mercoledì, novembre 17, 2010

O, am drydar fel aderyn bach!

Ro’n i am ysgrifennu heddiw am y Tywysog Wil ond roedd hynny cyn i mi sylwi mai’r teulu brenhinol ydi un o’r pethau prin hynny nad oes gen i farn o unrhyw fath arno. Dwi ddim yn weriniaethwr a dwi ddim yn frenhinwr. Mae gen i farn ar y ffug-deitl ‘Tywysog Cymru’ ond dyna’r oll a dweud y gwir. Dwi wastad wedi bod o’r farn os ydych chi’n credu mewn rhyddid i Gymru, bod y teulu brenhinol yn amherthnasol, a gwastraff amser ydi malio amdano’r un ffordd neu’r llall.

Felly dydw i ddim am ‘sgwennu am hynny. Yn hytrach codi gwrychyn ambell un a wnaf a bod yn rhagrithiwr wrth wneud.

Gellir ei grynhoi mewn brawddeg. Dwi’n casáu Twitter. Yn ei gasáu. Dwi’n meddwl ei fod o’r peth mwya dibwynt a stiwpid yn hanes y cread – a tasech chi’n nabod rhai o’r un bobl â fi fe fyddech chi’n dallt yn llawn fawrder y datganiad hwnnw. Mae Twitter yn folocs llwyr a dwi’m yn licio fawr ddim ar bobl sy’n meddwl bod Twitter yn wych. Felly beth wnes i ddoe? Wel, ymuno, wrth gwrs.

Roedd ‘na rywfaint o ffawd ynghlwm wrth hyn. Ar ôl cael dwy sgwrs ddoe am Twitter, a hynny’n hollol ar hap, un â Lois Coes Donci dros frechdan ac un â Dyfed Blewfran dros Facebook (dwi’n galw pobl yn bethau od a dyma mi dybiaf wraidd f’amhoblogrwydd – nath Lowri Petryal fyth sticio o leiaf), penderfynais o’r diwedd ‘iawn, roia i gynnig arni’. A hynny wnes, gan gofrestru yn ôl cyfarwyddiadau’r Flewfran achos bod o isho dilynwyr. Mae ganddo dri os dwi’n iawn, a heb drydar. Mae llai o bwynt iddo fo ymuno na mi. Dwi’m isho bod yno a rhywsut mae gen i bedwar. Twll dy din di, Dyfed.

Ond asu, mae’r peth yn gymhleth ar y diawl. Dwi ddim yn ei ddallt o gwbl, ac nid gorddweud ydw i am unwaith, mae o jyst yn ffycin gymhleth. A phwy dwi’n fod i ddilyn? Stephen Fry? Na, yr unig dwat hunanbwysig dwi isio clwad ei farn o ydi Fi.

Ac ydw, dwi go iawn yn meddwl bod Stephen Fry yn dwat hunanbwysig.

Felly dwi am roi wythnos i fi fy hun ar y peth a gweld sut aiff pethau rhagddynt. Dwi heb drydar eto, dwi’n ymwrthod â’r demtasiwn hyd yn hyn (a beth bynnag ‘sgen i’m byd i drydar amdano, a dydi’n ffôn i ddim yn ddigon da i ddefnyddio trydar, ac ar yr adegau nad ydw i wrth y cyfrifiadur y byddwn i’n meddwl ‘w, dylia fi drydar am hyn’).

Ac eto, dwi’n adnabod fy hun. Dwi’n styfnig a dwi’n pwdu. Ymhen wythnos mi fydda i dal i fynnu fy mod i’n casáu Twitter ac wedi pwdu fy mod i dal ddim yn ei ddallt (neu’n waeth fyth, bydd gan Dyfed fwy o ddilynwyr) a dyna fydd diwadd fy menter aflwyddiannus hynod i fyd y trydar.

martedì, novembre 16, 2010

Ffiaidd, drahaus lasania

Bwyd ydi un o hoff bynciau’r blog hwn, a chwi a ddarllenno a wyddoch mai syml y mae’r Hogyn yn licio’i fwyd. Rwan, nid ystyr syml ydi sglods a phei bob nos neu datws a bîns, er bod i’r hyn brydau rinweddau amlwg. Na, gall bwyd syml fod yn unrhyw beth, o’r rheini i saws pasta hyfryd cartref neu bastai bugail (dwi’n casáu’r enw hwnnw) – bwyd da, gonest. Yr hyn sy’n wrthun i mi ydi’r hyn fydda i ond yn gallu ei ddisgrifio fel ‘bwyd ponslyd’. Wyddoch chi, y math o fwyd mae rhywun yn talu drwy’u tinau amdano a dal isio mwy – y math o stecan sy’n meddwl ei bod hi’n well achos ei bod wedi’i thylino a’i bwydo gyda chwrw pan fo’n fyw, er ei bod hanner y seis, neu saws sy’n galw ei hun yn jou achos wedi’i sboetshio ar hyd y plât yn ffansi.

Iawn fydd hynny weithiau cofiwch, er mai unwaith bob oes pys y bydda i’n cael y ffasiwn bethau – unwaith y flwyddyn os hynny – oherwydd yn wahanol i’r gred gyffredinol ymhlith rhai carfannau o gymdeithas nid cyfoethogion mo’r rhan fwyaf o gyfieithwyr. Wel, dwi’m yn gyfoethog eniwe.

Er mai prin y mentraf i’r rhan honno o sbectrwm byd bwyd, mi wnaf ambell waith fentro i’r ochr arall: bwyd cachu. Bwyd meicrodon o Iceland math o beth. Dio’m yn neis ond mi lenwith dwll yn o handi pan gwyd yr angen. Ac ar hyd y trywydd rhad a thywyll hwnnw y cerddais neithiwr. Mi wnes rywbeth nad ydw i wedi’i wneud ‘stalwm, sef lasania.

Dwi’n licio lasania. Bwyd hangover go iawn er nad oedd pen mawr gen i. Ond mi es yn drahaus. Mi benderfynais y gallaswn wneud lasania i flasu’n wych pa saws bynnag yr aed iddo. Dyna’r camgymeriad cyntaf, a’r ail ddilynodd wrth weithredu ar y syniad ffôl. Do’n i’m am wneud saws o’r dechrau (mynadd ac ati) felly mi brynais saws. Pa saws? Wel, saws brand Morristons – rhataf y siop. Roedd rhybudd ar y pris.

Er fy mod i’n licio lasania ‘sgen i fawr hoffter o’i wneud achos mae’n cymryd eithaf amser. Hynny gymerodd wrth i mi lwgu. Lwcus mai llwgu’r oeddwn i oherwydd pan aeth y darn cyntaf i’m ceg, wel, wel ... roedd o’n afiach, yn gwbl, gwbl afiach.

Felly mi fwytais un pryd ohono, ond â dim gobaith o wneud hynny drachefn mi luchiais y gweddill, a theimlo’n euog tu hwnt achos dwi ddim yn credu mewn gwastraffu bwyd. Ond pa ots? Pwy fwytai’r ffasiwn beth beth bynnag? Mae’r gegin yn drewi ohono a phwdu wnes wedyn.

Ych a fi, meddwn i wrth fy hun. Ni wellodd y noson wrth i mi wylio Miranda ar BBC2. Mae o’n ofnadwy ond yn ddigon ofnadwy i’m gwneud yn ddigon rhwystredig i’w gwylio. Och a gwae.

lunedì, novembre 15, 2010

Carioci Meddw

Dwi’n ofnadwy pan dwi’n cael diwrnod i ffwrdd, fydda i byth yn gwneud dim byd. Er, fel dwi ‘di ddeud o’r blaen, dwi’n eithaf licio gwneud dim byd, stwnshio o flaen y teledu neu hyd yn oed jyst ista yn hel meddyliau. Mae rhai pobl yn meddwl bod hynny’n ddiflas uffernol, ond dydw i ddim. Dydi pobl ddim yn licio hel eu meddyliau – mae ei wneud yn fy nghadw i’n gall.


Ia, call. Pan fydda i wedi meddwi, sy’n bur aml a dweud y gwir, bob penwythnos o leiaf, dwisho neud carioci. Rŵan, mi gymrodd flynyddoedd i mi fentro ar y carioci, ac mae’r peth wedi fy nychryn erioed. Y tro cyntaf, dwi’n cofio’n iawn, canu Achey Brakey Heart, mewn parka efo gwallt seimllyd hir.

Mae hynny’n iawn yn ei le ond ‘sgen i ddim llais carioci. Mi fedra i ryw fath o ganu ond mae gen i lais eithaf hen ffasiwn i fod yn onast – dydi o ddim yn mynd yn dda iawn efo Don’t Let the Sun Go Down on Me a hynny gyfrannodd at fi a Ceren yn cael ein bŵio i ffwrdd o’r llwyfan yr eildro i mi wneud. Roedd hi'n ffycin rybish hefyd.

Ond ta waeth unwaith mae rhywun yn gwneud hynny ambell waith mae ‘na rywbeth yn y brên yn ei feddwod yn dweud ‘w, dwi’n eithaf da, a dwisho canu’. Serch hynny, fydd neb isho neud efo fi a dwi o hyd yn ormod o gachwr i wneud ben fy hun.

Felly ella mai mynd yn fwy chwil ydi’r atab.

giovedì, novembre 11, 2010

Blydi myfyrwyr

Os ma stiwdants mor dlawd ac yn protestio dros ffïoedd PAM BOD BOB UN YN CATHAYS EFO CAR RWAN SY'N GOLYGU DOES NUNLLA I MI BARCIO YN Y BORA?

Aaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaargh!

Doedd gynno ni'm ffasiwn betha yn ein dyddia' ni. 'Blaw am Haydn Blin ond ma hwnnw'n graig o arian beth bynnag.

martedì, novembre 09, 2010

Y peth hawsaf

Dwi heb flogio’n iawn ers dros wythnos. Efallai i chi sylweddoli ar hyn ac efallai ddim. Y rheswm oedd i’r Hogyn fod yn sâl wythnos dwytha, i’r fath raddau yr oedd yn ei wely am 17 awr rhwng deuddeg a deuddeg wythnos nôl i heddiw. Fwytais i ddim drwy’r dydd dwi ddim yn meddwl ond yn anffodus gollish i’r un pwys a dwi dal nid ymhlith deliaf bobl y byd.

A phan fydd rhywun yn sâl ni fydd ganddo fawr awydd blogio, mi ddyweda i hynny rŵan – na phan fydd mewn rali neu wedi meddwi.

Weithiau wrth gwrs, mae’n anodd meddwl am rywbeth i flogio amdano. Dwi ddim yn cael andros o drafferth fel rheol a hynny’n bennaf oherwydd bod y rhan fwyaf o’r amser rywbeth yn mynd ar fy nerfau ddigon i mi allu cwyno amdano fan hyn. Ond gan ddweud hynny mae ambell waith adeg y mae gan rywun ormod i’w flogio amdano a dyna fy sefyllfa heddiw i raddau.

Dwisho sôn fwy am y ffaith yr oeddwn i’n teimlo’n sâl. Dwi’n gwbod does ganddo chi ddim diddordeb yn hynny. Dwisho sôn am Rali ddydd Sadwrn a hefyd y ffaith i fi feddwi yn ddigon anhygoel nos Wener a nos Sadwrn, rhwng mosh pit annhebygol i wneud jôcs amhriodol am bitsas ac Iddewon, ac ellir cyfuno’r ddau mewn post twt. A swni’n licio rhoi mwy o farn ar Pen Talar ond mi wneith Lowri Dwd roi ffrae i mi am ‘gwyno gormod’ – er i mi fwynhau Pen Talar! Ond, Lowri, os wyt yn darllen, ti yn rong ... roedd y colur yn shait.

A dwi ddim yn blydi hapus bod Spooks wedi dod i ben.

Ta waeth, yn y fath sefyllfa y peth hawsaf i wneud ydi brawddeg ar bopeth ac anghofio’r wythnos yn gyfan gwbl. Hynny wnaed, ac felly hynny fydd. A, Duw ag ŵyr, efallai y bydd gen i rywbeth diddorol i ddweud yfory...

venerdì, ottobre 29, 2010

Yr Ieuainc wrth yr Hen

Wn i ddim be fydd yn digwydd de. Fydda ni’n well mae’n siŵr achos mi gawn ni fwy o bensiwn. Gwell na thair ceiniog o godiad gafon ni llynadd. Tair ceiniog, wel be wneith rhywun efo tair ceiniog? Fedar rhywun ddim prynu torth efo tair ceiniog hyd yn oed. Mi fydd pobol yn lluchio tair ceiniog i ffwrdd rŵan. Lluchio fo i ffwrdd lawr y stryd.

Mae gynnon ni Gymraeg gwell na nhw yn y De, de. Mae’n siŵr eu bod nhw’n ein dallt ni’n siarad achos ni sy’n siarad y Gymraeg cywir yn de, ond fydda ni ddim yn eu dallt nhw’n iawn, so o’n i’n cytuno efo hynny ar y rhaglan Gwylwyr ‘na.

Bydd selogion y blog hwn (sud wyt?) wedi hen wybod o ddarllen yr uchod mai Nain ddywedodd y geiriau hyn. Siaradwn ar y ffôn yn bur aml a phan dro’r sgwrs at faterion y dydd gwrando a chytuno fydda i yn hytrach na cheisio cyflwyno dadl gall. Fentrwn i ddim dweud wrthi ei fod o’n hollol rong bod pensiynwyr yn cael codiad mawr yn eu pres tra bod ffïoedd myfyrwyr yn mynd tua’r nefoedd. Fel dywedodd rhywun a oedd newydd gael ei bas bws “mae’r hen bobol yn cael popeth a dydi pobol ifanc yn cael dim byd a dydi o’m yn iawn” a chytuno fydda i â hynny.

Mae ‘na ryw dueddiad dros y ddegawd ddiwethaf o gosbi’r ifanc a gwobrwyo’r hen – y gwir ydi mae’n haws bod yn hen nac yn ifanc heddiw. Pa help a gaiff pobl ifanc gan y Llywodraeth mewn difrif? Rhwng dyledion myfyriwr a diffyg swyddi pa obaith sydd i’r lliaws brynu tŷ, bwrw gwreiddiau, magu teulu ac ati? Fawr ddim. Ac mae pensiynwyr yn cael pasys bws i fynd i le y mynnent. Mae’n annhecach fyth o feddwl mai’r meddygon a’r nyrsys a’r gweithwyr gofal cymdeithasol o’r to iau a fydd yn gofalu am y to hŷn i raddau helaeth. Iau yw’r rhai a fydd yn darparu eu gwasanaethau ac ifanc y milwyr a anfonir dramor ‘er eu mwyn’. A chyfieithu ar eu cyfer, wrth gwrs .... !

Ceir ym Mhrydain heddiw mi deimlaf ddiwylliant gwrth-ifanc. Yn ôl y papurau newydd y genhedlaeth iau ydi gwraidd pob drwg, a dydi gwleidyddion fawr well. Ac mae hyn oll mewn oes y mae bod yn ifanc (pa ddiffiniad bynnag sydd gennych o ‘ifanc’) yn anoddach nag erioed, p’un a ydych yn yr ysgol yn astudio neu’n chwilio am eich swydd gyntaf neu gartref. Yn wir, dydi’r byd na’r Gymru a etifeddir gan y genhedlaeth nesaf fwy nag anrheg rad funud-olaf. Os bernir pob cenhedlaeth gan y genhedlaeth a esgorir ganddi, fydd y llyfrau hanes yn cynnig beirniadaeth lom.

A’r byd yn y fath lanast, prin fod ei etifeddu’n dasg ddymunol.

Ta waeth, rant drosodd. Ffrae dragwyddol yw ffrae’r cenedlaethau, fela mai a fela fydd. Un o’m hoff gerddi yn ddiweddar ydi ‘1914-1918 yr Ieuainc wrth yr Hen” gan W.J. Gruffydd. Cerdd wych, efallai’n sôn am ddigwyddiad penodol y Rhyfel Mawr ond eto mae’n dangos yn noeth iawn berthynas y cenedlaethau. Ac, ew, mae ‘na ddeud i’r pennill olaf:

Mae melltith ar ein gwefus ni
Yn chwerw, ond eto cyfyd gwên,
Wrth gofio nad awn byth fel chwi,
Wrth gofio nad awn byth yn hen.