Ond gwell i mi beidio â dweud mwy, neu bydd rhywun yn sicr am fy ngwaed.
Ar ôl darllen Morfablog a gweld dolen i raglen Rob Brydon’s Identity Crisis fe’m synnwyd sut yr oedd ei ddirnadaeth o’r Cymry yn wahanol i ddirnadaeth y Cymry am eu hunain. Wyddwn i fy hun fyth y cawsom ein hystyried yn bobl brudd a diflas.
Dw i ers erioed wedi meddwl bod y Cymry fel rheol yn gyfeillgar, yn ffraeth ac yn fodlon iawn ar fynd drwy fywyd heb wneud dim o fawredd ond am fodloni’n hapus. Dydi ein cyfraniad i’r byd yn ei fawredd ddim yn llawer, a dw i’n meddwl ei bod ni’n eitha’ bodlon efo hynny. Nid gor-ddweud yw ein bod yn gantorion o fri, naturiol chwaith - mae ‘llais ffantastig’ dros y ffin fel arfer yn cael ei ystyried yn ‘llais da’ fan hyn.
Iawn, oce, dw i’n swnio’n drahaus iawn, ond problem fawr y Cymry ydi nad ydyn nhw’n gwneud digon o sŵn am eu rhinweddau. Oherwydd, fel y gwyddoch, o bosibl, os cymeroch sylw, dw i’n hoffi rhestri, a dyma yn fy marn i Ddeg o Nodweddion Pennaf y Cymry:
- Bodlonrwydd dwys
- Ffraethineb
- Canu yn y gwaed (diolch i’r capeli, rŵan pawb, “diolch, capeli...”)
- Ymdeimlad cymunedol cryf
- Rhyw rinwedd ‘oes a fu’ - rydym yn rhan fyw o’r hen fyd nad ydyw mwyach, a byddwn tra byddwn yn parhau
- Gwerthfawrogiad o'r pethau mân
- Mwy na’r un genedl arall ni ellir ein gwahanu o’n tir
- Ysbryd gwrthryfelgar (er ein bod yn gyndyn i weithredu)
- Smygrwydd. Mae’r Cymry yn ddwys o smyg am y ffaith nad ydynt yn Saeson
- Edwina Hart
(iawn, oce, dydi Edwina Hart ddim yn un o rinweddau’r Cymry, ond y gwir ydi fedrai’m meddwl cymaint â 10 ... roedd pump yn ffwcin straen...)