Wel helo! Hen dywydd sdici ydi hi yng Nghaerdydd ein hoes ni, clòs a sdici. I fod yn onest dwi ddim yn un am y fath dywydd – does fawr gwaeth, pan oes nac awel na gwynt a’ch bod yn teimlo fel kitchen wipe a ddefnyddiwyd ar fan llychlyd. Gwn y gwyddoch y teimlad.
Bydd rhywun yn licio menyn. Fydda i’n licio dweud ‘rhywun’ – bydd Nain yn dweud rhywun yn aml – yn enwedig mewn brawddegau fel “Wel dydi rhywun ddim yn gwybod beth i’w wneud o’r pethau ‘ma” ac yn y blaen. Fyddech chi’n synnu pa mor aml fy mod i’n siarad yn y ffordd yr ysgrifennaf gyda llais dwfn. Ond yn ôl at y pwynt gwreiddiol, bydd, mi fydd rhywun yn licio menyn.
Ond ceir problem â menyn. Menyn go iawn rŵan, cofiwch, ddim marjarîn na menyn mewn pot na’u bath (mae “eu bath” yn rhywbeth dwi bob amser yn aflwyddo i’w gael i mewn i sgwrs hamddenol, ac nid er diffyg ymdrech, fe’ch sicrhâf). Y broblem yw fel a ganlyn: allwch chi ddim cadw menyn go iawn yn yr oergell, oherwydd mae’n mynd yn rhy galed. Faint ohonom, yn wir, fu’n dioddef yn sgîl maleisus rinweddau menyn caled wrth geisio ei daenu ar dafell o fara, dim ond i’r bara rwygo a’r menyn daenu’n gwbl anwastad, gan anharddu ar flas y brechdan neu dostbeth terfynol.
Felly yn fy noethineb tragwyddol mi es o amgylch Caerdydd ar fy nghinio ddoe i chwilio am ddysgl menyn. Ar gyfer y fath bethau y farchad ydi’r stop cyntaf bob tro, ond y tro hwn mi fethodd y farchad â diwallu fy angen. Y tro diwethaf y bûm yno prynais badell sauteé am £2.50 – mae ‘na grac yn y caead ac mae’n bygwth torri’n ddeilchion mân o hyd, ond parhau y mae.
Yr hyn a’m synodd, wrth gerdded i mewn i siop o’r enw Lakeside sy’n darparu nwyddau ceginiol, oedd bod dysglau menyn yn uffernol o ddrud. Roedd yr un rhataf yno dros £14. Dim ffiars, me’ fi, ‘dimi ddysgl menyn rad.
Mi ges un yn y diwedd ar Heol yr Eglwys Fair am dair punt. Un o wir nodweddion mynd yn hŷn ydi mynnu’n barhaol bod “pethau yn rhy ddrud”, gyda hanner-cof hanner-breuddwyd am y dyddiau a fu pan oedd popeth tua dwy bunt ac roedd pob un o’r hen ferched efo pyrm.
I le’r aeth yr amser?