mercoledì, aprile 19, 2006

Penblwydd Hapus i fi...

'Wanwl sumai gyfeillion! Dw i'm wedi bod yn blogio'n ddiweddar achos doedd na'm rhyngrwyd yn Rachub draw yma ond dyma fi'n fy ôl ac yn barod i flogio ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn 21 mlwydd oed! Dw i'n synnu achos mae rhan fwyaf o bobl wedi cofio, a ddim yn synnu achos mai'n bump o'r gloch yn y p'nawn a mae Dad dal heb gofio (dydi o'm 'di deud pen-blwydd hapus, eniwe).

Mae gynnon ni gyfrifiadur newydd swanc yma'n Rachub yn awr. Un du ydyw a mae'n fy ngalluogi i chwarae y Battle for Middle-Earth yn lle'r hen llapllop da-i-ddim 'na. Felly, wrth rheswm, dw i wedi bod yn chwarae hwnnw yn lle gwneud fy nhraethodau.

Felly be dw i wedi gwneud i fy mhen-blwydd, y pen-blwydd olaf y cai unrhyw math o anrhegion (dw i'm wedi cael dim, cofiwch)? Wel, dim byd. Neithiwr fe aethon ni'r teulu am Alfredos yng Nghonwy am fwyd Eidalaidd. Gesi Spaghetti Marinara sydd i fod gyda bwyd o'r môr ynddo fo. Oedd 'na lot o fwyd allan o tiniau (hynny yw 'tin' Saesneg) ynddo fo, eniwe. A doedd na'm mozzarella ar y 'garlic bread with mozzarella', oedd yn eithaf siomedig.

Heddiw dw i wedi bod efo Nain am fwyd, cofiwch. I'r Bwl ym Mhentraeth. Fydda i'm yn licio gyrru efo Nain yn y car wrth fy ymyl achos mae hi'n dweud rhyw bethau gwirion dyddiau yma. 'Sbia ar y postmon wedi gadael drws ei fan wedi'i agor' medda hi. 'Wel sneb am ddwyn dim,' atebais innau, oedd yn hollol deg achos roedden ni'n hen Llandegfan sydd efo tua, www, tŷ yno. 'Fedri di ddim trystio neb dyddiau yma. Ella bod rhyw berson 'di meddwi yn y cae ac am fynd amdani. Medri di'm trystio neb'. Roedd hyn am hanner dydd.

Yfory mi a'i allan am beint pen-blwydd efo pwy bynnag sydd eisiau fy nhywys o amgylch Bethesda. 'Sneb o brifysgol y dod amwni, ond dw i'm yn meindio a dweud y gwir achos mynd i Brâg oedd fy anrheg a oni'n hapus bod pawb wedi dod (ac wedi mwynhau!). Ond dyma ddiwrnod fy mhen-blwydd a dw i am wneud dim a dw i'n hynod fodlon felly. Mae'r haul allan, dw i newydd brynu CD newydd Frizbee a mi eistedda i tu allan yn awr yn yfed Irn Bru a gweld brain yn ffwcio. Caru Rachub!

3 commenti:

Tom Parsons ha detto...

Penblwydd hapus i ti o'r Hwrdd arall!

Huw Psych ha detto...

Pen-blwydd hapus...hwyr!!

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

Anonimo ha detto...

Ffwc Inglish!!! (Ti'n gwbod pwy suma!!)