyau, neu wyau ar fara!
Ond hoffwn ofyn un cwestiwn, yn hyderus i gyd,
O'r holl fwydydd sy'n bod, beth yw'r gorau'n y byd?
--
Wel dyma i ni gwestiwn - cwestiwn y ganrif
beth yw fy hoff fwyd neu hydynoed hylif?
mae prys tseinis wastad yn neis
neud fexican neu indian 'da chydig o sbeis.
Mae cawl yn dda i gadwn gynnes
Neu fajitas (ond maent yn gwnued mess)
ond ateb rwyt arol Jason bach sgwishi
nid rhestr o'r bwydydd dwi yn ei hoffi
Ond bydd rhaid i ti aros am y gerdd nesaf
i weld beth yw'r bwyd sy'n cyrraedd gyntaf...
--
Dwi'm yn sgwisgi, dwi yn gadarn,
Fy ffugenw yw Iason Maharen,
Rwyt yn ddirgel dy gerdd, nid oes amheuaeth,
Mae'r gwpled olaf na'n creu eitha penbleth,
Y bwyd gorau a gefais, os yw o ddiddordeb
Yw bwyd cartref yr Eidal, mae'n llwyr ddigyffelyb,
Y gwaethaf oedd rôl o fins, Amsterdam,
Ei fwya a wnes, ond wn i ddim pam.
Dwi'm yn cofio i ni'n dau gael pryd gyda'n gilydd
Jyst ni'n dau, wyt ti? (a phaid â dweud celwydd)
O! Mae heddiw yn ddiwrnod hir,
Dwi 'di diflasu yn llwyr os dywedaf y gwir.
--
Addawais ateb i chwi, mi wn i hyn
felly dyma ni'n mynd: ateb i'r dyn..
Fy mwyd gorau yn yr holl fyd
a hyn ers bod yn y crud,
Yw... CHIPS
---
a dwi'n gwybod nawr
fod hyn yn siom fawr
tin fy ngweld yn ddi-ddychymyg
ac yn anhyblyg.
ac hefo tast bach tlawd
tast fel blawd.
Ond dyna yw hanes Lowri Llew;Byta chips i'w gwneud yn dew.
giovedì, gennaio 15, 2009
Tisho bet?
Gawn ni ‘mbach fwy o hwyl heddiw nag y cawsom ddoe, gyfeillion, dwi’n addo. Dydw i ddim yn cytuno efo gamblo mewn casinos, i fod yn onest dwi’n gwbl yn erbyn y peth, ond fe fydd yr Hogyn yn licio betio. Dydi betio ddim yr un fath achos beth bynnag y mae rhai yn ei ddweud mae ‘na wir resymeg y tu ôl i roi bet yn hytrach na gamblo ar blacjac neu roulette.
Fydda i ddim yn ei wneud yn aml. Roedd ‘na gyfnod pan oeddwn yn y Brifysgol lle byddwn i a hogia’r tŷ yn mynd lawr City Road i’r bwcis i roi aciwmiwletyr ar y pêl-droed ar ddydd Sadwrn.
Dim ond rhyw bunt y byddem yn ei fetio’r un, ac nid yn anaml y byddwn i a Kinch yn cael sglods ar y ffordd nôl ac yn ista o flaen y teledu yn gwylio Soccer Saturday efo caniau a’n betiau o’n blaenau, yn gorfoleddu a phwdu bob yn ail. Dydi ennill yr aciwmiwletyr ddim yn beth hawdd a ni lwyddasom fyth, ond roedd ‘na hwyl i’w chael, ‘nenwedig pan fyddai Gareth Jellyman yn sgorio – roedd rhaid i chi fod yno – cyn mynd allan nos Sadwrn.
Felly fe’m cyflwynwyd i fetio bryd hynny, fwy neu lai. Cymysg fu’r lwc yn ddiweddar. Lwyddais i ennill ffwc o’m byd ar Bencampwriaeth Ewrop, ond mi gafodd Ceren a minnau fet ar gêm y Scarlets a’r Dreigiau yn ddiweddar. Pumpunt rhoes y ddau ohonom i lawr, a enillais £1.43, sy ddim yn drawiadol nac yn beint, hyd yn oed, ond pres ‘di pres ‘di pres.
Dim ond ddoe, dachi’n gweld, ddysgais i sut mae betio “ffor’ rong” yn gweithio – dwi ‘di dallt 2/1 a 5/1 erioed ond byth 2/7 a 3/11 ac ati. Dwi’n dallt rŵan felly mi wneith fet slei yn amlach, mi gredaf.
Pwynt y llith gachlyd hon ydi y bu i mi osod bet ddoe i Gymru guro’r Gamp Lawn. Fe ges odds da iawn yn William Hill, sef 11/2, a chan fy mod yn optimist chwaraeon dydw i heb eto ystyried na’i churwn, ond mi wnaiff hanner noson allan os byddaf lwyddiannus.
Ew, tair wythnos nes i fy hoff adeg o’r flwyddyn, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ddechrau, a’r tro hwn mae arian yn y fantol. Allai fy mywyd fod yn fwy cyffrous?
mercoledì, gennaio 14, 2009
Y Ddau Benderfyniad
Cyn i mi fwrw ymlaen, dylwn egluro ambell beth (wn i fod hyn yn swnio’n seriws ond peidiwch â phoeni, does â wnelo’r peth dim i wneud efo chi mewn gwirionedd). Er fy mod i’n hoffi pwyso a mesur, ac erbyn hyn yn fy henaint yn dda iawn am wneud, a dywedyd pethau doeth yn ôl fy ffansi, yn y pen draw bydda i bob tro yn gwneud penderfyniad o fêr fy esgyrn. Tai’m i licio ffeithiau. Yr ail beth ydi fy mod i’n aml iawn yn blogio o’r galon - wel, ddim o’r galon cymaint â dweud y peth cyntaf dwl sy’n dod i’m mhen, ond rydych chi’n dallt be sy gen i.
Felly nid cyfuniad da mohono o ystyried y ddwy frawddeg gyntaf.
Y cyntaf ydi fy mod i am fwynhau eleni. Wn i’n iawn fod hynny’n swnio’n hurt, ond fe fydda i’n benderfynol o fwynhau oherwydd yr ail reswm, sef dwi wedi dod i’r penderfyniad mai 2009 fydd fy mlwyddyn lawn ddiwethaf yng Nghaerdydd, a dwi’n mynd i’w heglu hi’n ôl am Ddyffryn Ogwen yn 2010 ryw ben. Fydda i wedi bod yma am y rhan orau o saith mlynedd bryd hynny, sy’n amser maith i fab y mynydd fyw yn y ddinas, er ei fod mor hoff ohoni.
Buaswn wedi symud nôl pe na bawn wedi bod yn ddigon ffodus i gael swydd, cofiwch, ac mi wn yn iawn y byddwn wedi edifar yn ofnadwy pe byddwn wedi gwneud. Edifarwn pe symudwn yn ôl eleni hefyd, dwi’n meddwl, neu pe byddwn wedi symud yn ôl y llynedd. Fu’r adeg ddim yn gywir, roedd hi’n rhy gynnar.
Ond, drwy ryw ledrith, mae tua blwyddyn arall yn teimlo’n ‘iawn’ i mi, ac mae ‘teimlo’n iawn’ yn bwysig i Gogs, ac mae ystyr y gair syml a chyffredin hwnnw yn ddyfnach na’r wyneb, ond tai’m ar drywydd ieithyddol rŵan.
Na, mae’r Hogyn wedi penderfynu mynd nôl i Rachub. Flwyddyn nesa, ac efallai bod hynny’n swnio fel gwneud penderfyniad yn rhy fuan neu fwydro ar hap, ond na, dwi wedi dweud ers cryn dipyn fy mod wedi bod yng Nghaerdydd am hirach nag y byddwn yma, ac mae rhywbeth da am gynllunio ‘mlaen am hynny, ac yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i mi am yr holl fusnes.
Ew, dwi’n teimlo’n fodlon iawn ar ddweud hynny, hefyd. Da dwi, mewn difri calon.