Mae ‘na un ddadl dwi wedi ei chael gyda ffrind ambell waith, a dydyn ni fawr o ffrindiau wrth gael y ddadl, am gysyniad y Werin. I mi, mae’r werin yn fyw ac iach ac iddi hithau “dydi’r werin ddim yn bodoli ddim mwy”. Beth am ddechrau gyda diffiniad GPC o’r gair ‘gwerin’?
Pobl, pobl gyffredin, pobl y wlad, gwŷr dan awdurdod; tyrfa, ciwed, mintai, haid, llu, lliaws, milwyr cyffredin byddin; cenedl
Rŵan, ein disgrifiadau ni o’r werin, boed hynny’n gyfredol neu’r werin fu. Iddi hi, rhywbeth amaethyddol ydi’r werin – i raddau helaeth pobl cefn gwlad, mae’n siŵr tyddynwyr a ffermwyr, a rhai sy’n ymwneud â diwylliant. Dwi wedi sôn am y werin ddiwylliedig o’r blaen. Yn bersonol, dwi’n meddwl yn gryf bod y werin ddiwylliedig yn rhywbeth sydd dal yn bodoli: ond dwi byth wedi cysylltu’r werin â chefn gwlad yn unig. Wedi’r cyfan, oni fu’r chwarelwyr a’r glowyr yn werin?
Argraff wahanol sydd gen i o’r werin. Y werin ydi’r Cymry Cymraeg cyffredin. I mi, mae iaith yn bwysig yn niffiniad y peth. Yn y dyddiau cyn i’r Saesneg drechu’r Gymraeg yng Nghymru helaeth nid oedd angen diffiniad ieithyddol, ond y dyddiau hyn dwi’n teimlo bod iaith yn rhan hanfodol o fod yn rhan o’r werin; dydi gwerin a di-Gymraeg ddim yn cyd-fynd. Y mae’r werin yn siarad Cymraeg.
Mae’r gair ‘cyffredin’ efallai’n broblem o ran fy niffiniad i achos mae’n awgrymu dosbarth. Ond eto mae'r cysyniad o ddosbarth yn fwy cyffredin i’r Saeson na’r Cymry fel rheol – i ni mae ‘na werinbobl a phobl fawr i bob pwrpas a dyna ddiwedd arni – os nad wyt yn un o’r bobl fawr rwyt yn un o’r werin. Er enghraifft, mi fuaswn yn ddigon parod i gynnwys athrawon neu feddygon neu, wrth gwrs, cyfieithwyr (pam lai!) yn rhan o’r werin er bod pres da yn perthyn i’r galwedigaethau hynny ... yn ganfyddedig o leiaf! O ran y werin, mae’r agwedd cyn bwysiced â’r dosbarthiadau Seisnig rydyn ni’n gyfarwydd â hwy heddiw.
Ond f’argraffiadau i ydi’r rheini. Un peth sy’n sicr yn fy meddwl i ydi bod y Werin yn bodoli. Mae’r diffiniad cenedl yn ôl GPC yn un ddiddorol. Dwi wedi dweud erioed bod y Cymry Cymraeg i bob pwrpas yn is-genedl, yn genedl oddi mewn cenedl, ac efallai bod hynny hefyd yn ddisgrifiad da ohoni.
Pwy sy’n iawn tybed?
1 commento:
Mae na drafodaeth faith ar y syniad hon mewn cyfnodolion academaidd. Ga i awgrymu erthygl Prys Morgan, 'Gwerin Cymru: y ffaith a'r ddelfryd' yng nghylchgrawn y Cymmrodorion (1967) fel man cychwyn.
Posta un commento