Ow, doedd hi ddim i fod fel hyn, wyddoch. Roedd hi’n braf yn y bora, ac er i’r bobl tywydd ddweud y byddai’n bwrw glaw yn nes ymlaen mi benderfynais eu herio. Dydyn nhw byth yn iawn pan dwi isio iddyn nhw fod yn iawn a byth yn anghywir pan maen nhw’n dweud ei bod hi am fwrw. Ond wrth i mi edrych drwy’r ffenestr cyn gadael gwaith, ro’n i’n gwbod nad oedd y Duwiau o’m plaid heddiw ddydd. A dydi'r ffaith bod boy racers a gyrwyr bws bob tro yn cynllwyno yn f'erbyn yn y glaw fawr o help chwaith. Er, efallai bod hynny'n dweud mwy amdanaf i na nhw.
Roedd o’n law oer. Hen law oer cas. A dydi glaw’r ddinas ddim fel mwynlaw’r wlad. Pan fo’i bwrw glaw yn y wlad o leiaf mae ‘na elfen o ffresni yn treiddio’r awyr. Yn y ddinas mae popeth yn troi’n stici. A’r Hogyn yntau drodd y stici wrth gerdded adra. Dwi’n casáu, yn casáu, Caerdydd yn y glaw. Mae’n ddigon i dorri calon rhywun.
Ond dwi gam ar y blaen i’r glaw ac ni chaiff fy nhrechu yn fy nhŷ, oni fydd fy nhŷ yn disgyn i lawr gan fy ngwneud yn gardotyn. Sydd ddim yn annhebyg os dachi’n edrych ar waliau’r bathrwm. Dwi yma ar ôl cael cawod, yn gynnes, yn edrych drwy’r ffenestr, gyda chawl yn ffrwtian yn braf ar y nwy uwch y popty. Fydda i’n torri bara ac yn rhoi menyn iawn arno toc ac yn edrych allan o’r ffenast o’m cartref budur a theimlo buddugoliaeth.
"Shithole."