Dyna ni. Dw i wedi rhoi'r gorau i ymarfer dysgu. Dw i wedi bod yn paladurio amdani ers blwyddyn ac mae hi wedi dod at hyn. Bydd neb sy'n fy adnabod yn synnu llawer, dw i'n amau dim. Ond mae hwn yn wahanol.
Oeddwn i ISIO bod yn athro. Oeddwn i'n edrych ymlaen at ei gwneud hi. Mae'n swydd dda 'fyd, o ran cyflog a gwyliau, a swydd diddorol. Ond y gwir amdani oedd r'on i'n iwsles. Eithriadol. Doedd gen i ddim hyder yn yr hyn oni'n ei ddweud, yn bron deall dim o be oni'n ei neud, ac yn waeth fyth pan oeddwn i yn cael cyngor gan yr athrawon eraill roedd o fel iaith arall imi. Nid eu bai nhw mo hynny, yn y lleiaf, ond fi sy'n hollol ddwl.
Dw i bron a torri 'nghalon. Mi fyddai'n onast efo chi, ro'n i bron a chrio am y tro cyntaf ers dros ddegawd. Ond mi wn mai dyma'r peth iawn i'w wneud, achos dw i'n gweithio yn galetach nac ydw i erioed wedi gwneud yn fy mywyd, ac mae hi gyd yn mynd dros fy mhen, a fedrai'm gwneud dim mwy.
Diwedd trist pathetic i'm hanes i o addysgu.
3 commenti:
Druan a ti boi! O leia fod ti di gweld bo fe ddim yn mynd i weithio nawr yn hytrach na cal nervous breakdown ymhen blwyddyn neu ddwy. Sain jocan. Mae dysgu'n gallu dy ladd di fi di gweld e. Ond y ffaith bo tin gallu cyfadde bo ti'm yn gallu cario mlaen yn rywbeth i fod yn falch ohono.
Peidiwch a rhoi blydi fath o gydymdeimlad i'r diawl! Uffar diog dio. Ma dysgu'n gret ond mae'n rhaid i athro fod yn berson o'r haearn gorau ac nid yn berson o glai a gwyr fel tydi Iason Wiseganji
'person o glai a chwyr', Dyfed. Dylai athro Cymraeg sydd cymaint "o'r haearn gorau" wybod hynny yn sicr!!!
Posta un commento