** Wel, fydd hon ddim i bawb, ond flynyddoedd yn ôl ro'n i'n arfer ysgrifennu straeon am fferm ryfedd o'r enw Trem-y-prysgoed. Roedd yna tua wyth stori wirion i gyd, gydag enwau fel 'Hanes y Gath' ac 'A rhuo wnaeth y gwynt', yn seiliedig ar bobl ro'n i'n eu nabod. Nes i fwynhau eu hysgrifennu nhw'n fawr iawn. Felly am ddim reswm, dyma un ohonyn nhw, fydd, mi dybiaf, yn gwneud dim sens o gwbl i chi, ond sy'n gwneud imi wenu o leiaf. **
6. Treialon Trem-y-prysgoed
“Chi’n siŵr y’ch chi moyn i mi wneud
hyn eto Ffermwr Rhisiart?” gofynnodd Llywelyn y Ci Defaid ffyddlon â
chyfarthiad blinedig.
“Wel odw wrth gwrs! Ti yn gi defed
wedi’r cwbwl achan!” atebodd y Ffermwr.
“Ie, ond sai’n gweld y pwynt, mae ‘na
ddiffygion sylweddol ynghlwm wrth y cynllun dwl diweddaraf hwn.”
“Dere wir, ble ma dy ysbryd gwêd?”
atebodd y Ffermwr eto, y tro hwn yn fwy siarp. “Pan wy’n whibanu, ti’n mynd i
hala’r defed i gyd i miwn i’r gorlan! Alle fe ddim bod yn haws i gi defed, rhan
o’r genes t’wel. Ti’n barod achan?”
Rholiodd Llywelyn ei lygaid, a
symudodd yn araf oddi ar ei eistedd i’w bedair coes, yn gwbl, gwbl anfodlon.
“Odw, fi’n barod,” meddai, wrth i’r Ffermwr ddechrau chwibanu’r hyn y credai eu
bod yn gyfarwyddiadau. Rhedai’r ci o amgylch y cae gwag, ac o amgylch corlan
wag. Nid oedd na dafad na maharan i’w weld yn unman. Yr unig ddafad ar y fferm
oedd Linor y Ddafad Ddu a oedd yng Nghae Top, a phrin y codasai honno ar y
Sadwrn tan yr hwyr brynhawn. Yn sydyn, daeth Llywelyn i stop.
“Ffermwr, chi’n gwybod fi yma i’ch
gwasanaethu, ond sai’n deall wir. Shwt odw i’n fod i allu ymarfer mynd â’r
defed i’r gorlan pan ‘sda ni ond un ddafad a honno mewn cae arall?” gofynnodd.
Myfyriodd y Ffermwr. “Ie, mae ‘da ti
bwynt, Leonard,” meddai’n araf.
“A ‘sdim treialon yn y rhan hon o’r
byd wâth p’un ‘ny,” ychwanegodd y ci clyfar. Roedd yn gywir. Roedd Fferm
Trem-y-prysgoed yng nghanol unman a phrin fod unrhyw un am symud yn agos ati.
Ond un craff oedd y Ffermwr Rhisiart.
Fflachiodd ei lygaid. “Mae ‘da fi syniad, yr hen gi, mae ‘da fi syniad!”
bloeddiodd, wrth i Llywelyn orchuddio’i lygaid â’i bawennau. “Ni’n mynd i
gynnal treialon, Treialon Defed Trem-y-prysgoed!”
“Ond ‘sdim ond un ddafad yma, Ffermwr
Rhisiart,” ceisiodd Llywelyn atgoffa’r Ffermwr anobeithiol.
“Na phoener, wy gam y blân i bawb!”
chwarddodd yr hen Ffermwr â hyder lond ei lais.
Syllai Awen Afal ar yr antics yn y
cae. Dyma ei hamser hi i sicrhau ei goruchafiaeth, meddyliasai. Byddai’n gosod
bom! Bom i ddinistrio pawb a phopeth a therfynu Trem-y-prysgoed am byth! Âi ati
ar unwaith i gyflawni ei chynllun cyfrwys. Wel, fe wnâi, petai ganddi goesau,
neu freichiau, neu ddwylo ... oedd, fe’r oedd dial ar y byd a hithau’n afal yn
gryn her.
Yr wythnos ganlynol, o Nyth Clyd,
gwelsai Jayden a Steve yr adar to, yn eu crysau-t I’m with Stupid gan lymeitian ar goctêls
cartref, ymgasglu mawr ar fuarth y fferm. “Ma fe ond yn cael gwneud hyn achos
bo’r wraig mas,” canai Steve at Jayden, a gytunodd yn frwd. Hwythau’n unig nas
galwyd at ei gilydd ar gyfer yr achlysur. Rhoes y Ffermwr gyfarwyddiadau i’r ci
defaid ddod â phawb ynghyd, ac yno’r oedd pawb mewn dwy linell ger ei fron;
Sian y Frân, Linor y Ddafad Ddu, Eirianwen y Fuwch, Aneirin yr Afr, Bethan y
Llwynog Slei (a oedd yn dylyfu gên a hithau i fod yn y ffau yn cysgu erbyn
hyn), Heledd y Wenci Werdd, Ceinwen Morus y Mochyn Twyllodrus, Hawys Hwyaden,
Bronwen Gethin y Gath Flêr a hyd yn oed Hafina Hufenfa a ddaeth i gynnig
cefnogaeth, dal yn ei het dyn llaeth. Ac o’r pellaf angofedig gaeau cyrhaeddodd
greadur tenau rhyfedd â cherpyn am ei phen. Gan glopian yn araf a chloff,
ymunodd y Ferlen Fair â’r rhengoedd.
“Gyfeillion!” bloeddiodd y Ffermwr
megis penllywydd, gyda’r ci defaid a Lari’r 4x4 yn gadfridogion bob ochr iddo,
“ma ‘ddi’n ddwernod arbennig! Wy wedi ych galw chi ynghyd oherwydd ...’ bu saib
hir cyn i Lari sibrwd yn ei glust y rheswm iddo alw pawb at ei gilydd ‘...ie!
Ie! Ni yma ynghyd i gynnal Treialon Defed Trem-y-prysgoed!”
“Wel g’wan ta Linor!” chwarddai Eirianwen
y Fuwch yn arogl mwg i gyd gan wthio’r ddafad ymlaen. Trodd wyneb Linor yn wyn.
“Ond fi ydi’r unig ddafad yma!” meddai
hithiau â braw lond ei llais gan bron â gollwng ei fodca tonic. “A chewch chi
mohonof i mewn corlan, dwi’n gweld dwbwl fel mae hi...”
“Ond dyma’r gnymllun, y gyngngllyn
fawr!” atebodd y Ffermwr yn rhyfedd. “Heddi, fyddech chi gyd yn ddefed dan
gyfarwyddyd Llywelyn man ‘yn. Halws y gwahoddiade mas ddyddie nôl i holl
ffermydd yr ardal, bydd hi fel ffair yma ymhen dim!” Edrychodd yr holl
greaduriaid ar ei gilydd – er nid mewn syndod.
Codasai Heledd y Wenci Werdd, a oedd
yn werdd ryfeddol am wenci, ar ei fyny a chan gnoi drwy’i dannedd gofynnodd â’i
llais main, “Ond, Ffermwr, paid becs nawr, ond onid dyma’r unig fferm yn y
cyffinie? Dôs ddim fferm arall i gâl am filltiroedd maith ers, wel, ers i chi
symud ‘ma a gweud y gwir. Ond paid becs. Ond sai’n deall shwt ma pethau’n
gweithio felly. Pan o’n i’n teithio’r byd chi’n gweld ... ” dechreuodd adrodd
cyn i Linor smashio’i gwydr dros ei phen a’i chnocio allan.
“Ond fel oedd honno’n ei ddeud,”
meddai’r ddafad ddireidus, beryglus, “does ‘na ddim fferm am filltiroedd
maith.”
“Yw hynny’n wir, Llywelyn?” gofynnodd
y Ffermwr ffwndrus wrth y ci defaid.
“Wel, odi,” atebodd. “Dyle chi fod
wedi sylwi ers blynydde a dweud y gwir, ond fe wnes i ddilyn eich cyfarwyddiade
yn ôl fy arfer, er eu bod nhw unwaith eto’n hollol ddibwynt. Yr unig wahoddiad
y galles i ei roi odd yr un i’r unig fferm yn yr ardal, sef Fferm
Trem-y-prysgoed, sef yr un a gawsoch chi, er i chi rywsut gael braw o’i weld er
sai’n deall shwt.”
“Wel es ti ar y bws i weld a ôdd rhai
o bellach am ddod?”
“Naddo.”
“Pam lai ychan?”
“Fi’n gi. Sai’n cael mynd ar y bws.”
“O.”
“Hyd yn oed petawn i ‘sda fi ddim
arian achos, unwaith eto, fi’n gi. Chi’n deall nawr?”
“Ie, wy’n credu fy mod. Onid yw’r byd
wedi newid gyment?”
“Dim felly, naddo.”
“Ie, fi’n cytuno.”
“Mae angen gwely arna i – so
fi fod lan yr adeg hon o’r dydd,” meddai Bethan y Llwynog Slei gan ddylyfu gên
a gafael yn dynn am ei chap nos yn ddifynadd.
“Brensiach y baedd,” sochiodd Ceinwen Morus y Mochyn
Twyllodrus, “am ddiwrnod llwyddiannus iawn y bydd hi. Y peth gwaethaf y gallwn
ei wneud ydi mynd adre i’r twlc.” A dyna oedd y sbardun.
“Bydd!” bloeddiodd y Ffermwr. “Fe fydd yn ddiwrnod
llwyddiannus iawn!” cyn chwerthin i’r uchel nefoedd.
Eisteddodd y Ffermwr Rhisiartyn ôl yn ei gadair siglo yn yr
hwyrnos. “Diwrnod i’r brenin!” ebe’r Ffermwr, “y llwyddiant mwyaf a gafodd y
fferm hon eriôd!”
“Shwt chi’n dod i’r casgliad hwnnw, Ffermwr?” gofynnodd y
ci defaid, yn eistedd o flaen y tân yn llyfu ei bawennau, wrth i Ena’r Wraig
Fferm ddarllen y papur o’r gadair gornel yn fwriadol orchuddio ei hwyneb i
osgoi siarad â’i gŵr. “Dôdd dim treialon wedi’r cwbl, so chi’n cofio?”
“Yn union!” atebodd yn gyflym. “Heb gystadleueth dôdd dim
dewis gen i ond rhoi’r fuddugolieth i Fferm Trem-y-prysgoed by default!
Ac wedyn, yn goron ar y cyfan, treulio’r prynhawn cyfan yn gwneud fy hoff beth,
ffermio!” chwarddodd yn llon.
“Esoch chi i yfed potel o wisgi a whydu ar stepen y drws
cyn cysgu yn nhwlc Ceinwen Morus,” cadarnhaodd y ci. “Bydde Hawys Hwyaden wedi
bwyta’r cnwd i gyd oni fyddwn i wedi’i brathu hi.”
“Ie, ffermio, peth da,” atebodd y cont dwl, gan ei
hanwybyddu’n llwyr.
Nessun commento:
Posta un commento