venerdì, novembre 06, 2015

Eryrod Pasteiog II: Mins

John Ogwen
Weithiau ceir ar Twitter sgyrsiau deallus – fel rheol pan fydda i’n sgwrsio ar Twitter – ac ni fu ddoe’n ofnadwy o wahanol yn hyn o beth. Ceisiaf addysgu pan gwyd yr angen. Mor ddifyr ydoedd clywed atgofion y diweddar John Ogwen (nid ‘diweddar’ yn yr ystyr ‘marw’ sydd gennyf dan sylw yma eithr y ffaith bod John Ogwen, fel ŷm oll, wedi bodoli’n ddiweddar a  hynny yw’r sefyllfa a bery) yn trafod ar raglen radio Siân Coffi, yn ei ffordd unigryw ddiansoddair ei hun, arfer y Cymry o ddefnyddio mins fel arian cyfred.
                                                                                                
I’r rhai sy’n amau hyn – pobl ifanc led-addysgedig bid siŵr; Cymry Caerdydd na wyddant ddim am gefn gwlad – fe’ch cyfeiriaf at hunanfywgraffiad y dyn ei hun, ‘Hogyn o Sling’ gan Wasg Gwynedd, a gyhoeddwyd yn wir fel jôc fewnol ar y dechrau, ond a aeth ymlaen i werthu nid llai na 12 copi, sef y llyfr Cymraeg mwyaf llwyddiannus erioed ac eithrio’r Beibl ac ‘Hanas Gwanas’ gan Fethan Gwanas, sy’n adrodd bywyd y ddarlledwraig ffwrdd-â-hi ar ffurf llyfr lliwio.  

Bethan Gwanas yn darllen ei hunanfywgraffiad, yn llawn direidi
 
Ta waeth, rwy’n ymhelaethu gormod. Cofia John Ogwen â phob rhych ar ei wyneb yr arfer o ddefnyddio mins i dalu am bethau. Ar dudalen 74, egyr Bennod 7 gyda “Gellid cael, wrth lwc, am hanner pwys o fins datws newydd, powdr golchi a thafell drwchus o gaws, ond âi pethau’n gymhleth â phwrcasiad ‘mins-am-fins’ lle cyfnewidid – megis yr ensynnir -  mins am fins”. Ni chawn eglurhad mwy cynhwysfawr gan mai dyna Bennod 7 yn ei chyfanrwydd, sef y bennod fyrraf o gryn dipyn.

Cyd-ddigwyddiad oedd i sgwrs arall godi ar bwnc Noson Tân Gwyllt yr un diwrnod, a hefyd inni droi’n ôl at berlau John Ogwen i’n haddysgu am hen oes. Ar dudalennau 62-4 sonia am ‘Noson Mins’ a gynhelid yn Nyffryn Ogwen yn hytrach na thân gwyllt; hwythau’n bethau prin wedi’r rhyfel, ond y mins oedd gyforiog. Clymid felly fins i roced gartref a’i thanio, gan greu effaith nad annhebyg i dân gwyllt go iawn. ‘Mins awyr’ y’i gelwid gan lanciau’r pentref, ond byddai’r hen do’n defnyddio’r ffurf draddodiadol, ‘yr wybren gig’. Arferid dal y cig yn y geg wrth iddo syrthio o’r awyr a byddai cnoi mawr hyd yr oriau mân.

Newidiodd y sgwrs Dwityraidd fymryn, ac atodaf yma ddolen iddi. Fe’m cyfeiriwyd gan ‘Siân Gryffudd’ (nid wyf yn un i beidio â rhoddi fy ffynonellau neu gyflawni llên ladrad) at ganu Aneirin am hanes briwgigoedd cyntaf y Cymry o’r 6ed ganrif – ‘Knouent vrechdan vruwgig o lid llawryt’. Wrth gwrs bu’n rhaid imi egluro iddi’n ddiamynedd braidd bod ystyr ‘briwgig’ wedi hen newid ers y 6ed ganrif.

Grensiawg ei uedd, kyg da droellaw

Brython tross dân, Lloegyr kenfygennaw,

Enaid Owain ab Urien.

Agryma’r uchod, sydd o ganu Aneirin hefyd, ond y cyfeiriodd John Ogwen ato yn ei lyfr mawreddog Hogyn o Sling (t. 88) – sydd ar y cyfan yn gasgliad helaeth ond hirwyntog braidd o straeon sy’n ymwneud â mins yn hytrach na bywgraffiad – mai ffurf ar facwn oedd ‘briwgig’. Os hynny.

Llyfryddiaeth:
‘Hogyn o Sling’, John Ogwen, Gwasg Gwynedd.

venerdì, ottobre 02, 2015

Gair o gyngor i Leanne Wood wrth drafod annibyniaeth

Dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi mwynhau ysgrifennu blogiad mwy nag Eryrod Pasteiog, sy'n mynd â fi'n ôl at wleidyddiaeth felly. Neithiwr mi wnes i’r camgymeriad mawr o wylio Question Time o Gaerdydd. Roedd Kinnock yn ofnadwy; roedd Leanne Wood yn drybeilig; darodd Stephen Crabb fawr ddim ergyd ar neb; y Sais boi ‘na yn gall ond yn ddiflas a Charlotte Church fawr gwell na’r un ohonyn nhw mewn difrif – heb sôn am gynulleidfa arferol o Anghymreig am QT yng Nghymru.

Byddaf hynod, hynod o gryno yn hwn o flogiad.

Mae’r dull mae Leanne Wood yn benodol (ac, i raddau llai, y Blaid) wedi’i fabwysiadu i drafod annibyniaeth yn wleidyddol hurt. Yn hytrach na rhoi unrhyw ddadl dros annibyniaeth, dyma ddywedodd hi neithiwr – ac yn wir rhywbeth tebyg y mae hi wedi bod yn ei adrodd ers peth amser...

 
Our economy is too weak. We’re already facing a situation where workers in Wales earn 85% of the UK average.

Oes, mae yna wendidau lu gan economi Cymru – boed hynny’n ymwneud â’n GDP, y cyflogau is sy’n cael eu hennill yma, ein hanallu i godi trethi, a’r ffaith bod tlodi plant a diweithdra’n uwch yng Nghymru na gweddill y DU ymhlith, fwy na thebyg, ddegau o ffactorau eraill; hyd yn oed y ffaith bod mwy o ddibyniaeth ar fudd-daliadau yma.

Yr hyn mae Leanne Wood yn ei wneud ydi cytuno efo'r rhai sy’n dadlau yn erbyn annibyniaeth i Gymru, gan atgyfnerthu’r syniad ein bod ni yn rhy dlawd i fod yn annibynnol. Mae’r dacteg yn un gwbl, gwbl anghywir ac eithriadol o niweidiol i’r achos cenedlaethol.

Yr hyn y dylid ei ddweud ydi hyn: ydi, mae economi Cymru’n wynebu heriau economaidd difrifol, a hynny ers degawdau. Ond dydi’r ffactorau hynny ddim yn cau’r drws ar annibyniaeth, ond yn hytrach maen nhw’n cyfleu yn y ffordd gliriaf posibl pa mor ddiawledig o wael y mae Cymru wedi’i gadael i lawr gan y wladwriaeth Brydeinig.

Syml o ddadl. Ond dadl wir.

Efallai na ddylai Plaid Cymru ganolbwyntio gormod ar annibyniaeth. Ond dylai hi ddim fod yn ei thanseilio ac atgyfnerthu amheuon pobl yn ei chylch sef yn union y mae’n ei wneud gyda'r ddadl ‘dydyn ni ddim isio annibyniaeth achos mae Cymru’n rhy dlawd ar y funud’. Dylai hi fod yn cyfeirio at lwyddiant gwledydd eraill – mae Estonia’n un da iawn – ac yn gosod y bai am wendidau Cymru ar garreg drws Llundain. Cyfleu’r ffaith mai Llundain sy’n ei cadw rhag ffynnu; nid mai ni sy’n rhy dlawd felly nad oes gobaith.

Mae’r nifer sy’n coelio mewn annibyniaeth yng Nghymru’n isel. Lein y Blaid ydi nad ydi hyn yn syndod am nad oes neb erioed wedi dadlau drosti; sy’n eithaf cadarnhau un o unig ergydion Crabb neithiwr ar QT “Then what’s the point of Plaid Cymru?”

Oce, Blaid Cymru, os dydach chi ddim isio gweiddi’n groch dros annibyniaeth dwi’n dallt hynny’n iawn – a dwi’m yn bod yn goeglyd, dydi’r fantais wleidyddol sydd i’w hennill o wneud hynny efallai ddim yn fawr. Ond drwy, i bob pwrpas, fwydo’r naratif Brydeinllyd yn ei chylch, rydych chi’n cyfrannu nid at ei sicrhau ryw dro, ryw bryd, ond at ei hatal a hynny efallai’n barhaol.