giovedì, dicembre 01, 2016

Mân wrthgyferbyniadau mawr byw

Dydi bywyd fawr ddim onid ydyw’n gydblethiad godidog ac anghyfforddus o wrthgyferbyniadau. Does fawr ddim nad ydyw’n llwyddo ei groesi ei hun; gwên drist a deigryn hapus, haul oer y gaeaf, eiliadau dyfnion sgwrs ysgafn; rhyddhad aflwyddiant a gwewyr gweld yr un sy’n tanio’th galon; jyst bod yn chdi dy hun heb wybod pwy ddiawl ‘di hwnnw. Y bodlondeb a deimlaf o wneuthur na chlywed dim a gwacter dwfn gorfod gwneud popeth. Unigedd mewn cwmni ac ymberthyn unigedd. Blinder sy’n canlyn paned o goffi mewn tipyn o gaffi ac egni a enynnir gan nofio urddasol elyrch ar ddiwrnod niwlog disymud. Myfyrio am farw a phrysurdeb difeddwl byw. Goleuadau stryd sy’n tywyllu’r enaid; duwch nos yn goleuo’r sêr. Sêr bychain dy ben yw heulwen dy ddydd, tra bod heuliau’th fyd yn gyson ymachlud.

Moment od  y bore, dal dy lygaid dy hun yn y drych wrth hanner brwsio dy ddannedd yn ddifynadd dros sinc sydd angen ei llnau. Gweld y cyfan heb weld dim. Dy dalcen yn hirach nag y bu mewn hen luniau. Y llinellau newydd fel camlesi’r lleuad, yn ensynio blinder ond yn deillio o oriau maith o chwerthin a’r hwyl a aeth i garchar y gorffennol; adeg a ddiflannodd ond sy’n esgor ar yr hyn sydd eto i ddod. A’r hen lygaid na elli ond â syllu iddynt; lympiau blonegog meddal sy'n cyfleu llond enaid o dân a rhew, o gas a charu. Yr un teimlad â methu â pheidio ag edrych ar ddamwain car. Gan un edrychiad gweled cant o bethau a aeth o’u lle, a dychmygu'r un peth hwnnw all unioni’r cyfan.

Y ffordd anghysurus honno o wybod popeth mewn eiliad hyd at ddyfnion meithaf môr ein bod, ac anghofio’r cyfan ymhen awr neu fis neu flwyddyn. Y ffordd y mae pob cam yn nesáu at rywbeth ac yn ymbellhau rhag llall. Y ffordd y mae meiddio dy roi dy hun i obaith yn fwy o fraw nag o fendith.

Y ffordd y mae popeth yn y byd mawr crwn yn wrthgyferbyniad llwyr, a’r gwrthgyferbyniadau hynny sy’n creu pob peth. A’r ffaith fy mod i’n gwybod hyn oll, heb imi erioed ei ddysgu.

mercoledì, ottobre 19, 2016

Eryrod Pasteiog VI: Cerddi'r Werin



Waldo

"Y beirdd a anghofiasant symlrwydd y gerdd, gan lunio barddoniaeth iddynt hwy eu hunain i fynnu gan ei gilydd ganmoliaeth. Enillasant gadeiriau a choronau â chwpledi ac englynion nad oeddent i'r lliaws, dim ond i ddetholedigion y maestrefi moethus. Deallusrwydd a droesant yn eiriau diystyr na allai neb eu deall. I ba le aethai barddoniaeth y werin, a diniweidrwydd yr awen? Gwaedlif calon y genedl Gymraeg a gyfnewidid am orfeddwl diangen sydd, gan amlaf na pheidio, yn ddiystyr hefyd.Y mae mawredd ein llên nid mewn cysyniadau cymhleth ond ar adain seiniau hoff y famiaith yn anwesu'r glust a gwneud i'r enaid wenu.

Yn syml, fel ag yw - y mae ein llên am ein lladd."


 
Y GATH 

Hwran ffwr ewinog
Yn chwilio darn o hadog,
O Bwllheli i Borthmadog
Erfynia bryd adeiniog,
Basdad anrhugarog;
Basdad blewog.

Y MÔR

Lwmp hylifog o angau.
Llon ei longau.
Gwae ei wymon.
Cewch fisged arno ar gwch.
Pysgod hefyd

Y GARDIGAN

Y cythraul coslyd.
Cynnes ei gaeafau – ni wêl haf.
Cyfaill yr henoed yw’r hen wallt dafad hwn....
Ni all gwylan ei gwisgo na
llewpart ei hamgyffred;
a dyna wefr y gardigan.


Y GOEDAN ‘FALA

Y pren hwn.
Y gangen hon.
Yr afalau hyn.
Gwaethaf goeden ‘fala,
Coedan ‘fala ddi-afal.

Y CYMRO

Gwron y frechdan gaws,
Salad crîm rydd ar ei fitrwt
A chan wledda arno chwardd i’r awyr
a thery ei goes gan gnoi,
canys
Cymro yw.
Ie, Cymro yw.

YR OFN

Dwi’m yn ofni dim,
‘Does dim yn ofni fi,
Megis dafad
Efo llif,
Prin yw’r bygwth yn fy mrefu