lunedì, gennaio 06, 2014

Caerdydd vs. Hogyn o Rachub

Ni fûm erioed yn betrus o gyhoeddi blog o'r blaen ond mi ydw i rywfaint y tro hwn. Ond weithiau mae'n rhaid i rywun ei fynegi ei hun, ac mae hyn wedi bod yn dod ers sbel.

Fe sylwch fy mod i yn cael ambell i ddig ar Gaerdydd yn eithaf aml. Efallai ei fod yn bryd imi gyfiawnhau fy hun, achos tydi Caerdydd ddim rili yn haeddu hynny. Y mae hi’n ddinas wych, a dwi wedi bod yn ffodus treulio fy ieuenctid yno’n camfihafio. Na, tydw i ddim yn uniaethu efo’r lle. Tydw i ddim yn “caru’r” lle. Ond mae o’n lle gwych, ac mae’n haeddu cael ei gydnabod felly.

Does ‘na fawr o amheuaeth gen i, er fy mod wrth fy modd â’r ddinas, fod lwmp go dda o’m hagwedd at y ddinas yn deillio o’r ffaith fy mod i jyst isio symud oddi yno, a dychwelyd i’r Gogledd, a fy mod i raddau’n chwerw am fy mod i’n aflwyddiannus yn gwneud hyd yma.

Mae rhesymau go bendant gen i am symud i’r Gogledd – rywsut, mae o jyst yn teimlo fel y peth “iawn” i’w wneud. Debyg fod ‘na elfen o euogrwydd fy mod i yng Nghaerdydd yn mwynhau gormod yn hytrach na chyfrannu at yr ardal lle’m magwyd. A soniais o’r blaen am berthyn, plentyn hiraeth.

Ond yn y cyfamser, o weld f’ardal i’n dirywio, mewn nifer o ffyrdd ond yn benodol iawn yn ieithyddol, fedra i ddim ond â theimlo mai yma y dylwn fod. Tydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n edifar dychwelyd chwaith (o ddewis y swydd/amser cywir). Wn i ddim neb sydd wedi gadael Caerdydd am eu hadref nhw ac edifar; y mae pob un ohonynt yn teimlo i’r carn iddynt wneud y peth iawn, ac yn dweud yn ddieithriad nad a symudent yn ôl i’r brifddinas fyth. A phan ydach chi’n treulio amser i ffwrdd o Gaerdydd allwch chi weld agwedd wahanol arni nag os ydych chi yn y swigen: y mae rhywbeth ffals amdani. Mae’n arwynebol: mae’n ddiawledig o anodd esbonio, ond dwi’n meddwl y bydd pawb sydd naill ai wedi symud o Gaerdydd, neu sy’n mynd yno’n aml am ba reswm bynnag, yn dallt yr hyn sy gen i wrth ddweud hynny.

Ta waeth, amlinellaf y ddau reswm mae Caerdydd – er gwaethaf popeth – yn mynd ar fy nerfau. Ac er mwyn ceisio bod yn gryno, mi hepgoraf CF1.

Y mae’r cyntaf yn un syml: pethau i’w gwneud. Dwi’n meddwl ei bod yn hilariws cynifer o bobl (nid dim ond y rhai sy’n byw yng Nghaerdydd, gyda llaw) yn dweud bod ‘na llwyth i’w wneud yng Nghaerdydd ond ‘sdim byd ‘adref’. Dyma i chwi’r bobl sy’n mynd i’r un llefydd bob wythnos, yn cwrdd â’r un bobl o hyd, ac yn gwneud yr un pethau o hyd, yn gylch mawr o undonedd.

Dyma’r bobl sy’n cymdeithasu efo pobl sydd jyst fel nhw, achos mewn dinas mi allwch ddod o hyd i bobl sy’n debyg i chi – yn wahanol i lefydd mwy cefn gwlad, lle mae’ch ffrindiau yn eithaf tebygol o fod yn wahanol iawn i’w gilydd jyst achos ‘na nhw sydd yno (sydd, os ca’i ddweud, ddim yn eu gwneud yn llai o ffrindiau). A dyma’r bobl sydd â’r haerllugrwydd i alw Cymry Cymraeg cefn gwlad yn ‘gul’. “Symudish i ffwrdd achos bod o’n gul, mae Caerdydd lot mwy agored”.

Reit ... ac wrth gwrs mi ddywedan nhw bethau fel hyn heb feddwl eu bod nhw efallai fymryn yn sarhaus i’r Cymry bach syml ‘na yn y gogledd a’r gorllewin.

Yr ail ydi’r Gymraeg; ac i raddau'r Cymry Cymraeg sydd yno. Nid pawb o bell ffordd - taswn i’n mynd ati rŵan i wneud ymosodiad eang ar holl Gymry Cymraeg y ddinas fydda gen i ddim ffrindiau, yn llythrennol - ond mae ‘na elfen gref (a mentraf ddweud dosbarth canol, sydd ddim yn gyhuddiad dwi’n mwynhau ei luchio o gwmpas) sydd mor, mor falch o Gymreictod newydd Caerdydd. “O,” medda nhw, “fyddwch chi’n clywed Cymraeg ymhobman yng Nghaerdydd y dyddiau hyn”. Peidiwch â chredu neb sy’n dweud hyn, maen nhw’n llawn shit. Mae’n wir y clywch Gymraeg mewn rhai ardaloedd penodol - os nad penodol iawn - o Gaerdydd. Ac mae’n wir fod ‘na rwydwaith Cymraeg cryf a bywiog yn y ddinas. Ond rhwydwaith ydi o, nid cymuned, ac mae hynny’n wahaniaeth pwysig. Cymuned Gymraeg nid oes i Gaerdydd.

Ac mae’r pwyslais yma ar y dyfodol – mae ‘na ddyfodol i’r iaith yng Nghaerdydd – sy'n fy mlino ac yn fy nhristáu. O, am gryfder fyddai gennym yn yr hen gaerau pe gallasem fod wedi aros yn yr hen fröydd. Tydi’r economi ddim am ganiatáu i hynny ddigwydd am rŵan, ond mae cynifer ohonom o Gaerdydd o ardaloedd mwy gwledig, mwy Cymraeg, a allai wneud cymaint o wahaniaeth yn byw yn ein bröydd genedigol. Ac mae lot fawr, fawr isio gwneud hynny, ond heb fodd i wneud hynny, alla i sicrhau hynny i chi.

Ond dyma sy’n fy ngwylltio, y sôn am ‘gryfder’ yr iaith yn y ddinas.

11%.

Dyna gryfder y Gymraeg yng Nghaerdydd. Ydi pethau mor ddu arnom fel bod 11% yn rhywbeth i’w ddathlu? Ydi cynnydd bach o 4,000 o siaradwyr (1%!) ym mhrifddinas Cymru rhwng 2001-11 yn rhywbeth i’w groesawu, neu yn rhywbeth i’w gywilyddio ynddo? Faint o’r 36,000 sy’n honni siarad Cymraeg sy’n byw eu bywydau gan mwyaf yn yr iaith, neu'r â’r iaith yn brif iaith iddynt? Ddim nhw i gyd. Fyddai awgrymu hanner yn deg?

Dyma bobl sy'n dweud bod 'na fwy o Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd nag sydd yng Ngheredigion bellach fel petai hynny'n beth da!

Ac felly mae’n gwawrio ar rywun yr hyn ydi’r Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae cynifer yn licio meddwl eu bod nhw’n gyfran barchus o boblogaeth y brifddinas, ar gynnydd o ran maint a hyder. Ond ddim dyna ydyn nhw. Lleiafrif dibwys, amhwysig ydyn nhw – neu, mi ddylwn i ddweud, ydym ni. A dwi’n ymwybodol iawn o hynny – yng Nghaerdydd dwi’n rhan o leiafrif pitw. Oes ots os ydyw’n lleiafrif prysur, gweithgar? I raddau (bach). Ac mae'r hyder  hwnnw'n aml yn gallu cael ei gyfleu fel hunanbwysigrwydd. Ta waeth...

11%. Mae hynny’n llai na Sir y Fflint. Go figure.

Ac os dyna’r ‘dyfodol’ disglair y mae rhai’n ei addo, pan gyfeiriant at ‘ffyniant’ y Gymraeg yn y brifddinas - mai hwnnw ydi'r peth y dylem ymhyderu ynddo, yn obaith i Gymru gyfan - mi gânt ei gadw. Byddai’n well gen i farwolaeth yr iaith na’n bod yn gweld y sefyllfa druenus pan fydd y Cymry Cymraeg yn 11% yng Ngwynedd neu Fôn ... neu hyd yn oed yn Nyfed o ran hynny. A dwi’n meddwl, pan ddaw ati, dyna sy’n fy nghorddi fwyaf. Mae llawer o Gymry Cymraeg Caerdydd, boed yn frodorion y ddinas neu’n bobl sydd wedi symud yno, yn meddwl ei bod yn esiampl dda o ran y Gymraeg. Dwi’n meddwl bod Caerdydd, pan mae’n dod ati, jyst yn dangos pa mor erchyll o ymylol y gallasai'r Cymry Cymraeg fod yn eu gwlad eu hunain un diwrnod.

Ond waeth i mi orffen ar nodyn cadarnhaol ac ategu’r hyn a ddywedais i ddechrau. Mae Caerdydd yn ffantastig – dwi ddim yn beio neb am fod isio byw yno, yn enwedig pan fônt yn ifanc ac isio gwneud drygioni. Dwi wedi treulio blynyddoedd hapusaf fy mywyd yn yr hen ddinas ddrwg ‘na. Ond o godi ‘mhen o’r swigen, mi alla i weld yr ochr arall, lai dymunol, iddi, ac yn sicr byddwn i byth bythoedd isio i’r gogledd na’r gorllewin ei hefelychu, achos yn y bôn, mae un Caerdydd yn ddigon.
 

21 commenti:

Unknown ha detto...
Questo commento è stato eliminato dall'autore.
Cai Larsen ha detto...


Pan dwi ddim yng Nghaernarfon dwi'n tueddu i fod yn Nhreganna - ac mi rwyt ti'n clywed y Gymraeg yn weddol aml yng Ngorllewin Treganna - yn sicr llawer mwy nag oeddyt pan es i yno gyntaf - 35 o flynyddoedd yn ol bellach. Go wir.

Yn fy Myd bach i mae'r Gymraeg yn g'neud yn o lew - C/narfon a Threganna.

Hogyn o Rachub ha detto...

Braf arnat yn rhannu dy amser rhwng tref Gymreiciaf Gwynedd a'r rhan Gymreiciaf o Gaerdydd! Prin fydda i yn mentro i Dreganna ond dwi'n fodlon cyfadda fy mod yn clywed Cymraeg yno. Mewn rhannau pendol ohoni.

Dwi'n siŵr dy fod yn derbyn fodd bynnag nag eithriad ydi (rhannau o) Treganna. Nei di ddim clywed Cymraeg yn feunydd unman arall, ddim hyd yn oed Grangetown (ac os ti yn ti fel arfer efo syniad pwy ydyn nhw) sy'n aml yn cael ei chrybwyll fel ardal â lot o Gymry Cymraeg.

Fyddai'n ddiddorol gen i wybod pwy sy'n cytuno ac anghytuno â mi a'u cysylltiad â'r ddinas.

Cai Larsen ha detto...

A dweud y gwir ond i Dreganna a'r canol fydda i'n mynd llawer. Mi glywi di'r Gymraeg yn y canol - yn arbennig mewn llefydd fel John Lewis. Ikea yn lle da am Gymraeg hefyd. Mae'n amlwg pam.

Mi glywi di Gymraeg ym Mhontcanna - yn arbennig yn nhafarnau'r cylch. Fydda i ddom yn mynd i'r Eglwys Newydd yn aml, ond dwi wedi clywed Cymraeg bron pob tro dwi wedi bod yno.

Hogyn o Rachub ha detto...

Swni'n tueddu i stwffio Pontcanna a Threganna yn yr un ardal. Ond rhaid imi ddeud bod dy brofiada di a fi yn wahanol iawn felly. Fydda i yn ganol dre yn o aml a phrin iawn, iawn dwi'n clywed Cymraeg yno. Wir-yr. Mae hi i'w chlywed mewn pybs ac ati dros y penwsos yn y canol, ond yn fy mhrofiad i gan amlaf gan bobol dwi rywsut yn eu nabod neu y mae gen i ryw fath o syniad pwy ydyn nhw.

Ella bydd rhaid imi jyst dechrau siopa yn John Lewis

Anonimo ha detto...

Dwi'n credu dy fod ti'n hynod o harsh ar Gaerdydd a'r pobl sy'n byw yma. Dwi'n dod o'r cymoedd a dwi'n defnyddio'r gymraeg yn ddyddiol yma, yn fy ngwaith, yn y siopau ac yn y blan. Wyt ti am i ni'r Cymry beidio a chymdeithasu yn y Gymraeg yng Ngaerdydd? Wyt ti am i ni symud i'r fro Gymraeg (er fod nifer erioed di byw yna)?

A gwn dy fod ti'n casau CF1 ond fel cyn aelod gwyddwn fod nifer o'r aelodau wedi defnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol am y tro cyntaf trwy ymuno. Does bosib fod hwn yn beth da?

Credaf dy fod ti braidd yn anheg dweud nad oes cymuned yma.Wyt ti wei magu teulu yma? Ma na sawl ochr i'r ddinas a ma'r hyn wyt ti wedi brofi yn wahanol iawn i'r cymuned yr wyf yn perthyn iddo yma.

Gad lonydd i'r pobl sy' wedi penderfynu byw yma.

Cai Larsen ha detto...

Mae Pontcanna a Threganna yn agos at ei gilydd yn ddaearyddol, ond mae Pontcanna (neu'r rhan fwyaf ohono) yn ward Glan yr Afon). Mae yna tua 1,800 o siaradwyr Cymraeg yn Nhreganna - rhif (nid canran wrth gwrs) gweddol agos at nifer o wardiau Cymreiciaf Gwynedd, a 1,600 yng Nglan yr Afon - y rhan fwyaf ym Mhontcanna mi dybiwn.

Mi'r oeddwn i yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn - mi gerddais i o'r canol i Dreganna - ar y daith mi glywais i bobl yn siarad y Gymraeg yn St David's 2, yr Hayes, Pont Treganna (dau foi ifanc yn rhedeg ac efo acenion ysgolion Cymraeg y De Ddwyrain), Cathedral Road (ond roeddwn wedi mynd i weld y mab yn ei waith ac mae nifer o'i gydweithwyr yn siaradwyr Cymraeg), nifer o bobl yn Chapter, boi efo plentyn bach oedd yn ei ateb yn Saesneg yn Tesco Clive Road a rhyw foi oedd yn arfer actio yn pobl y Cwm yn y Clive Arms.

Dwi'n swnio fel wierdo braidd yn tydw?

Dafydd Tomos ha detto...

Fel rhywun sydd wedi symud i Gaerdydd o'r "Fro" mae dy safbwynt yn un diddorol ac yn sicr mi fydd yn naturiol i ti deimlo ysfa i fynd 'adre'. Wrth gwrs dyw hyn ddim yn adlewyrchu profiad pobl sydd ddim yn rhan o'r clique 'Cymry'r Coleg' sy wedi dod i'r brifysgol yng Nghaerdydd a wedyn teimlo euogrwydd.

(Yn fy mhrofiad i o'r 90au roedd gogs yn dod i'r coleg yng Nghaerdydd a chymdeithasu gyda'i gilydd yn union fel tasen nhw adre, tra fod siaradwyr Cymraeg lleol yn cymdeithasu gyda cymuned ehangach).

Fel dinas gyda poblogaeth o 300,000+ alli di ddim trin Caerdydd fel pentre neu dref yng Nghwynedd. Mae'n cyfres o bentrefi gyda gwahanol gymunedau yn ffurfio mewn gwahanol ardaloedd. Mae hynny yn newid ychydig gan fod addysg Gymraeg yn ehangu i bob ardal ond mae yna raniadau dosbarth a galwedigaethol yn parhau.

Fe ges i fy ngheni a magu yng Nghaerdydd a byw mewn byd cwbl Gymraeg (neu 'bybl/ghetto') am naw mlynedd. Wrth gwrs mae'n anos gwneud hynny fel oedolyn ond mae hyn yn wir am unrhywle yng Nghymru erbyn hyn.

Roeddwn i'n clywed fwy o saesneg yn Abertawe/Sir Gaerfyrddin lle mae teulu estynedig fy rhieni yn byw (nid y genhedlaeth hŷn yn unig ond rhai canghennau y teulu o'r un genhedlaeth a fi e.e. ugeiniau/tridegau). Mae nifer o resymau am hynny sy'n bwnc am ddiwrnod arall.

Pan symudes i Fangor yn naw oed (yn yr 80au), fe glywes i fwy o saesneg yn yr ysgol gynradd Gymraeg yna nag yng Nghaerdydd - a roedd hynny am fod fwy o gymysgedd o ddosbarth canol/gweithiol.

Ond ym Mangor, roedd yn bosib dechrau sgwrs yn Gymraeg a siawns go dda y byddai'r person arall yn deall. Dwi'n gwybod nad yw hyn yr un mor wir heddiw.

Nawr dyw hyn i gyd ddim yn ateb dy bwyntiau di yn benodol am fod dy brofiadau di yn rhai dilys. Ond fel rhywun a symudodd 'y ffordd arall' ar draws Cymru o'n i am yn gynnig safbwynt arall.

Cai Larsen ha detto...

Diddorol Dafydd - ond a bod yn deg dydi Bangor ddim yn nodweddiadol o weddill gogledd Gwynedd.

Anonimo ha detto...

Rwy'n dod o gwm Rhondda yn wreiddiol ac yn cytuno'n llwyr... Mae 'na rhyw ymdeimlad ffals yn perthyn i Gaerdydd. Bydd well gen i weld mwy o ddigwyddiadau/gigs ac ati yn llefydd fel Pontypridd neu Ferthyr!

Hogyn o Rachub ha detto...

Diolch Dafydd. Dwi'n gwerthfawrogi safbwyntiau pobl eraill ar bethau fel hyn achos dwi bendant ddim yn awdurdod arno! Ac mae'n ddiddorol imi, gan fy mod i yn bendant yn y clîc/rhwydwaith/bybl.

Yn gryno iawn yr hyn dwi'n ei ddeud ac sy'n fy nghorddi ydi: mae lot o bobl yn dal Caerdydd fel rhywle lle mae dyfodol disglair i'r iaith, ond y gwir ydi i mi ma'r Gymraeg yn wan iawn yma (hyd yn oed os ydi hi wedi cryfhau) a swni byth isio i'r Cymry Cymraeg fod yn lleiafrif mor fach yn y gogs a'r gorllewin ag ydyn nhw yn y brifddinas. Byddai hynny jyst yn torri 'nghalon.

Hyd yn oed yn fwy nag CF1 yn ennill Côr y Byd...

Cai Larsen ha detto...

Dwi ddim yn anghytuno efo dim o hynna HOR - ond ella bod chdi braidd yn fwy negyddol na na sydd rhaid bod am Gymreictod C/dydd.

Gwyn Llewelyn ha detto...

Helo Hogyn o Rachub, blogiad hynod ddiddorol.

O ran faint o Gymraeg mae rhywun yn ei glywed ar strydoedd Caerdydd, does gen i ddim llawer o awdurdod dros y mater achos dydw i erioed wedi byw yn y ddinas, dim ond wedi bod yno ambell waith dros y blynyddoedd. Ond o ran hynny o beth dwi'n tueddu i gytuno â thi - prin iawn yw'r sgyrsiau Cymraeg dwi'n clywed ar strydoedd Caerdydd oni bai, fel ti'n deud, dy fod yn mynd i lefydd penodol.

Rwyf hefyd yn cytuno bod pobl mewn dinasoedd, er bod 'na gymaint mwy o bethau i'w gwneud yno, yn tueddu i fynd i'r un llefydd bob tro, at bobl sydd 'run fath â hwy. Roeddwn i'n ffeindio fy hun yn syrthio i'r un trap tra'n byw ym Manceinion ychydig flynyddoedd yn ôl. Dwi hefyd felly'n gyfarwydd iawn â'r teimlad o ddychwelyd i fro dy febyd, a'r ffaith bod amser yn dod pryd mae'n teimlo'n "iawn" i wneud hynny.

Ond fy rheswm pennaf dros sgwennu yw i wneud sylwad ar y pwynt wnes di bod yr iaith Gymraeg fwy dy angen di yma yng Ngwynedd nag yng Nghaerdydd, gan fod yr iaith wedi edwino yma ers cyfrifiad 2001 - trafodaeth gymhleth. Yn yr ychydig amser dwi wedi ei dreulio yng Nghaerdydd, dwi wedi dod i nabod nifer o Gymry Cymraeg sydd wedi symud yno i fyw o ardaloedd sydd yn fwy traddodiadol Gymraeg - dwi'n canlyn un ohonyn nhw. Dwi wedi dod i'r canlyniad ei fod o'n beth ofnadwy o bwysig i'r iaith i gael siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas, yn enwedig rhai fel ti sydd mewn swyddi sydd yn ymwneud â'r iaith - boed yn swyddi gwleidyddol, llenyddol, addysgol, swyddi cyfieithu neu swyddi i'w gwneud â'r cyfryngau. Mae eu dylanwad yn y ddinas yn llifo allan i weddill y wlad drwy'r sianeli ieithyddol hyn - radio, teledu, polisïau addysg, grym wleidyddol mewn polisïau iaith, a.y.b. Yn fy mhrofiad i, dim ond un person angerddol mae'n cymryd mewn pencadlys cwmni i gyflwyno ei agenda Cymraeg ei hun i'r cwnni (ar ei liwt ei hun), a mae pethau'n dechrau newid digon sydyn.

Mae prifddinas yn ganolbwynt gwlad mewn gymaint o foddau gwahanol, a mewn ffordd dwi'n teimlo eich bod chi Ogleddwyr Cymraeg yn y brifddinas yno ar genhadaeth ieithyddol, eich bod chi yno'n hybu'r Gymraeg ymysg y brodorion, sydd yn ei dro'n mynd i hybu'r iaith i'r wlad gyfan. Ond bosib bod hynny'n annheg ar siaradwyr Cymraeg cynhenid Caerdydd.

Dwi hefyd yn anghytuno efo'r gymhariaeth rhwng siaradwyr Caerdydd â niferoedd Ceredigion a chanran Fflint. Hynny yw, dwi'n meddwl dy fod ti'n anghofio'r ddadl ddaearyddol yma. Mae cael 11% o siaradwyr Cymraeg mewn lle sydd efo poblogaeth mor ddwys â Chaerdydd yn llawer mwy buddiol i'r iaith na'r un faint o bobl wedi eu gwasgaru dros Geredigion, sy'n un o siroedd mwya'r wlad. Y mwyaf agos yw pobl yn ddaearyddol, y mwyaf o ryngweithio sy'n digwydd, rhannu syniadau, cymdeithasu. Er ein bod ni mewn oes y rhyngrwyd mae hyn dal yn wir. Yn yr un ffordd ac mae cysylltau trafnidiaeth cryf yn hwyluso economi, mae hefyd yn hwyluso datblygiad cymdeithas - a chei di ddim cyswllt trafnidiaeth cryfach na bod 10 munud ar droed i ffwrdd o bobl eraill. Un enghraifft o rym agosrwydd yw meddwl am yr holl genedlaetholwyr Gwyddelig oedd mewn un lle bach (Frongoch!) a ddaru ffurfio'r IRA bron i ganrif yn ôl. Buasai hynny byth wedi digwydd pe baent dal yn eu ffermydd yng nghefn gwlad Iwerddon. Nid fy mod i'n cymharu siaradwyr Cymraeg Caerdydd â'r IRA, wrth gwrs! Ond mae'r un egwyddor yn sefyll, sef bod uno pobl yn ddaearyddol yn caniatáu i bethau ddigwydd, i arbrofi, i syniadau dreiddio, i gylchoedd sefydlu, ac ati. Felly dwi'n meddwl ei fod o'n werth colli dipyn o bobl o ardaloedd mwyaf Cymraeg y wlad er mwyn llenwi'r swyddi ieithyddol rhain.

Ond wrth gwrs, ble bynnag y mynni fyw yn y dyfodol, dymunaf y gorau i ti.

Hwyl.

BangorLad ha detto...

Peth peryg ydi delio mewn canranau. Fyddai byth yn trystio nhw fy hun. Well gen i ddibynnu ar fy nghlust ac o be glywai o gwmpas lle yn Gaerdydd mae'r iaith yn neud yn olreit. Dwi hyd yn oed di cael saer yn trio conio fi yn Gymraeg. Os ydan ni isio'r Gymraeg ffynnu yna dwi'n credu bod raid iddi fod yn iaith ddinesig sy'n cael ei defnyddio o fewn ein prif sefydliadau, a gan ambell rogue trader.

Hogyn o Rachub ha detto...

Dwi am ymateb yn frysiog i rai o’r sylwadau uchod

@Cai
Dwi ddim yn meddwl fy mod i’n bod yn negyddol a dweud y gwir – dwi’n meddwl bod y darlun dwi’n ei lunio uchod yn un cywir (er, cywir yn fy mhrofiad i ydi o, dwi’n derbyn hynny). Ond mi fentra i ddweud y gallwn i fod wedi bod yn llawer llymach ar Gymry Cymraeg Caerdydd heb fod yn annheg arnyn nhw. Ta waeth, wela’ i fawr o bwynt gwneud hynny a dwi ddim am ei wneud chwaith achos mi fyddai hynny’n swnio’n chwerw, a hynny heb reswm achos ‘sgen i ddim atgasedd tuag atyn nhw o gwbl. Myn uffarn i, dwi’n LICIO nhw!

@ Bangorlad
Fydda i hefyd yn trystio fy nghlust, a dyma un o wreiddiau’r rant. Ydi’r iaith yn amlycach nag y bu? Yndi. Ydi hi mor amlwg ag y mae pobl Caerdydd yn meddwl ei bod? Nac ydi. Mi wnes i synnu o brofiad diweddar Cai o glywed cymaint o Gymraeg yno (dwi’n ei goelio fo, gyda llaw – ond taswn i’n clywed cymaint â hynny mewn un diwrnod gan bobl randym swni’n cael sioc a dwi’n byw yma ers 10 mlynedd!). Ond mae’r ganran YN bwysig hefyd – dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig tu hwnt inni fod yn fwyafrif yn RHYWLE yn hytrach na bod yn lleiafrif YMHOBMAN. Alla i ddim pwysleisio hynny digon.

@Gwyn Llewelyn
Diolch am gymryd yr amser i fod mor fanwl yn ymateb. Tydw i ddim yn anghytuno â’r hyn yr wyt ti’n ei ddweud. Fyddwn i byth yn anghytuno â’r ffaith ei bod yn bwysig cael presenoldeb i’r iaith yn y brifddinas. Dwi’n meddwl bod y ddadl ddaearyddol yn cael ei negyddu braidd gan maint y boblogaeth h.y. er bod y Cymry Cymraeg yn agosach at ei gilydd yng Nghaerdydd nag yng Ngheredigion, ti’n llai tebygol o ddod ar draws siaradwr Cymraeg ar hap yn y brifddinas nag wyt ti yng Ngheredigion. Dyma pam fo’r rhwydwaith Cymraeg yno – mae o’n un llwyddiannus iawn – ond y pwynt ydi dwi ddim yn meddwl bod gan Gymry Cymraeg Caerdydd hyd yn oed fymryn o amgyffred o jyst faint o leiafrif ydyn nhw yma. A dwi’m yn meddwl bod lot rili’n amgyffred y newidiadau ieithyddol sy’n digwydd yng ngweddill Cymru, neu eu bod yn eu hanwybyddu achos mae’n hawdd gallu gwneud hynny yng Nghaerdydd (ac yn lot llai poenus).
Hefyd oherwydd y dwysedd poblogaeth cyffredinol yng Nghaerdydd mae’r Cymry Cymraeg actiwli yn rhy wasgaredig ar y cyfan i effeithio ar y ddinas mewn ffordd ystyrlon. Ystyria hyn – petai’r CC yn 20% cyson ledled Cymru, fydda ni’n hollol ddi-lais e.e. fyddai Plaid Cymru byth wedi cael seddi yn San Steffan a byddai ond ganddi rai rhanbarthol yn y Cynulliad. Y mae dwysedd yn dda, ond mae’r ganran a’r mwyafrif sydd gennym mewn rhai llefydd yn hanfodol bwysig.
Hefyd o ran y swyddi ieithyddol, cofia di fod llawer o swyddi ieithyddol wedi’u lleoli yng Nghaerdydd ers blynyddoedd (ers sefydlu S4C yn yr 80au), a dydi hynny ddim wedi treiddio i ardaloedd eraill hyd yn oed y mymryn lleiaf. Yn bersonol dwi’m yn cytuno ei fod yn iawn i’r ardaloedd Cymraeg wanychu i gryfhau’r iaith yng Nghaerdydd. Wedi’r cyfan, does ‘na ddim lot ohonyn nhw ar ôl – wedi iddyn nhw sychu fyny fydd ‘na neb i Gymreigio Caerdydd wedyn, ac mae’r mewnlifiad o’r Fro yn HANFODOL wrth Gymreigio Caerdydd.

Gyda llaw, dwi’n meddwl bod ambell un wedi cymryd yn f’erbyn yn mynnu nad oes ‘cymuned’ Gymraeg yng Nghaerdydd eithr rhwydwaith. Dwi’n hollol dal at hynny. Ond mae’r rhwydwaith YN BETH DA IAWN IAWN. Mae’n o’n dod â Chymry Cymraeg at ei gilydd a hebddo byddai’r iaith i’w chlywed a’i gweld hyd yn oed yn llai. Ond rhwydwaith ydi hi, atalnod llawn.

@Dienw 10:00PM 6/01/14
Dwi ddim yn “casáu” CF1 gyda llaw. Ond mae’n rhaid iddyn nhw stopio dawnsio wrth ganu. Dydi hyn ddim yn iawn mewn unrhyw gyd-destun corawl.

Ta waeth, fedra i ddim dweud hyn efo sicrwydd, ond o’r sgyrsiau dwi wedi’u cael ers blogio hyn – ar Twitter ac yn y byd go iawn (wir, dwi efo bywyd yn y byd go iawn!) y duedd dwi’n ei ffeindio ydi bod pobl o'r tu allan i Gaerdydd yn tueddu i gytuno, ond pobl Caerdydd a phobl sydd â gwreiddiau o ryw fath yno, yn tueddu i anghytuno. Er dwnim pam y byddai hynny’n syndod!

Ioan ha detto...

Dwi'n dueddol o gytuno ychydig efo pawb. Mi esi i'r coleg yno yng ngychwyn y Nawdegau (fel mae Dafydd Tomos yn ei ddisgrifio - rhan fwyaf o'm ffrindiau o'r gogledd), a byw yno tan tua deg mlynedd yn ol, cyn symud nol i'r gogledd ollewin.

Dwi yn methu'r teimlad optimistaidd (gor?) oedd yng Nghaerdydd - ysgolion yn agor, tafarnau lle ti'n siwr o glywed Cymraeg, siopau efo mwy a mwy o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio, ond mae'r cynydd anferth yn y Gymraeg wedi digwydd yr un pryd a chynydd anferth cyffrediol yng Ngherdydd - mae na fwy o ddi-Gymraeg yng Ngaerdydd heddiw na fu erioed (o ran nifer).

O ran profiad Cai o ardal Pontcanna, mi gefais i brofiad tybyg tua blwyddyn yn ol, ond hyd yn oed mwy cymreig - ffliwc ystadegol dwi'n siwr, ond pan nes i glywed plentyn yn siarad Saesneg, mi wnes i edrych ddwywaith..!

Anonimo ha detto...

Cytuno gyda dy flog 100% Hogyn - fel rhywun bu yn y brifddinas am rhai blynyddoedd cyn symud yn ôl i Sir Gâr. A chyn i neb ymosod, dwi'n dwli ar y Diff ac mae'n nheulu gyfan i'n byw yno.

Rhwydwaith yw Cymry Cymraeg Caerdydd, nid Cymuned. Mae cymuned yn cynnwys pobl o wahanol cefndiroedd, a gwahanol diddordebau. Mae cymharu Aelwyd y Waun Ddyfal gyda unrhyw un o 24 o glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn ddangos y gwahaniaeth rhwng "rhwydwaith" a "chymuned". Mae rhan fwyaf o aelodau Waun Ddyfal yn dod o gefndiroedd tebyg ac yn sicr i gyd yn rhannu'r un diddordebau o ran Cerddoriaeth. Mae Clwb Ffermwyr Ifanc yn cynnwys pwy bynnag sy'n digwydd fod yn byw mewn ardal boed yn cyfreithwyr, ffermwyr, seiri, cyfrifydd, ac yn aml iawn mae ganddynt diddordebau gwahanol iawn - dyna pam mae rhaid i C.Ff.I neud bach o pob dim - er mwyn cadw pawb yn hapus. Mae Aelwyd y Waun Ddyfal yn cadw at fod yn Gôr gan fod pobl gyda diddordebau gwahanol yn mynd at grwpiau arbenigol eraill sy'n bodoli mewn dinas seis Caerdydd.

@BangorLad

Rwy'n anghytuno gyda'r dywediad hyn BAngorlad:-

"Mae cael 11% o siaradwyr Cymraeg mewn lle sydd efo poblogaeth mor ddwys â Chaerdydd yn llawer mwy buddiol i'r iaith na'r un faint o bobl wedi eu gwasgaru dros Geredigion, sy'n un o siroedd mwya'r wlad."

Anghytuno yn llwyr, heb y dwysedd o siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion, Sir Gâr, Gwynedd a Môn, byddai'r pobl ifanc sy'n symud i'r brifddinas yn monoglot Saesneg ac felly byddai'r canran y Brifddinas yn cwmpo yn syth. Rhaid amddiffyn yr hen Fro Gymraeg ble mae pobl ifanc yn cael clywed a siarad y Gymraeg yn rheolaidd er mwyn dod yn hollol rhugl.

Bangorlad ha detto...

@Anonimo Rhag i fi gael fy ngham ddyfynnu nid fi ddwedodd yr uchod ond un o'r postwyr erill. Ar y pwynt cymunedol dwi yn credu bod Hogyn o Rachub yn anghywir. Ddeng mlynedd yn ol mi faswn i wedi lled gytuno ond wrth fynd yn hyn dwi wedi gweld agweddau gwahanol i Gymreictod Caerdydd sy'n dod a fi i gysylltiad efo pobl sydd ddim "union fel fi". Dydi o ddim mor anhebyg yn yr ystyr hynny i'r dref lle ges i'n magu yn y gogledd orllewin. A falle dyna'r pwynt, bod na wahaniaeth mawr yn y diffiniad o gymuned mewn ardal drefol a wledig. Allai feddwl am un cymuned Gymraeg eu hiaith dwi'n gyfarwydd iawn a hi (eto yn y gogledd orllewin) lle faswn i'n teimlo'n uffernol o anghyffyrddus yn ei thafarndai achos bo fi ddim yn un ohonyn nhw. Doedd na fawr o groeso yn y pentref penodol hwnnw, ar fwy nag un achlysur, er bo fi'n siarad yr un iaith a'r locals. Rho i fi Dreganna unrhyw ddydd dros fanno.

Unknown ha detto...

Bob tro fi'n mynd i Gaerdydd, fi'n clywed ac yn siarad Cymraeg.

Fi'n dod o Sir Gâr ac yn symud i'r prif ddinas eleni. Rwy'n gobeithio cadw'r gwrieddiau Cymraeg gan mai gradd Cymraeg yr wyf wedi gwneud yn prifysgol.

Mae 'da fi teimladau cymysg ar ôl gweld yr holl fwdan yma, "Ydy Caerdydd yn 'cymuned' neu 'rhwydwaith' Cymraeg?"...

Mae ymdrech yn fwyaf bwysig o ran cynnal iaith ac ar gyfer ei dyfodol, dyna beth sydd eisiau fi'n credu.

Edrych ymlaen i weld y ddinas mawr...

Rhys Llwyd ha detto...

Dwi wedi blogio mewn ymateb. http://blog.rhysllwyd.com/?p=2630

Pryd da ni am ladd y llo Pasgedig a dy groesawu yn ôl?

Anonimo ha detto...

Fe'm magwyd yn ardal Clifton Street y brifddinas, ardal ddosbarth gweithiol amlddiwyllianol; y Gymraeg yw fy iaith gyntaf. Mae fy Mam hefyd yn Gymraes Gymraeg a fagwyd yng Nghaerdydd. Dydyn ni ddim fodd bynnag yn gyfarwydd a 'chylchoedd Cymraeg' y brifddinas, ac yn perhtyn iddynt. Go brin bod yna lawer o bobl a phersbectif mwy cynhenid ar y mater felly! A heb os mae'n rhaid cytuno gyda'r Hogyn o Rachub. Ydy, mae'r Gymraeg yn gynhenid I Gaerdydd ac yn perthyn yno fel nad yw'r un iaith arall. Ond does dim dyfodol i'r iaith yno, ac mae hynny yn amlwg iawn I rywun yn fy safle I.