Allech chi
ddadlau bod fy nghenedlaetholdeb i’n ymdebygu i zeal of the converted yn fwy na dim. Wedi’r cyfan dwi’n fab i
Saesnes (heb sôn am fod efo teulu rhyfeddol o amrywiol) a’m hiaith gyntaf ydi Saesneg,
yn dechnegol. Byddai hynny, fodd bynnag, yn ddadl ffals. Fel na all unrhyw un ond am y sawl ohonom sydd wedi bod yn y
sefyllfa unigryw honno ei ddeall, dewis oedd gen i: p’un ai i fod yn Gymro ynteu’n
Brydeiniwr. Y cyntaf ddewisais i, a hynny ar ôl deall nad oes modd bod y ddau,
ddim go iawn. Rhaid dewis dy ochr. Am ryw reswm twp, Cymreictod a phopeth
ynghlwm wrth hynny – iaith, hanes, diwylliant – apeliodd ataf i, ac nid yr hunaniaeth
artiffisial anorganig sydd ond yn bodoli i danseilio’r pethau hynny; yn wir, eu
dinistrio’n llwyr. Wna i ddim smalio nad ydw i’n edifar y dewis hwnnw o bryd i’w
gilydd, er, o edrych yn ôl, mae’n ymdebygu’n fwy i dynged na dewis.
Bu’n
sbel ers imi gael blog rantio. Dwi wedi sawl tro yn y gorffennol (er
nad ers sbel) cwynfanu ynghylch cyflwr cenedlaetholdeb yng Nghymru – ein twpdra,
ein llwfrdra - ond gan wastad ganolbwyntio ar Blaid Cymru, boed yn deg ynteu’n
annheg braidd. Ond yn ysbeidiol dwi’n ffeindio’n hun yn rhwystredig hyd at
anobaith; y peth hwnnw y dywedodd Saunders ei fod yn hawdd ymdroi ynddo am fod
cysur ynddo, sydd ar yr wyneb yn ddoeth ond sydd actiwli’n beth hurt iawn i’w
ddweud i unrhyw un sydd â phrofiad ohono.
Nid y
Blaid, am unwaith, dwi’n ei chyfeirio ati yma. Na, at genedlaetholwyr Cymru eu
hunain a’n hagwedd gyffredinol. Yr un hen broblem; rhy barchus, rhy boleit.
Efallai fi sydd ar y we gormod ond mae gwegenedlaetholwyr Cymru, ag un eithriad nodedig, jyst rhy neis a chall. Cenedlaetholdeb deallusol
sy’n teyrnasu yno, nid cenedlaetholdeb y pridd – ac mae’n troi arna i. Yn y
galon ac yn y gwaed y mae cariad at wlad, nid yn y pen.
Crisialwyd lot o'm rhwystredigaeth yn ystod ffrae ddiweddar Ysgol Llangennech. Nid manylion y peth sy gen
i dan sylw yma (af i ddim iddynt achos os ydych chi’n darllen hyn mae’n siŵr
eich bod yn gyfarwydd â’r rheiny) ond yr ymateb cyffredinol o blith
cenedlaetholwyr (cenedlaetholwyr ar-lein yn fwy nag yn y cigfyd efallai, yn lle
y mae’n haws y dyddiau hyn dweud gwirioneddau heb i’r byd a’i gi gael go). Gadewch imi ymhelaethu.
Michael Jones o RhAG ddywedodd yr hyn a
sbardunodd y ddadl fawr. Os dwyt ti ddim yn licio’r ffaith dy fod mewn
cymuned lle mae Cymraeg, dos dros y ffin (sylwer: ddim yn ôl neu Sais) a fydd
ddim angen i chdi boeni am y peth. Mae Michael Jones yn gwbl, 100% cywir i
ddweud hyn. Mae cenedlaetholwyr yn gwbl iawn i ddweud hyn hefyd: a'i ddweud yn agored. Waeth un o le
wyt ti, os ti’n byw mewn cymuned lle mae’r Gymraeg i’w chlywed a bod hynny’n
mynd dan dy groen, boed i’r neges i ti fod yn glir: ffyc off i rywle arall. Mae’r
peth yn well i chdi, ac yn well i ni. Dydi o ddim yn rhywbeth twp i’w wneud. Hon ydi'r agwedd sydd angen inni feddu arni, neu yn hytrach, ei hail-ganfod. Rhain ydi'r math o bethau sydd angen i ni eu dweud - nid yn unig am eu bod yn gywir, ond am eu bod yn strategol gall hefyd (sy'n flogiad cwbl ar wahân).
Ond na, ebe Ifan Morgan Jones ar
ei flog, mae'n beth gwirion i’w ddweud cyn mynd i fanylder ar fanteision addysg
Gymraeg. Iawn – mae hynny’n ymateb call ond y broblem eithriadol efo’r holl
beth ydi ei fod wedi’i anelu at argyhoeddi pobl fydd byth, byth yn dod i weld y safbwynt hwnnw. Ac yn wir, mae hynny’n
rhywbeth dani fel petaem ni’n ei wneud o hyd wedi mynd, ceisio dadlau’n gall a
rhesymol efo pobl sydd ddim yn gall na’n rhesymol. Y mae’n wastraff llwyr o unrhyw
allu deallusol sydd gennym; anghywir yn ei hanfod nid yw, ond weithiau tydi
dadl ddim yn ddigon i ennill dadl. (Mi ddylwn i ddweud yma fy mod i'n hoff iawn o ddarllen blog Ifan, ond bod ein mathau o genedlaetholdeb bosib yn groes i'w gilydd)
"Apartheid" - Barn y Blaid Lafur yn Sir Gâr am addysg Gymraeg mae'n debyg. Rhag eu cywilydd, nhw a'u ffrind newydd Neil Hamilton. #Cymraeg pic.twitter.com/MgQaqNYVKx— Math Wiliam (@MathGW) February 10, 2017
Dyma rydan ni’n ei erbyn yng Nghymru, yn enwedig fel Cymry Cymraeg: nid yn unig casineb nad oes modd i'r sawl a'i cadwo ei gelu, ond idiotrwydd ar lefel arallfydol. Does ots fod y dwatsen
lwyr uchod yn Gymraes. Does ‘na ddim dadlau efo ffycin ynfytod fel hi. Roedd ar
dudalen un o’m ffrindiau Facebook (dwi ddim am ddweud pwy na chynnig dolen yn
gyhoeddus) ddadl hir am achos penodol Llangennech a hoeliodd y neges hon fy
sylw yn fwy na’r un arall:
**Roedd yma sgrînshot o sylw a gafwyd ar drafodaeth ar Facebook - er bod awdur y sylw ac awdur y statws yn ddienw gofynnwyd i mi ei dynnu i lawr rhag "dwyn gwarth" ar ymgyrchwyr Ysgol Llangennech - a dwi'n parchu'n llwyr ei hawl i ofyn hynny, ac yn deall pam y gwnaeth y cais. Wna i ddim ailadrodd y cynnwys. Fodd bynnag, doedd y sylw ddim yn dwyn gwarth arnynt, a dwi'n teimlo braidd fod y cais i'w dynnu i lawr yn cyfleu, o leiaf i raddau, yr hyn dwi'n ceisio'i gyfleu yn y blogiad hwn.**
(Y frawddeg a ategai'r llun oedd hon: " ‘Rhen Michael oedd yn iawn wedi’r cyfan felly, mae’n debyg. Roedda ni jyst bach yn rhy neis i fod isio coelio'r peth; achos ein bod ni'n ofn coelio pa mor uffernol ydi'r bobl 'ma, yn ceisio gweld ochr orau pan nad oes un.")
Pwy fyddai’n sefyll yn gadarn yn erbyn y fath bobl?
Cymdeithas yr Iaith i'r adwy! Felly rhyddhaodd y mudiad ddatganiad
y’i gwelais yn cael ei ddisgrifio fel “call” a “synhwyrol” a “chytbwys”, sy
ddim exactly yn eiriau mae rhywun yn
eu cysylltu â’r Gymdeithas y dyddiau hyn beth bynnag. Ar ôl sefyll fyny i’r hen
Hamilton ym mhwyllgor y Cynulliad mewn ffordd mor arwrol, ar sail popeth hyfryd a rhyddfrydol ac efo'r Gymraeg nid mwy nag atodiad i hynny, oni wnaent yr un fath yn achos
gwrthwynebwyr troi Ysgol Llangennech yn un Gymraeg?
Na. Datganiad pathetig oedd o – roedd gwneud ‘safiad’ angerddol
yn erbyn UKIP yn y Cynulliad yn llawer mwy greddfol rywsut i’r Gymdeithas na
gwneud safiad angerddol o blaid addysg Gymraeg yn Sir Gâr. Fel ymateb Ifan
Morgan Jones, un gair yn unig sy’n disgrifio’r drewdod: gwendid. Mae o fel bod cael go
ar Neil Hamilton yn hawdd ac yr awn i’r gad ar farchogion gwynion i’w drechu –
ond pan mae rhywun arall yn arddel ei safbwyntiau, yn cydweithio'n ddi-gywilydd ag o, neu jyst yn mynd yn erbyn buddiant
y genedl, rydyn ni’n ymgilio’n ôl i’n hogofâu ac yn gofyn am sgwrs a thrafod,
ar yr union adeg y mae angen miniogi’n cleddyfau.
Byddai o les inni ddewis ein brwydrau yn well hefyd. Petaem ni'n gwneud hynny efallai y gallem ennill mwy ohonynt.
Dwi'n meddwl y brif broblem ydi bod cenedlaetholwyr yn meddwl bod y gallu i ddadlau'n gywrain yn lle gwylltio a dweud wrth nobs i fynd i'r diawl yn arwydd o gryfder a gallu - arwydd o wendid pur yw.
Ceisio cynghreiriaid ydi ymateb sawl un i ymnerthu’r
genedl. Mae Seimon
Brooks (ymhlith eraill, ond efallai fo ydi’r cenedlaetholwr amlycaf i wneud
hyn) wedi bod yn groch sawl tro dros y misoedd diwethaf y dylai’r Blaid
gydweithio â Llafur i atal UKIP.
Nac ydyn, Simon. |
Ylwch, rhydd i bawb ei farn a’i ddiffyg crebwyll
gwleidyddol ond eto, gwendid ydi’r
unig air sy’n disgrifio hyn; ac anallu i weld yr union elyn. Roedd y twît uchod yn crynhoi pam bod
cenedlaetholdeb Cymru’n tindroi. Fe’i gwnaed fisoedd cyn ffrae Llangennech ond
roedd y sentiment yn hollol anghywir. Y gont wirion yn y fideo uchod?
Cynghorydd Llafur. Cynghorydd Llafur sy’n dilyn traddodiad gwrth-Gymraeg
parhaus y blaid Lafur yng Nghymru, y mae’r achosion ohonynt yn rhy niferus i’w
rhestru mewn un blog. Os taw prif nod Plaid Cymru yw gwarchod a hyrwyddo’r
genedl a gweithio er ei lles hi a’i phobl, does modd sefyll ysgwydd yn ysgwydd
â Llafur achos cofiwch hyn: pan mae hi’n dod at statws Cymru a’r iaith
Gymraeg, mae Llafur yn agosach o lawer at farn UKIP na barn Plaid Cymru
achos na phlaid Brydeinig ydi hi. Ac ni ellir cyfaddawdu rhwng Cymreictod â
Phrydeindod mwy na all llygoden gyfaddawdu â chath. Weithiau rhaid inni roi i'r neilltu'r darlun mawr a chanolbwyntio arnom ni ein hunain, ac o weld hynny weld taw unrhyw un sy'n arddel Prydeindod yw'r gelyn. A rhaid eu hymladd.
Mi rydyn ni mor bryderus ynghylch ypsetio pobl, ynghylch
cael sylw drwg yn y wasg, a gydag obsesiwn hurt o geisio ennill calonnau
calonnau’r anenilladwy, fel y mae’n ein hatal fel cenedlaetholwyr. Y mae lle i
hynny, ond dyna’n prif dacteg a pham nad ydi Cymru’n mynd i’r unman. O ran y
frwydr genedlaethol, rhaid ymladd tân â thân. Y math o dân sy’n beryg bywyd yn
nwylo’r cenhedloedd mawrion ond sy’n gwbl hanfodol i oroesiad cenhedloedd
bychain.
Dydi cenhedloedd modern ddim yn mynd rhwng y cŵn a’r brain drwy
waed a thân a dinistr. Na, gallant oroesi’r pethau hynny. Ond os delo awr diwedd
y Cymry, awn i’r bedd hwnnw nid am ein bod wedi bod yn rhy ymosodol na’n
annymunol. Y mae’r llwybr at ein bedd cenedlaethol yn frith gan ddadleuon neis,
bod yn barchus a bod yn groesawgar, ac awn i’r bedd hwnnw â gwên ar ein hwyneb.
Y mae weithiau lle i ddwrn yn lle llaw – nid yn yr ystyr llythrennol, ond yn
lle ceisio bod mor gall a mor ddeallus ddweud gwirioneddau’n blwmp ac yn blaen,
a sylwi bod yn well gan y rhan fwyaf llethol o bobl glywed y rheiny na geiriau
gofalus diystyr, dideimlad.
Mwy o galon, y peth hwnnw sydd wedi rywsut, drwy ryw fodd, ymgilio'n drybeilig yn nisgwrs cenedlaetholdeb y Cymry.
Na, mae'n amser i ni ddysgu bod ein petrusrwydd cynhenid am ein difa, ac mae'n rhaid i genedlaetholwyr Cymru ddysgu dweud 'ffyc off', a dysgu drachefn fod angen weithiau fod yn flin am y pethau perthnasol sy'n effeithio'n uniongyrchol arnom ni, ac nid ar bopeth arall a ddigwydd yn y byd.