mercoledì, dicembre 30, 2009

Nifer yr Ymwelwyr

BlogMenai sy’n dweud ei fod yn licio ‘syllu ar ei fotwm bol’ bob mis a sôn am nifer yr ymwelwyr sy’n ymweld. Mae’r blogiau gwleidyddol yn boblogaidd iawn yn Gymraeg, wrth gwrs. Pan fydda i’n gwneud blogiad gwleidyddol bydd nifer y darllenwyr yn cynyddu’n eithriadol – hyd at dair gwaith yr arfer. Ond dwi wedi sylwi, er bod llai o sylwadau yn cael eu bwrw ar y blog hwn nag yn ei lencyndod flynyddoedd nôl, mae nifer y darllenwyr yn cynyddu, hyd yn oed pan y bydda i’n sôn am bethau dibwrpas fel cwyno am bobl gomon sy’n siopa’n Tesco. Ac, ydyn, mae pobol sy’n siopa’n Tesco yn gomon.

Fe’ch eithrir os gwnaethoch, fel y fi, nôl eich cinio o Tesco bach Cathays yn gynharach heddiw, afraid dweud.

‘Unique hits’ fydd yn mynd â’m bryd i, sef i raddau nifer yr ymweliadau unigol ac eithrio adnewyddu’r dudalen. Gan ei bod yn ddiwedd blwyddyn dyma gymhariaeth rhwng ail chwe mis 2008 a’r chwe mis diwethaf. Rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2008 ymwelodd 3,747 o bobl â blog yr Hogyn o Rachub (y fi). Dydi hynny ddim yn swnio lot, ond yng nghyd-destun y byd blogio Cymraeg mae’n ddigon parchus, yn enwedig am flog personol. Eleni y ffigur yw 5,401 – sef cynnydd o 44%. Ydw, dwi’n smyg am hynny. Mae hynny wrth gwrs dal yn llai na nifer o flogiau Cymraeg (am wn i), ond dwi wedi bod o gwmpas ers chwe mlynedd a hanner a dachi’n bownd o ddechrau blino arna’ i, chwarae teg. A minnau arnch chi, afraid dweud.

Mae lot o hynny’n ymwneud â’r blogroll (dydi rôl blogiau ddim yn swnio gystal), a gynrychiolir yma ar y dde fel ‘Dwi’n darllen...’. Dim ond yn ddiweddar dwi wedi dallt sut mae gosod y teclyn, ond mae pawb arall wedi ei dallt hi ers misoedd. Mae pobl ddiflas fel y fi sy’n licio darllen blogiau (dan fwgwd ‘isio gweld y newyddion diweddaraf’ i guddio ‘dwi’n bôrd’) yn mynd o flog i flog o’r blogrolls i fusnesu ar farn pawb arall.

Fel y gwyddoch prin iawn fod gen i ddiddordeb ym marn neb arall. Tasech chi’n gorfod dioddef yr un bobl â mi fyddech chi’n dallt hynny. Er enghraifft, mae Haydn Glyn yn Dori, ac mae Ceren Sian yn gwadu bodolaeth disgyrchiant. Yr enghraifft gyntaf sydd waethaf, afraid dweud – yn bur drist mae’r ddwy enghraifft yn wir.

Mae genod a barn yn beth peryg. Na, dwi ddim yn dweud na ddylai fod gan ferched farn, er gwaethaf manteision amlwg hynny, ond yn sicr mae gwylio neu ddarllen newyddion yn gyfagos iddynt yn straen. Onid ydi’ch Mam, neu Nain, neu wraig neu rywun bob amser yn gorfod dweud “O diar, mae hynny’n drist” pan fydd rhyw ddrwg newyddion yn cael ei gyfleu yn y cyfryngau? Ac wedyn, pan ddaw rhywun arall i’r amlwg, “Tydi o’m yn ofnadwy am X yn marw yn X?” (fel arfer ‘plant’ yn rhywle nad ydych chi erioed wedi clywed amdano o’r blaen, megis y Swistir).

Reit, pethau i’w gwneud. Dwi dal heb drefnu be dwi’n ei wneud Flwyddyn Newydd. Dwi’n eithaf hapus cyfarch y degawd nesa’ yn Stryd Machen, yn gachu bants ar ôl yfed gwin drud ben fy hun ac yn rhegi i mewn i’r drych yn y lownj.

2 commenti:

Cai Larsen ha detto...

Mi ddyweda i rhywbeth rhyfedd wrthyt ti am stats blogmenai. Ers talwm rhyw ffrae bach leol oedd yn dod a'r darllenwyr - bellach mae stori genedlaethol (hanes Oscar er enghraifft) yn dod a llawer mwy. Dwn i ddim pam.

Hogyn o Rachub ha detto...

Dwi'n meddwl ei bod hi'n dod nôl at y diffyg gwasg Gymraeg/Gymreig mewn difri. Mae 'na gynulleidfa weddol i'w chael o flogio am wleidyddiaeth yng Nghymru, a'r blogiau ydi'r unig beth sy'n llenwi'r bwlch o ran y cyferij - dybiwn i fod hynny'n rhan o'r eglurhad.