giovedì, aprile 20, 2006

Blogs Llawer Mwy Poblogaidd

Unwaith mewn lleuad las neu cyn amled a mae Plaid yn ennill ym Mlaenau Gwent yr ydw i'n blogio mwy nac unwaith y diwrnod ond dw i'n dechrau meddwi, so pam lai?

Dachi'n gwybod beth sy'n fy nghorddi? Pan ydach chi'n tagu wrth fwyta a mae rhywbeth dod allan o'ch ceg chi a dachi methu dod o hyd iddo fo? Ia, mi oeddwn i'n buta Pepperami (sef ceilliau gafr efo cont hwch) a dyma fi'n tagu dros y desg, yn llwyddo i gael cryn dipyn o Carling ar fy nghrys, ond hefyd yn llwyddo i chwythu allan darn bychan o'r aflangig. A dachi'n gwybod dachi'n siwr lle y glaniodd hi ond dydi hi byth yno? Dydi hi ddim, fel yr anghywirdybyiais, wrth y selotêp.

Fydda i'n licio meddwl bod 'na bobl yn darllen y blog 'ma. Mae rhywun, yn sicr (mae Haydn yn darllen un fi bob diwrnod yn ei waith. Dw i'n ceisio dweud rhywbeth am fy niwrnod iddo a mae'n troi rownd a dweud 'Wni nesi ddarllen o ar dy flog di, siwr braidd slaets swnd bacyn'. Erbyn hyn dani mond yn dweud helo wrth ein gilydd a gwenu'n gwrtais). Ond prin ydi'r rhai sy'n darllen blogiau Cymraeg, a rydym ni flogwyr oll yn ceisio efelychu Morfablog (yn hynod aflwyddiannus, a dweud y gwir).

Tua 22 o bobl, ar gyfartaledd, sy'n darllen fy mlog i y diwrnod (mae tua 75% wedi meddwi. Mae'r lleill yn bôrd neu dan ddylanwad cyffuriau). Dw i'n cofio dod o hyd i flog Saesneg yn ddiweddar oedd yn cael tua 13,000 o ymwelwyr y diwrnod. Rwan, dw i'm yn disgwyl unrhyw flog Cymraeg cael tairgwaith yr ymwelwyr y diwrnod a sy'n byw ym Methesda bob diwrnod OND byddan ni'n gallu gwneud yn well yn byddan? A pham lai? Mae blogs Cymraeg, ar y cyfan, yn eitha da, dw i'n meddwl. Dw i'n licio clwad hanesion personol Melynwy a chwerthin yn uchel i Geiriau Gwyllt. Dw i'n licio cael fy niddori gan Cwacian a Synfyfyrwraig a chadw i fyny efo Morfablog a'r Bachgen o Bontllanfraith. Ond eto, ar y cyfan, does 'na ddim llawer o bobl yn darllen blogs Cymraeg.

Morfablog ydi'r mwyaf llwyddiannus, mi gredaf, efo tua 45 o ymwelwyr pob diwrnod (os mae fy nghof yn gywir?). Ond efo 600,000 o bobl yn siarad Cymraeg, siwr fedrwn ni oll wneud yn well rhywsut?

Synfyfyrio'n y bore

Mai'n ugain munud i wyth yn y bora. Dw i wedi bod i fyny ers tua chwech er mwyn mynd a Dad a'r chwaer a Mam i'r orsaf drenau ym Mangor achos mae nhw'n mynd i Lundain, felly mae gennai'r hen le 'ma i fi fy hun ac am llawn ddefnyddio'r amser i yfed (dim cweit eto, chwaith).

Fydda i'n cael ysbrydoliaeth weithiau, a fe gefais i rhyw ysbrydoliaeth wrth ddarllen Mynydd Llwydiarth. Dwisho gwybod sut mae pobl yn dod o hyd i fy mlog i a'r pethau mae nhw'n teipio i mewn i peiriannau ymchwil er mwyn dod yma. A bod yn onast, mae 'na gasgliad od iawn. Rachub yw'r gair pwysicaf mewn ymchwil, yn cyfri mewn 38% o'r ymchwiliadau, a Hogyn yn ail gyda tua 30%. Ond mae yno ambell i gyfuniad od wedi bod, yn cynnwys

penmaenmawr (2)
y jiraff
wwwcontiofi
I Fyd Y Faled
lyrics Meic Stevens
lobsgows
sef pump
primark Merthyr

a'r rhyfeddaf oll:

taid Meinir Gwilym

A chyn belled a wyddwn i, dydw i erioed wedi son am daid Meinir Gwilym, heb son am wybod pwy ddiawl ydi o. Penmaenmawr ydi hanner y blog 'ma (sef hangowfyr, dim y dymp o le ar yr arfordir) a mae jiraffs yn cael sylw. Primark Merthyr? Dim syniad, a wn i ddim os oes ganddyn nhw wefan.

Dio'm yn deimlad neis bod mewn ty ar eich pen eich hun. Sneb i olchi fy llestri budron rwan, na chwyno arna i golli pwysau (udodd Nain Eidaleg ddoe: Why you go so fat? You eatin' like a pig?) neu gwneud fy ngwaith. A 'sdim byd i'w wneud am wyth y bora. Trist iawn, ar y cyfan.

mercoledì, aprile 19, 2006

Penblwydd Hapus i fi...

'Wanwl sumai gyfeillion! Dw i'm wedi bod yn blogio'n ddiweddar achos doedd na'm rhyngrwyd yn Rachub draw yma ond dyma fi'n fy ôl ac yn barod i flogio ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn 21 mlwydd oed! Dw i'n synnu achos mae rhan fwyaf o bobl wedi cofio, a ddim yn synnu achos mai'n bump o'r gloch yn y p'nawn a mae Dad dal heb gofio (dydi o'm 'di deud pen-blwydd hapus, eniwe).

Mae gynnon ni gyfrifiadur newydd swanc yma'n Rachub yn awr. Un du ydyw a mae'n fy ngalluogi i chwarae y Battle for Middle-Earth yn lle'r hen llapllop da-i-ddim 'na. Felly, wrth rheswm, dw i wedi bod yn chwarae hwnnw yn lle gwneud fy nhraethodau.

Felly be dw i wedi gwneud i fy mhen-blwydd, y pen-blwydd olaf y cai unrhyw math o anrhegion (dw i'm wedi cael dim, cofiwch)? Wel, dim byd. Neithiwr fe aethon ni'r teulu am Alfredos yng Nghonwy am fwyd Eidalaidd. Gesi Spaghetti Marinara sydd i fod gyda bwyd o'r môr ynddo fo. Oedd 'na lot o fwyd allan o tiniau (hynny yw 'tin' Saesneg) ynddo fo, eniwe. A doedd na'm mozzarella ar y 'garlic bread with mozzarella', oedd yn eithaf siomedig.

Heddiw dw i wedi bod efo Nain am fwyd, cofiwch. I'r Bwl ym Mhentraeth. Fydda i'm yn licio gyrru efo Nain yn y car wrth fy ymyl achos mae hi'n dweud rhyw bethau gwirion dyddiau yma. 'Sbia ar y postmon wedi gadael drws ei fan wedi'i agor' medda hi. 'Wel sneb am ddwyn dim,' atebais innau, oedd yn hollol deg achos roedden ni'n hen Llandegfan sydd efo tua, www, tŷ yno. 'Fedri di ddim trystio neb dyddiau yma. Ella bod rhyw berson 'di meddwi yn y cae ac am fynd amdani. Medri di'm trystio neb'. Roedd hyn am hanner dydd.

Yfory mi a'i allan am beint pen-blwydd efo pwy bynnag sydd eisiau fy nhywys o amgylch Bethesda. 'Sneb o brifysgol y dod amwni, ond dw i'm yn meindio a dweud y gwir achos mynd i Brâg oedd fy anrheg a oni'n hapus bod pawb wedi dod (ac wedi mwynhau!). Ond dyma ddiwrnod fy mhen-blwydd a dw i am wneud dim a dw i'n hynod fodlon felly. Mae'r haul allan, dw i newydd brynu CD newydd Frizbee a mi eistedda i tu allan yn awr yn yfed Irn Bru a gweld brain yn ffwcio. Caru Rachub!

giovedì, aprile 13, 2006

William Salesbury

Dwi byth wedi ystyried fy hun yn un o fêts Wil Salesbury. Fe gyfieithodd o, gyda help, y Testament Newydd i'r Gymraeg a gwneud ambell i eiriadur a ballu, ond fyw imi fynd am beint efo fo. Dyn deallus ydoedd gyda diddordeb ymhob maes o'r byd, a myfyriwr y Gymraeg ydw i efo dim diddordeb mewn dim oni bai am Fosters a sut i beidio tacluso'n 'stafell am wythnos arall. Prin y byddai trafodaeth rhyngom ni.

Serch hyn, dyma fi yma yng Nghaerdydd yn ceisio ysgrifennu traethawd amdano (bydda fo 'di licio hynny. Efallai yn yr oesau a ddêl y bydd myfyrwyr neu blant ysgol yn ysgrifennu traethodau amdanaf i, wn i ddim). Bydd pawb sy'n darllen y blog ma'n eitha rheolaidd (fi) efallai'n cofio fy mod i'n dweud dw i'n eitha da am wneud traethodau yn eithaf sydyn heb wybod fawr o ddim amdanynt. Blagiwyr wyf fi, a blagiwr a fyddaf hyd fy niwedd trist, ond mae'r hen Wil Salesbury wedi'n stwmpio. Dw i o'r farn bod y boi mor glyfar fel ei bod yn rhagweld y bydda rhywun fatha fi'n gorfod ysgrifennu traethawd iddo ac yn mynd ati i fod yn glyfar dim ond er mwyn fy sbeitio.

842 o eiriau mewn tair awr. Mae hynny'n record o arafrwydd imi. A dw i wedi blino hefyd, cofiwch. Dw i wedi teithio dros fil o filltiroedd wythnos yma (llawer mwy os dachi'n cyfri mynd i'r Weriniaeth Tsiec). Dw i hefyd yn eithaf digalon felly dw i am alw ar ffrind i godi fy nghalon

Sbiwch pwy sy 'ma! Y Sock Mynci! Aaah, efe a'm gwylltiodd y tro diwethaf ond roeddwn i angen ei weld o'r tro hwn! Smai fwnci? Isho banana? (nis ateba'r Sock Mynci, o'r herwydd mai nid dim ond mwnci ydyw, ond hosan hefyd).

Dw i'n teimlo gymaint well rwan felly gwell mi wneud mwy o waith! Warwwww!

mercoledì, aprile 12, 2006

Dicach nag erioed

Dw i'n un o'r pobl yma sydd byth yn hapus bod yn hapus. Mi dw i angen rhywbeth i gwyno am neu i ddigio gyda o hyd, felly mi ddylwn i fod yn hapus ar y funud ond dydw i ddim.

Dw i yng Nghaerdydd. Mi yrrais yma heddiw. Neithiwr oni'n ddig achos mae Mam wedi prynu cyfrifiadur newydd i adra a do'n i methu a'i chael i weithio a fe fues i'n flin iawn a mi es i gysgu erbyn deg. Heddiw, mi es i i'r llyfrgell ym Mangor yn barod i weithio, a chi'n gwybod be, DOEDD NA'M YR UN FFYCIN LLYFR FYDDAI O HELP I FY NHRAETHODAU YNO. A dim cyfrifiadur = dim rhyngrwyd, felly oeddwn i'n styc ac yn medru gwneud dim ond dod i fama eto. Felly bydd yn rhaid imi weithio yfory yn gadarn a thrwy'r dydd.

Casau llyfrgell Bangor.

Dicach nag erioed

Dw i'n un o'r pobl yma sydd byth yn hapus bod yn hapus. Mi dw i angen rhywbeth i gwyno am neu i ddigio gyda o hyd, felly mi ddylwn i fod yn hapus ar y funud ond dydw i ddim.

Dw i yng Nghaerdydd. Mi yrrais yma heddiw. Neithiwr oni'n ddig achos mae Mam wedi prynu cyfrifiadur newydd i adra a do'n i methu a'i chael i weithio a fe fues i'n flin iawn a mi es i gysgu erbyn deg. Heddiw, mi es i i'r llyfrgell ym Mangor yn barod i weithio, a chi'n gwybod be, DOEDD NA'M YR UN FFYCIN LLYFR FYDDAI O HELP I FY NHRAETHODAU YNO. A dim cyfrifiadur = dim rhyngrwyd, felly oeddwn i'n styc ac yn medru gwneud dim ond dod i fama eto. Felly bydd yn rhaid imi weithio yfory yn gadarn a thrwy'r dydd.

Casau llyfrgell Bangor.

martedì, aprile 11, 2006

Ffycin Hel

Mi ddechreuais i am adra heddiw o Gaerydd 'ma am tua hanner 'di deg ac wrth ymyl Llanfair-ym-Muallt dyma fi'n sylweddoli fy mod i wedi anghofio'n llapllop. Felly dyma fi yma yng Nghaerdydd eto yn ysgrifennu hwn am ugain munud wedi un yn y prynhawn heb betrol yn y car ac yn gorfod dechrau eto. Mae gen i gur yn pen a dw i'n pisd off. Bastad. Casau llapllop.

domenica, aprile 09, 2006

Unwaith Eto'n Rachub Annwyl

Ia wir, nos Sul yn Pesda felly dw i'n mynd allan wedyn am ambell i beint i'r Sior. Anegwyddorol byddai peidio. Mae rhai pethau wedi newid yn Rachub ers fy olaf ymweliad: mae'r cyfrifiadur rwan yn mynnu mai'r 8fed o Awst yw hi (yn hytrach na'r pumed y mae hi wedi mynnu ers misoedd a hanner misoedd maith). Mae'n edrych fel bo Plas Ffrancon yn cael makeover, sydd ddim yn ddiddorol ar y cyfan ond mae'n edrych dim ond ychydig bach yn waeth, a myfi ydwyf ddiolchgar am hyn.

Cynlluniau'r wythnos: mynd i Gaerdydd 'fory. Dim ond ddoe ddois i'n fy ol, ond na mae'n rhaid imi fynd i lawr eto er mwyn edrych ar dai. Mae Haydn ac Ellen a fi am fyw efo'n gilydd flwyddyn nesa', sef, o bosib, y tri person lleiaf emosiynol ers Hitler, Saddam a Genghis Khan. Rydym ni'n gymeriadau gwahanol iawn ar y cyfan: rwyf innau'n rhan unigryw o'r triawd oherwydd dim ond y fi fedar dyfu mwstash, Haydn yw'r unig un efo hairy chest ac Ellen yw'r unig un sy'n hoffi sbigoglys ac yn ei fwyta'n gyson. A dyma ni'n byw efo'n gilydd flwyddyn nesa'. Wn i ddim os i grio neu chwerthin ... neu lladd fy hun.

Newydd edrych ar ddafad yn y cae 'cw a meddwl y byddai lamb chop yn neis rwan. Ma'n braf gweld wyn bychain yn prancio o amgylch y caeau yn y gwanwyn yntydi? Codi awch lofruddig ar rywun sy'n un am gig dan siaced wlanog.