martedì, marzo 01, 2011

Troelli trwstan

Trydydd diwrnod yr hangover diweddaraf, dwi’n teimlo fel fy mod i wedi bod ar wyliau i Chernobyl. Dwi’n gwbl, gwbl ffiaidd cofiwch a wnaeth y gawod neithiwr fawr wahaniaeth. Mae gen i gylchau duon o amgylch fy llgada, dwi’n crynu ac, neno’r tad, mae Dad yn dod lawr i aros am ychydig ddyddiau heddiw. Sgynno chi ddim syniad sut dwi’n ei deimlo.

Ond yn waeth weithiau na sgîl-effeithiau corfforol sesh mae’r sgîl-effeithiau meddyliol. Dwi wedi sôn o’r blaen am y paranoia cyffredinol sy’n amlygu ei hun, ond weithiau, jyst weithiau, mae’r paranoia hwnnw’n mynd i fyd, “beth uffern wnes i/ddywedish i y noson o’r blaen?”

Dyna’r math sy gen i. Bai Lowri Dwd ydi’r cyfan. O’m hudo allan nos Wener gan addo bwyd rhad yn Bella Italia, aeth y ddau ohonom o amgylch tafarndai a bariau a chlybiau Caerdydd tan oriau mân, mân y bora. Mi yfish ddigon i lorio ceffyl, ac a dweud y gwir taswn i wedi llorio ceffyl fuaswn i fawr callach o’r peth. Roedd y ddau ohonom yn teimlo bod angen ‘catch up’ ar ein gilydd, sy’n ddi-sail i’r eithaf o ystyride i ni weld ein gilydd bob noson namyn un yr wythnos honno beth bynnag.

Mi fwydrasom ac mi ddawnsiasom. Does ‘na ddim y ffasiwn beth â rhywun all ddawnsio’n chwil. Nid eithriad mohonof fi, na Lowri Dwd a oedd os rhywbeth yn waeth na fi synnwn i ddim, ac nid eithriad mo neb. Ond pan fo hynny’r peth olaf a gofiwch, a’r hynny a gofiwch yn codi cywilydd arnoch, rydych chi’n gwybod i chi yfed gormod. A dwi’n gwbod be dwi’n neud pan dwi’n dawnsio’n chwil: dwi’n neud y twist.

Pan fo chi’n dragwyddol wneud y twist yn chwil mi wnewch frifo eich cefn, fel fi, yn aml, ac mi wnewch frifo eich balchder – ac mae ymhlith amlycaf arwyddion y byd eich bod chi’n chwil. Mae ei wneud mewn clwb yn un peth. Mae ei wneud yn O’Neills bach nos Sadwrn ben eich hun yn rhywbeth arall. Mae ei wneud ddwy noson yn olynol yn drosedd.

A dyma pam bod gen i hawl i fod yn paranoid.  

giovedì, febbraio 24, 2011

Pawb a'i Farn neithiwr

Er nad ydi hi fyny eto ar S4/Clic, da chwi cofiwch wylio rhaglen Pawb a'i Farn o Gaergybi neithiwr ar fater y refferendwm. Os na fydd hynny'n eich ysbrydoli  i bleidleisio Ia wythnos i heddiw, wn i ddim beth a wnaiff! Ac mae Syr Eric Howells, wrth gwrs, yn comedy gold - heb sôn am fod yn anrheg wych i'r ymgyrch Ia. Ac mae Syr Eric a Bill Hugh yn dweud pethau pethau mawr ... gobeithio yn wir y gwnaiff y cyfryngau prif lif bigo fyny arnynt!

mercoledì, febbraio 23, 2011

Smwythyn ben bora

Dydi 2011 ddim yn hwyl hyd yn hyn. Mae ‘na nerf yng nghefn fy ysgwydd wedi dal rŵan, sy’n uffarn bach yn ystod y nos a dwi methu cysgu efo fo, ddim yn dda iawn beth bynnag. Allwch chi ddweud ei fod yn mynd ar fy nerfau. Ond byddai hynny’n jôc sâl. Byddai ei alw’n jôc sâl yn jôc wael. Ac, argoel, dwi’n teimlo’n wael. Sy’n beth, ym ... gwael.

Reit, llai o din-droi. Y mae’r chwaer a minnau yn bobl wahanol, fel dwi wedi’i ddweud sawl gwaith. Dydi hi ddim yn dallt pam fy mod i isho mynd nôl i fyw yn Rachub, a dwinna ddim yn dallt pam ei bod hi isio mynd i fyw i Lundain, sef twll din llawn cachu y byd. Nid barn mo honno, eithr ffaith. Ond â ninnau mor wahanol prin iawn yr ystyriwn syniadau ein gilydd heb sôn am ddefnyddio ein syniadau ein gilydd.

Yr wythnos hon mi wnaf eithriad. Wyddech chi’r gair Cymraeg am ‘smoothie’? Smwythyn ydyw, gair cysurus sydd rhywle rhwng ‘mwythau’ a ‘smwddio’? Ta waeth mae’n swnio fel y math o air y gallai rhywun gael noson dda o gwsg arno. Y pwynt ydi dyma gaiff y chwaer i frecwast bob bora. Well gen i fy wy ar dost ond yr wythnos hon, a minnau yn parsial i ryw smwythyn bach o bryd i’w gilydd p’un bynnag, mi ydw i’n cael un i frecwast bob bora – penderfyniad byrbwyll ar fy rhan os bu un erioed, achos mae ffrwythau’n ddrud ac mae wyau’n blydi lyfli.

Ddoe, serch hynny, mi deimlais yn effro iawn drwy’r bora, yn y fath fodd nad ydw i fel arfer. Creadur dryslyd, araf ydw i, llai ffraeth na choedan a llai ymwybodol o realiti na chynghorydd Llais Gwynedd, a hynny o brinwallt fy ngogledd i ddrewdraed fy ne, ond ro’n i o gwmpas fy mhethau ddoe.

Cawn weld felly ai’r ateb i hyn ydi smwythyn ben bora. Peidiwch â betio arni, chwaith. Dwi dal yn meddwl bod ffwytha, ar y cyfan, yn shit.

domenica, febbraio 20, 2011

Kick Plaid Out

Wel, dyna neges ddiweddaraf Peter Hain, beth bynnag.

All rhywun ddim ond â helpu â meddwl os mae yntau ac eraill yn y Blaid Lafur yn parhau i gyhoeddi'r fath negeseuon ynghylch y Blaid, a nid lleiaf y negeseuon digon sinigaidd am Ieuan Wyn Jones yn ddiweddar, a fyddai'n well gan Lafur yn y bôn ffurfio llywodraeth leiafrifol na chydweithio eto â'r cenedlaetholwyr?

Neu, yn bwysicach efallai, er gwaethaf y bwriadau da, ydi Plaid Cymru wir isio cydweithio â phlaid fel hon, y byddai'n well ganddi danseilio PC na chydweithio er budd pobl Cymru? Cyn penderfynu bod Cymru'n Un II yn anochel, buaswn i'n erfyn ar y Blaid i ateb y cwestiwn hwnnw yn gyntaf.

giovedì, febbraio 17, 2011

Iolo ac Indiaid America

Fel un sy’n mwynhau rhaglenni dogfen yn fawr ar y cyfan roedd yn braf gweld cyfres gystal ag Iolo ac Indiaid America ar S4C, a ddaeth i ben neithiwr. Ar y cyfan, mae rhaglenni dogfen yn un o gryfderau’r Sianel - er i mi gofio un eithaf dibwrpas ar asprin flynyddoedd yn ôl - ac nid siom mo’r gyfres hon.

Do’n i ddim yn siŵr ai Iolo Williams oedd y person perffaith i gyflwyno’r daith o amgylch llwythau brodorol America – ac er fy mod i o hyd heb f’argyhoeddi yn hynny o beth rhaid dweud iddo wneud joban dda ohoni. Gellid dadlau mai dyma’r math o raglen y byddai’n dda cael wyneb newydd yn ei chyflwyno, ond chwilio am dyllau ydw i yn dweud hynny.

Roedd y gwaith camera a’r cynhyrchu yn wych ar y cyfan, a dwi’n meddwl i gymysgedd da o lwythau gael eu dewis, o sefyllfa druenus braidd y Blackfoot, i sefyllfa gref y Cree a’r Mi’kmaq. Roedd yn amlwg yn bosibl gwneud cymariaethau â Chymru â phob llwyth, yn dda neu’n ddrwg. Roedd rhai, fel y Blackfoot a’r Navajo, bron wedi colli eu hiaith, tra bod Cree a Mi’kmaq yn ieithoedd cymunedol. Roedd rhai wedi fwy neu lai golli eu diwylliant, ac eraill yn dal i gadw’n driw ato (yn aml mae’r rhai a gadwant eu hiaith wedi anghofio eu traddodiadau i raddau helaeth). Ta waeth, gwelwyd trawsdoriad da, nid oedd y cyfan yn fêl nac yn gymylau duon.

Yn fwy na hynny, roedd hi’n rhaglen ddifyr o’n safbwynt ni ac yn llawn gwybodaeth newydd. Prin iawn ydi’r rhai ohonom sy’n gyfarwydd â llwythau’r Indiaid Cochion, a llai sy’n deall sefyllfa ‘llawr gwlad’ y llwythau – nid gwybodaeth gyffredin mo’r pethau hyn. Yn hynny o beth cafwyd chwa o awyr iach. Mae cyfresi dogfen S4C – Natur Cymru, Tywysogion ac ati – wedi bod o safon uchel ond bob tro yn ymwneud â Chymru (yn ddigon teg felly amwni), ac roedd yn braf cael rhywbeth a oedd yn gwbl wahanol.

Ac, wrth gwrs, un o arwyddion cyfres ddogfen dda ydi faint mae’r gynulleidfa yn ei ddysgu. Lot, dybiwn i, ydi’r atab. Roedd hi’n llawn gwybodaeth, ond llwyddodd gymysgu hyn â chipolwg o fywyd pob dydd yr Indiaid cyfoes.

Yr unig bwynt negyddol, fel a godwyd gan shitclic fel mae’n digwydd, oedd bod yr isdeitlau Cymraeg a oedd ar y sgrîn i gyfieithu’r ieithoedd Indiaidd yn eithaf crap ar y cyfan, sy’n biti achos heblaw am hynny roedd safon y rhaglen yn uchel iawn. ‘Swn i’n cael ffwc o ffrae taswn i’n sgwennu rhai o’r pethau ysgrifennwyd!

Heblaw am hynny does ond un peth i’w ddweud: da iawn S4C!

mercoledì, febbraio 16, 2011

Penderfyniad

Y mae lot, a dim, i sgwennu amdano ar y funud. Y refferendwm fyddai un ond mae’r diffyg cyffro yn eithaf effeithio arna’ i gystal â neb arall dybiwn i. A dydw i ddim isho dweud wrtho chi le roddodd Dr Chang ei bys ddoe, er y tybiaf fod yr amwyster yn gliw digonol.

Dwi’n ei heglu am y Gogladd y penwsos hwn, y tro cyntaf ers Nadolig. Ydw i’n edrych ymlaen? Ydw a nac ydw. Gadewch i mi geisio egluro.

Fis diwethaf, fe gefais benwythnos yn Aberystwyth – i feddwi, wrth gwrs, swni byth, byth yn mynd ar gyfyl Aberystwyth heb feddwi. Ond nid arhosem yn Aberystwyth ei hun eithr pentref Penrhyncoch, sydd yng nghefn gwlad. Fora Sul mi grwydrais o amgylch y lle am tua awr. Lle bach digon delfrydol, meddwn i. Rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n licio Ceredigion yn fawr – mae Ceredigion yn lle prydferth.

Ond fe ymwelwyd ag Aber ar yr adeg anghywir o ran hynny. Mi wnes fwynhau o waelod calon fod yn y Gogledd dros y Nadolig – efallai’n fwy na’r arfer, ac ar ôl y Nadolig a rhwng Aberystwyth roedd ‘na ryw deimlad gwahanol wedi fy nghydio, sydd dal i wneud, ac nid hiraeth mohono. Y mae’n debycach i gymysgedd o angen ac ysfa â’i holl fryd ar adael Caerdydd a mynd adra.

Rŵan, dwi wedi teimlo rhywbeth tebyg sawl gwaith wrth gwrs. Ond, a minnau ddim yn gallu egluro’n iawn, mae’n wahanol y tro ‘ma. Dydi o ddim yn fater o ‘dwisho mynd nôl i’r Gogladd’, mae’n fater o ‘mae’n rhaid i mi fynd nôl’.

Braf fyddai cael gwneud hynny y funud hon, ond alla i ddim wrth gwrs. Maesho swydd arna’ i yn gynta. Wel, fe ŵyr pawb nad oes swyddi i’w cael. Ac mae Mam erioed wedi dweud na chaf fynd i fyw adra heb gael swydd yn gyntaf. Nid fy mod i isho byw efo Mam a Dad. Gwerthu’r tŷ yng Nghaerdydd a phrynu un yn Nyffryn Ogwen – neu’n fwy penodol Rachub, achos ‘does lle arall i mi yn y byd mawr crwn – dyna bellach fy nhynged.

Mater o amser ydi hi felly nes i mi symud nôl, a dwi’n teimlo hynny ym mêr fy esgyrn, ac mae dod i benderfyniad am y peth wedi rhoi o leiaf ryw fath o dawelwch meddwl i fi rŵan. Ew, dwi’n eithaf edrych ‘mlaen.

lunedì, febbraio 14, 2011

Ffŵa grâ

Er fy mod i’n parhau i deimlo’n sâl a does dim modd o gwbl gweld y blydi doctor achos dydyn nhw ddim yn atab y ffôn (seriws rŵan, dydi hyd yn oed y doctor ddim yn atab ffôn i fi erbyn hyn), mi wnes fwynhau’r penwythnos. Gwyliasom y gêm yn y Cornwall yn Grangetown. Gêm dda, meddwn i wrth fy hun. Dwi ddim yn cofio llwyr ganolbwyntio ar gêm cymaint ers talwm. Ta waeth, mi wnaeth ambell beint, a mi benderfynasom nad aem i dre, er gwaetha’r ffaith bod Meic Stevens yn cynnal un o’i lu gigau diwethaf – er bod ganddo bron ddegawd i ddal fyny efo Dafydd Iwan yn hynny o beth!

Penderfynwyd mynd i’r Bae am fwyd. Mae ‘na fwytai bach digon da yn Grangetown cofiwch, Merolas yn frenhines yn eu mysg, ond nid oeddem wedi bod am fwyd yn y Bae ers talwm – doeddwn i heb fod, sut bynnag. Ond hynny wnaed ac aethpwyd i fwyty Cote. Lle posh ydi Cote, a’r tro cyntaf i mi fod yno. Gwin da, a ffish pai da iawn (a elwid yn ‘paramentir’ sy’n swnio’n debycach i rywle yn Middle Earth na phastai pysgodyn posh).

Ond mi ges i ddechrau rywbeth na chefais ers hydoedd, mewn ymgais i ddarfod o flaen fy ngwell mae’n siŵr - minnau’r unig un efo crys-t o Peakcocks yn y bwyty cyfan – a chael foie gras.

Cofier rŵan parthed popeth mai fi sy’n iawn a chi sy’n rong. Gas gennyf baté, ond mi a fwytawn foie gras fora, ddydd a nos. Ac fel un a arferai gadw chwïaid, fel anifeiliaid anwes wrth gwrs a’u trin â’r ffasiwn gariad a sylw nad a ddangosais na chynt na wedyn ... wel, at chwadan de ... efallai yn wir nad ydw i’n or-hoff o’r ffordd y caiff y chwadan ei thrin wrth greu foie gras. Ond nid oes lle i egwyddorion na moesau yw’r bwrdd bwyd a minnau’n talu £6.95 am sdartar.

Os oes, yn wir, raid gorfodi chwadan i fwyta er mwyn creu’r fath beth, druan arni, fawr ots gen i yn y bôn – y tafod sydd drechaf yn yr achos hwn.