lunedì, giugno 26, 2006

Anabledd Swyddogol

Rhaid imi aros oddi-ar-lein rhwng un a phump heddiw. Mae'r pobl disabiliti yn ffonio. Mae'n rhaid imi gyfaddef nad oedd i byth yn meddwl y byddai hyn yn digwydd imi, ond bydda i'n cael beneffits dros yr ha'. Wedi'r cyfan, mae gennai filiau rhent i'w dalu am Caerdydd, a fedra i ddim gweithio. Sy'n golygu, wel, dw i'n swyddogol yn anabl. Dyna od.

Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth hefyd, achos ma'n rhaid imi fynd i'r optegydd Ddydd Mercher. Mae rhan fwyaf o hogia'r tŷ heddiw off i Alton Towers, 'fyd. Gytud. Dw i bob amser wedi bod isho mynd yna fy hun. Yn Ysgol Dyffryn Ogwen oeddan nhw'n trefnu tripiau diwedd pob blwyddyn er mwyn mynd, ond bob blwyddyn erioed rhois i'r arian i mewn yn hwyr, ac rwan dw i'n styc yn Rachub yn rêl Wil Goes Bren. Hitia befo, ys dywed y tyddynwr.

Reit, dw i wedi cwyno a dw i'n teimlo'n well o lawer. Diolch i Dduw am gwyno, ne fyddwn i ar goll.

1 commento:

Ray Diota ha detto...

Ffacinel, boi bach, ti'n cal amser caled dyddie ma... ti'n ffansi sgriblo ymson fach flogaidd i dIM LOL gan bo ti'n styc tu fewn, was?

ingaray@hotmail.co.uk yw'r cyfeiriad - go on, bydde ni'n gwerthfawrogi dy help di!

Ray