Ar awyren o’r
Eidal, yn wan gan flinder a Propranolol, oddi fry Ewrob fawr, esgorwyd ar un o
frenhinoedd gogoneddus y nen, y pumed o’i dras; y pumed eryr pasteiog.
* * *
Arferai
yna fyw domato nid ond ychydig o fisoedd yn ôl; coch ei wedd a blew ar ei jest. Ei
enw, fel y mae’n digwydd, oedd Afal. Sefyllfa ddisynnwyr yn wir. Yr oedd ei fam
yn goeden a esgorai ar gannoedd o blant bob blwyddyn, canys mai hŵr bren ydoedd
hithau a’i brigau annelwig ar eu lled o ganol dydd tan ganol nos. Ond Afal a
dyfodd yn gryn domato, ac fel unrhyw domato o’r enw Afal mi drigai wrth gwrs
mewn tŷ. Enw’r tŷ hwnnw oedd Y Llys, ac nid oedd ar y llys do na drysau ond ni
hidiai Afal y tomato ddim am hynny. Ta waeth, yr oedd yntau Afal - sydd,
chwychwi gofiwch, yn domato - am resymau rhy ddwfn a rhy niferus i roddi iddynt
fy llawnaf sylw yma, yn uchel ei barch yn y gymuned leol. Nid oedd lai na
chyfreithiwr, a pha syndod ac yntau’n byw mewn annedd ddi-do, ddi-fur o’r enw Y
Llys? Wrth ei waith, fodd bynnag, gweithiai mewn perllan, a hynny am nad oes
angen ar neb, hyd yn oed yn y dwthwn goleuedig hwn, domato o gyfreithiwr. Na,
yn wir, maes i greaduriaid yw’r gyfraith, nid cnwd.
Yn sicr,
nid oes angen mynd i fanylder peryglon bod ag enw fel Afal a gweithio mewn perllan
pa un a ydych domato ai peidio. Do, mi drigodd wrth ei waith, ac ni chafwyd
achos llys am nad oedd modd dod o hyd i gyfreithiwr addas i domato; Afal ei hun
oedd yr unig un a allasai gyflawni’r fath orchwyl. Yr eironi cas! Yr oedd achos ei dranc mor
amlwg, fodd bynnag, fel na wyddai unrhyw un beth ydoedd ac am na chanfuwyd ohono
ddim eithr ambell hedyn a’r tynerwch a’i nodweddai, beryg na chlywo’r byd wir
cas ei ddiwedd.
Y berfedd ar y borfa - cofiwn ef. |
Dwi’n
meddwl na llgodan fytodd o.
Neu afr.