Dydw i ddim yn
meddwl fy mod i erioed wedi mwynhau ysgrifennu blogiad mwy nag Eryrod Pasteiog,
sy'n mynd â fi'n ôl at wleidyddiaeth felly. Neithiwr mi wnes i’r camgymeriad
mawr o wylio Question Time o Gaerdydd. Roedd Kinnock yn ofnadwy; roedd Leanne
Wood yn drybeilig; darodd Stephen Crabb fawr ddim ergyd ar neb; y Sais boi ‘na
yn gall ond yn ddiflas a Charlotte Church fawr gwell na’r un ohonyn nhw mewn
difrif – heb sôn am gynulleidfa arferol o Anghymreig am QT yng Nghymru.
Byddaf hynod,
hynod o gryno yn hwn o flogiad.
Mae’r dull
mae Leanne Wood yn benodol (ac, i raddau llai, y Blaid) wedi’i fabwysiadu i
drafod annibyniaeth yn wleidyddol hurt. Yn hytrach na rhoi unrhyw ddadl dros
annibyniaeth, dyma ddywedodd hi neithiwr – ac yn wir rhywbeth tebyg y mae hi
wedi bod yn ei adrodd ers peth amser...
Our economy is too weak. We’re already facing a situation
where workers in Wales earn 85% of the UK average.
Oes, mae yna
wendidau lu gan economi Cymru – boed hynny’n ymwneud â’n GDP, y cyflogau is sy’n
cael eu hennill yma, ein hanallu i godi trethi, a’r ffaith bod tlodi plant a
diweithdra’n uwch yng Nghymru na gweddill y DU ymhlith, fwy na thebyg, ddegau o
ffactorau eraill; hyd yn oed y ffaith bod mwy o ddibyniaeth ar fudd-daliadau
yma.
Yr hyn mae
Leanne Wood yn ei wneud ydi cytuno
efo'r rhai sy’n dadlau yn erbyn annibyniaeth i Gymru, gan atgyfnerthu’r syniad
ein bod ni yn rhy dlawd i fod yn
annibynnol. Mae’r dacteg yn un gwbl, gwbl anghywir ac eithriadol o niweidiol i’r
achos cenedlaethol.
Yr hyn y
dylid ei ddweud ydi hyn: ydi, mae economi Cymru’n wynebu heriau economaidd
difrifol, a hynny ers degawdau. Ond dydi’r ffactorau hynny ddim yn cau’r drws ar annibyniaeth, ond yn hytrach maen nhw’n
cyfleu yn y ffordd gliriaf posibl pa mor ddiawledig o wael y mae Cymru wedi’i
gadael i lawr gan y wladwriaeth Brydeinig.
Syml o ddadl.
Ond dadl wir.
Efallai na
ddylai Plaid Cymru ganolbwyntio gormod ar annibyniaeth. Ond dylai hi ddim fod
yn ei thanseilio ac atgyfnerthu amheuon pobl yn ei chylch sef yn union y mae’n
ei wneud gyda'r ddadl ‘dydyn ni ddim isio
annibyniaeth achos mae Cymru’n rhy dlawd ar y funud’. Dylai hi fod yn
cyfeirio at lwyddiant gwledydd eraill – mae Estonia’n un da iawn – ac yn gosod
y bai am wendidau Cymru ar garreg drws Llundain. Cyfleu’r ffaith mai Llundain
sy’n ei cadw rhag ffynnu; nid mai ni sy’n rhy dlawd felly nad oes gobaith.
Mae’r nifer
sy’n coelio mewn annibyniaeth yng Nghymru’n isel. Lein y Blaid ydi nad ydi hyn
yn syndod am nad oes neb erioed wedi dadlau drosti; sy’n eithaf cadarnhau un o
unig ergydion Crabb neithiwr ar QT “Then
what’s the point of Plaid Cymru?”
Oce, Blaid Cymru,
os dydach chi ddim isio gweiddi’n groch dros annibyniaeth dwi’n dallt hynny’n
iawn – a dwi’m yn bod yn goeglyd, dydi’r fantais wleidyddol sydd i’w hennill o
wneud hynny efallai ddim yn fawr. Ond drwy, i bob pwrpas, fwydo’r naratif
Brydeinllyd yn ei chylch, rydych chi’n cyfrannu nid at ei sicrhau ryw dro, ryw
bryd, ond at ei hatal a hynny efallai’n barhaol.