venerdì, ottobre 02, 2009

Gorllewin Caerdydd

Allwn i ddim â bod wedi ysgrifennu am y sedd hon ar adeg well, na allwn? Roedd yn hen bryd i mi fentro o’r gogledd, er at rywle yng Nghymru dwi yn ei adnabod yn dda – Caerdydd. Mae gwleidyddiaeth y ddinas hon wedi gweddnewid yn ystod y 12 mlynedd ddiwethaf, i’r fath raddau na fyddai neb yn ei iawn bwyll wedi rhagweld Caerydd 2009 bryd hynny.

Un sedd sydd wedi datblygu’n sedd ddiddorol iawn ers dyfodiad datganoli ydi Gorllewin Caerdydd. Yn wir, mewn cymhariaeth, mae tair sedd arall y Brifddinas yn ddigon anniddorol. Cynrychiolwyd hon gan George Thomas, nid yn un o’m hoff wleidyddion, am flynyddoedd maith, ac fel Llefarydd rhwng 1976 a 1983.

Cipiwyd y sedd gan y Ceidwadwyr ym mlwyddyn lwyddiannus 1983, a theg dweud bod hynny’n gyfuniad o’u poblogrwydd cymharol yn yr etholiad hwnnw a pherfformiad cryf iawn gan y Democratiaid Cymdeithasol, a enillodd dros chwarter pleidlais Gorllewin Caerdydd. Daeth yn ôl i’r gorlan Lafur yn ’87 ac felly y mae’n parhau hyd heddiw, a hynny’n weddol gadarn yn ddi-eithriad.

Etholaeth ddinesig ystrydebol, ddywedasoch chi? Byddwn i’n anghytuno. Mae hi’n weddol gymysg, ac nid yn gwbl drefol gydag ambell ran yn y gorllewin a’r gogledd yn gymharol wledig. Dim ond tua 11% sy’n medru Cymraeg, er bod rhannau Cymreiciaf y ddinas o ran iaith wedi’u lleoli yma. O ran cyfoeth mae’n cyferbynnu rhwng ardaloedd ffyniannus Pontcanna, rhannau o Landaf a Sain Ffagan ac ardaloedd mwy difreintiedig fel Glanyrafon a Threlái, a dyma etholaeth gartref Amgueddfa Werin Cymru, gerddi Soffeia a Stadiwm Athletau Caerdydd. O graffu’r wyneb mae Gorllewin Caerdydd yn llawn amrywiaeth.

Beth am felly ddadansoddi’r etholaeth amryfal hon ar sail etholiadau? Yn gyntaf, cymharwn ganlyniadau 1987 a 2005 – mae ugain mlynedd o gymharu yn hen ddigon dwi’n meddwl - gan gofio bod y Ceidwadwyr yn eithaf cryf yn ’87 a Llafur yn parhau’n lled-boblogaidd yn ’05. Yn wir, roedd y bleidlais Lafur yr un peth, tua 45% yn y ddau etholiad hynny (er, yn anochel braidd, yn llawer is na’r uchafbwynt o 60% ym 1997). Llwyddodd y Ceidwadwyr gael 38% yn yr achos cyntaf – ond hyd yn oed yn 2005 roedd y bleidlais Geidwadol mor isel â 22%. Ni fu adfywiad.

Segura y mae pleidlais trydedd blaid y DU yma hefyd – o gael 16% ar led-ffurf y Democratiaid Cymdeithasol yn ’87, cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol 18% o’r bleidlais yn 2005, ac yn y cyfnod rhwng y ddau bwynt hynny ni chafodd fwy na 15% or’ bleidlais. Nid Canol Caerdydd mo hon.

Ar y llaw arall, mae Plaid Cymru wedi cryfhau’n aruthrol yma. Cafodd lai na 2% o’r bleidlais ym 1987, gan golli ei hernes y flwyddyn honno ac eto’n y ddau etholiad ar ôl hynny. Er nad yw’r 13% a gafodd yn yr etholiad cyffredinol diweddaraf yn drawiadol, mae hi’n dro byd o ugain mlynedd yn ôl.

Yn ôl arolwg barn cymharol ffafriol i Lafur a gyhoeddwyd yn ddiweddar (YouGov, 29-30 Medi) mae’r Ceidwadwyr ar 37% a Llafur ar 30%. Pe buasem yn ceisio adlewyrchu hynny yng Ngorllewin Caerdydd, gan ddi-ystyru Plaid Cymru oherwydd diffyg data, byddai’r canlyniad yn rhywbeth tebyg i:

Llafur : 40%
Ceidwadwyr : 27%
DRh : 19%

Buddugoliaeth glir i Lafur felly, ond beth am ddefnyddio arolwg diweddar arall sy’n llawer llai ffafriol i Lafur, gan ei gosod yn drydydd ledled Prydain (Ipsos MORI, 25-27 Medi)? Byddai’r canlyniad fel a ganlyn:

Llafur : 34%
Ceidwadwyr : 26%
DRh: 23%

Felly, yr awgrym yw, a hynny’n swnio’n rhyfedd ddigon o ystyried yr hinsawdd wleidyddol bresennol, o drosi’r canlyniadau hyn i Orllewin Caerdydd (dull syml, anwyddonol mi wn), fyddai’r Ceidwadwyr ddim yn agos yma. Ymhellach at hynny, mae’r bwlch lleiaf (8%) yn ensynio y gallai nifer nid ansylweddol o Lafurwyr aros adref ac y byddai Llafur o hyd yn fuddugol yma – a chofiwn nad Llafur ydi’r unig blaid sy’n dioddef o apathi.

Dydi hi ddim yn beth call trosi canlyniadau’r Cynulliad i rai San Steffan, ond dyma hanes pedair prif blaid Cymru yn y sedd hon. Dangosir canran y bleidleis a gafwyd, a nodir y gwahaniaeth rhwng canlyniad ’99 a chanlyniad ’07 mewn cromfachau.

Llafur : 37% (-25%)
Ceidwadwyr : 25% (+10%)
Plaid Cymru : 21% (+6%)
Dem Rhydd : 15% (+6%)

Yn debyg i Aberconwy gynt, mae Llafur ar drai gyda’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru’n elwa yn ddigon tebyg o’i dirywiad, ond gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn elwa yn yr achos hwn. Byddai proffwydo i Blaid Cymru ennill cymaint ag ugain y cant o’r bleidlais yma mewn etholiad cyffredinol yn ffôl ... ond tybed ...

Oherwydd, gyfeillion, mae un canlyniad yn sicr na fyddai neb wedi’i ragweld yma ychydig flynyddoedd yn ôl, sef canlyniadau etholiadau cyngor 2008 yn y sedd hon. Dydw i ddim am gyfrif nifer y pleidleisiau, yn wir mae gan bob ward ei hanes ei hun, ond ar ôl y cyfrif dyma faint o gynghorwyr oedd gan bob plaid yn yr etholaeth:

Plaid Cymru 7
Llafur 6
Democratiaid Rhyddfrydol 4
Ceidwadwyr 2

Os cyfrwn nifer y cynghorwyr fel ffon fesur, dyma un o ardaloedd gwannaf y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda bron i hanner seddau Llafur Caerdydd yma, a phob un o seddau Plaid Cymru’r ddinas. Er gwaetha’r ffaith ei bod yn swnio’n hurt, yn y rhan hon o Caerdydd mae gan y cenedlaetholwyr fwy o gynghorwyr na’r un blaid unigol arall, sydd ddim yn sefyllfa a adlewyrchir o gwbl yng ngweddill dinasoedd mwyaf Cymru.

O ran y Blaid, mae’r ffaith iddi ennill tair sedd y Tyllgoed a dim un yn Nhreganna yn dweud llawer am natur ei chefnogaeth yn y ddinas – yn fras, nid y Cymry Cymraeg bellach yw sail ei chefnogaeth. Yn wir, gellir mynd mor bell â dweud bod y Blaid yn y ddinas wedi creu carfan sy’n elyniaethus tuag ati o blith y Cymry Cymraeg, ond stori arall ydi honno.

Rŵan mae un etholiad arall y cawn edrych yn fras drosto, sef rhai eleni. Felly y bu o blith y pleidiau ‘mawrion’:

Llafur : 4,236 (23%)
Ceidwadwyr: 4,012 (22%)
Plaid Cymru: 3,142 (17%)
Dem Rhydd : 1,725 (9%)
Eraill : 5,214 (29%)

Ambell ffaith: i bob pwrpas roedd hon yn hollt deirffordd, cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol lai o bleidleisiau na UKIP (a fawr fwy na’r Gwyrddion) a dyma’r unig sedd y bu i Lafur ei hennill yng Nghaerdydd. Gan ddweud hynny, mae etholiadau Ewropeaidd yn ddi-eithriad yn rhoi cic i’r llywodraeth gyfredol, a 12 mlynedd i mewn i lywodraethu ‘doedd Llafur byth am wneud yn dda hyd yn oed fan hyn, ond mi enillodd waeth bynnag.

A dyma ni’n dod ati – pwy sydd am ennill? Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim – o’i gymharu â bron pob rhan arall o Gaerdydd, a hwythau’n arweinwyr y cyngor, maen nhw’n wan yma.

A beth am y Blaid? Ydi, mae hi ar gynnydd yma, heb ronyn o amheuaeth, ond nid dyma’r fath o sedd y gall drosglwyddo ei phleidlais Cynulliad yn bleidlais San Steffan, ac mae’r seiliau dal yn rhy fach yma – yn realistig, byddai trydydd parchus yn ganlyniad da iddi.

Un o ddwy sydd am ennill yma. Yn gyntaf, dau ffigur am Lafur yma ers 1987. Cafodd ei pherfformiad cryfaf ym 1992, wrth i Rhodri Morgan ennill 24,300 o bleidleisiau, ac fe ddaeth ei chanlyniad gwaethaf o ran nifer y pleidleisiau yn 2005 gan sicrhau 15,700 o bleidleisiau (Byddai’n werth nodi fan hyn hefyd hyd yn oed ym 1983 pan enillodd y Ceidwadwyr ac y cafodd y Democratiaid Cymdeithasol 10,000 o bleidleisiau y llwyddodd Llafur ennill y nesaf peth i 14,000 o bleidleisiau – gan gofio hefyd nad ydi polau heddiw yn eithriadol o wahanol i rai’r cyfnod hwnnw o ran Llafur).

A all y Ceidwadwyr ragori ar hynny? Roedd ei chanlyniad gorau hi yma ers 1987 ym 1987 ei hun gan ennill 16,200 o bleidleisiau (a oedd yn wir yn fwy na chafodd pan fu’n fuddugol yma ym 1983). Gwnaeth waethaf yn y gorffennol agos, yn 2001, gan ennill 7,300 o bleidleisiau. Poenus.

A’r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid yn yr etholiad diwethaf? 8,167. Mae’r gagendor yn fwy na’r bleidlais Dorïaidd.

Mae angen gogwydd o 12% ar y Ceidwadwyr i gipio Gorllewin Caerdydd oddi ar Kevin Brennan, sydd ddim yn eithriadol o boblogaidd dwi ddim yn meddwl, ond eto’n wyneb gweddol adnabyddus. Dydi’r polau ddim yn awgrymu bod y fath ogwydd am ddigwydd, felly sut y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill yma?

Yn gyntaf, mae’n rhaid i’r blaid ddyblu nifer y pleidleisiau a gafodd yn 2005, ac yn ail mae’n rhaid iddi obeithio y bydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau, naill ai i apathi neu bleidiau eraill. Byddai perfformiad cryf gan Blaid Cymru ac, i raddau llai, y Democratiaid Rhyddfrydol o fudd yn hynny o beth, ond amheuaf yn fawr a fyddai hynny i’r graddau y gwaneth y Democratiaid Cymdeithasol ym 1983.

Proffwydoliaeth: Er gwaetha proffwydiadau gan ambell un arall, dwi am sticio fy mhen allan a dweud na fydd hon yn ildio i’r llanw glas. Buddugoliaeth o tua 2,500 i Lafur.

1 commento:

Anonimo ha detto...

Erthygl ddiddorol a sylweddol ar ddyfodol gwleidyddol etholaeth Gorllewin Caerdydd. Dych chi'n gwneud pwyntiau teg ei bod yn mynd i fod yn anodd i'r Ceidwadwyr ennill yno. Fodd bynnag, mae nifer o ddatblygiadau newydd o dai wedi cael eu codi ers yr etholiad diwethaf, a fyddai'n debygol o helpu i'r Ceidwadwyr. Hefyd, bydden i'n dweud bod y newid i ffiniau'r etholaeth sy'n tynnu ardaloedd gwledig i mewn yn fanteisiol i'r Ceidwadwyr. Yn ogystal a hyn, fe wnaeth y bleidlais Geidwadol ddyblu yn etholiadau'r Cynulliad 2007. Ar sail hyn i gyd, bydden i'n dweud mai ras dau geffyl agos iawn bydd hi.