venerdì, giugno 29, 2007

Ffarwel i Newport Road

Mae’n rhaid i mi ysgrifennu pwt heddiw. Heno fydd y noson olaf yn 437 Newport Road. Heno daw blwyddyn o gweryla, sbigoglys a gwylio rhaglenni ditectif/llofruddiaeth i ben. Mi gyfaddefaf yn syth nad ydw i erioed wedi ffraeo cymaint mewn blwyddyn, er y bu i mi hoffi byw yno, a hynny er gwaetha’r ffaith nad oes neb wedi hwfro ers blwyddyn.

Rydym ni’n mynd allan heno, fel tŷ, i fowlio ac yfed. Ia, dim ond y tri ohonom, megis ménage â trois dig, ar Newport Road. Bydd hynny’n ddiddorol. Byddem yn eithaf aml yn diweddu i fyny gyda’n gilydd ar noson allan ond prin iawn y byddem ni’n mynd allan efo’n gilydd. Ond am Sainsburys. Mi fydda’ i’n methu mynd i Sainsburys ar ddydd Llun neu i brynu sothach. Mae’n ffordd hynod o ymwared ag unrhyw bwysau drwy weiddi ar bawb arall a gwneud sioe.

Ond dyna ni, ar ôl heno dw i’n gorfod aros yn y Bae am ychydig o ddiwrnodau cyn symud i mewn i’r tŷ. Fy nhŷ. Ystyriaf bryd hynny, a phryd hynny’n unig, bod myfyrdod yng Nghaerdydd wedi dod i ben. Finito. Kaput. Sy’n eithaf anaeddfed, a dweud y gwir.

mercoledì, giugno 27, 2007

Diodydd gwaethaf

Wel, rydym ni’n cael ein lluchio allan o’r tŷ'r penwythnos hwn, a dydw i heb gael fy nhŷ i eto. Golyga hyn y bydda i’n crashio gyda rhywun dros y penwythnos o leiaf, a chlustnodaf Haydn a thŷ’r genod at y diben hwn. Byddai byw yn agos i ganol dref neu ychydig o ddiwrnodau yn y Bae yn braf iawn. Dw i angen gwyliau; pa le gwell i fynd na’r Bae?

Gan ddweud hyn oll gwell byddai bod y busnes tŷ wedi ei drefnu erbyn hyn. Ond dw i’m yn poeni. Dw i’n licio meddwl bod fy mywyd yn rhywfaint o ‘mini adventure’, ys ddywedws yr hysbysebion; er byddai un Ribena efo’r aeronen yn cael ei gwasgu cyn cyrraedd Man yr Addewid yn addasach o gryn dipyn. Er, dw i’n eithaf gobeithio mai nad ffatri Ribena yw fy Man Addewid bersonol.

Felly mi fyddaf yn brysur iawn dros y dyddiau nesaf, sy’n ofnadwy achos mae’n gas gen i fod yn brysur. Bydda i wrth fy modd o dan bwysau, ond nid pwysau go iawn: pwysau coginio pryd call ac amseru popeth yn iawn, y pwysau o gyrraedd adref cyn Pobl y Cwm, math yna o beth. Dw i’m yn meddwl y byddwn i’n hoff o roi aren, er enghraifft (er dw i’n siŵr y byddant hwy yn hoff iawn o ddianc ohonof, a hwythau wedi hen flino ar Carling).

Dw i heb flino ar Carling, fel mae’n digwydd. Ar y funud Carling, Seidr Blac a Fosters ydw i’n yfed (Baileys a fodca hefyd, wrth gwrs, gwin coch os caf y cyfle hefyd - heb fynd ar y G&Ts ers ‘chydig ond mae’n hawdd yn un o fy hoff ddiodydd), a dw isio peint yn o handi.

Ond mae ‘na ddigon o ddiodydd alcoholic nad wyf yn hoff ohonynt. Rhestr? Ia, amser am restr, fy 10 diod alcoholic gwaethaf.

1. Archers
2. Absinth
3. Rym
4. Heineken
5. Chwerw o bob math
6. Grolsch
7. Bacardi
8. Sambwca
9. Gwin gwyn
10. Stella Artois (gwn y bydd hwnnw’n amhoblogaidd ond fy mlog i ydyw so ffyc off)

martedì, giugno 26, 2007

Problem bersonol

Newydd dderbyn hwn drwy'r e-bost; mi wnaeth i mi chwerthin, felly mi a'i rhannaf!


Enwau Plant

Mae ‘Mehefin’ yn air dw i’n hoff iawn ohono. Wn i ddim pam. Dyna’r enw orau ar fis yn sicr, a ‘Rhagfyr’ ydi’r gwaethaf. Gair hyll yw Rhagfyr. Mis hyll hefyd. Ond mae hi’n ddigon pell i ffwrdd.

Enwau plant ydi’r peth gwaethaf gewch chi. Fel un nad ydyw’n medru ymwneud â phlant ac sy’n cael ei gasáu ganddynt (roedd gas gen i’r tro cyntaf i mi ddal babi, a dw i byth wedi gwneud ers hynny) dw i’n ddigon parod i ddweud nad ydw i’n teimlo drostynt. Ia, fi sy’n chwerthin crochaf pan gaiff plentyn ei frifo ar You’ve Been Framed; ond mae rhai pethau nad ydynt yn eu haeddu.

Cael eu henwi gan Gwenan neu Llinos yw un o’r pethau hyn. Mae genod yn ofnadwy gyda babanod; hoffwn i gwrdd â’r ferch nas gellir ymwneud â hwy, mynd â nhw am ddêt, posib, i Sŵ Môr Sir Fôn neu Techniquest. Beth bynnag, hoffech chwi cael eich galw yn ‘Arianrhod Fflur’ neu, gwaeth fyth ‘Siwgr Mai’?

Dw i wastad wedi bod yn hoff o’r enw ‘Arianrhod’, ond ddim ar gyfer person, a byddai galw plentyn yn ‘Siwgr Mai’ yn greulondeb o’r math gwaethaf. Mae awgrymiad Lowri Dwd o ‘Macsen’ yn un eithaf gwirion hefyd, er mi fedr o gael ei alw’n Macs, sy’n eithaf cŵl, a dweud y gwir.

Myfi fy hun, petawn â mab rhyw ddydd, Rhodri Llywelyn hoffwn i ei alw. Ond byddai’r broblem o gyfuno’i enw cyntaf â’m syrnâm i yn un anodd iawn i’w oresgyn...

lunedì, giugno 25, 2007

Coctêl Ciwcymbr

Mi gewch grynodeb fer o’m penwythnos. Gwnes i ddim nos Wener oherwydd fy mod wedi penderfynu na fyddwn, ond trodd nos Sadwrn yn llanast pur erbyn y diwedd, ac mi es i gysgu tua 4.30 yng ngwely Kinch, sy’n anffodus a dweud y lleiaf. Roedd hynny ar ôl Clwb Ifor, lle nad ydw i’n cofio dim, mi fyddaf yn hollol onast, ond sarhau crys Hovis a mwynhau’n fwy na fu iddo ymateb. Roedd hynny ar ôl y Model Inn lle'r oedd caroci. Ni ddadleuaf yr hoffwn wedi cael tro arni, dydw i byth wedi gwneud carioci o’r blaen, ond gyda llais fel DI yn tagu ar onion ring, gwell i mi beidio.

Roedd hynny ar ôl y dafarn Cymraeg newydd yng nghanol Caerdydd, gyda Chymraeg echrydus uwch y bar. Y Tair Pluen yw ei henw. Ni welir Saesneg yn un man yno, ac maen nhw’n honni eu bod yn hapus i siarad Cymraeg. Mi eithaf hoffais y lle, ‘blaw am ei bod yn ddrud ac roedd y noson yn hen hwyrhau erbyn bryd hynny.

Cyn hynny, fodd bynnag, aethon ni i Milgi ar City Road am ddiod. Lle od ydyw ar y lleiaf, lle mae athrawesau celf a hipis yn mynd, naill ai i mewn i’r adeilad neu’r wigwam ffug yn y cefn, lle ceir DJ yn bloeddio cerddoriaeth wirion. Os ydych chi’n hoff o dream-catchers ac eneidiau bleiddiau ewch yno ar bob cyfrif. Dw i ddim. Tai’m sarhau cred neb arall; ond os ydych chi’n ymddwyn fel Indiad Coch (heb fod yn un, wrth reswm) ac yn gwisgo dillad chwifllyd haeddwch chi ddim ond rhywun yn eich taro. Gyda char. Am 90 mya.

Fodd bynnag, tra yno penderfynais fod yn ymhongar a chael coctel, a’r un mwyaf od a chefais erioed. Syrup elderflower (dim syniad be ‘di hynny’n Gymraeg), fodca, shampên a CHIWCYMBR. Ac yn lle rhoi tafell o oren neu rywbeth ar ochr y gwydr dyma fi’n cael CIWCYMBR arno. Drwg oedd yr argraff a wnaed arnaf, ac ni af yno fyth eto, yn enwedig am goctel ciwcymbr. Ffyc sêcs.

venerdì, giugno 22, 2007

Ymadawiad y Ddynes Erchyll

Dw i am orffen yr wythnos gyda blog teyrnged. Prin iawn y byddaf yn ysgrifennu’r rhain (dw i’m yn credu fy mod i wedi gwneud un erioed, a dweud y gwir). Er, gor-ddweud yw’r gair ‘teyrnged’, mewn difrif. Mae Llinos, ‘y Sguthan Goch’ fel y’i hadwaenir o amgylch tafarndai Caerdydd, yn ein gadael ac yn mynd i Aberystwyth am swydd newydd (a chôc ffres). Felly gadewch i mi nodi yma’n dragwyddol ar y Rachub rhithiol ambell i atgof o’r ddynes erchyll hon:

Ei gwylltineb llwyr wrth i mi ddwyn ei goriad. Mi ddilynodd fi hyd a’i chael eto, yn llwyddo i’m dal er bod ganddi heels a minnau pymps.

Ei noson feddw ofnadwy yn Yates yn ystod yr all-you-can-drink. Nid yn fodlon ar geisio mynd gydag Eilian, mi lwyddodd syrthio o dan fwrdd nad oedd mwy nac ugain modfedd o uchder cyn cael ei thaflu allan gan y bownser. Chwydodd yn ei gwely a mynnai i ni ei deffro ‘cyn diwedd y pedwerydd bar ... 3/4 timing, eff sharp’.

Ein Caserol Wy cyntaf. Cafodd syndod ar y blas gwych a’m dawn coginio.

Ar noson feddw arall, mi aeth ar genhadaeth i geisio argyhoeddi pawb ei bod yn lesbian. Mi gredodd yn ddyfal y llwyddodd, ond profodd ddim ond ei hanallu llwyr i actio a dweud celwydd.

Myfi a Ceren yn ei gorfodi i gerdded o amgylch cegin Theiseger Street gyda melon am ei phen a’i recordio.

Ei barusrwydd a’i pharodrwydd i fwyta unrhyw beth - hyd yn oed os ydyw’n ddarn o bara wedi’i llwydo â bleach ynddo yn Llys Senghennydd.

Ei hamharodrwydd llwyr i gyfaddef ei bod yn gic.

Ei thraed drewllyd a’i ffaith nad ydyw’n gallu eu harogli.

Ei gweithred ffiaidd iawn o fachu trempyn ar stryd Caerdydd cyn mynd â fo adref gyda hi.

Ei ffolineb wrth fynd fyny at deliwr cyffuriau ryff iawn yng Nghaerdydd a chyflwyno ei hun fel Tinky-Winky from Tellytubby land.

Mae wrth gwrs llawer, llawer mwy am y Sinsir y gellir ei ddweud ond gwell fyddai peidio yn enw gweddusrwydd. Ond dyna ni; mi aeth y Dyfed, rŵan mae Llinos yn mynd. Onid ydym yn crebachu, a thybed pwy fydd y nesaf i fynd?

giovedì, giugno 21, 2007

Strôc Freuddwydiol Porthmadog

Mae fy meddwl yn y nos wedi dechrau gwallgofi’n llwyr. Mae’r breuddwydion sy’n dyfod ataf yn od, a dweud y lleiaf, ac un neithiwr yn rhyfeddach na’r arfer. Roeddwn yn nofio ym Mhorthmadog, yn gogyls i gyd, cyn dyfod allan o’r dŵr, cyfarfod Harold Bishop a bu i’r ddau ohonom gael strôc. Dw i’m yn siŵr sut y mae hynny’n teimlo, ond dw i’n cofio nad oedd yn deimlad bendigedig, a minnau yn methu â symud hanner fy nghorff, a hanner fy wyneb. Mewn fflat ben fy hun oeddwn wedyn wedi hi, yn dal yn dioddef, yn llwyddo i gyrraedd y gwaith drannoeth, er gwaethaf Dewi Tal yn fy rhybuddio yn ei erbyn.

Ro’n i’n teimlo’n eithaf unig neithiwr, mae’n rhaid i mi gyfaddef, gyda Haydn adref o hyd ac Ellen wedi mynd allan. Dw i ddim yn berson sy’n ymdopi yn dda iawn o fod ar fy mhen fy hun (ia, dw i’n gwybod fy mod yn ceisio prynu tŷ ar ben fy hun, ond dyna ni!) - yn wir, synnaf yn aml y'i goddefir gan eraill yn well na mi! Ond eto, nid goddefgar mohonof i yn y lleiaf.

Dw i’n un o’r bobl ‘na sy’n cael eu cythruddo, ac yn cwyno am ac yn sylwi ar y pethau lleiaf - a’r pethau drwg. Gwelais i erioed y pwynt o chwilio am y da mewn person; os mae person yn dda mae hynny’n eithaf amlwg i’w weld. Pobl ddrwg di’r broblem, wyddech chi fyth beth sy’n mynd ymlaen tu ôl i’w llygaid duon a’u cegau seimllyd a’u hewinedd hirion. Afraid dweud, pe byddant i gyd yn edrych felly, byddai bywyd yn haws, er na wn i sut na sylweddolodd neb bod Hitler yn ddrwg yn y lle cyntaf. Byddwn i wedi.


Ond rydwyf innau’n amgyffred ym mhopeth. Gwelais heddiw na fyddwn yn gwerthfawrogi tost i frecwast, felly mi es heb. A chywir oeddwn. Mi werthfawrogaf fy nghinio fwy hebddo.

mercoledì, giugno 20, 2007

Bebo a Facebook

Mae’r mochedd-bethau hyn wedi distrywio fy mywyd a’i feddiannu’n llwyr. Waeth pa le bynnag yr wyf, mi fynnaf wirio a oes neges newydd gennyf ar Bebo neu fod rhywun wedi fy ngwahodd i grŵp Facebook. Mae’n troi arnaf faint o hwyl y byddaf yn ei gael o edrych a rhithlusgo o amgylch proffiliau pobl eraill, gweld pwy sydd ar-lein a busnesu ar beth mae pawb yn dweud wrth ei gilydd.

Bebo yw fy hoff un. Y peth trist am hynny ydi er fy nhoreth (llond twlc) o ffrindiau arni, dim ond rhyw bedwar sy’n cyfathrebu â mi drwyddi sef Lowri Dwd, Dyfed, Ellen ac ambell i dro Gwenan, sy’n gyfuniad anffodus o bobl a dywedyd y lleiaf. Ar wahân iddynt hwy, does neb yn edrych ar fy mhroffil heb sôn am adael neges na thynnu llun na chwblhau fy ngwisys. Mae’r sefyllfa yn un trist iawn, ar y cyfan.

Os edrychwch i’r dde, gwelwch fy Facebook. Mae’n rhyfedd fod y cymeriad South Park arno mor debyg i mi, a’r naws yn amlwg. Facebook yw Bebo y bobl seriws. Arf cyfathrebu ydyw, nid lle i luniau na ‘skins’ anaeddfed. Mae fy Facebook i gryn dipyn yn fwy poblogaidd na’r Bebo, ond allwn i ddim cynhesu ato (Facebook = gwrywaidd, Bebo = benywaidd, iawn?). Dw i ‘di blino ar gael fy ngwahodd i ychwanegu ‘Top Friends’ a ‘Fortune Cookie’. Byddaf yn ychwanegu’r ategolion hyn cyn diflasu ar ôl pum munud a’u dileu.

Yn wir, mae rhywun yn gwybod eu bod ar gyfeilion pan maen nhw’n ymuno â grŵp o’r enw ‘I Secretly Want to Punch Slow Walking People in the Back of the Head’, neu os ydych chi’n aelod o Faes E, ac yn ymuno efo’r grŵp Facebook, ‘Maes E’.

Moes yr uchod yw bod Bebo yn well na Facebook, a'i bod yn drist mai’r unig bobl fydd yn cytuno â mi ydi Lowri Dwd, Dyfed, Ellen (ac weithiau Gwenan).