Aeth Mam i Argos heddiw a chael cynnig STD. Chwarae teg, mi brynodd gamera digidol newydd i mi yn sbesial oherwydd fy mod i wedi llwyddo cael gradd, a chafodd gynnig STD gan y ddynes tu ol i'r til. Medda hi, ddynas wirion. STU port oedd o, a dyma Mam yn fy ngalw i yna i dweud os oeddwn i isho un, a na medda fi. A dyma hi'n egluro wedyn pam y bu iddi fy ngalw, achos nad oedd hi'n gwybod 'beth oedd STD', cyn mynd ymlaen i ofyn imi os oeddwn i, a gofyn i Dad (a ddywedodd "na", yn amlwg ddim callach rhwng STD ac STU port ei hun).
Reit, dw i'n mynd i Gaerdydd mewn 'chydig. Graddio 'fory. Casau'r lol graddio 'ma. Dw i'n fodlon fy mod wedi pasio a dyna ni, dw i'm yn licio'r holl seremoni sy'n mynd efo hi. Ond dyna ni, gyda Mam wedi ordro DVD ac wrth gwrs llwythi o luniau ac ati, byddaf i ar y llwyfan 'fory, efo ffwcin crytsh. Iesu maesho gras a mynadd.
2 commenti:
Mae'r stori 'ma yn doniol iawn os wyt ti'n fi. Yn yr UDA, mae STD yn golygu: "sexually transmitted disease."
Am beth wyt ti'n siarad?
Mam. Syml.
Posta un commento