Unwaith mewn lleuad las neu cyn amled a mae Plaid yn ennill ym Mlaenau Gwent yr ydw i'n blogio mwy nac unwaith y diwrnod ond dw i'n dechrau meddwi, so pam lai?
Dachi'n gwybod beth sy'n fy nghorddi? Pan ydach chi'n tagu wrth fwyta a mae rhywbeth dod allan o'ch ceg chi a dachi methu dod o hyd iddo fo? Ia, mi oeddwn i'n buta Pepperami (sef ceilliau gafr efo cont hwch) a dyma fi'n tagu dros y desg, yn llwyddo i gael cryn dipyn o Carling ar fy nghrys, ond hefyd yn llwyddo i chwythu allan darn bychan o'r aflangig. A dachi'n gwybod dachi'n siwr lle y glaniodd hi ond dydi hi byth yno? Dydi hi ddim, fel yr anghywirdybyiais, wrth y selotêp.
Fydda i'n licio meddwl bod 'na bobl yn darllen y blog 'ma. Mae rhywun, yn sicr (mae Haydn yn darllen un fi bob diwrnod yn ei waith. Dw i'n ceisio dweud rhywbeth am fy niwrnod iddo a mae'n troi rownd a dweud 'Wni nesi ddarllen o ar dy flog di, siwr braidd slaets swnd bacyn'. Erbyn hyn dani mond yn dweud helo wrth ein gilydd a gwenu'n gwrtais). Ond prin ydi'r rhai sy'n darllen blogiau Cymraeg, a rydym ni flogwyr oll yn ceisio efelychu Morfablog (yn hynod aflwyddiannus, a dweud y gwir).
Tua 22 o bobl, ar gyfartaledd, sy'n darllen fy mlog i y diwrnod (mae tua 75% wedi meddwi. Mae'r lleill yn bôrd neu dan ddylanwad cyffuriau). Dw i'n cofio dod o hyd i flog Saesneg yn ddiweddar oedd yn cael tua 13,000 o ymwelwyr y diwrnod. Rwan, dw i'm yn disgwyl unrhyw flog Cymraeg cael tairgwaith yr ymwelwyr y diwrnod a sy'n byw ym Methesda bob diwrnod OND byddan ni'n gallu gwneud yn well yn byddan? A pham lai? Mae blogs Cymraeg, ar y cyfan, yn eitha da, dw i'n meddwl. Dw i'n licio clwad hanesion personol Melynwy a chwerthin yn uchel i Geiriau Gwyllt. Dw i'n licio cael fy niddori gan Cwacian a Synfyfyrwraig a chadw i fyny efo Morfablog a'r Bachgen o Bontllanfraith. Ond eto, ar y cyfan, does 'na ddim llawer o bobl yn darllen blogs Cymraeg.
Morfablog ydi'r mwyaf llwyddiannus, mi gredaf, efo tua 45 o ymwelwyr pob diwrnod (os mae fy nghof yn gywir?). Ond efo 600,000 o bobl yn siarad Cymraeg, siwr fedrwn ni oll wneud yn well rhywsut?
1 commento:
Dwi weithia'n meddwl am niferoedd fy ymwelwyr. Y peth amextreme tracker yw dyw ond yn cyfi faint o bobl sydd wedi ymweld a dy wefan, tydio ddim hyd y gwn i yn cyfri'r cannoedd, na miloedd sy'n darllen blogiadur (!), felly does dim rheswm iddynt ymweld a dy flog i gael ffics ddyddiol o dy ddoethineb.
Mae na dric bach i ddenu blogwyr vain nad wyt yn meddwl eu bod yn darllen dy flog. Beth ti'n wneud yw roi doeln i'w blog nhw yng nghynnwys un o dy byst yn y gobaith bydd darllenwr arall dy flog yn clicio arno.
Weeeedyn, pan mae'r blogiwr yn edryc h ar ei ystadegau, mae'n gweld bod X ymwelydd wedi dod o dy flog, yna mae'n clicio arno a chicio ei hun am beidio ei ddarganfod yng nghynt!
Posta un commento