Fy ngwlad, fy ngwlad cei fy nghledd
Yn wridog dros d'anrhydedd,
O gallwn, gallwn golli
Y gwaed hwn o'th blegid di.
Wylit, wylit, Lywelyn
Wylit waed pe gwelit hyn!
Gwychder gan Gerallt Lloyd Owen. Bob amser wedi licio GLO. Mae rhai yn dweud bod o i gyd yn 'Gymru hyn, Cymru llall' ond be di'r ots efo hynna? Ond pwy ellith ddweud go iawn nad ydyn nhw wedi darllen un o'i gerddi a chael 'mbach o ias lawr eu cefn, neu dim ond wedi meddwl 'hm, ti'n iawn'? Neu beth am 'Hon' neu 'Preseli' neu 'Cyngor' neu hyd yn oed 'Enaid Owain ab Urien' a pheidio â rhoi ailystyriaeth i'r hyn sy'n cael ei ddweud.
Dw i'n cael fy ngwylltio a'm siomi gan y Cymry o hyd, fel cenedl, ac fel unigolion. 'Dan ni mor wan. Pan bleidleisiodd Montenegro am annibyniaeth, beth oedd tu ôl iddi ond balchder cenedlaethol? Pam fo'r Basgiaid yn ymladd o hyd? Pam fo hyd yn oed yr Alban o'n blaen? Pe fyddai refferendwm annibyniaeth yng Nghymru, dw i'n sicr y byddai mwy o gefnogaeth iddi nag ydym yn credu, ond byddan ni dal ddim yn annibynnol. "Byddan ni'n dlawd", "eith yr NHS i'r diawl", "bydd gynnon ni llais gwannach tu allan i Brydain". Gesiwch be? Mi ydan ni'n dlawd. Mae'n NHS a'n system addysg ni yn y baw. A does gynnon ni ddim llais tu fewn i Brydain, heb son am du allan iddi.
A dyna sy'n fy ngwylltio am y Cymry. Dw i'n abod digon o Gymry felly; cenedlaetholwyr pan fo'r rygbi ar, neu efallai wrth ganu ambell i 'Yma o Hyd' feddw yng Nghlwb Ifor. Ond na, annibyniaeth, Deddf Iaith, fe gaiff y rheiny fynd i'r diawl ganddyn nhw. A dachi'n gwybod pam? Achos dydyn nhw ddim yn gwybod dim am hanes Cymru. Fe brynodd Mam lyfr imi am hanes Cymru ddoe, imi gael darllen. Ond er ei bod flynyddoedd yn ôl, bellach, dysgu rhywfaint am hanes Cymru, a'm trodd i tuag at genedlaetholdeb. A dw i yn sicr, heb unrhyw amheuaeth, pe fyddai pobl Cymru yn gwybod am eu hanes, fe fydden nhw'n genedlaetholwyr hefyd.
Be wyddant am y Deddfau Uno neu'r Llyfrau Gleision? Beth am Dryweryn, hanes ein tywysogion Saesneg neu'r nifer weithiau y mae Cymry wedi marw yn rhyfeloedd Lloegr? Beth am y rhai aeth i'r carchar er mwyn iddyn nhw dderbyn addysg Gymraeg neu gael yr hawl i achos llys yn Gymraeg? Ydyn nhw'n cofio na gafodd y Cymry byw mewn trefi yn eu gwlad eu hun, na chael swydd oni bai eu bod nhw'n siarad iaith gwlad arall? Beth am Streic Fawr y Penrhyn neu Streic y Glowyr? Ydyn nhw hyd yn oed yn cofio unrhyw beth am Lywelyn neu Glyndŵr?
Ydyn nhw mor drahaus fel eu bod nhw'n fodlon anghofio bod miloedd ar filoedd o Gymry, eu cyndeidiau nhw, wedi marw er mwyn EIN rhyddid, EIN hawl i siarad Cymraeg, EIN hawl i gynnal ein gwerthoedd ein hun? Na, dydyn nhw ddim. Ac mae hynny'n warth, yn fy marn i.
A dw i'n llai o Gymro na'r un ohonyn nhw. Hanner-Sais dw i. Ond mae nifer o genedlaetholwyr ddim wedi bod yn Gymry pur, fel petai: cafodd Dafydd Wigley a Saunders Lewis eu geni yn Lloegr, ni siaradodd Gwynfor Evans Gymraeg tan ei fod yn ddeunaw. Ac eto sbïwch ar y Cymry Cymraeg pur yn ein mysg, heddiw a ddoe: Elwyn Jones, Dafydd Elis-Thomas, David Lloyd George, Rhodri Morgan - bradwyr, a Chymry pur. Mae'n dweud llawer mai Cymry pur yw'r mwyaf euog o boeni lleiaf am eu gwlad.
Wn i ddim. Roedd jyst cael llyfr hanes Cymru o'm mlaen i; hanes dwy fil o flynyddoedd o ormes, o golli tir, ac o frwydro yn erbyn y Saeson, mewn difri; roedd o'n ddigon i fy nghorddi i am ba mor ddi-ots ydi cymaint o bobl, nifer ohonynt dw i'n ffrindiau efo nhw, sydd efo dim ots am Gymru. A fe’m synnwyd faint o flin a dig oeddwn i’n teimlo. Ac oeddwn i angen cael hynna oll off fy mrest.
Mewn newyddion eraill, mi gysgais i efo fflamingo, mynd i hang-gleidio dros Dudweiliog a chael iau newydd
2 commenti:
Am Gymru Am Ryddid Am Byth
Helo, dwi'n dod o UDA, rwyf am rannu'r dystiolaeth wych hon am sut y helpodd Dr.Agbazara i mi ddod â'm cyn-gariad yn ôl, Yn ystod fy chwilio am ateb, daeth i gysylltiad â manylion Dr.Agbazara a thrwy ei help, daeth fy nghariad yn ôl i fi o fewn 48 awr. Felly, gyda'r rhain, rydw i mor falch i roi gwybod i unrhyw un sy'n chwilio am ffordd i ddod yno gariad i gysylltu â Dr.Agbazara ar WhatsApp: { +2348104102662 } neu drwy e-bost at: { agbazara@gmail.com } Rwyf mor hapus o leiaf fy hun ac mae fy nghariad yn ôl i'w gilydd eto ac yn mynd i wario dathliad y Flwyddyn Newydd gyda'i gilydd Diolch i Dr.Agbazara unwaith eto ....
Posta un commento