venerdì, novembre 03, 2006

Nid hawdd mo cynllunio gwers

Gwir yw fy ngeiriau. Ddoe, fues i’n cynllunio un wers a gymrodd, rhwng gwneud y PowerPoint, gwaith cartref a thaflenni (heb son am beth ddiawl ddyweda i yn ystod y wers) bedair awr imi. Nis dechreuais y traethawd yr oeddwn yn benderfynol o’i dechrau erbyn diwedd hynny. Stwffiais fy hun ar y soffa ac aros yno’n benderfynol am weddill y nos.

Heddiw, fodd bynnag, gyda gwers am y cynganeddion tu ôl imi, mi ddechreuaf y traethawd rŵan. Fe ges i ryw bwl o anhyder ddoe, a dechrau chwilio am jobs ar-lein yn hytrach na bod yn athro tan sylweddoli does dim byd arall sydd gennyf y ddawn i’w gwneud.

giovedì, novembre 02, 2006

'Dolig 2005

Dwi wedi bod yn aelod o youtube ers 'chydig bellach, ond byth wedi gosod fideo arno. Felly dyma'r un cyntaf; sef Cerys Matthews yn canu 'Arglwydd, Dyma Fi' yng Nghlwb Rygbi Bethesda yn 2005.

http://www.youtube.com/watch?v=fIZF1o1VLbc

mercoledì, novembre 01, 2006

Ecrafing Sbarang

Mae teimlad ofnadwy gennyf fi am neithiwr. Aml iawn mi wna i dwat o’n hun allan; dw i’n fodlon cyfaddef hynny. Ond neithiwr mae teimlad gennyf fy mod yn waeth nag erioed. Dw i’m yn cofio lot, ond fy mod i’n eistedd ar gadair yn rhywle a methu codi, a chwydu mewn i wydr peint o flaen pawb. A’r hwn fore, mae gen i gywilydd dangos fy wyneb, er nad oes neb o gwmpas i fy ngweld diolch i’r Arglwydd.

Mae gen i glais hefyd. Clampglais mawreddog sy’n ddu ac yn biws ar ochr fy mhen glin. Aeth criw ohonom i go kartio ddoe, dachi’n gweld. Fi oedd y gwaethaf o bell ffordd, yn anffodus, heb fath o reolaeth dros y cerbyd, yn troelli ar hyd y trac (neu oddi arno, i fod yn fanwl gywir) ac fe ges i ddiawl o smash ac o’r herwydd hynny cefais y clais. Er hyn, rhywsut, llwyddais i gael yr ail lap cyflymaf (ac nid dim ond myfi a gafodd sioc).

Felly dyma fi yn fy ngwely, llenni ar gau, yn poenydio am ba bethau a wnes neithiwr. Ar fy mywyd, os mae’n ddrwg ofnadwy, yfaf i ddim fel hynny eto. Efallai, yn wir, ei bod yn amser callio.

lunedì, ottobre 30, 2006

Saw III

Dydw i ddim am smalio i chi, cefais y profiad gwaethaf bosib yn y sinema neithiwr. Gwelais Saw III.

Anghofiwch y cyntaf a’r ail; mae’r rheiny’n pink bunny and pony material o’u cymharu â Saw III. Mae’n ddibwynt o waedlyd, ac mi fyddaf onest, bu bron imi chwydu yn ystod y chwarter awr agoriadol. Nid yw perfeddion a gwaed at fy nant yn y lleiaf, fel yr eglurais wythnos ddiwethaf. Bu imi fwynhau’r gyntaf yn y gyfres; yr ail nid cymaint ond yn falch fy mod wedi ei weld. Mi fedraf ddywedyd â’m llaw ar galon yr edifaraf weld y drydedd ffilm. Roeddwn i’n ypset iawn yn gadael, ac fe ges i noson annymunol iawn o gwsg neithiwr, wedi breuddwydio fy mod wedi cerdded i Langefni i brynu tŷ.

Er mwyn Duw, nad ewch i weled yr hwn ffilm.

venerdì, ottobre 27, 2006

Brêc

Mae hanner tymor arnom! Plant yn hapus, myfyrwyr yn hapus, addysgwyr yn hapus, tra bo’r gweddill ohonoch yn sdyc mewn swyddi lle na chewch wythnos o feddwi didrugaredd a llwyr. Esboniais y byddaf i’n aros o leiaf yn ychydig yn chwil o heno hyd at Ddydd Mercher. A syniad da ydyw mi gredaf.

Mi ddysgais fy ngwers gyntaf ddoe. Aeth o’n wych; a doedd ‘na ddim math o nerfau arna’ i. Rhoddodd hwnnw sioc a bŵst hyder imi. Oeddwn i angen hynny; yn gynharach yn yr wythnos doeddwn i ddim yn siŵr bod y peth dysgu ‘ma i mi, gwelwch. Erbyn hyn dw i’n eitha’ hapus dal ati a mynd ymlaen ac ymrwymo fy hun at rywbeth. Sy’n eitha’ da, achos byddwn i’m yn gwneud uffern o ddim arall ‘blaw am hynny.

Heno, mi af allan. Fe feddwaf am y tro cyntaf ers pythefnos. Methu disgwyl!

martedì, ottobre 24, 2006

Atgofion

Ymwelais â’r hen flog am y tro cyntaf ers hydoedd dim ond rŵan.

Trist iawn ydwyf. Tair blynedd o’m mywyd … wedi mynd …

lunedì, ottobre 23, 2006

Y Llun yn UWIC

Henffych gyfeillion mân a mawr! Dim gymaint y rhai mawrion. Tueddol ydynt o beidio â gallu eistedd ar gadair cyfrifiadur canys fe’i melir ganddynt felly nas medrant ddarllen yr hwn flog wrthun. Er, os mai pris gordewdra ydyw peidio â medru darllen fy mlog, prin ei fod yn bris mawr.

Yn UWIC y bûm heddiw, yn chwerthin drwy’r dydd a chael hwyl fawr. Wyddwn i ddim os ydych chi’n ymwybodol o Clive Rowlands, ond mae’r dyn yn chwedl yn ei hun, ac wedi wythnos mewn ysgol uwchradd mae’r Llun yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, gyda’r hen Clive yn codi gwên o hyd yn ddi-ffael. Efe ydi tonic fy jin, a mawr barch sydd gennyf ato.

Er hyn mae Dydd Llun yn ddiwrnod hollol ddiddefnydd, mewn gwirionedd, a phrin y dysgaf i ddim.

Sut bynnag, gyfeillion, rwy’n mynd allan heno. Wedi mynd i’r ysgol gyda phen mawr ar fy nghyntaf wythnos yna nid byddaf yn gwneud hynny eto, ond mynd am fwyd i fwyty Eidalaidd. Pen-blwydd Rhys ydyw, felly pen-blwydd hapus iddo fo. Dw i’n ffan fawr o fwyd Eidalaidd, er mi aiff a Tsieinîs â fy ffansi o bryd i’w gilydd. Fe ges i un neithiwr am y tro cyntaf ers hydoedd a sgỳm ydoedd, gyda bîff cnoillyd annifyr a llysiau caled. Er, mae’n siŵr nad oes diddordeb gennych chi erbyn hyn, nacoes?

Oni’n ama.

domenica, ottobre 22, 2006

Ffarwel i fro fy mebyd

Wel mi ges i ddiwrnod anniddorol ddoe, o ystyried fy mod i adra’. Es i weld Nain, ac fe ddywedodd hithau ei bod hi’n meddwl fy mod i’n dod adra’r penwythnos yma, er na roddais i na neb wybod iddi. Conecshyn sydd gan Nain a fi, dachi’n gweld. Fodd bynnag, aeth hithau’n ymlaen i drafod teledu Cymraeg, ac esbonio bod Naw Tan Naw yn “rhaglen ddoniol ond lot o sôn am secs ynddo fo” a bod Tipit yn hwyl fawr i’w wylio. Eglurasai sut y mae’r gêm yn gweithio, a rhywsut llwyddodd i’w chyflwyno’n waeth nac ydyw mewn difri. Dawn sydd i Nain, yn wir; pe fyddai hithau’n ysgrifennu adolygiadau S4C byddwn ni gyd llawer mwy siomedig pan fyddai’n dod at y gwylio, dw i’n amau dim.

Typical fy mod innau wedi dod fyny ar y penwythnos bod rhyw hogan wedi cael ei herwgipio o Wrecsam a bo’r Heddlu yn cau Pesda allan o’r byd drwy archwilio pob un car sy’n mynd allan o’r pentref. Dydyn nhw heb f’archwilio i eto, er prin y dônt o hyd i ddim yn fy nghar ond am gwm cnoi a CD Dafydd Iwan. Boed y rheiny’n gryfder imi fentro’r daith lawr i’r ddinas fawr (wn i ddim pam fo pobl yn cyfeirio at Gaerdydd fel ‘y ddinas fawr ddrwg’. Nid mawr mo Caerdydd, a phrin ei bod yn ddinas mewn difri. Er, dydi hi’n sicr ddim yn ddrwg o’i chymharu â …. Wwwwww …. Sir Fôn? Heh heh. Weloch chi FYTH mo hynny’n dod, naddo?).

Sut bynnag, fe af drachefn i Gaerdydd heb weld na mynydd na llyn na chlogwyn tan y ‘Dolig. Hwyl fawr fro fy mebyd (does mab gennyf), fe’th welaf eto!