lunedì, ottobre 03, 2016

Eryrod Pasteiog V: Tomato o'r enw Afal



Ar awyren o’r Eidal, yn wan gan flinder a Propranolol, oddi fry Ewrob fawr, esgorwyd ar un o frenhinoedd gogoneddus y nen, y pumed o’i dras; y pumed eryr pasteiog.

*          *         *

Arferai yna fyw domato nid ond ychydig o fisoedd yn ôl; coch ei wedd a blew ar ei jest. Ei enw, fel y mae’n digwydd, oedd Afal. Sefyllfa ddisynnwyr yn wir. Yr oedd ei fam yn goeden a esgorai ar gannoedd o blant bob blwyddyn, canys mai hŵr bren ydoedd hithau a’i brigau annelwig ar eu lled o ganol dydd tan ganol nos. Ond Afal a dyfodd yn gryn domato, ac fel unrhyw domato o’r enw Afal mi drigai wrth gwrs mewn tŷ. Enw’r tŷ hwnnw oedd Y Llys, ac nid oedd ar y llys do na drysau ond ni hidiai Afal y tomato ddim am hynny. Ta waeth, yr oedd yntau Afal - sydd, chwychwi gofiwch, yn domato - am resymau rhy ddwfn a rhy niferus i roddi iddynt fy llawnaf sylw yma, yn uchel ei barch yn y gymuned leol. Nid oedd lai na chyfreithiwr, a pha syndod ac yntau’n byw mewn annedd ddi-do, ddi-fur o’r enw Y Llys? Wrth ei waith, fodd bynnag, gweithiai mewn perllan, a hynny am nad oes angen ar neb, hyd yn oed yn y dwthwn goleuedig hwn, domato o gyfreithiwr. Na, yn wir, maes i greaduriaid yw’r gyfraith, nid cnwd.

Yn sicr, nid oes angen mynd i fanylder peryglon bod ag enw fel Afal a gweithio mewn perllan pa un a ydych domato ai peidio. Do, mi drigodd wrth ei waith, ac ni chafwyd achos llys am nad oedd modd dod o hyd i gyfreithiwr addas i domato; Afal ei hun oedd yr unig un a allasai gyflawni’r fath orchwyl. Yr eironi cas! Yr oedd achos ei dranc mor amlwg, fodd bynnag, fel na wyddai unrhyw un beth ydoedd ac am na chanfuwyd ohono ddim eithr ambell hedyn a’r tynerwch a’i nodweddai, beryg na chlywo’r byd wir cas ei ddiwedd.

Y berfedd ar y borfa - cofiwn ef.


Dwi’n meddwl na llgodan fytodd o.

Neu afr.

venerdì, settembre 23, 2016

Munud â'm cythraul


Rhydd imi lonydd, mwmiais yn wan mewn gweddi wag un nos. Rhydd imi awr ddibryder, ddifeddwl. Ond dest i darfu arnaf drachefn; nid oes unman na elli fy nilyn. Dwyt ti ddim yn gyfrwys. Ti’n feiddgar. Ti ddim yn llechu yn y cysgodion yn aros i mi wneud tro anghywir, na'n fy nenu atynt fel cwningen goll; deui â nhw ataf. Ac ni roddi imi lonydd rŵan. Cefaist flas ar fy nhrechu; naddaist ddigon arnaf i deneuo f’amddiffynfa; ni dy dwyllwyd di gan ei muriau di-sylfaen na’i thyrrau gweigion.

Sawl gwaith ŷm mygaist dan domen byw? A sawl gwaith a dynnaist yn ôl y glustog ar y funud olaf, ar yr anadl derfynol? Ni fuost ddigon trugarog i orffen y gwaith. Mae dy ddiléit yn fy nghadw at dy ddifyrrwch; fi yw deryn cawell dy gasineb, a chdi â’m cadwo’n gaeth i’m hunllefau.

Erbyn hyn y mae’r crafangau’n rhy ddwfn. Hyd yn oed yn ystod y dyddiau hir a chynnes gelli hagru’r coed a throi ohonof olau’r haul a’m gorfodi i ymgilio’n gwrcwd i’m hogof; ogof sydd mor dywyll a dofn y mae hyd yn oed yr ystlumod yn ei hofni. Chdi sy’n troi unrhyw gysur a gaf yn eiriau chwerw ar bapur. Chdi sy’n gwneud i bopeth doddi o’m blaen, a dwi’n dy gasáu yn fwy na dim yn y byd. Dwi’n ddim pam fyddi gyda mi. A thithau’n ddim hebof. A rhai dyddiau ni wn ddim eithr ein cariad gwyrdroëdig atom ein gilydd.

Erfyniaf am ddarfodigaeth, yn f’argyhoeddi fy hun mai yn hynny fydd fy nechrau, ac ni elli fy hawlio mwyach. Mae gennyt ofn hynny. Pan af, ni chei ddilyn. Pan af, uwch lesni nenfwd y Ddaear, neu tan ei gwair i ddiosg ei phoenau ohonof, fydd fy nghwsg yn gaer dragwyddol.

Ond fy ofn mwyaf – a chdi â ŵyr hyn – yw fy mod gystal disgybl â dioddefwr. A gnoes dy chwilen i’m canol a gwneuthur ei waith yn rhy dda? Pan fydd y sêr yn diffodd am yr un tro olaf, gallaf fy ngweld fy hun yno. Gallaswn yn fy ngwendid gynnau’r tân a lynco'r byd. Gallaswn ar fy ngwaethaf chwerthin yn llon wrth dy lusgo ato, a’n cyd-ddioddef fyddai’n fy melysu; ein cnawd yn ymdoddi fel caws, a’r gwres yn dy frifo di gangwaith gwaeth na mi. Am imi ffendio yng nghesail dioddef gartref clyd, cyfarwydd. Am iti ddwyn fy mhwyll a throi fy meddwl yn lobsgóws ddisynnwyr a dwyn ohonof ffiniau bod. Am iti wneud hynny ormod.

Am iti fy nhrechu un tro’n ormod.   

Rhydd imi lonydd, mwmiais yn wan mewn gweddi wag un nos. Rhydd imi awr ddibryder, ddifeddwl. Ond dest i darfu arnaf drachefn.

martedì, settembre 20, 2016

Henffych Hydref

Mi fûm innau’n rhy hwyr yn dyfod yma i ffarwelio â gwennol olaf yr haf. Fe’i methais. Mae hi wedi mynd, ond wn i ddim i le; tro eraill yng ngwledydd yr haul parhaus i’w mwynhau yw. Ond hyd yn oed hebddi y mae hydref yma, mi wn. Gall dyn ei deimlo cyn ei weled, gan y meinwynt diog sy’n llithro draw o’r Carneddau a’r Glyderau, hwythau’n syllu arnaf gan hyfdra eu henaint, yn llai cyfeillgar nag y buont rai misoedd yn ôl. Achos maen nhw’n ei deimlo hefyd, fel y gwnaethant ei deimlo filgwaith gynt.

Dyma ddyddiau gwywo’r haul, ei gynhesrwydd wedi’i dreulio a’i ddisgleirdeb heb gynhesrwydd, heb fedru ond ag anwesu’n druenus wlith y caeau llaith hirfaith. Heddiw, mae’n rhannu’r wybren â’r lleuad – lleuad hydref sy’n gwrthod cysgu, ac ias y dydd sy’n oerach gan ei phresenoldeb. Camodd i aelwyd y dydd a’i hawlio iddi ei hun. 

Ac ymhen hir a hwyr fydd y tir glas yn ildio i’r tir llwyd. Y mae sisial y dail crimp yn fwy swnllyd a chras yn awelon hydref, a'u hangau sydd rywsut yn eu bywiogi. Meddwasant ormod ar yr haf a chloch olaf tafarn eu coeden sy’n ddi-droi’n ôl iddynt. A’r cwmwl llwyd ysgafn a charpiog, o orwel i orwel, sy’n cynnig inni gynfas rhag y gaeaf ddaw, i ni gardotwyr y llawr. 

Ydyn, gŵyr popeth fod yr haf wrthi’n gadael. Mae’n cerdded i ffwrdd yn araf, gan droi ei ben atom ambell waith fel cyfaill sydd newydd ffarwelio â chyfaill, ond heb droi’n ôl. Gŵyr y coed, gŵyr y brwyn, gŵyr y waliau cerrig di-sigl a medr dyn eu teimlo’n agosáu at ei gilydd yn un yn barod at y misoedd llwm. Holant ein hofnau ni; a welaf innau wanwyn arall? 

Mae’r mynyddoedd yn gwybod yr ateb, ond ddywedan nhw ddim wrthyf i; maen nhw’n chwerw a balch yn eu tragwyddoldeb. Fedr hydref mo’u disodli nhw, ond gallai eto gael y gorau ohonof i.