martedì, luglio 11, 2006

Hogyn o Rachub BA

Da dwi!

Son am gywilydd! Mynd o flaen miloedd o bobl (go iawn) i ysgwyd llaw yr is-ganghellor (sy'n siarad Cymraeg fel Almaenwr efo annwyd) gyda crytsh. A Dad yn gweiddi allan tra fy mod i'n llusgo ar draws y llwyfan fel malwoden ar Nytol. Mamma mia. Byth eto, diolch i Dduw. Dw i'n BA. A mae'n teimlo'n eitha normal, a diddorol clywed enwau canol rhyfedd pawb arall na wyddais cynt (Huw Peris!!!!!!)

Eniwe mi gurodd Yr Eidal Gwpan Y Byd a dyna'r peth pwysicaf. Mi wyliais i o'n hotel efo Dad, drws nesa' i ryw bobl od nad hoffais. Aros yn Holland House oedd y teulu, poni welwch-chwi, sy'n le eithaf drud, ac yn amlwg iawn nid nyni oedd yr unig rai yno yn ceisio edrych yn gyfoethog ond ddim. Oedd y rhai wrth ein hymyl yn amlwg yn bobl efo 'mbach o bres ar yr ochr, ond eto heb ronyn o urddas na diwyg iddynt.

Tasa gin i bres, byddwn i'r person mwyaf urddasol yn y byd a fydda gin i fonoglass a bwstash mawr llwyd (am rhyw reswm yn ddiweddar dw i wedi bod yn galw mwstash yn bwshtas achos ma'n swnio'n well) a thop hat. Beth bynnag, dyma'n fi'n Rachub drachefn am oes pys, felly gwell imi beidio breuddwydio gormod.

domenica, luglio 09, 2006

Mam a'i STD

Aeth Mam i Argos heddiw a chael cynnig STD. Chwarae teg, mi brynodd gamera digidol newydd i mi yn sbesial oherwydd fy mod i wedi llwyddo cael gradd, a chafodd gynnig STD gan y ddynes tu ol i'r til. Medda hi, ddynas wirion. STU port oedd o, a dyma Mam yn fy ngalw i yna i dweud os oeddwn i isho un, a na medda fi. A dyma hi'n egluro wedyn pam y bu iddi fy ngalw, achos nad oedd hi'n gwybod 'beth oedd STD', cyn mynd ymlaen i ofyn imi os oeddwn i, a gofyn i Dad (a ddywedodd "na", yn amlwg ddim callach rhwng STD ac STU port ei hun).

Reit, dw i'n mynd i Gaerdydd mewn 'chydig. Graddio 'fory. Casau'r lol graddio 'ma. Dw i'n fodlon fy mod wedi pasio a dyna ni, dw i'm yn licio'r holl seremoni sy'n mynd efo hi. Ond dyna ni, gyda Mam wedi ordro DVD ac wrth gwrs llwythi o luniau ac ati, byddaf i ar y llwyfan 'fory, efo ffwcin crytsh. Iesu maesho gras a mynadd.

venerdì, luglio 07, 2006

Meistr y Gegin

Dw i'n wych. Na, go iawn, mi dw i yn. Mae'n sgiliau coginio i yn gwella o hyd ers blynyddoedd, ac yn sicr wedi gwella ers dechrau prifysgol (o ffyc, dw i'm yn prifysgol ddim mwy nadw? God, mae amser yn mynd yn sydyn pan ti'n blogio) achos bod yn rhaid imi. Mi wnes fy hoff saig heddiw, Chille Con Carne. Hi yw'r peth gorau y medraf i ei choginio, ac unwaith eto roedd Dad a'r chwaer wrth eu boddau. Dw i'n wych hefyd ar wneud cawl, cyri a thost, ac mae wedi ei nodi sawl gwaith gan sawl un amrywiol fod fy nhatws mash ymysg y tatws mash gorau a geir. Ia, go wir.

Felly oeddwn i'n meddwl i fy hun yn y gegin, wrth wrando ar amrywiol ganeuon y llapllop (sy'n cynnwys bob math o gerddoriaeth amrywiol, o Dafydd Iwan i Beethoven i Kentucky AFC ac i 'Mama Get The Hammer There's A Fly On Papa's Head'), faint ydw i wedi newid ers prifysgol? Wedi'r cyfan, dechreuais flogio dros dair mlynedd yn ol bellach, a cofnod o fy amser yn y brifysgol ydi hi, a dweud y gwir. Ond dw i wedi newid, rhywfaint:

  • Mae fy Nghymraeg ysgrifenedig yn well o lawer. Sydd fawr o sioc o ystyried mai Cymraeg y bues i'n ei hastudio ('bues', marw isho dweud 'yn astudio'!)
  • Dw i'n dewach. Tua tair ston yn dewach.
  • Mae gennai sbecdols, a dw i'n edrych yn geeky (os nad yn oleuedig)
  • Am rhyw reswm, dw i'n meddwl fy mod i'n fyrrach.
  • Dw i'n hoffi lagyr. D'on i ddim cyn mynd i brifysgol.
  • Cyn mynd i Gaerdydd oeddwn i'n feirniaid gwael iawn o gymeriad. Erbyn hyn dw i'n llawer craffach (o bosib oherwydd fy sbecdols o dair diwrnod)
  • Dw i'n ynganu 'Carling' fel 'Cahlehn' pan dw i'n siarad Susnaeg
  • Mae'n Susnaeg ysgrifenedig a llafar yn waeth, ac a dweud y gwir dw i'n meddwl bod fy Nghymraeg llafar yn waeth hefyd
  • Dw i dal ddim yn gwybod be 'di ansoddair (dydi hynny ddim yn newid, nacdi?)

Felly dyna ni. Dw i wedi datblygu i fod yn hen lanc od iawn ar y cyfan. Hir oes i mi, uda i.

giovedì, luglio 06, 2006

Symud Ymlaen

Mae pethau'n symud ymlaen gyda fi. Dw i wedi cael Scan MRI ac wedyn heddiw dw i'n mynd i nol fy sbecdols o Fangor. Jason pegleg sbeccy four-eyes go iawn y byddaf. Er, fe fydd hi'n neis medru darllen yn gall unwaith eto. Mae'n rhaid imi ddefnyddio'r sbecdols i ddarllen, gwylio'r teledu a mynd ar y cyfrifiadur. Sydd, ar y funud, drwy'r dydd oni bai am pryd dw i'n cysgu.

Echnos roeddwn i'n Bodedern, am y tro cyntaf ers talwm, yn gwylio gem Yr Eidal a'r Almaen. Kinch rhoddodd wadd imi yno, fynta'n gefnogwr brwd o'r Almaen, a minnau o'r Eidal. Felly dyma ni'n dau yno'n gwylio'r gem, fi yn gwisgo crys yr Eidal a fynta'n ei grys Almaen, yn edrych fel bo Hitler a Mussolini wedi mynd am beint gyda'i gilydd. Dim ots rili, achos Yr Eidal oedd y gora. Ha!

Reit, dw i'm wedi cael brecwast felly mi af i wneud hynny. Dim mwy i adrodd ddim mwy, dachi'n gweld.

martedì, luglio 04, 2006

Henoed

Nefoedd mae pethau''n anodd arnaf. Dw i'n gwybod sut mae hen bobl yn teimlo rwan. Ers dyddiau maith, ac wythnosau, wrth gwrs, yr unig beth alla' i wneud ydi mynd ar y cyfrifiadur, wedyn ar y llapllap, wedyn gwylio fideo dwi'm isho gwylio (gwyliais i James and the Giant Peach diwrnod o'r blaen am awr a hanner. Roedd y llun yn rhy dywyll ond doeddwn i methu ffiguro allan sut i'w newid) cyn mynd i'r ardd i edrych ar bethau. A dydi shed a gwair fawr o'm byd i edrych arnynt.

Y peth waethaf ydi fod fy ymennydd yn dechrau pydru'n ara' deg. Dw i heb ysgrifennu cerdd ers misoedd, a mae pob ysbrydoliaeth wedi mynd. Fydda i'n hoffi 'sgwennu cerddi (yn Gymraeg, wrth gwrs, mae cerddi Susnag yn od. Dydi iaith y Sais ddim yn iaith farddonol) ond dyna ni. Dw i'm yn berson sylwgar iawn. Clwyddau, actiwli. Dw i'n sylweddoli yn y pethau drwg o hyd; dyna mae pawb yn ei ddweud. Chi'n gwybod, dw i'n cofio rhyw hogan yn gofyn imi o'r blaen (dw i'm yn cofio pwy) os oedd hi'n edrych fel sguthan 'di gwisgo fel oedd hi. Wel wyt, atebais innau'n onast, a dyma hi'n pwdu efo fi. Ydi o mor ddrwg dweud y gwir fel mai?

Y gwir fel mai ar y funud: dw i'n ddiflas ac wedi blino o hyd, ac yn fy ngwely cyn 10 o'r gloch bob nos (i gael 'setlo mewn'). Crunchy Nut Cornflakes a phanad gyda'r bore. Syllu ar bethau drwy'r dydd. MRI scan 'fory, edrych 'mlaen imi gael gwneud rhywbeth arall am unwaith.

sabato, luglio 01, 2006

Mynd drot drot

Wel, herc herc eniwe. Dw i wedi dechrau mynd am dro 'rownd y bloc' er mwyn gweld pwy sy o gwmpas y lle, a chael ambell i sgwrs efo ambell i berson. Er, dw i'n cael trafferth ysgrifennu hyn. Dw i'm licio cyfaddef ond mae darllen yn anoddach ers cryn dipyn a dw i'n eitha balch rwan fy mod i'n cael sbecdolion. Os dwi'n cau fy llygad dde, fedra i ddim darllen hwn efo'r chwith. Casau llygaid chwith.

Diolch i Dduw bod gemau Cwpan y Byd wedi ailddechrau drachefn. Fel efallai y gwyddoch, Yr Eidal yw fy nhîm i, gan fod Nana'n Eidales ac am nad ydi Cymru byth mewn unrhyw gystadleuaeth fyth. Iawn, so dw i'n hanner-Sais, ond chefnoga i fyth mo Lloegr. Ych, mae gweld bob man wedi plastro efo'u fflagiau a'r teledu yn son am ddim arall wir yn troi arnaf. Dw i'n gobeithio bod Portiwgal yn curo heddiw a'i bod yn BRIFO.

C'mon Portiwgal!

mercoledì, giugno 28, 2006

Sydyn-newyddion

Dw i'n licio rhannu fy mywyd efo chi. Dw i wedi bod yn gwneud ers tair mlynedd namyn pum diwrnod. A mae pethau dal yn boring. Ond dywedwyd i mi heddiw fy mod i yn y wars. Licio'r dywediad. Ond mi es i'r optegydd, ac yn ogystal a chael goes giami dw i'n awr yn gorfod cael sbecdols. Geeky Jês, dyna fyddan nhw'n fy ngalw, gewch chi weld.

O ia, mi darfodd hynny ar draws y newyddion da fy mod i wedi llwyddo cael 2:2 (ond mae Lowri Dwd a Lowri Llew wedi hefyd, sydd efallai'n dangos faint o hawdd ydi'r byd addysg uwchradd ar y funud). Athro dall ddisymud fydda i, gewch chi weld.

martedì, giugno 27, 2006

Fy ngwlad! *rant blin*

Fy ngwlad, fy ngwlad cei fy nghledd
Yn wridog dros d'anrhydedd,
O gallwn, gallwn golli
Y gwaed hwn o'th blegid di.
Wylit, wylit, Lywelyn
Wylit waed pe gwelit hyn!

Gwychder gan Gerallt Lloyd Owen. Bob amser wedi licio GLO. Mae rhai yn dweud bod o i gyd yn 'Gymru hyn, Cymru llall' ond be di'r ots efo hynna? Ond pwy ellith ddweud go iawn nad ydyn nhw wedi darllen un o'i gerddi a chael 'mbach o ias lawr eu cefn, neu dim ond wedi meddwl 'hm, ti'n iawn'? Neu beth am 'Hon' neu 'Preseli' neu 'Cyngor' neu hyd yn oed 'Enaid Owain ab Urien' a pheidio â rhoi ailystyriaeth i'r hyn sy'n cael ei ddweud.

Dw i'n cael fy ngwylltio a'm siomi gan y Cymry o hyd, fel cenedl, ac fel unigolion. 'Dan ni mor wan. Pan bleidleisiodd Montenegro am annibyniaeth, beth oedd tu ôl iddi ond balchder cenedlaethol? Pam fo'r Basgiaid yn ymladd o hyd? Pam fo hyd yn oed yr Alban o'n blaen? Pe fyddai refferendwm annibyniaeth yng Nghymru, dw i'n sicr y byddai mwy o gefnogaeth iddi nag ydym yn credu, ond byddan ni dal ddim yn annibynnol. "Byddan ni'n dlawd", "eith yr NHS i'r diawl", "bydd gynnon ni llais gwannach tu allan i Brydain". Gesiwch be? Mi ydan ni'n dlawd. Mae'n NHS a'n system addysg ni yn y baw. A does gynnon ni ddim llais tu fewn i Brydain, heb son am du allan iddi.

A dyna sy'n fy ngwylltio am y Cymry. Dw i'n abod digon o Gymry felly; cenedlaetholwyr pan fo'r rygbi ar, neu efallai wrth ganu ambell i 'Yma o Hyd' feddw yng Nghlwb Ifor. Ond na, annibyniaeth, Deddf Iaith, fe gaiff y rheiny fynd i'r diawl ganddyn nhw. A dachi'n gwybod pam? Achos dydyn nhw ddim yn gwybod dim am hanes Cymru. Fe brynodd Mam lyfr imi am hanes Cymru ddoe, imi gael darllen. Ond er ei bod flynyddoedd yn ôl, bellach, dysgu rhywfaint am hanes Cymru, a'm trodd i tuag at genedlaetholdeb. A dw i yn sicr, heb unrhyw amheuaeth, pe fyddai pobl Cymru yn gwybod am eu hanes, fe fydden nhw'n genedlaetholwyr hefyd.

Be wyddant am y Deddfau Uno neu'r Llyfrau Gleision? Beth am Dryweryn, hanes ein tywysogion Saesneg neu'r nifer weithiau y mae Cymry wedi marw yn rhyfeloedd Lloegr? Beth am y rhai aeth i'r carchar er mwyn iddyn nhw dderbyn addysg Gymraeg neu gael yr hawl i achos llys yn Gymraeg? Ydyn nhw'n cofio na gafodd y Cymry byw mewn trefi yn eu gwlad eu hun, na chael swydd oni bai eu bod nhw'n siarad iaith gwlad arall? Beth am Streic Fawr y Penrhyn neu Streic y Glowyr? Ydyn nhw hyd yn oed yn cofio unrhyw beth am Lywelyn neu Glyndŵr?

Ydyn nhw mor drahaus fel eu bod nhw'n fodlon anghofio bod miloedd ar filoedd o Gymry, eu cyndeidiau nhw, wedi marw er mwyn EIN rhyddid, EIN hawl i siarad Cymraeg, EIN hawl i gynnal ein gwerthoedd ein hun? Na, dydyn nhw ddim. Ac mae hynny'n warth, yn fy marn i.

A dw i'n llai o Gymro na'r un ohonyn nhw. Hanner-Sais dw i. Ond mae nifer o genedlaetholwyr ddim wedi bod yn Gymry pur, fel petai: cafodd Dafydd Wigley a Saunders Lewis eu geni yn Lloegr, ni siaradodd Gwynfor Evans Gymraeg tan ei fod yn ddeunaw. Ac eto sbïwch ar y Cymry Cymraeg pur yn ein mysg, heddiw a ddoe: Elwyn Jones, Dafydd Elis-Thomas, David Lloyd George, Rhodri Morgan - bradwyr, a Chymry pur. Mae'n dweud llawer mai Cymry pur yw'r mwyaf euog o boeni lleiaf am eu gwlad.

Wn i ddim. Roedd jyst cael llyfr hanes Cymru o'm mlaen i; hanes dwy fil o flynyddoedd o ormes, o golli tir, ac o frwydro yn erbyn y Saeson, mewn difri; roedd o'n ddigon i fy nghorddi i am ba mor ddi-ots ydi cymaint o bobl, nifer ohonynt dw i'n ffrindiau efo nhw, sydd efo dim ots am Gymru. A fe’m synnwyd faint o flin a dig oeddwn i’n teimlo. Ac oeddwn i angen cael hynna oll off fy mrest.

Mewn newyddion eraill, mi gysgais i efo fflamingo, mynd i hang-gleidio dros Dudweiliog a chael iau newydd