martedì, maggio 06, 2008

Ben Foel

Ew, dwi’m wedi bod atoch chi ers sbel, naddo? Roeddwn yn bwriadu rhoi dadansoddiad manwl o’r etholiadau cyngor cyn penderfynu nad oeddwn i wirioneddol isio gwneud hynny. Wel, roeddwn i isio, ond wnes i ddim, felly dyna ddiwedd ar hynny.

Mi es ddoe i ben Foel. Mae’n bosib iawn mai ben Moel Faban ydi fy hoff le yn y byd i gyd; ‘doeddwn i heb fod am flynyddoedd felly mi es. Yr ochr draw i Foel ceir cwm diffaith, ond dwi wrth fy modd yno. Yr unig beth a glywch yno ydi brain a defaid, gweld y ceffylau gwyllt yn mynd ar eu busnes rhwng y carnau. Mae rhywbeth dwfn am heddwch y fan honno sy’n rhoi rhyw flas tangnefeddus i mi.

Serch hynny, dim ond Saesneg sydd i’w chlywed ar uchaf gyrion Rachub erbyn hyn. Fedra’ i ddim disgrifio’r teimlad yn llawn i chi o glywed Saesneg yn y pentref. Wn i ddim os mai casineb ydyw, neu dristwch, neu ddicter, neu anobaith, hyd yn oed, ond mae’n deimlad pwerus iawn nad ydw i’n cweit gallu delio efo fo, nac yn gallu ei anwybyddu. Mae’n waeth na chrafu ar fwrdd du neu sgrechian elyrch (sy’n sŵn afiach, cofiwch). Ond dyna ni, mae ‘na ddiwedd i bob cân, waeth pa mor gofiadwy ydyw.

venerdì, maggio 02, 2008

Plaid yn cipio Gerlan - hwrê!

Hoffwn i fod y cyntaf i gynnig llongyfarchiadau gwresog i Dyfrig am ennill ward Gerlan (sydd, yn bwysicach fyth, yn cynnwys Rachub – a dweud y gwir dwi’m yn hapus iawn na Gerlan ydi enw’r ward. Cynnig enw mwy addas: Rachub) yn disodli Llafur. Dwi ddim yn gwybod yr union ganlyniad oherwydd na fedraf fynd i safle Gwynedd, a ph’un bynnag Maes E sydd â’r gossip diweddaraf i gyd heddiw!

Er fy nadrithio diweddar o'r Blaid, dwi’n eithaf ffigwr o gasineb i rai o Lafurwyr Rachub, felly mae’n wirioneddol wneud i mi wenu’n slei tu fewn bod Plaid Cymru wedi, am y tro cyntaf erioed, cipio’r ward ar y cyngor oddi wrthynt. Llongyfarchiadau eto!

(Methu disgwyl i weld a ydi Sion White yn ennill heno yng Nghwmderi!!)

giovedì, maggio 01, 2008

Mae 'na hwyl i gael â phleidlais

Mi bleidleisiais cyn gwaith a gwneud fy mhenderfyniad terfynol wrth groesi. Roedd gen i dair pleidlais ond dwy a ddefnyddiais. Mae 'na hwyl i gael efo'r pleidleisio tactegol 'ma!

Hefyd, dyma, wedi rhywfaint o ymchwil, ddarogan canlyniad Cyngor Caerdydd:

Dem Rhydd 26 (-6)
Ceidwadwyr 21 (+11)
Llafur 19 (-8)
Plaid Cymru 7 (+3)
Annibynnol 2 (D/N)

Os mae'r Gath Ddu yn darllen, beth am fotel arall o win coch os mae hynny'n gywir? ;-)

mercoledì, aprile 30, 2008

Comrade Hogyn o Rachub

Dwi’n siomedig gyda fy hun am flogio’r nesaf peth i ddim am yr etholiadau lleol. Dwi’n siŵr fy mod wedi mynegi pe bawn yn defnyddio fy mhleidlais yn Rachub mai Plaid Cymru fyddai’n ei chael. Dim ond Plaid a Llafur sy’n sefyll yn Rachub. Dydi Llais Gwynedd ddim, ond pe byddent mi fyddwn yn fwy tebygol fyth o bleidleisio Plaid Cymru. Caiff pobl ddweud beth a fynnant, ond dydi Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ddim yn ddrwg ar y cyfan, ar wahân i ambell i un nad enwaf.

Fodd bynnag, gyda’r etholiad ei hun yn dyfod yfory dwi wedi gwneud fy mhenderfyniad dros bwy i fwrw fy mhleidlais. Fel y dywedais, mae’n gas gen i bobl nad ydynt yn pleidleisio, neu o leiaf sbwylio’u papur. Ond dydw i ddim am wneud hynny. Yfory, mi fyddaf yn rhoi croes wrth enw’r Comiwnyddion.

Mae hynny’n eithaf cam i mi. Bob etholiad a fu ers fy neunaw dwi wedi bwrw pleidlais dros Blaid Cymru, ond mae’r Comiwnyddion yn addo ehangu addysg Gymraeg, a gwyddom oll record Plaid Cymru am wneud hynny yng Nghaerdydd. Gwarth. Wrth ddarllen eu pamffled prin i mi anghytuno gydag unrhyw beth a ddywedwyd sy’n ddiawl o chwa o awyr iach o’i gymharu â Lib Dem Focus Team neu Can’t Win Here a chachu mat felly, ond i fy syndod roeddwn yn dueddol o anghytuno gyda nifer o gynigion Plaid Cymru. Afraid dweud, i’r bin yn syth aeth rhai’r pleidiau mawrion.

Dwi wastad wedi fflyrtio braidd â chomiwnyddiaeth, er na ddisodlir fy nghenedlaetholdeb gan ddim, ond fel dwi wedi dweud ers cyfnod, dydi Plaid Cymru ddim yn haeddu fy mhleidlais, a chan fy mod i’n hoff o be sydd gan Gomiwnyddion Grangetown i’w ddweud, nhw gaiff fy mhleidlais, er gwaetha’r ffaith nad oes ganddynt gyfle o ennill sedd.

martedì, aprile 29, 2008

Pensiwn

Hoffech chi glywed ystadegyn trist? Fydda’ i ddim yn ymddeol nes y flwyddyn 2052, sef pan fyddaf yn 68, sydd mewn 45 o flynyddoedd (mae gen i ddwbl beth yw fy oedran rŵan, i bob pwrpas, i ddal i weithio). Dwi’n meddwl bod hynny’n erchyll, fy hun. Heb sôn am feddwl am fyw mewn byd y bydd yn hollol estron i chi, pwy ddiawl sydd isio gweithio nes eu bod nhw’n 68 oed?

Mae rhan ohonof yn rhywle sydd wastad yn meddwl nad lle dyn yw swyddfa neu floc neu rhwng muriau yn gweithio’n gaeth i drefn sydd ohoni. Mae rhan sy’n gweiddi’n groch am fod yn yr awyr iach ac wrth y môr a’r coed yn rhydd o ddesgiau a chyfrifiaduron. Gan ddweud hynny, mi wn yn iawn mi fi fyddai’r cyntaf i gwyno ar yr arwydd gyntaf o law mân neu pan y mae’n ddiawl o oer. Dydi hi byth yn peidio â’m rhyfeddu pa mor gaeth ydi’r byd rhydd, a chreulon fyddai rhyddid pur. Bob dim yn baradocs, mae’n rhaid.

Yn ddiweddar iawn mi ‘sgwennais ddarn ofnadwy am fethu’r Gogledd, yn fras, ac ar fy myw dwi’n edifar ei ysgrifennu. Os ydi rhywun yn ysgrifennu rhywbeth, mae’n ei wneud o’n go iawn, rhywsut. Fydda i’n mynd yn ôl ddydd Gwener tan y Mercher nesaf. Fedrai’m disgwyl arogli’r awyr unwaith eto, na gweld gwyrddni. Mae dallt y mynyddoedd yn dangnefedd ac yn gancr, yn eich arbed chi ac yn eich difa’n araf deg. Ydw, dw i angen brêc.

giovedì, aprile 24, 2008

Fy Mhleidlais a Grangetown

Dwi’n dechrau’n araf deg cael i mewn i’r ‘lecsiwn cynghorau ‘ma. Petai arwyddion yn unrhyw beth i fynd arnynt, yn Grangetown draw byddai Plaid Cymru yn ennill tri chwarter y bleidlais. Mae ‘na un Democrat Rhyddfrydol sy’n dweud ‘Winning Here!’ ac un Llafur yn dweud ‘Supporting Labour and the Bluebirds’, gyda rhai’r Blaid dros y lle fel annwyd. Dim ond angen cerdded ar hyd Cornwall Road sy’n rhaid i weld hyn. Mae hi fel etholiad cenedlaethol.

Y Rhyddfrydwyr sydd â thair sedd yma ar hyn o bryd. O edrych ar yr etholiadau diwethaf doedd ‘na fawr o bleidleisiau rhwng ymgeiswyr y Rhyddfrydwyr (y tri ar y brig) a Llafur (y tri nesaf), gyda Phlaid Cymru ddim yn eithriadol o bell yn ôl ar ôl hynny. Os na fydd Plaid yn ennill sedd yma’r tro hwn yna fydd hi’n adlewyrchiad eithaf drwg arnynt. Yn ogystal â 3 o bob un o’r tair plaid, mae ‘na o leiaf un Tori yn sefyll a Chomiwnydd.

Mae gen i dal feddwl i wneud o ran fy mhleidlais. Tan tua phythefnos yn ôl roeddwn i wedi penderfynu, a hithau’n etholiad lleol, mynd am Blaid Cymru eto, cyn i mi gael fy atgoffa y gwnaethant bleidleisio yn erbyn y cynllun ad-drefnu addysg. Felly ni chânt fy mhleidlais yn yr etholiad hwn, a ddiawl ots gen i chwaith os na chaiff ‘run ohonynt eu hethol ledled y ddinas.

Oherwydd y penderfyniad hwnnw, fe’m cyflwynwyd â’r dewis o roi pleidlais i’r Rhyddfrydwyr, a hwythau wedi bod y blaid y cynllun. Ond wna’ i mo’r ffasiwn beth. Wedi’r cyfan, mae Lib Dems yn crap, ac mae gen i deimlad eu bod nhw’n shag eitha’ crap, hefyd.

Ond daeth taflen y Comiwnyddion drwodd, yn mynegi cefnogaeth i sawl peth, fel ateb y galw am addysg Gymraeg, o'r meithrin i'r lefel uwchradd, ac yn wir siarad sens ar ambell i beth. Wyddwn i ddim o’r blaen, chwaith, bod y Blaid Gomiwnyddol o blaid senedd lawn i Gymru gyda grymoedd deddfwriaethol ac ariannol.

Dau ddewis olaf sydd wedyn (o gofio nad ydi Llafur na Thori yn ddewis – ddim i rywun efo hanner meddwl, beth bynnag). Sbwylio’r papur; ond dw i’m isio gwneud hynny. Peidio mynd i bleidleisio? Gas gen i bobl nad ydynt yn defnyddio’u pleidlais, rhaid i mi ddweud, ond â minnau’n teimlo mor ddadrithiedig o wleidyddiaeth ar y funud mae’n ddigon o ddewis i mi ei ystyried.

Fodd bynnag, dw i fwy neu lai wedi penderfynu beth i’w wneud. Efallai ddyweda’ i wrthoch chi, os mynnwch rywbryd.

martedì, aprile 22, 2008

Gorwedd wrth y Westgate

Doedd ‘na ddim ffordd y byddwn wedi gallu sôn am nos Sadwrn i chi ddoe na dydd Sul. Dw i dal mewn poen difrifol. Mae fy ochr dde yn brifo’n arw a’m pennau gliniau yn glwyfedig. Yn bur rhyfedd, dw i’n cofio pam. Wedi rhywsut llwyddo i golli batri fy ffôn a heb bres arnaf doedd ‘na ddim ffordd fy mod i’n gallu cerdded adref am 6.45 yn y bore o ganol dref, felly mi lusgais fy hun tua lle’r genod. Handi iawn ydi adnabod pobl sy’n byw yn eithaf agos i’r canol mewn sefyllfa felly.

Fedrwch chi ddychmygu, a hithau’n ben-blwydd arnaf, ac erbyn hynny wedi bod ar ddeffro ers y peth agosaf i dair awr ar hugain, roeddwn i mewn eithaf stâd, a ddim yn cofio dim byd am fynd i sawl tafarn, fel y Model Inn a Shorepebbles (er fy mod i’n cofio cael pisiad yno) a’r casino wrth i mi wylltio boi oedd yn eistedd wrth f’ymyl yn ei fwydro. Mi ddiflannodd.

Yn ôl i 6.45yb ac roeddwn i’n cerdded wrth y Westgate. Afraid dweud, roeddwn i wedi disgyn a baglu sawl gwaith erbyn hyn, yn bendant, ond rhywsut fanno mi ddisgynnais eto. Doedd gen i ddim math o egni, wrth gwrs, a dw i’n cofio meddwl i fy hun wrth orwedd yno, “Dyna ni. Bydd rhaid i mi gysgu fyma. ‘Sgen i’m dewis.” Mae siŵr mai eithaf golwg od ydoedd i’w gweld, minnau’n gorwedd wrth y groesffordd ar adeg mor swreal.

Yn y pen draw mi lwyddais i lusgo’r ambell i lathen i dŷ’r genod gan ddeffro a chythryddu Lowri Dwd.

Yn wir, roeddwn i mor chwil y diwrnod wedyn prin fy mod i’n cofio mynd am ginio. Trodd meddwod yn ben mawr. Difrifol a sâl. Aeth hwnnw, a daeth y boen gorfforol.

Ond ew, dw i’n dda. Mi lwyddais i golli’r stôn mewn mis!

sabato, aprile 19, 2008

23!

Penblwydd hapus i mi!
Bellach dw i'n ddau ddeg tri,
Blwyddyn arall cyn mi drengi;
Penblwydd hapus i mi!