martedì, novembre 10, 2009

sportsdirect.com@St James' Park

Ha ha ha. Iawn, ocê, dydi Man Utd ddim yn cael y tymor gorau posibl hyd yn hyn ond mae gweld anffawd diweddaraf Newcastle yn gwneud i ddyn chwerthin.

Rŵan, ‘does gen i ddim byd yn erbyn Newcastle fel y cyfryw. Ond o blith hogia mae’n draddodiad nas nodir yn unman na allwch gefnogi yn y lleiaf un o dimau y mae un o’ch mêts yn eu cefnogi. Kinch sy’n cefnogi Newcastle, a tasech chi’n nabod hwnnw fyddech chi’n gwybod bod unrhyw dîm y mae o’n ei gefnogi yn haeddu cael stadiwm efo enw mor cachlyd.

Mae enwau stadiymau yn beth diddorol, ac mae’n ddiddorol nodi pa mor gyflym y gallant gael eu derbyn. Fedra’ i ddim meddwl am enghraifft well na Stadiwm y Mileniwm. ‘Does dwywaith amdani, dydi Stadiwm y Mileniwm ddim yn enw da yn fy marn i – ond fe’i hariannwyd gan Ymddiriedolaeth y Mileniwm a dyna pam ei bod yn cael yr enw. Er y sôn y byddai’r enw yn newid ar ôl ychydig o flynyddoedd, prin y byddai neb am wneud hynny rŵan o ddifrif.

Cofiaf ddeng mlynedd yn ôl i bawb ddweud bod yr enw yn crap ac y byddent yn parhau i alw’r stadiwm yn Parc yr Arfau – sef, mewn tegwch, nid yn unig yn enw da ond yn enw eiconig. Ond ar ôl gweld cystal adeilad oedd y stadiwm buan i ni gyd ei alw wrth ei phriod enw newydd, ac mae gweld y clod a gaiff o bedwar ban byd yn bownd o wneud i Gymro deimlo’n smyg (fel nad ydyn ni’n ddigon smyg eisoes).

Ym myd rygbi o leiaf mae gan Stadiwm y Mileniwm statws eiconig, mewn cyfnod gweddol byr. Wn i ddim a fydd yr Aviva Stadium yr dal yr un parchedig ofn â Lansdowne Road, chwaith.

Ond ta waeth, o leiaf fod gan Newcastle ddigon o gwmni. Ha ha ha.

venerdì, novembre 06, 2009

Rhywbeth nath ticlo fi ar Bawb a'i Farn neithiwr

"Mae'r Taliban ac Al Qaeda yn casáu ei gilydd ... 'does 'na ddim Cymraeg rhyngddyn nhw"

-- Elfyn Llwyd

giovedì, novembre 05, 2009

Y Rhondda

Ers ei chreu ar gyfer etholiad San Steffan 1974, dydi’r Blaid Lafur yn Rhondda byth wedi ennill llai na 60% o’r bleidlais, na chael llai na 21,000 o bleidleisiau mewn etholiad cyffredinol. Ychwanegir at hynny nad oes neb ond am y Democratiaid Cymdeithasol wedi ennill mwy na 8,000 o bleidleisiau yma ers creu’r sedd, gellir dweud â chryn hyder bod y Rhondda yn sedd ddiogel hynod i Lafur. Yn wir, ‘does yr un sedd, o bosibl ledled Prydain Fawr, yn fwy cysylltiedig â’r Blaid Lafur na’r Rhondda.

Felly teg dweud na fydd hwn yn ddadansoddiad i broffwydo pwy fydd yn ennill yma. A ydi hi’n bosibl amcangyfrif maint y mwyafrif? Tasa na ddim, fyddai ‘na fawr o bwynt i mi ysgrifennu hyn!

Iawn, mae’n rhaid i mi ymlaen llaw ddweud dau beth. Yn gyntaf, dwi ddim am wastraffu fy amser yn trafod y Ceidwadwyr yma. Er i’r Ceidwadwyr, am y tro cyntaf erioed mi gredaf, ennill sedd cyngor yn y Rhondda yn ‘08, mae’r Ceidwadwyr fel rheol yn ffodus i gadw eu hernes yn yr etholaeth – er y byddwn yn dueddol y dweud mai llwyddo a wnânt yn 2010.

Mae hyn hefyd yn wir am y Democratiaid Rhyddfrydol. I fod yn deg, roedd perfformiad y blaid yn dda yn 2005, gan gynyddu eu pleidlais 6%, ac agosáu at ail safle Plaid Cymru, ond mae’n anodd eu gweld yn adlewyrchu’r llwyddiant cymharol y maent wedi’i gael yn etholaeth gyfagos Pontypridd yn fan hyn. Serch hynny, dydi hi ddim yn amhosibl o gwbl y bydd sawl Llafurwr dig yn benthyg pleidlais iddynt y tro hwn.

Yr ail beth ydi mai dim ond un blaid ar wahân i Lafur sy’n haeddu ystyriaeth yma. Ers ugain mlynedd da ers dirywiad terfynol y Comiwnyddion yn y Cymoedd a ffarwelio â’r Democratiaid Cymdeithasol, Plaid Cymru ydi’r unig blaid sydd wedi herio Llafur.

Erbyn hyn, mae’n deg dweud bod canlyniad syfrdanol 1999 yn rhywfaint o fympwy, a ddeilliodd o gyffro’r adeg ynghylch geni datganoli. Petai’n ymwneud â dicter sylweddol â chyfeiriad newydd y blaid Lafur, ac anfodlonrwydd sylfaenol gyda hi, mi fyddai ei chanlyniadau yno ers hynny wedi bod yn sylweddol waeth mae arna’ i ofn.

Enillodd Plaid Cymru dros 13,000 o bleidleisiau y flwyddyn honno, sef bron i hanner y bleidlais, gyda mwyafrif a oedd dros ddwy fil. Er i’r Blaid weld cynnydd yn ei phleidlais yn 2001, roedd bob amser yn ffôl i Leanne Wood honni y byddai’n cipio’r Rhondda a bod ganddi dros hanner y bleidlais. Roedd mwyafrif Chris Bryant yn yr etholiad hwnnw yn 47%, ac yn wir cynyddu a wnaeth y mwyafrif yn 2005 i 52%. Rhwng 2000 a 2006, roedd y trai cenedlaetholgar yma yn weladwy. A ninnau’n awr yn gallu edrych dros y cyfnod hwnnw o’r presennol, nid oedd y dirywiad a ddaeth ar ôl 1999 yn llwyr annisgwyl am sawl rheswm, ond awn i ni ddim i drafod y rheini yma.

Rhaid, fodd bynnag, bod yn onest, hyd yn oed ers i dir gwleidyddol Cymru fach ddechrau newid yn 2007, dydi’r Blaid heb wneud fawr o argraff yma. Roedd y gogwydd ati yn 2007 yn 3%, a hynny dan ymgeisyddiaeth Jill Evans ASE, sy’n un o aelodau amlyca’r Blaid, ac yn sicr yn un o’r amlycaf yn y cymoedd. Enillwyd seddau cyngor yn 2008, ond nid ar yr un raddfa, i unrhyw raddau, ag ym 1999 – ryw grafu’n ôl fymryn a wnaeth. Ac yn etholiadau eleni, roedd hon yn un o nifer o’r seddau ledled cymoedd De Cymru lle na lwyddodd y Blaid ddymchwel y Blaid Lafur, er ei gobeithion lu, os efallai afrealistig, o wneud hynny.

Os byddwn yn realistig, gyda Phlaid Cymru’n cael llai na thraean o’r bleidlais yn 2007 a 2009, gallwn ni ddim disgwyl iddi ragori ar hynny yng nghyd-destun San Steffan y flwyddyn nesaf. Byddai cadw traean o’r bleidlais yn rhagorol.

Ond pam, a Llafur yn y fath drallod, y gellir dweud hynny? Clod i Lafur yn ôl ei haeddiant. Ar ôl colledion dirgrynol ’99, aeth Llafur ati i ddatblygu peiriant etholiadol eithriadol o effeithiol yn y Rhondda – i’r fath raddau nad oes mo’i debyg yn yr un etholaeth arall yng Nghymru. Er gwaethaf popeth, waeth beth a deflir yn ei herbyn, mae’r peiriant hwnnw yn parhau’n eithriadol o gryf hyd heddiw. ‘Does gan neb obaith mul o ddymchwel naill ai Chris Bryant na Leighton Andrews yn y dyfodol rhagweladwy. Tra bod seddau’r gorllewin wedi gweld cynnydd i’r cenedlaetholwyr ac ymgeiswyr annibynnol wedi llwyddo yn y dwyrain, yn y rhan hon o Gymoedd y De mae’r goron Lafuraidd yn gadarn uwch bopeth.

Er gwaethaf sioc etholiadau cyntaf ein cynulliad, dyma un rhan o’r cymoedd lle y gellir dweud o hyd yn onest, pe safai mul o dan faner Llafur yma, byddai dal yn ennill. Ond byddai ymlacio yn gamgymeriad ar ran Llafur.

Daeth hyn i’r amlwg yn 2007 i raddau. Roedd y bleidlais Lafur ond tua 1,300 yn uwch na ’99, a chyda’r niferoedd a bleidleisiodd o blith yr isaf yng Nghymru, gellid damcaniaethu mai pobl a bleidleisiodd i Blaid Cymru yn ’99 arhosodd adref, nid y Llafurwyr i raddau.

Yn wir, o fewn llai na phymtheg mlynedd, roedd pleidlais Llafur yn y Rhondda wedi cwympo o 34 o filoedd i lai na 22 o filoedd (1992 – 2005). Mae hynny dros draean o’i phleidlais yma. Yn unol â hynny, mae’r niferoedd sy’n pleidleisio wedi lleihau o fod yn fynych 75%+ i ychydig dros 60% yn San Steffan. Y Llafurwyr, yn anad neb, sy’n aros adref. Roedd y nifer a bleidleisiodd yn 42% yn etholiad Cynulliad 2009, un o’r unig etholaethau gyda llai yn pleidleisio y flwyddyn honno nag o’r etholiad diwethaf.

Anodd gen i gredu y bydd Llafur yn gwneud yn well yma nac yn 2005, ond mae’n anodd gen i weld yr apathetig yn troi at neb arall yma yn eu miloedd; ac yn y sedd hon o leiaf, mae’n anodd gen i weld y duedd at apathi yn newid, a synnwn i ddim pe gwelwn cyfradd bleidleisio sydd ymysg y lleiaf yng Nghymru yma.

Proffwydoliaeth: Llafur yn cael llai na 20,000 o bleidleisiau, ond dal yn cipio dros hanner y bleidlais, gyda chynnydd anhrawiadol ym mhleidlais Plaid Cymru.

mercoledì, novembre 04, 2009

Parhad o'r erchyllaf benwythnos

Yr unig reswm na waethygodd y penwythnos oedd ei fod drosodd erbyn dydd Sul. Gan ddeffro bore ddoe yn teimlo mymryn yn well, os yn anarferol o chwerw ar ôl y digwyddiadau anffortunus diweddar, cerddais i lawr i’r bathrwm dim ond i sylwi bod y gwresogydd yna’n gollwng ac wedi gwneud cythraul o lanast. A chythraul o lanast ydi’r gair cywir, os caf or-ddweud fymryn.

Fel rhywun sy’n dueddol o gadw ei sympathi’n gyfyng i deimlo piti drosto’i hun, mi suddodd fy nghalon at ddyfnder uffern. Gyda’r rygbi yn dyfod, a’r siopa ‘Dolig am gael ei wneud cyn Rhagfyr eleni, sylweddolais yn syth bin y byddai Tachwedd ddiawl yn uffern o fis drud.

Mi ddaeth y plymiwr wrth i’r gollwng waethygu, ac yno y bu drwy’r bore, yn trwsio rhyw bethau nad ydw i’n eu deall. Cant a deg ar hugain punt oedd y gost derfynol. Roedd fy mhoced i’n wylo gwaed. Dwi’n gwybod bod gan Affrica ei phroblemau ond ffwcin hel ‘does angen gwresogyddion arnynt fanno eniwe.

Dydw i ddim yn licio cael pobl draw i wneud pethau i’r tŷ – plymiwrs, bildars ac ati – mae’n un o’r sefyllfaoedd, prin os caf ddweud, y mae fy sgiliau cymdeithasol yn methu’n llwyr. Wn i ddim p’un a ydw i’n fod i gynnig panad, beth i siarad am (pan ddaw at bethau technegol megis falfau a gosod geiriach dwi’n gwybod llai na merch am barcio) neu ym mha ran o’r tŷ y dylwn fod; gan amlaf dwi’n hongian o gwmpas yn hanner gwylio’r teledu, a hanner edrych fy mod yn dallt be sy’n digwydd, er nad ydw i’n siŵr i mi gyfleu’r ail ran yn llwyddiannus yn aml.

Dydi pethau drwg ddim yn dod mewn trioedd i mi, maen nhw’n para’r wythnos gyfan, a dywedais hynny nid ychydig nôl – mae dechrau wythnos yn ddangosiad clir o weddill yr wythnos. Gyda’r diafol yn chwerthin ar fy mhen ar hyn o bryd (buasech yn synnu cymaint yr ydwyf yn beio’r diafol am fy methiannau personol) mae gen i deimlad bod o leiaf un peth arall i ddyfod cyn diwedd hyn oll, a dim jyst gollwng uwd ar y carped math o beth.

Na, mae ‘na anfadrwydd am daro Stryd Machen yr wythnos hon, a dydw i heb hyd yn oed wahodd Haydn draw.

lunedì, novembre 02, 2009

Erchyll benwythnos

Dyma hanes penwythnos mwyaf aflwyddiannus fy mhedair blynedd aflwyddiannus ar hugain ar ddaear lân Duw. Yn gryno, gan na alla’ i ymhelaethu achos mae’n brifo gormod.

Cafwyd chwydfa ar ôl yfed un botel o win coch nos Wener, sy’n annodweddiadol ohonof ynddo’i hun – dros y carped hufen hyfryd. Ni lwyddodd holl ddoniau Vanish (dau fath ohono) lwyr ymwared ar y staen ffiaidd, mae yno o hyd.

Disgynnodd llun o’m cartref Rachubaidd draw o’r wal am yr eildro, gan y tro hwn lwyddo i rwygo rhywfaint o’r papur wal a rhoi cythraul o fraw i mi yn y broses.

Ni lwyddwyd i smwddio. Un o brif fwriadau’r penwythnos oedd smwddio, ond er pedwar diwrnod o sychu, roedd y dillad o hyd yn wlyb am ryw reswm.

Dadrewyd yr oergell, dim ond i mi sefyll ar y tywel gwlyb sawl gwaith drannoeth wedyn a chanfod twll mawr yn y rhewgell fach uwch yr oergell a orchuddiwyd gan rew yn flaenorol.

Diffoddodd y sbardun ar y popty sydd ond blwydd oed felly mae’n rhaid defnyddio’r matsys i’w danio. Y rheswm dros gael yr un newydd oedd bod y sbardun wedi diffodd ar yr un blaenorol. Canfûm hefyd fod y warant o flwyddyn arno wedi dod i ben – dim ond pythefnos nôl.

Yn wir unig lwyddiant y penwythnos erchyll a fu oedd i mi wneud y lobsgows mwyaf blasus i mi ei wneud erioed. Byddai’n well gen i gael oergell a phopty sy’n gweithio’n iawn, llun sy’n fodlon cael ei osod a charped hufen, nid carped hufen efo sbloets o liw sy’n bincaidd erbyn hyn.

venerdì, ottobre 30, 2009

Synau

Bydd pob wythnos yn pennu ei thôn ar ei dechrau. Yr wythnos hon, wythnos o gwyno a sylwi ar bethau, a phobl benodol, sy’n mynd ar fy nerfau y bu mewn difrif. Yr wythnos gynt, er na soniais am hyn oherwydd y sylw a roddir i wleidyddiaeth ar y blog hwn yn ddiweddar, mi ges ddatguddiad wrth i mi feddwl am y mathau o synau sy’n bêr i’m clust.

Rhyfeddaf oll o’r rhain oedd rhywun, myfi’n benodol, yn brathu afal yn araf. Dwi wrth fy modd efo’r crenshiad croyw sy’n destun brathiad celfydd. Mae angen i rywun fod yn gelfydd wrth wneud pethau felly i lonni’r glust a’r galon.

Efallai’r sain sydd hoffaf i mi ydi sŵn un ffidil unigol yn canu. Wn i ddim pam, mae o wastad wedi fy nharo fel sŵn prydferth. Mi wn yn iawn nad yw’r ddau ddewis hynny at ddant pawb, ond ‘does gen i mo’r amser i boeni am y fath lol â barn eraill.

O bosibl mae’n haws gan bobl enwi eu cas synau na’u rhai gorau. Wn i fy mod wedi dweud o’r blaen, yn bur grintachlyd yn ôl fy arfer, fod chwerthin babanod yn rhywbeth sy’n gwneud i mi deimlo’n sâl, ac eto lleiafrif ydw i yn hynny o beth bid siŵr. Gan fy mod mewn tymer od a difynadd, dwi am restru fy mhump hoff sŵn a’r mhump gasaf.

Hoff synau
Crensian afal
Ffidil unigol
Ffrïo nionod/bacwn
Afon
Camu ar ro mân

Cas synau
Babanod yn chwerthin
Cyllell ar blât
Cathod gyda’r nos
Elyrch
Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, yn ynganu ‘s’

mercoledì, ottobre 28, 2009

Ffôn Cymraeg Orange

Roedd angen ffôn newydd arnaf ers ychydig. Roedd yr un diweddaraf wedi bod efo fi ers ychydig fisoedd ond fel ffôn wrth gefn i bob pwrpas, er iddo gostio £50 ac i mi ei brynu pan dal ychydig yn chwil, a hynny ar ôl colli ffôn ffantastig. Dwi ddim yn ei glywed wrth ganu nac yn ei deimlo wrth grynu. Mae’n erchyll.

Ro’n i wedi penderfynu ers ychydig y byddwn yn rhoi cynnig felly ar ffôn Cymraeg Orange – a chredwch chi fi mae gwneud rhywbeth mor eithriadol â newid o O2 (y cwmni dwi wedi bod efo erioed) i Orange yn ddigon i ypsetio rhywun fel fi yn llwyr. Ond roedd y demtasiwn o gael ffôn Cymraeg yn ormod yn y pen draw.

Pnawn ddoe, wedi ei gael, ‘doeddwn i methu stopio chwarae efo’r teclyn. Roedd defnyddio sgrîn gyffwrdd yn brofiad newydd ond pur pleserus, fel y tro cyntaf i mi gael bwyd yn y Cornish Bakehouse. Dwi dal methu â chredu fy mod wedi dawnsio’n chwil uwch y becws hwnnw yn oriau mân y bora. Ond daeth y diffygion i’r amlwg wedi i mi gyrraedd adra.

Dydi’r Bluetooth, er enghraifft, nid dim ond ddim yn gweithio pan fo’r rhyngwyneb yn Gymraeg, dydi o ddim yn dangos unrhyw eiriau sy’n ei gwneud yn amhosibl i rywun wybod beth y maen nhw’n fod i wneud. Dyma hefyd felly’r rhaglen syncroneiddio. Rŵan, fel y gŵr onest yr wyf, llawn gyfaddefaf nad ydw i’n gwybod beth ydi syncroneiddio ym mha iaith bynnag, ond os nad ydi’r geiriau yn ymddangos yn fy newis iaith ‘does gen i fawr o obaith dysgu.

Rŵan, dwi wedi clywed sibrydion mai dyma’r achos efo’r fersiwn Cymraeg, ond â minnau’n bôrd do’n i ddim am boeni am eiriau neb arall amser cinio ddoe. Ond dydw i ddim y meth o berson sy’n gallu byw gyda ffôn nad ellir newid y tôn ffôn arno – gwall efo’r ffôn ei hun yn fwy na’r fersiwn Cymraeg mi dybiaf.

Ta waeth, mae o’n ymdrech siomedig gan Orange os ydach chi’n gofyn i mi. Fydd yn ôl yn y siop heddiw, efo twat bach blin y tu cefn iddo.

martedì, ottobre 27, 2009

Arolwg barn YouGov

Reit, dwi ‘di blino blogio am wleidyddiaeth felly dyma fydd y post olaf amdani yr wythnos hon, sy’n drist a hithau’n wythnos mor ddiddorol, a heddiw’n enwedig! Dyma ganlyniadau arolwg barn YouGov am yr hyn a fyddai’n digwydd mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru pe’i cynhelid yfory.

Llafur 34% (-10%)

Ceidwadwyr 31% (+10%)
Plaid Cymru 15% (+2%)
Dem Rhydd 12% (-6%)

Bydd un blaid am ddathlu hynny. Bydd dwy yn gwingo o weld yr arolwg barn. Bydd y llall yn cael dogn go dda o realiti. Ond ddyweda i ddim pwy ‘di pwy!