Felly dyma ddod â ni at sedd a allai, o ildio’r canlyniad cywir, newid gwleidyddiaeth Cymru, a dwi o ddifrif am hynny. Pe baech wedi dweud nôl ym 1997, ddeng mlynedd yn ddiweddarach y byddai Plaid Cymru yn ennill Llanelli gyda hanner y bleidlais, i Seilam Dimbach â chi ar eich union. Bu degawd cyntaf yr 21ain ganrif yn gymysglyd i Blaid Cymru – ond dyma un o’i llwyddiannau pendant.
Dyma hefyd y dadansoddiad mwyaf swmpus a wnaed gennyf hyd yma – felly peidiwch â pharhau oni fo chi’n ddewr!
Dwi ddim am adrodd yr hanes yn fanwl – gwn yn iawn beth ddigwyddodd yn ’99 ac ers hynny. Dydw i ddim chwaith am roi sylw i’r Democratiaid Rhyddfrydol na’r Ceidwadwyr. Do, cawsant dros chwarter y bleidlais rhyngddynt ym 1997 – ond roedd yn llai na 14% yn 2007 ac mae’n wybodaeth gyffredin nad ydi’r un o’r pleidiau yn rymoedd yn yr ardal.
Dwi am gynnig dadansoddiad nid fesul plaid ond etholiad y tro hwn. Ac awn yn ôl i berfeddion ’97 yn gyntaf. Cafodd Llafur bron 24,000 o bleidleisiau, sef 58% o’r pleidleisiau. Wrth gwrs, roedd elfen gref o bleidlais bersonol i Denzil Davies, ond er mor uchel ydi’r bleidlais honno, a’r mwyafrif yn ei sgîl, rhaid cyfaddef ni fu fyth mor uchel â gweddill y cadarnleoedd, lle y gallasai Llafur ddisgwyl ennill yn hawdd dros 60% o’r bleidlais mewn blwyddyn wael. Dydi Llafur byth wedi gwneud hynny yn Llanelli dros yr 30 mlynedd diwethaf. Felly, mae’n gymharol wan yma. Pwysleisiaf y gair ‘cymharol’!
Fodd bynnag mae un gwahaniaeth sylfaenol rhwng Llanelli a chadarnleoedd eraill De Cymru Llafur, sef cryfder y Gymraeg. Mae 47% yn gallu siarad Cymraeg yma, ac yn wir ardal Pontyberem yw’r ardal Gymreiciaf ei hiaith yn Ne Cymru gyfan. Ond serch hynny, ni lwyddodd Plaid Cymru fwrw gwreiddiau yma fel y gwnaeth mewn rhannau eraill o Sir Gâr.
Roedd 1997 yn drobwynt i Blaid Cymru yma hefyd. Daeth yn ail, wedi blynyddoedd maith o fod yn drydydd, neu bedwerydd hyd yn oed. ‘Doedd hi ddim yn ail credadwy iawn – cafodd y Blaid lai na phumed o’r bleidlais, wedi’r cwbl. Megis dechrau oedd hi.
Fel y dywedais af i ddim i drafod ’99. Ond, tybed a fyddai’r Blaid wedi ennill hyd yn oed yn ei phenllanw heb Helen Mary Jones? Bydd rhaid i eraill ateb y cwestiwn hwnnw, dydw i ddim yn gwybod yr ateb.
Er gwaethaf 1999, roedd 2001 yn ganlyniad da yma i Blaid Cymru. Roedd y gogwydd o 10% yn sylweddol mewn etholiad cyffredinol. Ond dim ond tua dwy fil gynyddodd pleidlais Plaid Cymru – collodd Llafur tua 6,000 o bleidleisiau. Dydi ennill sedd ar golled gwrthwynebydd ddim yn sail gadarn i frwydro am sedd. Rhaid trosi pleidleisiau i’ch cornel chi. Ar ddechrau’r ganrif, nid dyma’r sefyllfa yma.
Ni welwyd canlyniad agosach mewn etholiad Cynulliad nac yma yn 2003. Collodd Helen Mary o 21 o bleidleisiau, a hynny oherwydd iddi golli mwy o bleidleisiau na Llafur. Rhaid nodi hyn, fodd bynnag: y flwyddyn honno cafodd y ddwy blaid eu niferoedd isaf o bleidleisiau yma erioed mewn etholiad Cynulliad, a Llafur ei nifer isaf erioed.
Collodd y ddwy eto bleidleisiau yn 2005, ond Plaid Cymru ddioddefodd fwyaf. Cydnabyddir y cafodd ymgyrch wan y flwyddyn honno yn y sedd. Dwi’n sylwi fodd bynnag bod patrwm ym maint dirywiad y blaid Lafur yma – roedd ei phleidlais i lawr tua thraean o 1997 – sy’n ddigon cyffredin ymhlith seddau ei chadarnleoedd, fel y gwelsom o ddadansoddiadau blaenorol. Dirywiad cyson a phendant; newid cymdeithasol a gwleidyddol yn troi’n realiti ystadegol.
Y ddwy blaid fach, y Torïaid a’r Rhyddfrydwyr, fanteisiodd ar gwymp yr uchod, o tua 4% yr un. Gwelaf y ddau yn cael eu gwasgu ym mrwydr y flwyddyn nesaf gan Blaid Cymru a Llafur.
Dyna grynodeb o 1997 i 2005. Trai arferol i Lafur, llanw a thrai i’r Blaid. Gellir i raddau alw’r cyfnod hwnnw yn gyfnod ‘cynnar’ sedd Llanelli yn oes datganoli – heb geisio swnio’n ymhongar, wrth gwrs! Adlewyrchai batrymau Cymreig o ran ei phleidleisio, ond roedd y duedd a welwyd yma ar ôl hynny, i bob pwrpas, yn unigryw.
Ail-gipiodd y Blaid Llanelli yn 2007. O ystyried mwyafrif y blaid Lafur, ‘doedd hynny fawr o gamp ar lefel y Cynulliad, ond roedd maint y fuddugoliaeth yn sicr yn gamp. Cafodd Helen Mary dros hanner y bleidlais, a bron 14,000 o bleidleisiau - mwyafrif o bedair mil dros Lafur. Yn wir, eisoes mae’r sedd yn ymddangos yn ddiogel iddi yn 2011. Y peth mwyaf anhygoel oedd iddi wneud hyn gyda 7% yn fwy o bobl yn pleidleisio (49% a wnaeth) nag yn 2005. A dyna sy’n gwneud Llanelli yn unigryw o safbwynt Plaid Cymru. Mewn parthau eraill, mae’r Llafurwyr wedi aros adref. Yn Llanelli, maent yn raddol droi at Blaid Cymru – sefyllfa nas adlewyrchir yn unman ac eithrio Arfon yn y gogledd.
Profir hynny gan y nifer a bleidleisiodd – roedd y ganran yr un fath yn ’99 a ’07. Dim ond 4% yn llai yw cyfradd Llafur, ond mae’r Blaid 8% yn uwch. Wn i, dwi’n dweud o hyd ‘ni ellir trosi canlyniadau Cynulliad i San Steffan ... ’ – ond ddôi at hynny yn y man.
Felly beth oedd cyfrinach llwyddiant y Blaid yn Llanelli, a pham na’i throsglwyddwyd i rannau eraill o Gymru Llafur? Rhaid clodfori Helen Mary yn hyn o beth, ond mae dwy ochr i’r geiniog. Mae hi’n llysgennad gwych i Blaid Cymru yn yr ardal. Ar y llaw arall, dwi ddim yn siŵr a fyddai Plaid Cymru mor gryf yn yr ardal hebddi – dydi cefnogaeth i unigolyn ddim bob amser yn gefnogaeth i Blaid. Gallai anwybyddu hynny wanychu ymgais y cenedlaetholwyr i gipio’r sedd yn 2010.
Rhywbeth sy’n awgrymu, yn hytrach na phrofi, ai cefnogaeth unigol ynteu newid sylfaenol sydd ar waith, ydi canlyniadau etholiadau i gyngor sir. Awgrymodd etholiadau cyngor 2008 mai’r ail yw’r brif reswm.
Cyn 2008, roedd gan Lafur 16 sedd yn etholaeth Llanelli, a Phlaid Cymru 5. Ar ôl yr etholiadau hynny, roedd gan Lafur 5 (-11) a Phlaid Cymru 15 (+10). Mae hynny’n dro byd, yn ogwydd uniongyrchol, ond yn ôl fy nealltwriaeth i (croeso i chi roi gwybod fel arall), cafodd Llafur o hyd fwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru. Felly, er bod y Blaid wedi treblu ei chynrychiolaeth a Llafur wedi chwalu, Llafur fyddai wedi ennill ar ffurf gyfrannol.
Tri o’r bron oedd eleni - enillodd Plaid Cymru yma, ond nid yn gwbl argyhoeddedig fel y gwelwn. 34% o’r bleidlais a gafodd (5,990), er y cafodd Llafur gweir arall ar 23% (4,052). Er, mae cynsail; enillodd y Blaid yma yn etholiadau Ewrop 2004 hyd yn oed, a chynyddu gwnaeth mwyafrif Llafur yn 2005. Rhybudd o’r gorffennol yn anad dim.
Ym mêr fy esgyrn, alla’ i ddim meddwl y bydd y polau o fudd i ni ddadansoddi Llanelli. Yr unig arwydd sydd gennym o ba mor agos y gallai fod oedd y cafodd ei chynnwys eleni mewn arolwg barn o seddau ymylol y DU, ac ymddiheuraf am y diffyg dolen. Llafur ddylai ennill yn ôl y pôl hwnnw, ond meddyliwch ennyd. Llanelli - lle mae gan y blaid Lafur fwyafrif o dros 7,000 a thros 20% - ar restr o seddau ymylol?
Âf yn ôl at ddull dwi’n ei hoffi o geisio dadansoddi canlyniadau, sef isaf ac uchaf bleidleisiau. Yn yr achos hwn, bydd ond angen dadansoddi isaf bleidlais Llafur ac uchaf bleidlais Plaid Cymru, a hynny yn sgîl y ffaith y byddai rhywun yn disgwyl i Lafur fod yn ddigon agos i’w hisafswm yn 2010, a Phlaid Cymru dueddu at ei huchafswm.
Y ffigur hudol ydi’r 15,000 mi dybiaf. Os caiff Plaid Cymru yn agos at hynny, mae ganddi gyfle o ennill. Os caiff Llafur tua hynny, gallai golli. Do, cafodd Plaid Cymru 14,000 o bleidleisiau yn 2007, ond a all drosglwyddo hynny i San Steffan?
Dydi’r cenedlaetholwyr heb lwyddo gwneud hynny yn gyffredinol – ond ai fi ydi’r unig un sy’n teimlo y gallai Llanelli fod yn eithriad i’r rheol? I raddau helaeth iawn, mae Plaid Cymru wedi llwyddo o ddifrif i gipio a chadw pleidleisiau gan y blaid Lafur, a chynnal ei llwyddiant, yn yr ardal hon. Hyd y clywaf hefyd, mae ymgyrch y blaid Lafur yno ar hyn o bryd yn anweladwy a’i threfniant ar chwâl – mae hi’n flêr ac yn ddigyfeiriad - a Phlaid Cymru wedi dechrau ymgyrchu o ddifrif. A all gael 15,000 o bleidleisiau yma?
Mentraf ddweud y gall ragori ar hynny fymryn. Dylai yn sicr anelu at ennill tua 15,000 o bleidleisiau.
Ond beth am Lafur? A all ei phleidlais syrthio’n llai na hynny? Yn ystadegol, mae’n ddigon posib. Gan gael 16,500 yn yr etholiad diwethaf (mil i lawr o 2001), mae’n ddigon hawdd rhagweld yn y sefyllfa gyfredol Llafur yn colli tua 1,000 o bleidleisiau yn rhagor yma. I bwy, os rhywun o gwbl, wn i ddim. Un peth o’i phlaid ydi Nia Griffith – mae hi’n boblogaidd yn lleol ac yn cael ei chydnabod fel aelod cydwybodol ac effeithiol, ond heb ag ennyn yr un hoffter â Denzil gynt. A yw’n ddigon poblogaidd i wrthnewid y duedd a welir yn Llanelli?
A all Llafur ddisgyn at y 15,000? Gall. Mae’n anodd iawn dweud a ydi hynny’n debygol ai peidio, ond mae tueddiadau yn awgrymu ei bod yn bosibl. Ydi hyd yn oed y llai na 10,000 a bleidleisiodd i Lafur yn 2007 yn debygol oll i gadw’r driw i Nia Griffith? Ar y cyfan, ydyn, mae’n siŵr. Ond faint yn fwy na’r gwir selogion hynny a fydd yn cyboli pleidleisio dros lywodraeth amhoblogaidd, ‘sgwn i.
Byddwn i ddim yn mynd mor bell â dweud mai Plaid Cymru sydd â’r fantais, cofiwch, eithr y momentwm. Mae ‘na wahaniaeth mawr fanno.
Yn nifer o seddau Cymru, Llafur v. Ceidwadwyr yw’r frwydr, a disgwylir i seddau felly ddilyn patrwm cenedlaethol o ran arolygon barn ac ati. Ond mewn seddau felly gellir disgwyl, yn ddigon teg dwi’n meddwl, i Lafurwyr droi allan i bleidleisio i atal y Ceidwadwyr, ac ambell i genedlaetholwr neu ryddfrydwr fenthyg pleidlais iddynt – dyna natur y bleidlais wrth-Dorïaidd yng Nghymru. Ond yn y seddau prin hynny nad y Ceidwadwyr yw’r prif fygythiad, gellir diystyru’r effaith honno i raddau helaeth. Heb fygythiad lleol y Ceidwadwyr, mae’r cymhelliant i bleidleisio i Lafur yn is.
O ganlyniad i hynny, yn Llanelli o leiaf mae’n anodd gweld Llafur yn cynyddu ei phleidlais o dan unrhyw amodau. Os bydd mwy o bobl yn pleidleisio na’r tro diwethaf, gellir disgwyl i Lafur gadw ei phleidlais yn sefydlog – o bosibl ei chynyddu fymryn. Os bydd nifer tebyg, neu lai, yn pleidleisio, bydd nifer ei phleidleisiau yn syrthio yn ôl pob tebyg. Bryd hynny mae ‘na beryg mawr iddi.
Y peryg a gyflwynir gan Blaid Cymru ydi ei bod wedi llwyddo i wneud dau beth, sef cornelu’r bleidlais wrth-Lafur, a dwyn Llafurwyr i’w chorlan – a ‘does dim i awgrymu bod y duedd honno naill ai yn atal, neu o ran yr un sedd benodol hon, am newid mewn etholiad cyffredinol.
Mae 7,000 o fwyafrif yn gadarn ar yr olwg gyntaf. Ond er y disgwylir yn gyffredinol i seddau fel Gorllewin Caerdydd (mwyafrif: 8,167), Alun a Glannau Dyfrdwy (8,378), Delyn (6,644) a Wrecsam (6,819) fod yn agos, pam lai Llanelli? Yn fy marn i, mae Llanelli yn debycach o newid dwylo na’r un o’r uchod.
Un ystadegyn bach arall cyn i mi roi fy mhen ar y bloc. O ran etholiadau cenedlaethol o 2003 ymlaen (ac eithrio Ewrop 2004 oherwydd diffyg data ar fy rhan i – alla’ i ddim am fy myw dod o hyd i ganlyniadau seddau unigol ar gyfer 2004) mae Llafur wedi cael ar gyfartaledd 39.6% o’r bleidlais a Phlaid Cymru 37%. Agos.
Ydw, dwi isio i Blaid Cymru ennill yma, alla’ i ddim gwadu hynny. Ond dwi’n gwisgo fy het ddiduedd wrth wneud y dadansoddiadau hyn, gyda llond sach o ystadegau a phinsiad o reddf. Dyma hi.
Proffwydoliaeth: Bydd hwn yn ganlyniad mawr. Bydd llai na mil o bleidleisiau ynddi yr un ffordd neu’r llall, ond dwi am roi Llanelli i Blaid Cymru.
8 commenti:
Diolch am y dadansoddiad trylwyr a diddorol. Wrth ddarllen hoffwn datblygu dwy elfen a godwyd gennych:
1) I ba raddau mae'r canran cymharol uchel o siaradwyr Cymraeg yn Llanelli yn "agor y ffordd" i bobl fynd drosodd at Blaid Cymru? Os ydy hyn o bwys, ydy hi'n dangos bod "yr iaith" dal (os felly a fu) yn rhwystr i gynnydd y Blaid i'r dwyrain? Os felly, nid destun anobaith i'r Blaid mohono: gyda hunan hyder a gweledigaeth, gall cysylltu "yr iaith" â Phlaid Cymru fod o fantais o fath arall yn yr ardaloedd sy wedi colli'r iaith ond yn teimlo hunaniaeth Gymraeg (a dim "Welsh Wales" yn unig mae'r rheiny, bellach, edrychwch ar Gaerdydd a Chasnewydd) - o gofio pa mor gryf mae'r galw am addysg Cymraeg yno.
2) Yn Llanelli, a fydd rhai o bleidleiswyr y Ceidwadwyr a'r RhyddDems yn "benthyg" eu pleidleisiau nhwthau i Blaid Cymru er mwyn trio cael gwared o fwyafrif Gordon Brown yn Llundain, gan roi hwb ychwanegol i Blaid Cymru?
Efrogwr, Abertawe
Helo ‘na Efrogwr, diolch am ymateb. Mae’r rheini yn sicr yn ddwy elfen ddiddorol, a bydd llawer o bobl yn llawer mwy cymwys i allu eu hateb yn deilwng na mi. Hoffwn ymateb yn fras fodd bynnag.
Dwi’n meddwl y gallai Llanelli agor y drws i’r dwyrain – wedi’r cwbl, er bod canran gymharol uchel o Gymry Cymraeg yno, dydyn nhw ddim yn fwyafrif. Gallai’r Blaid ddweud wrth bobl “sbïwch, rydyn ni wedi ennill mewn ardal ddi-Gymraeg” a chwalu’r myth mai dim ond plaid y Cymry Cymraeg ydyw. Wrth gwrs, ddigwyddodd hynny ddim ar ôl ’99 ond dwi’n meddwl y byddai ennill ar lefel San Steffan yn fwy arwyddocaol i’w galluogi i ennill y dwyrain yn yr hirdymor.
Dwi’n meddwl hefyd fod yr iaith yn fantais i Blaid Cymru yn yr ardaloedd di-Gymraeg; ni ddylai ganolbwyntio llai ar yr iaith, oherwydd mae’r gefnogaeth yno iddi, ac felly i fudiad sy’n ei chefnogi. Mewn lleoedd lle mae llawer o fewnfudwyr, fodd bynnag – Aberconwy, er enghraifft - dwi’n ofni mai rhwystr ydi hi, yn anffodus, ond ni ddylid cyfaddawdu iot arni serch hynny.
O ran Llanelli, dwi’n dueddol o feddwl y byddai ambell Dori a Rhyddfrydwr yn fodlon benthyg pleidlais i Blaid Cymru i ymwared â Llafur – ond dydi hi ddim yn amhosib i’r gwrthwyneb ddigwydd, a hwythau’n pleidleisio dros Lafur i atal twf cenedlaetholdeb.
Dau bwynt.
Yn gyntaf i fod yn snich bach bedantig, caeodd Seilam Dinbych ym 1995, gofal yn y gymuned bydda ran y sawl a awgrymodd bod y Blaid yn gallu ennill yn Llanelli ym 1997!
Er o ddweud hynny pan safodd Marc Philips yn etholiad 1992, roedd gobeithion selogion y Blaid yn fawr, a siom enfawr oedd gweld o'n methu gwneud marc (sori) o gwbl.
Mae'r ail sylw parthed yr hyn yr wyt yn ddweud am y Gymraeg yn rhwystr yn Aberconwy. Rhaid anghytuno yn chwyrn. Camgymeriad yw credu mai Llandudno a Deganwy yw etholaeth Aberconwy, mae'r etholaeth hefyd yn cynnwys rhai o gymunedau Cymreiciaf Cymru. Er bod rhai o Geidwadwyr y glannau yn cwyno bod Guto yn ormod o "nashi", bydda gan y Ceidwadwyr dim gobaith yn y sedd oni bai bod eu hymgeisydd yn Gymreigiwr da. A dyma'r peth doniol, bydd nifer o'r wrth Gymreig ymysg Ceidwadwyr naturiol y glannau yn cefnogi UKIP fel protest yn erbyn Cymreigedd Guto, gan biso yn eu nyth eu hunain a chryfhau gobeithion y Blaid o gipio'r sedd.
Ardderchog - gobaith realistig i'r Blaid teimlaf. Werth darllen rhai o'r sylwadau yma i glywed barn rhai o'r bobl leol.
http://ukpollingreport.co.uk/guide/seat-profiles/llanelli
Hen Rech,
Dwi'n derbyn yr hyn rwyt ti'n ei ddweud - dim ond enghraifft oedd Aberconwy o ran byddai'n anodd denu pleidleisiau mewnfudwyr ar blatfform sy'n gryf o blaid y Gymraeg. Wrth gwrs, i ennill sedd fel Aberconwy derbyniaf fod yn rhaid ennill cefnogaeth y Gymraeg a'r di-Gymraeg. Serch hynny, mae nifer y mewnfudwyr yn yr etholaeth am wneud hyn yn gryn her i Blaid Cymru - rwyf eisoes wedi mynegi pryderon y gallai'r sefyllfa gael ei adlewyrchu yn Nwyfor Meirionnydd, Ynys Môn a Cheredigion maes o law.
Mae ambell sedd, wrth gwrs, na fydd byth yn gweld aelodau cenedlaetholgar yn cael eu dychwelyd oherwydd pwyslais cenedlaetholdeb Cymreig ar yr iaith, megis Alyn a Glannau Dyfrdwy neu Frycheiniog.
Un cyfraniad bach. Rwyt ti'n dweud:
"Yn nifer o seddau Cymru, Llafur v. Ceidwadwyr yw’r frwydr, a disgwylir i seddau felly ddilyn patrwm cenedlaethol o ran arolygon barn ac ati. Ond mewn seddau felly gellir disgwyl, yn ddigon teg dwi’n meddwl, i Lafurwyr droi allan i bleidleisio i atal y Ceidwadwyr, ac ambell i genedlaetholwr neu ryddfrydwr fenthyg pleidlais iddynt – dyna natur y bleidlais wrth-Dorïaidd yng Nghymru. Ond yn y seddau prin hynny nad y Ceidwadwyr yw’r prif fygythiad, gellir diystyru’r effaith honno i raddau helaeth. Heb fygythiad lleol y Ceidwadwyr, mae’r cymhelliant i bleidleisio i Lafur yn is.
O ganlyniad i hynny, yn Llanelli o leiaf mae’n anodd gweld Llafur yn cynyddu ei phleidlais o dan unrhyw amodau."
Ond, ydy hyn yn wir?
Mae hyn yn diystyrru patrwm pleidleisio etholiad Prydeinig, gyda'r holl jingo Brydeinig a ddaw yn sgil hynny (heb son am y 'televised debates' bondigrybwyll). Hynny yw, gyda'r holl son am Senedd grog; etholiad agos; ac ati, er gwaethaf diffyg cryfder y Toris yn Llanelli, mae peryg i'r etholwyr bleidleisio i Lafur o hyd, er mwyn cadw'r Toris allan o rym yn San Steffan.
mabon
Dwi'n llwyr cydnabod hynny - ac yn cytuno y gallai ddigwydd hyd yn oed yma. Ond mae o dal yn anodd gweld Llafur yn cynyddu ei phleidlais yn unrhywle - yn enwedig mewn sedd fel Llanelli lle y mae hi ar y droed ôl ers rhai blynyddoedd bellach.
Bydd llawer yn dibynnu ar yr ymgyrchoedd eu hunain mi dybiaf - o be dwi'n ei ddallt Plaid Cymru sy'n ennill y frwydr honno'n hawdd ar y funud.
A fabulous gift idea that any mom & grandma links of london sale would be glad to accept is a mother's ring. There are countless styles to pick from london links charms and every one permits each of a mother's children's birthstone to be placed in the ring so mom & grandma can remember her children wherever she goes.Jewelry links london bracelet that is personalized or engraved makes great jewelry gifts for mom. You can have a particular word or meaningful expression engraved inside a ring, necklace or bracelet links of london earrings to demonstrate to your mother the depths of your feelings.Stylish watches are an additional idea for great jewelry gifts for mom. Your mother sweetie bracelet needs a stylish watch to go with her favorite outfit and perhaps even a few to go with her entire wardrobe.Another example of mom's & grandma's jewelry that makes a great gift is mother's earrings.
Posta un commento