Er, mi fydd
unrhyw un sydd wedi darllen y blog hwn dros y blynyddoedd, neu’n fy nilyn ar Twitter,
yn gwybod mai rhywun digon cwynfanllyd ydw i beth bynnag ac na fydda i byth yn
hapus iawn efo Plaid Cymru dim ots be wneith hi. Ond dyna ni, fydda i dal yn
mynd â’r taflenni o ddrws i ddrws er gwaethaf hynny!
Ond i’r
mater dan sylw, sef wythnos ddifyr Dafydd Êl, a wnaeth unwaith eto brofi ei
allu dihafal i gorddi pawb a phopeth heb fawr reswm. Af i ddim i fanylion y
peth, achos mi fyddwch chi sy’n darllen yn ymwybodol o’r stori. Rhaid imi
ddweud, pan glywais y stori yn gyntaf, roedd gen i rywfaint o gydymdeimlad efo’r
Arglwydd. Gŵyr pawb ohonom sut y gall godi gwrychyn pan nad oes ganddo fawr
gwell i’w wneud, ond mae ‘na elfen o’r Blaid sydd wedi bod yn trio cael gwared
arno ers cryn tro – fydda i’n teimlo hyn lot wrth ddarllen blog Syniadau (sydd,
er fy mod i’n hoff ohono, yn gallu bod yn flog eithriadol o hunanbwysig ar adegau) a’r sylwadau dilynol. Efallai bod
hynny’n fwy oherwydd nad oes gen i fawr o fynadd efo’r wleidyddiaeth a arddelir
yno yn hytrach nag ochri efo Dafydd Êl – ond er y gall yr Arglwydd ei amddiffyn
ei hun, mae rhywun yn teimlo elfen o bigo arno, fel y byddech yn ei ddweud ar
iard yr ysgol, o blith rhai yn y Blaid.
Petai’r
Arglwydd yn gadael o’r herwydd mi fyddai’n broblem i Blaid Cymru. Byddai’n
edrych fel bwli o blaid a chanddi ddim lle i ryddid barn. Mi gaiff pobl ddadlau’r
manylion ond dyna fyddai’n cael ei gyfleu, atalnod llawn. Dydi’r ffaith i’r gangen
leol yn Nwyfor Meirionnydd ddatgan cefnogaeth lwyr iddo ond yn gwneud y sefyllfa’n
gymhlethach. Ac mae ambell un sy’n ddigon teyrngar iddo hefyd. A byddai ei
ymuno â Llafur yn ergyd fawr iawn i arweinyddes newydd Plaid Cymru – naïf iawn
yw meddwl fel arall.
Gan ddweud
hynny, mi ballodd fy nghydymdeimlad â’r Arglwydd yn eithaf sydyn (a rhaid imi
gyfaddef, er imi drydar cefnogaeth wantan iddo, nad oeddwn i ddim wedi darllen
popeth am y stori bryd hynny). Anodd gen i gredu bod yr hyn a wnaeth yn llai na
gweithred fwriadol i danseilio Leanne Wood. Nid oes modd goddef hynny mewn
plaid wleidyddol. Ac er i Leanne ymateb yn ddigon aeddfed i’r sefyllfa, ni
allaf ond â theimlo i Dafydd Êl gael cythraul o getawê am actio fel ...
maddeuwch yr iaith ... ond rêl cont.
A chan hynny
does dwywaith bod yr wythnos hon wedi bod yn niweidiol i Blaid Cymru – i’w delwedd
hi, ac o ran creu drwgdeimlad mewnol – ac i raddau llai i Leanne Wood ei hun. Dydw
i ddim yn credu i’w harweinyddiaeth gael ei thanseilio gan hyn, ond bydd yna
bobl sy’n edrych o’r tu allan yn gweld hyn oll ac yn hynny o beth wendid yn yr
arweinydd newydd.
Wrth gwrs,
credid i’r mater ddod i ben ac y gallen ni roi’r holl beth y tu ôl inni, ond
pwy arall ddaeth i greu trafferthion a chefnogi safbwynt Dafydd Êl (o’r hyn a
ddywedodd yn hytrach na’i ddweud yn blwmp ac yn blaen) ond Cynog Dafis. Drafoda i ddim yr hyn a ddywedodd – er, mewn
gair, mae’r boi yn siarad drwy’i din – ond pam aflwydd stwffio’i big i’r ddadl?
Ddyweda i paham, achos mae’n broblem.
Mae ambell
un o hen bennau Plaid Cymru – Dafydd Êl a Cynog Dafis y pennaf ohonynt – yn gwbl
grediniol bod eu barn hwy yn eithriadol o bwysig oddi mewn i Blaid Cymru; i’r
fath raddau ei fod oruwch unrhyw beth arall. A does ganddon nhw ddim mo’r hawl,
ddim mo’r hawl leiaf, i achosi’r fath drallod yn rhengoedd y Blaid. Dydi o jyst ddim yn deg ar neb, o’r arweinyddion
sy’n haeddu o leiaf gyfle i fynd â’r Blaid ar y trywydd o’i blaen, i’r aelodau
cyffredin sy’n haeddu aelodau etholedig sydd am weithio dros y Blaid yn lle
creu trafferth am ddim rheswm ond am i fodloni eu hymdeimlad o hunanbwysigrwydd
chwyddedig.
Ond mi
ddywedaf hyn i gloi. Os mae Dafydd Êl am adael y Blaid – er iddo ddweud nad oes
ganddo unrhyw fwriad i wneud hynny, ac mi dybiaf am resymau cwbl hunanol hefyd –
dyma’r adeg berffaith iddo wneud o ran y Blaid. Dydi Plaid Cymru wir, wir ddim
angen cnonyn drwg yn y caws ar hyn o bryd. Y mae’n gyfnod sefydlogi arnom o
hyd. Ond wyddoch chi beth arall dydi Plaid Cymru ddim mo’i hangen? Dafydd Êl yn
sefyll yn Nwyfor Meirionnydd yn 2016. Efallai ei fod yn hunanbwysig ond dydi o
ddim yn dwp cofiwch, fe ŵyr mai’r unig fodd iddo gael ei ethol yno ydi drwy
sefyll yn enw’r Blaid. A dyna wneith.
Byddai yn
sicr yn glec i Blaid Cymru petai’n gadael rŵan. Yn enwedig petai’n gadael am
Lafur. Ond mae yno fantais hefyd. Y cyntaf ydi nad oes etholiadau ar y gorwel,
felly dw i’n tueddu i feddwl y byddai unrhyw niwed a wneid (ac mi fyddai niwed
pe digwyddid hyn) yn gallu cael ei unioni erbyn yr etholiad nesaf o bwys. Ond yn
ail – ac mae hwn yn un da – ydi mai problem Llafur fyddai’r Arglwydd wedyn. Y mae
Dafydd Êl yr un mor hoff o styrio ag ydw i o gwyno, ac mi fyddai’n llawenhau yn
achosi trwbwl yn rhengoedd Llafur llawn cymaint ag y mae’n amlwg yn ei fwynhau
ei wneud ym Mhlaid Cymru. Â thafod yn ei foch yr awgrymodd Carwyn Jones y
byddai croeso iddo yn y blaid Lafur, heb amheuaeth!
Ta waeth, dw i ddim yn ymuno â’r lleisiau sy’n dweud wrtho fynd. Rhydd iddo wneud yr hyn y myn – mae ganddo’r ddawn i wneud cyfraniad cadarnhaol. Ond, mae un peth y dylai Dafydd Elis-Thomas ei wneud yn ddi-oed. Mi ddylai ymddiheuro. Mi ddylai ymddiheuro am niweidio Plaid Cymru, ac mi ddylai ymddiheuro am yr amarch a’r dirmyg y mae wedi’i ddangos tuag at Leanne Wood. Dw i’n ddigon siŵr nad ydi grŵp cynulliad Plaid Cymru yn un hapus iawn ar hyn o bryd, ac mae gan elynion y Blaid ddiolch i’w fynegi i Dafydd Êl am hynny.