lunedì, settembre 19, 2016

Galw Ras Arlywyddol UDA 2016


Un o’r pethau sydd wir yn siomedig am sylwebaeth wleidyddol Gymreig ydi ei bod bron yn gyfan gwbl, boed yn y cyfryngau neu ar-lein, yn ymwneud â Chymru, a hyd yn oed bryd hynny ‘sneb yn sticio’u pennau allan i ddarogan dim. Iawn, gêm wirion ydi darogan gwleidyddol ond mae o dal yn hwyl i’w ddarllen ac mae ‘na werth iddo; ac os na all ein harbenigwyr wneud hynny, pwy all? Ond, un peth sy’n wirioneddol siomedig yng Nghymru a’r Gymraeg ydi’r diffyg llwyr o drafod gwleidyddiaeth ryngwladol ar wahân i ddarnau barn. A dyna’r rant o’r ffordd.

Bron blwyddyn yn ôl, ysgrifennais flogiad ar y ras arlywyddol yn UDA, yn datgan fy mod i’n meddwl bryd hynny fod gan y Gweriniaethwyr fantais. Rŵan, er fy mod i wedi cwyno am ddiffyg darogan uchod, mae’r hyn sydd wedi digwydd dros y môr wedi dangos pam fod pobl mor amharod i wneud hynny! Ond mae’n ras yn rhy ddifyr i’w hanwybyddu.

Dydw i ddim am roi fy marn ar y ddau ymgeisydd yma; dwi’n gwneud hynny ar Twitter a fedra i ddim dioddef y naill na’r llall. Ond rhaid trafod deinameg y peth. Waeth pwy aiff â hi, bydd arlywydd nesaf UDA yn rhywun y mae’r rhan fwyaf o’r wlad ddim yn ei hoffi. Y mae’r ddau ymgeisydd rywsut yn ffwndro; mae’r pethau amhriodol a ddywed Trump yn effeithio arno’n ysbeidiol (dim ond iddo fownsio’n ôl yn ddi-ffael) – y cwestiwn mwyaf o’i ran o ydi a fydd yn dweud y peth anghywir yn rhy hwyr yn y dydd, gan beidio â rhoi cyfle i Clinton ei distrywio’i hun unwaith yn rhagor a throi ras sy’n edrych yn gyfforddus eto’n agos. Dwi’m yn cofio ras wleidyddol o unrhyw fath sy’n ymdebygu i’r peth: mae’r ddau’n ffodus eu bod yn eu hwynebu ei gilydd, achos prin y byddai ganddynt gyfle yn erbyn unrhyw un arall.

Serch hynny mae Clinton yn mynd drwy gyfnod gwael iawn, iawn. Roedd ei sylwadau “basket of deplorables” am gefnogwyr Trump yn rhyfeddol o annoeth. Mae etholiadau, fel Romney yn 2012, ond yn ddiweddarach o blith ymgyrchwyr aros yn refferendwm y DU, wedi dangos pa mor beryglus ydi gwawdio hyd yn oed ran o’r etholwyr fel hynny. Yn wir, mae’n tueddu i fod yn dyngedfennol. Roedd y ‘datgeliad’ yn ddiweddarach i Clinton ddioddef o niwmonia, a bod hi heb ddweud y peth yn gynharach, yn atgyfnerthu’r ddelwedd anonest ohoni, ynghyd â’r ffaith iddi wella’n rhyfeddol o gyflym am rywun a gawsai gyflwr sy’n tueddu i gymryd wythnosau i wella ohono (eto, mae’n drewi o anonestrwydd, cas beth pleidleiswyr). Ac, waeth beth fo’r manylion, mae’r newyddion heddiw bod un o fomwyr Efrog Newydd o Afghanistan fwy na thebyg am helpu Trump, a hyd yn oed gyfiawnhau i raddau rhai o’r pethau mae’n eu dweud.

Dwi’n meddwl y gallai’r newyddion hwnnw fod yn dyngedfennol hefyd. O ystyried fod terfysgaeth eisoes yn fater mor bwysig i bobl yn yr etholiad hwn waeth beth fo’u lliwiau gwleidyddol, mae’n anodd gweld hyn yn lleddfu ar hynny.

Mae gan y ddau hefyd fantais sydd hefyd yn anfantais iddynt. Mae gan Trump graidd brwd drosto ond y tu hwnt i hwnnw mae pethau’n anos iddo. Mae craidd Clinton yn llai brwd i’w weld ond mae ei hapêl – hynny sydd ganddi – efallai’n fwy. Y mae diffyg brwdfrydedd dros y ddau felly’n bwrw amheuaeth dros y canlyniad terfynol.

Mae’r polau cenedlaethol o fis Medi yn awgrymu bod Clinton ar y blaen o lai na 2% (a hynny mewn ras ddwyffordd). Mae’n eithaf difyr fod ymgyrch y Libertariad Gary Johnson i’w gweld yn ei niweidio hi yn fwy na’r Gweriniaethwyr, ond mae’n annhebygol o newid canlyniad yr etholiad mewn difrif. Dyma fy map hyfryd (a wnaed diolch i www.270towin.com) o’r sut aiff pethau pe cynhelid yr etholiad heddiw. Y lliwiau tywyll ydi’r taleithiau sicr a’r rhai golau ydi’r rhai sy’n dechrau corlannu i un ochr.



Rŵan, dydi hwn fawr fwy na fi’n craffu ar bolau a darllen erthyglau dirifedi dros y mis diwethaf, ond mae mantais ddiamheuaeth gan Clinton yma. O ran ‘pleidleisiau etholiadol’ (faint mae bob talaith ‘werth’) mae rhai pwysig fel Minnesota a Pennsylvania wedi dechrau troi’n lasach yn ôl yr arolygon barn. Ar y llaw arall mae rhai fu’n las gynt, fel Ohio ac Iowa’n dechrau troi’n goch. Os ydych chi’n meddwl pam fod rhai yn y de’n goch golau, mae’n fwy achos diffyg data na dim. Hefyd gyda Georgia er enghraifft, jyst uwch Florida, mae’n rhywle y mae’r Democratiaid yn od o hyderus ond, i fod yn onest, maen nhw’n annhebygol iawn o’i chipio; yn enwedig gan eu bod wedi bod yn dweud hynny ers blynyddoedd, a’u bod hefyd wedi dweud pethau tebyg am Texas ac Utah (lle cafodd y Gweriniaethwyr 73% o’r bleidlais yn 2012) dros y mis diwethaf.

Yr unig le heb ddarogan uchod ydi Florida lle mae pethau’n agos iawn. Ond mae Florida’n ddifyr. Mae ‘na gymuned Sbaenaidd gref yno; un sy’n fwy tebygol o gefnogi’r Gweriniaethwyr na gweddill UDA yn draddodiadol (mae Rubio ymhell ar y blaen i’w wrthwynebydd Democrataidd yn y ras Seneddol gyda llaw). Ond mae’n amlygu un broblem gyffredinol i’r Democratiaid; mae nifer y pleidleiswyr cofrestredig yn llawer, llawer is ymhlith pobl Sbaenaidd, a phobl dduon hefyd, nag ymhlith pobl wynion. Mae’n bwysig, bwysig nodi nad ydi’r polau fel arfer yn adlewyrchu hyn.  

Rhaid hefyd gynnwys y ffactor Trympwyr Tawel; rydyn ni’n cael yr un ffenomen yma gyda’r Ceidwadwyr. Faint o’r rheiny sydd yn UDA? Er, mae’n ddigon tebyg yn yr etholiad hwn fod digon o bobl wnaiff bleidleisio dros Clinton sy ddim eisiau cyfaddef hynny chwaith!

Ond beth petai’r duedd raddol, flêr at Trump yn parhau? Rŵan, darogan gweddol ddi-sail ydi’r fath beth, ond o ystyried popeth dwi’n meddwl ei bod yn deg gwneud y fath ddarogan, o ystyried popeth y soniais amdano ar ddechrau’r blog. Beth am inni roi gogwydd cyffredinol oddi wrth Clinton i Trump, ar frig uchaf y margin of error sef 3%? Ffantasïol? Braidd. Ond ceisio cyfleu rhywbeth ydw i yma.



Wrth gwrs, nid dweud ydw i fod yr uchod am ddigwydd; mae gogwydd o 3% o Clinton i Trump yn annhebygol ond feiddiwn i ddim â dweud amhosibl, hyd yn oed os oes amrywiaeth sylweddol rhwng y taleithiau. Ond yr hyn dwi’n ceisio’i gyfleu gyda’r uchod ydi hyn: byddai gogwydd bach iawn yn gwneud pethau’n anos o lawer i Clinton, gan ddod â thaleithiau annisgwyl i mewn i’r gêm. Ydi, mae’n anodd gweld llefydd fel Michigan a Wisconsin yn pleidleisio dros Trump, ond dydy pethau ddim yn amhosibl.

Yn fras, dyma 10 pwynt i’w hystyried:


  1.  Mae Clinton yn ymlwybro i lawr yn y polau; mae Trump yn ymlwybro i fyny. Yng nghyfartaledd data polio cenedlaethol diweddaraf Real Clear Politics, mae Clinton lai nag 1% ar y blaen.
  2. Mae neges Trump, yn enwedig am bethau fel TTP, yn taro tant gwirioneddol yn America ganol. Ac mae’n bwysicach i bobl weld eu bywydau unigol nhw’n gwella nag unrhyw beth arall. Dydi Clinton ddim yn taro tant neb.
  3. Clinton ydi’r sefydliad gwleidyddol sy’n cael cic ddiamheuaeth ym mhedwar ban byd ar y funud.
  4. Er bod mantais enfawr gan Clinton ymhlith pobl o dras Sbaenaidd, mae’r lefelau cofrestru i bleidleisio’n llawer is yn eu plith.
  5. Mae ganddi hefyd fantais fawr ymhlith pobl dduon, ond mae’n annhebygol o sicrhau’r un lefel o gefnogaeth yn eu plith ag y gwnaeth Obama waeth beth wnaiff Trump.
  6. Gyda’i gilydd mae pobl dduon a phobl o dras Sbaenaidd tua 28% o’r boblogaeth. Mae pobl wynion yn 64% gyda’r trwch yn cefnogi’r Gweriniaethwyr. Os bydd y nifer sy’n pleidleisio’n uwch yn gyffredinol y tro hwn, bydd yn debygol, er gwaethaf popeth, o ffafrio’r Gweriniaethwyr.
  7. Efallai bwysicaf oll, mae Trump wedi hen gyrraedd y pwynt lle nad oes neb yn synnu arno, waeth pa mor stiwpid, anonest neu wirion ydi o. Mae’r canfyddiad o Clinton fel dynes gymwys – sef bron yr unig beth o’i phlaid – wedi dadfeilio’n ddifrifol.
  8. Y Trympwyr Tawel y soniais amdanynt uchod. Faint ohonyn nhw sydd yno?
  9. Mae Trump eisoes wedi chwalu pob rheol wleidyddol synhwyrol at ennill ... ac wedi ennill.
  10. Ac yn olaf, pwynt difyr iawn sy’n cael ei golli: do, cafodd Obama bum miliwn o bleidleisiau’n fwy na Romney yn 2012, ond mae UDA yn enfawr. Canran ei fuddugoliaeth oedd 3.9%. Landslide nid oedd.


Pwy ag ŵyr beth fydd yn digwydd nesaf yn y ras? Amhosib dweud; gwirioneddol amhosib. Ond taswn i’n ddyn betio, ac er gwaetha’r ffaith na Clinton ydi’r ffefryn (mewn sawl ffordd, yn enwedig os edrychwch eto ar y map cyntaf yn y blogiad hwn, y ffefryn clir), mi fyddai fy mhres i ar Y Donald.

Dwi’n ei galw hi.

Nessun commento: