Bywyd
ymerodraethau sy’n ddifyr. Y peth ydi, mae pethau lu yn cael eu hysgrifennu am
y rhai mawrion, llwyddiannus – y rhai gorau os mynnwch (wn i y bydd yna ryw gont
yn darllen yn meddwl “ond mae ymerodraethau’n beth drwg!” ond go with the flow efo fi ar hwn, iawn?)
ac mae ‘na ymerodraethau eithaf blydi trawiadol wedi bod ar y ddaear: Rhufain,
Ymerodraeth y Qing, Persia, y Galiffiaeth Fwslimaidd ac, sori dweud, yr
Ymerodraeth Brydeinig, i enwi ond rhai.
Ond dydi
rhestru pethau da ddim yn hwyl. Mae yna ymerodraethau hynod shit wedi bodoli.
Roedd yn anodd cyfyngu’r rhestr i bump – pump na fydd pawb yn cytuno â nhw
ychwaith. Barodd Ymerodraeth Corea, er enghraifft, 13 mlynedd, sy’n llai na
hanner f’oedran i. Barodd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ganrifoedd heb adael ei
marc ar y byd. Roedd yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn siop siafins (yn
wahanol i’r dwyrain; Bysantiwm, a oedd, yn wahanol i’r gred, actiwli yn ôsym)
ac mae dwy ganrif olaf yr Otomaniaid yn rhai truenus tu hwnt.
Ond mae ‘na
shitiach na’r rhain. Dyma, yn fy marn i, bump o’r ymerodraethau mwyaf shit fu
erioed.
5. Ymerodraeth Denmarc (1536 – 1945)
Dwy elfen
sydd i shitrwydd Ymerodraeth Denmarc. Y gyntaf ydi’r gwledydd a reolai, a’r ail
yw’r gymhariaeth rhyngddi â gwledydd bychain eraill Ewrop.
Unig gyflawniad Denmarc |
Gadawsai
hynny Ddenmarc yn rheoli tair tiriogaeth sydd efallai’n llai brawychus na
thriawd y buarth: Gwlad yr Iâ, Ynysoedd Ffaröe a’r Ynys Las. I bob pwrpas, tri
lle doedd neb bron yn byw yno. A chollodd hi Wlad yr Iâ ar ddechrau’r ugeinfed
ganrif. Dydw i ddim yn siŵr i fod yn onest a oedd gan Ddenmarc unrhyw
ddiddordeb mewn bod yn ymerodraeth. Nath o jyst rywsut ddigwydd.
I fod yn deg,
gwnaeth hi ymdrech i ledaenu ei dylanwad i gyfandiroedd eraill. Roedd ganddi
gyfres o gaerau yn Affrica, pentrefi yn yr India ac ynysoedd bychain yn y
Caribî. Gwerthodd bob un i naill ai Prydain neu UDA, jyst achos ‘mynadd. Tra
bod gwledydd bychain eraill Ewrop fel Portiwgal a’r Iseldiroedd wedi
dyfalbarhau a chreu ymerodraethau go bwerus a wnaeth ambell waith beryglu
dylanwad gwledydd llawer mwy, ddaru Denmarc, yn benderfynol o fyth eisiau
cyflawni unrhyw beth erioed, ddim.
Wrth gwrs mae
hi dal yn berchen ar yr Ynys Las ac Ynysoedd y Ffaröe. A sôn am Pharoaid...
4. Yr Hen Aifft (3150 CC – 30 CC)
Wel, fydd hwn
ddim yn boblogaidd, ond dwi am ei ddweud o. Doedd yr Hen Aifft ddim hanner
cystal ag y mae pobl yn ei feddwl. Does â wnelo’i chynnwys yn y rhestr hon ddim
â’i hirhoedledd trawiadol, er bod ei hirhoedledd yn ychydig o fyth. Rhwng tua
3150 CC a 1500 CC fe’i rheolid gan linachau brodorol ond treuliodd y fil a
hanner o flynyddoedd nesaf yn cael ei chwipio’n ddidrugaredd gan bawb arall o’r
Asyriaid, y Babyloniaid, y Persiaid, y Groegiaid a’r Rhufeiniaid – a dydi hynny
ddim yn hanner y rhestr. Wnaethon nhw hyd yn oed gael eu cymryd drosodd gan
grŵp o’r enw’r Hyksos, nad oeddent yn
wreiddiol ond yn grŵp o fewnfudwyr. Peidiwch â dweud hynny wrth UKIP.
'Mond rhain oedd hi |
Hefyd,
lwyddodd yr Aifft ddim dinistrio unrhyw un o’i gelynion niferus ei hun. O gwbl.
Cafodd pob un o’i gwrthwynebwyr eu llwyr drechu gan ffactorau mewnol neu gan
wledydd eraill. Roedd Pharoaid yr Aifft yn dilyn polisi ynysol caeth ac yn
canolbwyntio ar ddwyn deunydd adeiladu o feddrodau eu rhagflaenwyr i greu gorffwysfannau
godidocach iddyn nhw eu hunain yn hytrach na chymryd drosodd y byd. Na, ddim
jôc wael ydi honno, roedden nhw wir yn gwneud hynny – i’r fath raddau dyna oedd
ffawd terfynol Amarna, sef blydi prifddinas
yr hen Aifft am gyfnod. Yn wir, y pellaf aeth dylanwad yr Aifft oedd Syria,
a hynny drwy gyfres o wladwriaethau a dalodd deyrnged iddi yn hytrach nag
actiwli concro rhywun. Ac roedd y gwladwriaethau bychain hynny fel y gwynt beth
bynnag, yn newid eu teyrngarwch i ba bwy bynnag a fyddai’n rhoi’r fantais
fyrdymor orau iddynt.
Ar y cyfan,
ddatblygodd yr Aifft fawr ddim dros y cyfnod ychwaith, naill ai’n filwrol, yn
gymdeithasol, yn wyddonol, yn wleidyddol nac yn ddeallusol – o ystyried am ba
hyd y parodd, ac i wareiddiadau eraill ac ifancach ei hoes ei llwyr goddiweddyd
ym mhob un o’r agweddau hynny, ni ellir ond â dod i’r casgliad fod yr hen
Aifft, er gwaetha’i henw da a’r rhyfeddod y mae’n ei ennyn, yn sylweddol fwy
shit na’r realiti.
3. Ymerodraeth yr Eidal (1886 -1943)
Fel rhywun â
gwaed Eidalaidd ynddo ac sydd â hoffter at yr Eidal i’r graddau fe’m harswydwyd
gan y syniad o Gymru’n chwarae’r Eidal yn Ewro 2016, dydi hwn ddim yr hawsaf i’w
chynnwys ar y rhestr hon, ond ei chynnwys sy’n rhaid. I feddwl mai Eidalwyr,
mewn ffordd, ydi puraf ddisgynyddion y Rhufeiniaid – sefydlwyr enwocaf yr
ymerodraethau – mae’n rhyfeddol faint o gachfa wnaethon nhw pan geision nhw
ailsefydlu Mare Nostrum fil a hanner
o flynyddoedd yn ddiweddarach. O leiaf fod gan yr hen Aifft yr esgus o fodoli
ym mhlentyndod gwareiddiad a bod Denmarc yn fach, oer ac, wel, Denmarc ydi hi. Gan
hynny, wrth feddwl am bobloedd trefnus, cyfrwys a blydi peryg y byd, nid yr
Eidalwyr ydi’r gyntaf ohonynt i ddod i’r meddwl. A dyna wraidd y broblem.
Roedd dechrau
Ymerodraeth yr Eidal yn un pur bathetig. Pan ddechreuodd Ewrop droi ei sylw at
Affrica tua thraean olaf y 19eg ganrif, roedd yr Eidal eisoes yn llygadu
Tiwnisia, ond daeth i’r amlwg fod Ffrainc hefyd â’i bryd ar y dalaith (talaith
Otoman oedd hi, ar adeg yr oedd yr ymerodraeth honno wedi dirywio i fod yn
destun gwawd). Mewn panig, cynigiodd yr Eidal ei rheoli ar y cyd â Ffrainc, a wnaeth
heb unrhyw syndod i unrhyw un heblaw am yr Eidal wrthod y cais. Hawliodd
Ffrainc Diwnisia a phwdodd yr Eidal.
Ar ôl degawd
o bendroni sut ddiawl aeth y cynllun hwnnw o chwith, mi ddygodd hi borthladd
oddi wrth yr Eifftiaid ym 1886, sydd rywsut yn eithriadol o bitw o beth i’w wneud.
Wnaeth hi ddim hyd yn oed llwyddo gwneud hyn ar ei phen ei hun, gan gael ei
chynorthwyo gan Brydain. Yn hyderus tu hwnt ar ôl y llwyddiant ysgubol hwn, ymosododd
ar Ethiopia (yn ymerodraeth ynddi’i hun) a chafodd gweir ddwywaith wrth geisio
gwneud hynny – yr unig rym Ewropeaidd i golli rhyfel yn erbyn gwlad
Affricanaidd. Wrth gwrs, llwyddodd i hawlio Ethiopia ym 1936 am bum mlynedd
ogoneddus.
"Ymerodraeth yr Eidal" |
Erbyn 1940
roedd yr Eidal hefyd yn rheoli Libya ac Albania (jyst abowt yn yr ail achos) cyn
mynd i ryfel â Groeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth ymgyrch honno mor wael, a
hynny’n erbyn gwlad sylweddol lai na hi, fel y bu’n rhaid i Hitler atgyfeirio
byddinoedd i’w helpu. Canlyniad uniongyrchol hynny oedd y bu’n rhaid iddo oedi
wrth ymosod ar Rwsia am rai wythnosau hir – ac mi wyddoch chi beth ddigwyddodd
oherwydd hynny.
Roedd
Ymerodraeth yr Eidal mor shit fel y cyfrannodd hi’n sylweddol at drechu’r
Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac o ystyried ei bod hi ar yr un ochr â
nhw, mae hynny’n ddiawledig o ddiawledig.
2. Ymerodraeth Canolbarth Affrica
(1976 - 1979)
Dydi
ymerodraethau ddim fel rheol yn cael eu sefydlu oherwydd bod un person yn gwbl,
ddidrugaredd o wallgof, ac efallai nad ydi hon mewn difrif yn cyfrif fel
‘ymerodraeth’ yng ngwir ystyr y gair ond mae’r holl beth mor hurt o wirion
rhaid iddo fod ar y rhestr.
Jean-Bédel
Bokassa oedd unben Gweriniaeth Canolbarth Affrica – sy’n bodoli hyd heddiw. Yn
ddigon annymunol ac ystrydebol ‘unben Affricanaidd’ ei naws mi benderfynodd ar
hap ym 1976 y byddai’n well ganddo gael ei gyfeirio ato fel Ymerawdwr nag Arlywydd, er bod Ffycin Nytar
yn sylweddol fwy addas. Felly dyna wnaeth o – newid enw’r wlad ac enw’i deitl.
Newidiodd o fod yn Fwslim i fod yn Gatholig hefyd ar yr un pryd, fwy na thebyg
nid oherwydd unrhyw ddaliadau crefyddol diffuant cymaint â’r ffaith ei fod o
jyst isio. Mae unbeniaid yn tueddu i fod yn bobl sy’n gwneud rhywbeth “jyst achos”.
Gwariodd yr
Ymerawdwr Bokassa draean o incwm y wlad ar y seremoni goroni, ac er iddo wahodd
llu o arweinwyr tramor ddaeth yr un ohonyn nhw iddi. Ei ymateb i hyn oedd cwyno
bod pawb arall wedi cadw draw am eu bod nhw’n pwdu fod ganddo ymerodraeth, a
hwythau heb un. O ddiystyru’r ffaith ei fod yn llofrudd seicopathig, mae
hynny’n eithaf ciwt.
Gorsedd Bokassa yn ei goroni - ia, go iawn. |
Cafodd yr
ymerodraeth ei diddymu pan roedd coup
yn erbyn Bokassa pan oedd wrthi’n ymweld â Gaddafi ym 1979. Mae’n drist braidd
fod y wlad erioed wedi adfer ei hun o hynny a’i bod dal yn dioddef problemau
treisgar enbyd hyd heddiw, ond dydi hynny ddim yn esgusodi’r ffaith, yn nhermau
ymerodraethol, roedd Ymerodraeth Canolbarth Affrica’n hynod o shit.
1. Awstria-Hwngari (1867 – 1918)
O fy Nuw. Os
ydych chi wedi fy nghlywed i’n trafod hanes ar ôl peint neu ddau, dwi’n meddwl eich
bod wedi fy nghlywed yn gwawdio Awstria-Hwngari. Sgwrs bathetig gan berson
trist, mi wn. Ond waeth pa mor bathetig ydw i fel person, dwi’n well nag
Awstria-Hwngari.
Doedd eu
rhagflaenwyr, Ymerodraeth Awstria, ddim yn shit. Roedd honno’n ymerodraeth
ddiwylliedig ac, am gyfnod, rhyfeddol o ryddfrydol am ei hoes. Roedd hi hefyd
yn hanfodol wrth drechu’r Otomaniaid nid unwaith eithr dwywaith rhag rheibio i
berfeddion Ewrop. Ac er i Napoleon ei threchu ar faes y gad, roedd hi’n ddigon
cyfrwys i beidio â adael iddo fynd yn gwbl drech na hi a daeth allan o’r
rhyfeloedd hynny’n gryfach nag erioed. Yn fy marn i, mae’n anodd iawn, iawn
dychmygu Ewrop gyfoes heb gyfraniad Awstria. Sydd efallai uwch bopeth yn
adlewyrchu’n wael ar Hwngari.
Y gwir oedd
roedd Awstria-Hwngari’n hen ymerodraeth flêr, yn wleidyddol ac yn strwythurol a
heb unrhyw hunaniaeth a unodd bawb na chyfeiriad penodol, sy’n eithaf hanfodol
mewn ymerodraeth. Gellid dweud rhywfaint am ei natur amlethnig ond rhyw oddef
ei gilydd wnaeth bawb fu’n rhan ohoni yn hytrach na mwynhau, mae o ychydig fel
myfyrwyr sy’n byw efo pobl eraill sydd ar yr un cwrs â nhw yn hytrach na phobl
y maen nhw’n mynd ar y piss efo nhw. Roedd
hyd yn oed ymdrechion yr ymerodraeth i gydnabod pob iaith ac ethnigrwydd, er yn
ganmoladwy iawn, yn rhai aneffeithiol a arweiniodd at greu mwy o densiwn oddi
ynddi na dim arall ac a gyfrannodd yn fawr at ei diddymu yn y pen draw.
Yn filwrol,
ymladdodd Awstria-Hwngari ddim o gwbl tan y Rhyfel Byd Cyntaf lle roedd hi’n
eithaf aneffeithiol ac, rywsut, lleihaodd poblogaeth y moch yn yr ymerodraeth
gan 90% yn ystod y rhyfel hwnnw sy’n ystadegyn gwirion iawn sy’n gweddu
ymerodraeth wirion iawn.
Llun teuluol olaf Awstria-Hwngari |
Pan geisiodd
oresgynnu Serbia, collodd yr ymerodraeth dros hanner ei byddin yno, sy’n
wirioneddol ryfeddol o ystyried bod Awstria-Hwngari’n cael ei hystyried yn un o
bwerau mawrion y byd bryd hynny a bod Serbia yn un o wledydd lleiaf Ewrop y
pryd. Cafodd hunllef o ryfel ar y cyfan yn erbyn Rwsia (sef y Rwsia a fu’n
rhaid tynnu allan o’r rhyfel am iddi wneud mor wael). Wnaeth hi ddim hyd yn oed
llwyddo yn erbyn yr Eidalwyr (ia, nhw eto); yn wir, wnaeth hi mor wael ar
feysydd y gad yng nghyfnod olaf y rhyfel yn eu herbyn fel yr arweiniodd bron yn
uniongyrchol at ddiddymu’r ymerodraeth.
A dyna’r peth
mwyaf pathetig oll am yr ymerodraeth hon. Pan gododd y cyfle ym 1918 i
ddiddymu’r ymerodraeth roedd pawb eisiau gwneud hynny. Pawb, hyd yn oed yr
Awstriaid a’r Hwngariaid. Doedd yna ddim ymdrech o du neb i’w hachub. Gwnaeth
hyd yn oed y teulu brenhinol ddim ond am geisio’n wangalon ddod yn benaethiaid
ar Hwngari. Roedd hi’n ymerodraeth a gyflawnodd uffar o ddim, a wnaeth uffar o
ddim, ac a wywodd i fod yn uffarn o ddim heb fod gan neb uffarn o ots. A llai
na chanrif ers ei diwedd, does bron neb yn cofio amdani.
Awstria-Hwngari,
llongyfarchiadau – yn swyddogol yr Ymerodraeth Fwyaf Shit Erioed.