venerdì, ottobre 30, 2009
Synau
Rhyfeddaf oll o’r rhain oedd rhywun, myfi’n benodol, yn brathu afal yn araf. Dwi wrth fy modd efo’r crenshiad croyw sy’n destun brathiad celfydd. Mae angen i rywun fod yn gelfydd wrth wneud pethau felly i lonni’r glust a’r galon.
Efallai’r sain sydd hoffaf i mi ydi sŵn un ffidil unigol yn canu. Wn i ddim pam, mae o wastad wedi fy nharo fel sŵn prydferth. Mi wn yn iawn nad yw’r ddau ddewis hynny at ddant pawb, ond ‘does gen i mo’r amser i boeni am y fath lol â barn eraill.
O bosibl mae’n haws gan bobl enwi eu cas synau na’u rhai gorau. Wn i fy mod wedi dweud o’r blaen, yn bur grintachlyd yn ôl fy arfer, fod chwerthin babanod yn rhywbeth sy’n gwneud i mi deimlo’n sâl, ac eto lleiafrif ydw i yn hynny o beth bid siŵr. Gan fy mod mewn tymer od a difynadd, dwi am restru fy mhump hoff sŵn a’r mhump gasaf.
Hoff synau
Crensian afal
Ffidil unigol
Ffrïo nionod/bacwn
Afon
Camu ar ro mân
Cas synau
Babanod yn chwerthin
Cyllell ar blât
Cathod gyda’r nos
Elyrch
Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, yn ynganu ‘s’
mercoledì, ottobre 28, 2009
Ffôn Cymraeg Orange
Ro’n i wedi penderfynu ers ychydig y byddwn yn rhoi cynnig felly ar ffôn Cymraeg Orange – a chredwch chi fi mae gwneud rhywbeth mor eithriadol â newid o O2 (y cwmni dwi wedi bod efo erioed) i Orange yn ddigon i ypsetio rhywun fel fi yn llwyr. Ond roedd y demtasiwn o gael ffôn Cymraeg yn ormod yn y pen draw.
Pnawn ddoe, wedi ei gael, ‘doeddwn i methu stopio chwarae efo’r teclyn. Roedd defnyddio sgrîn gyffwrdd yn brofiad newydd ond pur pleserus, fel y tro cyntaf i mi gael bwyd yn y Cornish Bakehouse. Dwi dal methu â chredu fy mod wedi dawnsio’n chwil uwch y becws hwnnw yn oriau mân y bora. Ond daeth y diffygion i’r amlwg wedi i mi gyrraedd adra.
Dydi’r Bluetooth, er enghraifft, nid dim ond ddim yn gweithio pan fo’r rhyngwyneb yn Gymraeg, dydi o ddim yn dangos unrhyw eiriau sy’n ei gwneud yn amhosibl i rywun wybod beth y maen nhw’n fod i wneud. Dyma hefyd felly’r rhaglen syncroneiddio. Rŵan, fel y gŵr onest yr wyf, llawn gyfaddefaf nad ydw i’n gwybod beth ydi syncroneiddio ym mha iaith bynnag, ond os nad ydi’r geiriau yn ymddangos yn fy newis iaith ‘does gen i fawr o obaith dysgu.
Rŵan, dwi wedi clywed sibrydion mai dyma’r achos efo’r fersiwn Cymraeg, ond â minnau’n bôrd do’n i ddim am boeni am eiriau neb arall amser cinio ddoe. Ond dydw i ddim y meth o berson sy’n gallu byw gyda ffôn nad ellir newid y tôn ffôn arno – gwall efo’r ffôn ei hun yn fwy na’r fersiwn Cymraeg mi dybiaf.
Ta waeth, mae o’n ymdrech siomedig gan Orange os ydach chi’n gofyn i mi. Fydd yn ôl yn y siop heddiw, efo twat bach blin y tu cefn iddo.
martedì, ottobre 27, 2009
Arolwg barn YouGov
Llafur 34% (-10%)
Ceidwadwyr 31% (+10%)
Plaid Cymru 15% (+2%)
Dem Rhydd 12% (-6%)
Bydd un blaid am ddathlu hynny. Bydd dwy yn gwingo o weld yr arolwg barn. Bydd y llall yn cael dogn go dda o realiti. Ond ddyweda i ddim pwy ‘di pwy!
lunedì, ottobre 26, 2009
Brycheiniog a Maesyfed
Er gwaethaf eu seguro diweddar yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, targed caletach sy’n wynebu’r Ceidwadwyr yn y canolbarth ar ffurf y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’n deg dweud mai prif nod y blaid honno yn 2010 fydd ceisio ennill cymaint o seddau wrth Lafur â phosibl tra’n cadw cymaint o’u seddau mwy ceidwadol eu naws, yn benodol mewn ardaloedd fel de-orllewin Lloegr.
Seddau Powys yw’r unig rai lle y gwelwn frwydr unsyth rhwng y Rhyddfrydwyr a’r Ceidwadwyr. Os yw’r Ceidwadwyr o ddifrif am ennill yr etholiad nesaf yn glir, mae ennill pleidleisiau wrth y Rhyddfrydwyr yn gorfod bod yn un o’u prif amcanion.
Dyna ddod â ni at Frycheiniog a Maesyfed. Dyma etholaeth fwyaf Cymru yn ddaearyddol, a dim ond yn eithaf de-orllewin y sir y mae Cymraeg i’w chlywed o ddifrif, yn ardal Ystradgynlais a Chwmtwrch. Daw hynny â ni at Lafur a Phlaid Cymru yn yr etholaeth. Mae’r rhain yn ardaloedd nad ydynt yn ofnadwy o wahanol i’r llu ardaloedd yn y de-orllewin arferai fod yn gadarn dros Lafur, ond sy’n troi at Blaid Cymru. Nid dyma’r achos fan hyn.
Mae’r pwt a ysgrifennaf am Blaid Cymru yn dweud y cyfan: ni ellir gor-ddweud amhwysigrwydd y blaid yn y rhan hon o’r byd. Nid yw, byth, wedi llwyddo cadw ei hernes mewn etholiad San Steffa yn yr etholaeth. Dyma un o’r seddau y mae hi wannaf ynddi ledled Cymru. Gellid dweud mai canlyniad rhagorol oedd iddi ennill 1,600 o bleidleisiau yn etholiadau Ewrop eleni.
Dydi Llafur ddim yn gwbl amherthnasol yma. Daliwyd y sedd ganddi cyn 1979. Drwy’r wythdegau cafodd dros chwarter, a hyd at dros draean, o’r bleidlais yma, gan ddod yn ail ym 1983 ac is-etholiad ’85. Ond ers hynny mae hi wedi dirywio yma. Disgynnodd ei phleidlais i 15% yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Ei pherfformiad gorau yn y Cynulliad hyd yn hyn yw 18%, a hynny nôl ym 1999.
Gan wyrdroi degawdau o bleidleiswyr yn cyfnewid yr hen blaid Ryddfrydol am Lafur, ym Mrycheiniog a Maesyfed newidiwyd y duedd honno, ac yn araf daethai’n frwydr rhwng y Rhyddfrydwyr a’r Ceidwadwyr ac felly y mae’n parhau hyd heddiw.
Yn ein meddyliau, rydyn ni’n dueddol o feddwl mai un o gadarnleoedd y Rhyddfrydwyr ydi Brycheiniog a Maesyfed. Yng nghyd-destun datganoli mae hynny’n hawdd gwneud – tair buddugoliaeth gadarn yw hanes Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn y sedd hon. Ond yn San Steffan, dydi’r Ceidwadwyr ddim cymaint o soft touch.
Ym 1983, enillodd Tom Hooson y sedd gyda mwyafrif o bron i 9,000 dros Lafur. Enillodd bron i hanner y bleidlais a thros ddeunaw mil o bleidleisiau. Er bod hynny chwarter canrif yn ôl erbyn hyn, mae’n arwydd clir o’r hyn allai ddigwydd pan fo’r Ceidwadwyr ar dwf mewn sedd fel hon.
Hyd yn oed ar drai, mae’r Ceidwadwyr yn rym peryglus yma. O drwch blewyn y collodd y Ceidwadwyr yma yn etholiadau ’87, a hynny o 56 pleidlais; ond eto o drwch blewyn y cipiwyd y sedd bum mlynedd yn ddiweddarach ar ogwydd o 1.2%.
Yn ddiweddarach y peth sydd wedi newid mwyaf ydi mwyafrif y Rhyddfrydwyr, a hynny’n sylweddol iawn: 5,097 ym 1997, 751 yn 2001 a 3,905 yn 2005. Ond mae rheswm dros hyn. Yn 2001, trosglwyddwyd yr awenau o’r poblogaidd Richard Livsey i Roger Williams, ac felly collwyd llawer iawn o bleidleisiau personol. Fodd bynnag, yn amlwg llwyddodd Williams adeiladu ei bleidlais bersonol ei hun. Cofiwn hefyd i’r Democratiaid Rhyddfrydol gael blwyddyn dda yn 2005 yn genedlaethol. Rydyn ni hefyd yn rhy barod i anghofio, ar lefel San Steffan, y blaid yw ail blaid Cymru ar hyn o bryd.
Serch hynny, dydi rhagweld beth fydd yn digwydd yma flwyddyn nesa’ ddim yn hawdd. Yn ôl yr arolwg barn diweddaraf ganYouGov i’r Telegraph, mae’r Ceidwadwyr ar 40% a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 19% yn genedlaethol. Cofiwn serch hynny fod pleidlais y Rhyddfrydwyr yn aml iawn yn cael ei danddatgan mewn arolygon barn. Yr awgrym fyddai bod y Ceidwadwyr tua 8% i fyny o’r etholiad diwethaf a’r Dems Rhydd yn eithaf segur.
O drosi’n uniongyrchol, fyddai hynny ddim yn ddigon i’r Ceidwadwyr ennill yma. Ydi’r ffaith iddynt ennill yma yn etholiadau Ewrop yn arwyddocaol? Mae’n awgrymu y gallai’r bleidlais Ryddfrydol fod yn feddal ar hyn o bryd, ond fawr fwy na hynny.
Fe ddylwn fod wedi disgwyl tan yfory, a phôl piniwn Cymreig yn dod i’r amlwg, i broffwydo hon. Efallai y byddaf yn newid fy meddwl erbyn ei weld, wn i ddim! Ond mae dau beth yn awgrymu eu hunain i mi yma.
Yn gyntaf, yn genedlaethol byddai disgwyl i’r Ceidwadwyr ennill tir oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Nid oes rheswm i gredu na fyddai hynny’n digwydd yma. Yn ail, yn genedlaethol byddai disgwyl i’r Dems Rhydd ennill rhywfaint o dir oddi ar Lafur. Mae’r cyfle i wneud hynny yma’n gyfyngedig, ond yng Nghymru mae’r bleidlais Lafur yn hanfodol wrth-Geidwadol – a phwy gwell i drechu’r Ceidwadwyr yma na’r Democratiaid Rhyddfrydol? Byddai sicrhau hyd yn oed ychydig o gefnogaeth y grŵp hwnnw o fudd enfawr.
Proffwydoliaeth: Ar ôl gweld canlyniadau arolwg barn YouGov i Gymru, dwi am fod mor hy â newid fy mhroffwydoliaeth i fwyafrif o tua 2,000 i'r Ceidwadwyr.
venerdì, ottobre 23, 2009
Blogiad byr am Question Time neithiwr
Ro’n i am flogio am Frycheiniog a Maesyfed ond hoffwn ddweud gair bach am Question Time neithiwr a pherfformiad y BNP. Rŵan, dwi’n rhywun sy’n cefnogi’n gryf hawl y BNP i ymddangos ar y rhaglen – licio’r peth ai peidio, mewn democratiaeth allwch chi ddim dewis a dethol pwy ddylai fynegi ei farn ai peidio, ac o wneud hynny rydych chi’n tanseilio’r syniad o ddemocratiaeth ei hun.
Credaf mai’r broblem neithiwr oedd na chafodd y BNP wrandawiad teg. Mae a ddylai Nick Griffin gael hynny yn fater arall, ond roedd ffyrnigrwydd y panelwyr eraill yn ei erbyn yn cyfleu ofn a hyd yn oed chwerwder yn fwy na brwydr ideolegol. Roedd y rhaglen gyfan yn cylchdroi o amgylch ceisio tanseilio’r BNP, a wnaeth i’r holl ymosodiadau yn erbyn y blaid a Griffin deimlo’n ffug, wedi’u cynllunio ymlaen llaw. Yn fy nŵr dwi’n teimlo y bydd y modd yr ymosodwyd ar y BNP neithiwr o fudd mawr iddi.
Y gwir oedd roedd hi fel pantomeim yn hytrach na rhaglen drafod wleidyddol.
Roedd y ddadl am Winston Churchill yn ddiddorol. Tra na fyddai Churchill yn cefnogi nac yn aelod o’r BNP oherwydd ei thueddiadau ffasgaidd, ac roedd Churchill yn wrth-ffasgydd, roedd ganddo ddaliadau hynod hiliol. Fe’ch gadawaf gyda dyfyniad y byddai Griffin yn falch ohono:
"I do not admit that right. I do not admit for instance, that a great wrong has been done to the Red Indians of America or the black people of Australia. I do not admit that a wrong has eben done to these people by the fact that a stronger race, a higher-grade race, a more worldly wise race to put it that way, has come in and taken their place," Winston Churchill
mercoledì, ottobre 21, 2009
Fferm Ffactor a Judge Judy = noson dda
Ond ro’n i’n gwybod ers clywed amdani’n gyntaf y byddai Fferm Ffactor yn rhaglen erchyll y byddwn i’n ei mwynhau i’r uchel nefoedd ac fe’m profwyd yn gywir. Mi wnes i a Dwd chwerthin nerth ein pennau am hanner awr yn ddi-dor, oherwydd er gwaetha’r ffaith mai gosod giât a mynd â mochyn i drelar oedd yr heriau, roedden nhw’n wych i’w gwylio. Ac roedd y darn mastermindaidd mewn beudy yn ffantastig, heb sôn am athrylith yr ‘ystafell ddyddiadur’, sef cab tractor.
Y peth gorau oll oedd nad oedd y rhaglen yn cymryd ei hun yn rhy o ddifrif – roedd rhywun yn chwerthin efo’r rhaglen, a’r cystadleuwyr, gymaint ag arnynt. Hir oes i Fferm Ffactor, medda’ fi, fydda i’n dilyn y gyfres wirion ‘ma i’r diwedd. Ni ellir cynhyrchu rhaglen realiti Cymraeg sy’n fwy Cymreigaidd, mae hynny’n sicr.
Mae ‘na ambell i beth arall dwi’n eithaf mwynhau ar deledu realiti, ond ddim teledu realiti Prydeinig. Fu’r un sioe sgwrs ym Mhrydain, megis gyda’r ast dew Vanessa Feltz neu’r twatfrenin Kyle, wedi cyrraedd uchelfennau Jerry Springer. Roedd hwnnw’n wych yn ei anterth. Ond ni sioeau sgwrs ydi’r uchafbwynt gen i, eithr yr anfarwol farnwres Judy.
Ydw, dwi’n ffan enfawr o Judge Judy, i’r fath raddau y byddaf yn dal fyny efo’r ddynas naill ai drwy ei recordio neu wylio ITV2+1 (a fi fyddai’r cyntaf i edrych i lawr ar unrhyw un sy’n gwylio ITV2, heb sôn am +1 – dyna ‘di comon). Ers yn fach mae dramâu llysoedd wedi fy rhyfeddu, ac mae gwylio rhai go iawn yn taro rhyw sbot rhyfedd ynof. Swni’n licio bod mor glyfar â Judge Judy ‘fyd, a hoffwn feddwl fy mod yn meddu ar ei doniau amgyffred a synnwyr cyffredin. Dydw i ddim, ond am awr rhwng 6 a 7 bob nos, mi fedraf o leiaf smalio.
martedì, ottobre 20, 2009
Tywyllwch y boreau
Mae fy nheimladau parthed dyfodiad y gaeaf a thywyllu’r dydd a’r nos yn gymysg iawn. Mae’n erchyll yn y bora. Mae’r ysgogiad i godi a mynd i’r gwaith, sy’n gymhedrol ar y gorau o adegau i’r rhan fwyaf helaeth o bobl, yn enwedig y pethau afiachus hynny sy’n gweithio’n Macdonald, yn cilio fwy fyth. Mae’r snooze yn cael mwy o ddefnydd, a chan fod y ddaear heb gael cyfle i gynhesu, afraid dweud mae hi’n oerach.
I hen sinach fel fi mae’n anoddach byth. Fel rhywun sy’n casáu talu ei filiau mi fyddaf yn llawn gwrthod gosod y gwres arnodd am y bora, sy’n golygu bod y tŷ, sy’n rhewllyd ar y gorau o adegau, yn rhewllyd. Teimla rhywun ei fod yn gwneud popeth yn ara’ deg. Wn i ddim amdanoch chi, ond un o’r teimladau sy’n gyrru ias lawr fy nghefn, yn eironig braidd yn llythrennol hefyd, yw rhoi crys oer amdanaf. Nid o reidrwyd jyst ben bora chwaith, ond mae’n waeth yn y bora.
Ta waeth ‘rhen hogia, problem arall sy gen i cyn mynd i’r gwaith ydi beth i wylio ar y teledu. Fel rheol bydda i’n gwylio BBC News i weld newyddion Cymru a’r newyddion chwaraeon, cyn troi sianel, fwy na thebyg i wylio Cyw neu Braniac (‘dach chi’n fy nabod ddigon erbyn hyn i wybod nad jôc ydi honno) cyn stryffaglu i’r gwaith, fel arfer gan fod yn bur anghwrtais efo pobl Metro ar y ffordd. Ydi, mae’r arfer hwnnw’n parhau.
Gyda llaw, o ran cyfres Proffwydo 2010 (dwi’n gwybod ei bod yn drist iawn fy mod yn rhoi enw sy’n ymdebygu i raglen ffuglen wyddonol fyrdymor ac erchyll ar S4C i’r gyfres o erthyglau ond tyff) croeso i chi awgrymu sedd i mi fwrw golwg arni nesaf. Wedi’r cyfan, chi yw’r meistri, fi di’r French maid.
lunedì, ottobre 19, 2009
Her aflwyddiannus y mis trist
Dwi’n od iawn wedi meddwi. Gallwn i ddweud yr amlwg a dweud fy mod i’n od iawn yn sobor ond, na, dwi ddim. A dweud y gwir, yn sobor, dwi’n grêt. Credaf yn gryf y dylai pawb, pawb yn y byd mawr crwn, feddwl ei fod o neu hi yn grêt, achos y gwir ydi dydi o ddim yn debyg iawn y bydd neb arall yn meddwl hynny amdanoch chi. Ydach, dachi’n gwybod pwy ydach chi.
Ond na, yn chwil mi alla’ i fod braidd yn rhyfedd. Daw’r her ddeietegol i ben ddydd Iau a ‘does gen i fawr o amheuaeth dweud nad oes gen i gyfle pry mewn brechdan gaws o’i chyflawni’n llwyddiannus erbyn hyn. Mae dau gibab mewn pythefnos wedi sicrhau hyn. Pan fyddaf yn chwil mi fyddaf yn gwrthryfela yn erbyn fy hun, sef yn yr achosion hyn y deiet. Wn i ddim p’un ai yin a yang ynteu gwreiddiau sgitsoffrenia ydi’r ymddygiad rhyfedd hwn, ond o’r herwydd fydda i ddim yn colli’r 10 pwys angenrheidiol.
O amcangyfrif, fyddai ‘di colli tua phump.
Dwi mor argyhoeddedig fy mod wedi colli’r her fel nad ydw i am foddran loncian yr wythnos hon. Do, fe’m trechwyd gan y têc-awê.
I fod yn onest efo chi, dwi heb fwynhau fy hun o gwbl ar y deiet ‘ma. Dwi wedi bod yn flinedig gyson a hefyd yn ddigon annifyr dros y mis diwethaf (sydd yn arwynebol yn union yr un fath ag ydw i fel arfer i’r rhai â’m hadwaen – ond y tro hwn felly y teimlwn o ddifrif). Ond mae ambell bwys yn well na chic yn din, ‘mwn.
Ynghyd ag alcohol, Sky+, ambell banad ac osgoi mynd i’r deintydd, mae bwyd yn un o wir dileits y bywyd hwn gen i. Gwleidyddiaeth, gweithio, crefydd, moesau, siopa, biliau – sôn am rwystredigaethau sydd, yn fy mywyd innau o leiaf, yn anorfod. Gwell gen i fis heb y lleill oll na bwyd. Ar yr amod y caf fwyta o flaen y teledu efo panad a photel o win.
Ta waeth, fydd hi drosodd ymhen ychydig ddyddiau, ac mi fydda i’n teimlo’n hapusach o lawer bryd hynny. Dwi wedi cael awch rhyfeddol am frechdan gaws ers cael sgwrs efo gyrrwr tacsi amdano bron i bythefnos nôl. Dwi ddim yn credu iddo fwynhau’r drafodaeth i’r un graddau â mi, cofiwch.