Mi fûm innau’n rhy hwyr yn dyfod yma i
ffarwelio â gwennol olaf yr haf. Fe’i methais. Mae hi wedi mynd, ond wn i ddim
i le; tro eraill yng ngwledydd yr haul parhaus i’w mwynhau yw. Ond hyd yn oed hebddi
y mae hydref yma, mi wn. Gall dyn ei deimlo cyn ei weled, gan y meinwynt diog
sy’n llithro draw o’r Carneddau a’r Glyderau, hwythau’n syllu arnaf gan hyfdra
eu henaint, yn llai cyfeillgar nag y buont rai misoedd yn ôl. Achos maen nhw’n
ei deimlo hefyd, fel y gwnaethant ei deimlo filgwaith gynt.
Dyma ddyddiau gwywo’r haul, ei gynhesrwydd
wedi’i dreulio a’i ddisgleirdeb heb gynhesrwydd, heb fedru ond ag anwesu’n
druenus wlith y caeau llaith hirfaith. Heddiw, mae’n rhannu’r wybren â’r lleuad
– lleuad hydref sy’n gwrthod cysgu, ac ias y dydd sy’n oerach gan ei
phresenoldeb. Camodd i aelwyd y dydd a’i hawlio iddi ei hun.
Ac ymhen hir a hwyr fydd y tir glas yn ildio i’r
tir llwyd. Y mae sisial y dail crimp yn fwy swnllyd a chras yn awelon hydref, a'u hangau sydd rywsut yn eu bywiogi. Meddwasant ormod ar yr haf a chloch olaf tafarn eu coeden sy’n
ddi-droi’n ôl iddynt. A’r cwmwl llwyd ysgafn a charpiog, o orwel i orwel, sy’n
cynnig inni gynfas rhag y gaeaf ddaw, i ni gardotwyr y llawr.
Ydyn, gŵyr popeth fod yr haf wrthi’n gadael. Mae’n
cerdded i ffwrdd yn araf, gan droi ei ben atom ambell waith fel cyfaill sydd
newydd ffarwelio â chyfaill, ond heb droi’n ôl. Gŵyr y coed, gŵyr y brwyn, gŵyr
y waliau cerrig di-sigl a medr dyn eu teimlo’n agosáu at ei gilydd yn un yn
barod at y misoedd llwm. Holant ein hofnau ni; a welaf innau wanwyn arall?
Mae’r mynyddoedd yn gwybod yr ateb, ond
ddywedan nhw ddim wrthyf i; maen nhw’n chwerw a balch yn eu tragwyddoldeb. Fedr
hydref mo’u disodli nhw, ond gallai eto gael y gorau ohonof i.
Nessun commento:
Posta un commento