lunedì, ottobre 08, 2007

Penblwydd Hapus i Ceren

Iawn? Ydych chi am wybod am y penwythnos yn ei chyflawnder? Na? Digon teg. Ond mi gewch fân atgofion.

Mi fu Ceren yn dathlu ei phenblwydd (heddiw mae ei phenblwydd, felly os ti’n darllen o’r Ganolfan, Penblwydd Hapus! Gan Fi. Mwah) ac mi aethon ni i’r Mochyn Du i wylio gêm Lloegr.

Dw i a Ceren wedi penderfynu ein bod ni ddim yn licio Saeson achos maen nhw’n gwneud gormod o sŵn ac yn dweud pethau Seisnigaidd iawn, megis ‘Super work Jonny!’ a ‘Go on Paul my son!’, yn ôl y disgwyl, mi dybiaf, ond yn yr achos hwn siomedig, ar y lleiaf, oedd gweled y disgwyliadau hyn yn cael eu gwireddu. Roedd y ddau ohonom mor ddig fel y buon ni’n crynu am tua hanner awr ar ôl y gêm, gan ddyheu angau ar ein Gelynion.

Fe dreuliwyd prynhawn ar wely Lowri Llewelyn yn archwilio Facebook a busnesu ar sgyrsiau pawb arall yno. Penderfynwyd yn unfrydol mai fy mhroffil i ydyw’r gorau. Fodd bynnag.

Mae gennyf i gopi DVD o Tarka the Otter i’w wylio heno. Wn i ddim pa beth ydyw mewn gwirionedd, ond bydd rhaid i mi lwytho’r chwaraewr DVD Tesco yn gyntaf. Fedrai’m g’neud ryw bethau felly.

mercoledì, ottobre 03, 2007

Bwyta amser cinio

Dw i’m yn denu a dw i’m yn dew. Dwi ‘di colli llawer o bwysau eleni, stôn i gyd, ond dros y ddeufis diwethaf mae’r bol a drechwyd yn ei ôl. Wn i ddim pam, ond mi gredaf mai cyfuniad o bastai a pheidio â cherdded i’r gwaith ydyw. Gyda’r myfyrwyr eto’n ôl yn Y Waun Ddyfal a’r cyffiniau, mae angen i mi gerdded, achos does gen i ddim lle i barcio, felly cyn bo hir mi eith y bol drachefn.

Ond mae pastai yn broblem arall. Wn i ddim beth i gael i ginio bob dydd, wyddoch chi. Byddaf yn aml yn hoffi baget neu’i debyg, ond maen nhw’n eithaf drud os cewch un bob dydd. Mae hynny’n beth digon iach i’w fwyta, cofiwch. Ond yn ddiweddar mi dw i wedi bod yn poeni am arian, felly mae bwyd brasterlawn, afiachus wedi cymryd fy mryd o’r Cornish Bakehouse yng nghrombil y ddinas.

Nid lle afiachus na bwyd afiachus sydd yno - dim ond os ydych chi’n mynd yno mor aml ac ydwyf innau yn ddiweddar. Pasteiod, sleisys pitsa, sleisys efo stêc neu gyw iâr a madarch, mmm. Ond mi roddaf stop ar hynny, ac nid af yno gymaint o hyn ymlaen.

Ond beth i fwyta wedyn, fe’ch clywaf yn gweiddi’n groch ar sgrin eich cyfrifiadur (os mai dyma’r achos; calliwch er mwyn Duw)? Wel, mi fyddaf yn mynd am dro weithiau i Boots neu rywle i gael rhyw lap i fwyta. Y broblem ydi, ond am eu hymhongarwch llwyr a’r bobl fain hurt sy’n eu bwyta, ac er eu bod yn flasus, nid ydynt yn fy llenwi. Dw i’m yn foi salad, ond mi fyddwn yn ei gael i ginio, pe na fyddai’r dognau y gellir eu prynu mor bitw ac efo sawsys od. Ac eniwe, ma’n wir, mae salad i gwningod.


Llwgu gwna’ i’n diwedd.

martedì, ottobre 02, 2007

Craishyn

Tai’m yma i gega ond mae’r ffaith bo creision Caws a Nionyn 2c yn ddrytach na Halen a Finag yn Tesco bach Cathays yn rong. A ph’un bynnag, meddwl oeddwn i, ond am creision plaen a Halen a Finag, pa greision sydd wirioneddol yn blasu fel yr hyn a hysbysebir ar y paced?

(Pedied neb â dywedyd ‘Kitchen Crisps Halen a Phuper’. Seriws, pwy FFWC sy’n prynu creision HALEN A PHUPUR?)

domenica, settembre 30, 2007

Brifedigaeth

Ges i, fel sawl un arall, sioc anferthol o weld Cymru yn cael eu lluchio allan o Gwpan y Byd ddoe, er na fu i unrhyw beth fy mharatoi am y boen a deimlais o’i weld. Gwyliais y gêm yn nhŷ fy arch-elyn, Dyfed, a doedd yr un ohonom yn gallu dweud fawr o ddim ar ôl gwylio’r hyn a ddigwyddodd o’n blaen. Ew, mi frifodd. Mae’n dal i frifo. Oeddwn i’n teimlo ar i lawr drwy’r nos neithiwr, ac ni lwyddodd botel a hanner o win coch cryf godi fy hwyliau rhyw lawer (er y bu i Blackadder llwyddo, chwarae teg).

Dw i bron â rhoi’r ffidil yn y to yn llwyr efo timau chwaraeon Cymru. Er y dalent sydd i’r tîm rygbi, maen nhw’n llwyddo i siomi 90% o’r amser. Mae’r tîm pêl-droed hefyd yn hollol pathetic a ddim yn haeddu fy nghefnogaeth - dydyn nhw methu hyd yn oed mynd i'r cystadlaethau mawrion. Ar y cyfan, pan ddaw at chwaraeon, mae Cymru yn un o’r gwledydd mwyaf siomedig sy’n bodoli.

Fe ddylem ni wneud beth mae’r Iancs yn ei wneud, a dim ond cyboli efo chwaraeon rydym ni’n eu dyfeisio. Unrhyw syniadau?

venerdì, settembre 28, 2007

Tristwch

Bydd Nain a fi yn cytuno ar sawl pheth; gwelsom ŵydd ym Miwmares efo un goes a chytuno nad oedd yn beth delfrydol iawn. O ran y gŵydd, hynny yw, nid effeithiodd arnom ni yn uniongyrchol.

Sylwais hefyd ar air arall dw i’n ei ddweud yn wahanol i fel y dylwn: “Vimpto”. Ac mae’n rhaid i mi ddweud, dw i’n hoff iawn o yfed vimpto. Ac mi a’i sillafaf fel y mynnaf hefyd, diolch yn fawr.

Er hynny, a minnau’n cael fy Vimpto efo’r sglod a ‘sgod, sylwais un gwahaniaeth mawr rhyngof i a Nain. Bydd Nain yn siarad Saesneg yn uchel i ddangos ei bod hi’n barchus, a minnau’n siarad Cymraeg yn uchel i ddangos fy mod yn well. Nid gor-ddweud yw dywedyd mai fi sy’n gywir yn yr hwn achos.

giovedì, settembre 27, 2007

Mataland ac ati

Ydych chi erioed wedi clywed eich Nain yn galw rhywun yn “dick”? Dw i wedi, ac bu i mi fwynhau yn fawr.

Dw i ddim am ysgrifennu blog hirfaith, emosiynol na dwfn. Wedi penderfynu ydwyf aros yn y Gogledd tan ddydd Sul yn lle yfory. Mae gen i ddigon i’w wneud yma felly gwnaf.


Geiriau y byddaf yn eu dweud yn wahanol i'r hyn a ydynt mewn difri

  1. Morristons
  2. Mataland
  3. Opal Fruits

martedì, settembre 25, 2007

Rhywbeth bach yn corddi

W, dw i’n gyffrous! Alla’ i wirionedd ddim disgwyl heidio’n ôl i’r Fro Gymraeg megis corwynt o garisma heno ‘ma. Yn anffodus, mae tirlithriad wedi bod ger Pesda, felly bydd yn rhaid i mi fynd o amgylch Port a Dyffryn Nantlle i fynd adra. Yn bersonol, mae’n well gen i yrru drwy Blaenau a Betws; mae fy nghalon i yn y mynyddoedd ac nid yn y môr.

Dwi ddim yn cofio pryd y bûm fyny ddiwethaf. Dw i’n cofio bod Port yn pacd ar y ffordd i lawr, ac felly mi es o amgylch y Cob, ac am y tro cyntaf erioed sylwi lle’r oded Llanfrothen a’r Ring. Rŵan, dydw i ddim yn gwybod pam fod y dafarn hon yn enwog, ond yn ôl y sôn mae hi. Bydd rhaid i mi fynd yno os am gyflawni nod fy mywyd sef cael peint ym mhob un o dafarndai Gwynedd cyn fy niwedd prudd.

Dw i’n meddwl fod ‘na rhywbeth yn corddi yn nwfn fy enaid ar y funud. Isio ryw her ydw i, dw i’n teimlo. Byddaf yn hoff o her o bryd i’w gilydd. Byth, byth fy mod yn parhau ac yn ei dilyn drwodd, nis gwadaf, ond mae’r cynnwrf cychwynnol yn ddigon i mi faethu oddi arno am wythnosau. Dw i byth wedi gweld y pwynt mewn gorffen rhywbeth.

Megis Bebo. Mae fy mhroffil Bebo dal ar waith, ond dw i heb gael neges arno ers deufis. Facebook, ysywaeth, sydd wedi curo’r frwydr (dydw i ddim yn cynnwys Perthyn.com fel rhan o’r frwydr hon, gyda llaw. Dw i’n aelod digon segur o hwnnw).

Dim ots, yr unig wefan i mi ydyw hon, chwŷd meddyliol f’enaid.

lunedì, settembre 24, 2007

Yn wancus fel y wenci

Haaaaaaaaaaaaaia! Meddwl oeddwn i ddechrau’r hwn flog (ar yr hon flog) mewn modd camp. Hoffwn osod lun o flodyn neu gwningen yma, ond wna i ddim. Maesho mynadd efo camprwydd. Tai’m licio llawblygeidrwydd gormodol, rhaid i mi gyfaddef.

A oes ffasiwn beth â dynes sy’n drawswisgwr (ond am Lowri Dwd)? Taswn i’n ddynes byddwn i’n hapus iawn mewn sgert, ond mi fuaswn yn ddynes hyll, mi dybiaf, efo coesau blewog a sgar pendics mowr.

Dw i mor glyfar efo fy Saesneg (dim bod angen i rywun fod yn glyfar mewn Saesneg, dalltwch, mae sawl pheth pwysicach yn y byd e.e. cerrig gleision, DEFRA a.y.y.b.). Sylwais ben fy hun bod y gair damn yn debygol o ddod o condemn, a woman mwy na thebyg yn gyfuniad o ‘womb’ a ‘man’. Does dadl mai ieithydd yw fy ngwir alw mewn bywyd. Er, dydw i ddim yn siŵr beth y mae ieithydd yn ei wneud. A dywedyd y gwir, dw i byth ‘di cael swydd lle dw i 100% yn siŵr be dw i’n ei wneud 100% o’r amser, felly mae’n siŵr y byddwn yn llawfeddyg annibynadwy iawn.

Mae’n siŵr y gallwch ddadansoddi o’m mwydro plentynnaidd fy mod mewn hwyliau da achos dw i’n mynd i’r Gogledd ‘fory am dridiau a methu disgwyl. Bob rhyw ychydig o fisoedd mae’r hiraeth horybl yn dyfod drosof ac mae’n rhaid i mi ei ddiwallu.

Yn wancus fel y wenci wyf, ‘sdim dadl.