mercoledì, ottobre 07, 2009

Hen Dwll Gwlyb

Rhoddaf i’r ochr wleidyddiaeth am sbel. Hen bryd hefyd, mae’n ddigon i wneud rhywun yn wallgof. Yn bur anffodus mae ‘na ddigonedd o bethau yn yr hen fyd hwn sy’n fy ngyrru o’m cof.

Mae wedi bod yn ddi-stop ar Stryd Machen yn ddiweddar. Er bod y Sky yn gweithio, ni weithiodd y ffôn tan wythnos diwethaf a bu’n rhaid galw’r bobl allan i’w gywiro. Mae’r llwybrydd i’r rhyngrwyd wedi cyrraedd ers tridiau ond fydd hwnnw ddim yn gweithio tan y 13eg mae’n dweud yn y llythyr ar ei gyfer. Byddai hyd yn oed yr Iesu wedi colli amynedd efo ffwcin Sky.

Felly dyna ddau anlwc, i raddau, gyda’r ffôn a’r rhyngrwyd, ac yn ôl geiriadur yr Hogyn anlwc ydi unrhyw beth nad yw’n mynd rhagddo’n llwyr ddidrafferth. Pethau drwg a ddaw mewn trioedd, medda’ nhw. Petawn yn gall ac yn gwrando ar eraill mi fyddai’r broblem ddiweddaraf yn, wel, fyddai hi heb â bodoli o gwbl. Ychydig fel Mam yn priodi Dad.

Ond ers misoedd mae Mam wedi bod yn swnian i mi gael y to yn y bathwm wedi’i sortio. Os ydych chi fel fi, a llongyfarchiadau i chi os ydych, po fwyaf y swnian y daw atoch o ba gyfeiriad bynnag, y mwyaf ystyfnig a phenderfynol ydych chi o fynd yn groes i’r swnian. Felly mi heibiodd y misoedd a daliodd to’r bathrwm, neu i fod yn fwy cywir y wal rhwng y bathrwm a’r gegin, i fynd yn damp.

Deffroais ddoe yn ddigon bodlon. Roedd hi’n gythraul o dywyll ac oer yng Nghaerdydd bora ddoe, ac mi gerddais i’r gegin gan grynu fel cryniadur cenedlaetholgar i wneud fy uwd boreol. Dwi’n licio uwd, yn enwedig pan ddaw’r gaeaf, efo mymryn o siwgr arno. Mae hefyd yn dda efo’r her ddeietegol bresennol ond soniaf am hynny rywbryd arall pan fo’r awydd yn codi.

Plip plip. O diar, meddwn i. Plip plip. Mi drois i weld y wal yn gollwng, nid ar ochr y bathrwm y tro hwn eithr ochr y gegin.

Wel myn ffwc, meddwn i.

A Mam oedd yn gywir wedi’r cwbl. Ffoniais y bildar neithiwr, yn bur amlwg ddim yn gwybod am beth yr oeddwn yn sôn (“ddy lîc is in the rŵff ies” etc), ond mae hwnnw’n dod draw yn fuan ‘fory am hanner wedi saith i archwilio’r wal.

Twll o wlybaniaeth a bildar yn y bore bach. Mae ‘na nofel fanno’n rhywle, ond nid y fi ydi’r un i’w hysgrifennu.

martedì, ottobre 06, 2009

Ambell feddwl am y ras i olynu Rhodri

Ffordd dda o asesu cryfder presennol Llafur Cymru yw ystyried y tri darpar arweinydd a synfyfyrio pwy a fyddai’r gwrthbleidiau yn ei ofni fwyaf. Ar y sail honno gellir dweud yn ddiamheuaeth y dylai Plaid, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn fodlon iawn.

Dydw i ddim am fynd i fanylder yma, ond yn hytrach cynnig ambell sylw byr iawn ar yr ymgeiswyr.

Byddai dewis y ceffyl blaen, Carwyn Jones, yn gwneud fawr ddim i Lafur yn y pen draw. Dydi o ddim, mewn difri, wedi bod yn flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’n rhy ‘Gymreigaidd’ i ambell Lafurwr, ond y gwir ydi dydi o ddim yn ddigon Cymraeg i allu ad-ennill y Gymru Gymraeg (os ydi’r sïon nad yw’n siarad Cymraeg i’w blant yn wir yna mae hynny’n dweud y cyfan – ond dydw i ddim yn gwybod hynny’n bersonol).

Yn ogystal â hynny, mae ganddo enw am fod yn ddiog ac nid oes ganddo chwaith mo garisma Rhodri Morgan. Yn wir, mae Gordon Brown yn enghraifft berffaith o pam fod angen carisma ar arweinydd. O safbwynt personol, mae’n un o wleidyddion mwyaf overrated Cymru a byddai ei ddyrchafu i Brif Weinidogiaeth Cymru yn amlygu ei ddiffygion.

Byddai Edwina Hart yn gambl rhy fawr i’r blaid Lafur. Gwir, mae’n weithiwr caled ac yn weddol dda ar ei swydd ond mae’r Aelodau Seneddol yn ei chasáu, ac mae ei pherfformiad o flaen y camerâu yn llipa iawn. Byddai’r hollt a grëid ganddi rhwng Llafur Cymru a Llafur Llundain yn risg na fyddai’r aelodau cyffredin yn ei chymryd – er yn y tymor hir mi dybiaf y byddai hynny’n talu ar ei ganfed. Ddigwyddith hynny ddim, fodd bynnag.

Ond y risg fawr efo Edwina ydi ei sedd hi. Ar bapur, prin y byddai rhywun yn synnu petae Gŵyr yn mynd i ddwylo’r Ceidwadwyr yn 2011, a fyddai’n embaras mawr i Lafur.

Ond dwi’n amgyffred ar hyn o bryd mai gan Edwina Hart y mae’r momentwm, ac mae momentwm yn gallu bod yn arf hynod mewn gwleidyddiaeth.

Yn olaf mae Huw Lewis. Yn anad dim hwn ydi’r un y mae’r pleidiau eraill isio’i weld yn arweinydd ar Lafur. Dydi’r ffaith ei fod yn dysgu Cymraeg yn golygu dim – dydi hwn ddim yn un o garedigion yr iaith ac ni fyddai yn ad-ennill y Fro i Lafur (gan fynnu’n groch nad oes gan Lafur broblem yn yr ardaloedd hynny). Ond byddai apêl Huw Lewis y tu allan i gadarnleoedd Llafur yn eithriadol o gyfyngedig, ac mae lle i gredu yn ôl rhai nad yw’n eithriadol o boblogaidd yn y Cymoedd chwaith.

Fo fyddai fwyaf tebygol o arwain at dranc y glymblaid bresennol, ond fydd hynny ddim yn digwydd – mae arnaf ofn na fyddai gan Blaid Cymru yr asgwrn cefn i wneud hynny, pe câi’r dewis i wneud.

Ond mae gan Lafur un fantais waeth pwy a etholir ganddi – yr arweinwyr eraill. Dydi Nick Bourne ddim y dyn i sicrhau enillion mawr i’r Ceidwadwyr yn 2011, er mi dybiaf y gallai Johnathan Morgan fod yn beryg iawn yn hynny o beth os bydd yn tynnu’i fys allan ac yn mynd amdani. Er, o leiaf fod gan y Ceidwadwyr arweinydd posibl yn yr ymylon. ‘Does gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddim dewis bellach ond am gadw efo Kirsty, a phrin o lwyddiant y mae hi wedi’i gael hyd yn hyn (fodd bynnag, fwy na thebyg byddai dirywiad mawr i Lafur yn 2011 er budd Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn yr etholaethau yn arwain at gynnydd yn nifer y seddi Rhyddfrydol ar y rhestr, p’un a fyddant yn cynyddu eu pleidlais eu hunain ai peidio).

Ac Ieuan Wyn Jones ydi’r gorau y gall Plaid Cymru’r Cynulliad ei gynnig hefyd – a dwi ‘di newid fy meddwl amdano llawer gwaith ers 2007. Ar y funud dwi eto ddim yn ffan. A dwi’n ofni, ac yn teimlo yn mêr fy esgyrn, na fydd y Blaid yn gweld cynnydd mawr yn 2011, ac na fydd Adam Price yn AC bryd hynny chwaith. Byddai’r cyfnod diweddar o sefydlogi Plaid Cymru yn parhau yn hytrach na arwain at gyfnod o ffyniant – fe gewch chi weld.

Ond ta waeth, boed Carwyn, Edwina neu Huw yn bennaeth arnom ar garreg drws y ‘Dolig, dwi ddim yn meddwl y dylai neb arall ofni’r un ohonynt. O’r gwaelod i fyny y mae angen i’r Blaid Lafur ail-adeiladu, a chan na fu byth yn wannach ar lawr gwlad a’i gwrthwynebwyr cyn gryfed, a oes yn wir unrhyw un yn ei rhengoedd a allai atal ei thrai?

venerdì, ottobre 02, 2009

Gorllewin Caerdydd

Allwn i ddim â bod wedi ysgrifennu am y sedd hon ar adeg well, na allwn? Roedd yn hen bryd i mi fentro o’r gogledd, er at rywle yng Nghymru dwi yn ei adnabod yn dda – Caerdydd. Mae gwleidyddiaeth y ddinas hon wedi gweddnewid yn ystod y 12 mlynedd ddiwethaf, i’r fath raddau na fyddai neb yn ei iawn bwyll wedi rhagweld Caerydd 2009 bryd hynny.

Un sedd sydd wedi datblygu’n sedd ddiddorol iawn ers dyfodiad datganoli ydi Gorllewin Caerdydd. Yn wir, mewn cymhariaeth, mae tair sedd arall y Brifddinas yn ddigon anniddorol. Cynrychiolwyd hon gan George Thomas, nid yn un o’m hoff wleidyddion, am flynyddoedd maith, ac fel Llefarydd rhwng 1976 a 1983.

Cipiwyd y sedd gan y Ceidwadwyr ym mlwyddyn lwyddiannus 1983, a theg dweud bod hynny’n gyfuniad o’u poblogrwydd cymharol yn yr etholiad hwnnw a pherfformiad cryf iawn gan y Democratiaid Cymdeithasol, a enillodd dros chwarter pleidlais Gorllewin Caerdydd. Daeth yn ôl i’r gorlan Lafur yn ’87 ac felly y mae’n parhau hyd heddiw, a hynny’n weddol gadarn yn ddi-eithriad.

Etholaeth ddinesig ystrydebol, ddywedasoch chi? Byddwn i’n anghytuno. Mae hi’n weddol gymysg, ac nid yn gwbl drefol gydag ambell ran yn y gorllewin a’r gogledd yn gymharol wledig. Dim ond tua 11% sy’n medru Cymraeg, er bod rhannau Cymreiciaf y ddinas o ran iaith wedi’u lleoli yma. O ran cyfoeth mae’n cyferbynnu rhwng ardaloedd ffyniannus Pontcanna, rhannau o Landaf a Sain Ffagan ac ardaloedd mwy difreintiedig fel Glanyrafon a Threlái, a dyma etholaeth gartref Amgueddfa Werin Cymru, gerddi Soffeia a Stadiwm Athletau Caerdydd. O graffu’r wyneb mae Gorllewin Caerdydd yn llawn amrywiaeth.

Beth am felly ddadansoddi’r etholaeth amryfal hon ar sail etholiadau? Yn gyntaf, cymharwn ganlyniadau 1987 a 2005 – mae ugain mlynedd o gymharu yn hen ddigon dwi’n meddwl - gan gofio bod y Ceidwadwyr yn eithaf cryf yn ’87 a Llafur yn parhau’n lled-boblogaidd yn ’05. Yn wir, roedd y bleidlais Lafur yr un peth, tua 45% yn y ddau etholiad hynny (er, yn anochel braidd, yn llawer is na’r uchafbwynt o 60% ym 1997). Llwyddodd y Ceidwadwyr gael 38% yn yr achos cyntaf – ond hyd yn oed yn 2005 roedd y bleidlais Geidwadol mor isel â 22%. Ni fu adfywiad.

Segura y mae pleidlais trydedd blaid y DU yma hefyd – o gael 16% ar led-ffurf y Democratiaid Cymdeithasol yn ’87, cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol 18% o’r bleidlais yn 2005, ac yn y cyfnod rhwng y ddau bwynt hynny ni chafodd fwy na 15% or’ bleidlais. Nid Canol Caerdydd mo hon.

Ar y llaw arall, mae Plaid Cymru wedi cryfhau’n aruthrol yma. Cafodd lai na 2% o’r bleidlais ym 1987, gan golli ei hernes y flwyddyn honno ac eto’n y ddau etholiad ar ôl hynny. Er nad yw’r 13% a gafodd yn yr etholiad cyffredinol diweddaraf yn drawiadol, mae hi’n dro byd o ugain mlynedd yn ôl.

Yn ôl arolwg barn cymharol ffafriol i Lafur a gyhoeddwyd yn ddiweddar (YouGov, 29-30 Medi) mae’r Ceidwadwyr ar 37% a Llafur ar 30%. Pe buasem yn ceisio adlewyrchu hynny yng Ngorllewin Caerdydd, gan ddi-ystyru Plaid Cymru oherwydd diffyg data, byddai’r canlyniad yn rhywbeth tebyg i:

Llafur : 40%
Ceidwadwyr : 27%
DRh : 19%

Buddugoliaeth glir i Lafur felly, ond beth am ddefnyddio arolwg diweddar arall sy’n llawer llai ffafriol i Lafur, gan ei gosod yn drydydd ledled Prydain (Ipsos MORI, 25-27 Medi)? Byddai’r canlyniad fel a ganlyn:

Llafur : 34%
Ceidwadwyr : 26%
DRh: 23%

Felly, yr awgrym yw, a hynny’n swnio’n rhyfedd ddigon o ystyried yr hinsawdd wleidyddol bresennol, o drosi’r canlyniadau hyn i Orllewin Caerdydd (dull syml, anwyddonol mi wn), fyddai’r Ceidwadwyr ddim yn agos yma. Ymhellach at hynny, mae’r bwlch lleiaf (8%) yn ensynio y gallai nifer nid ansylweddol o Lafurwyr aros adref ac y byddai Llafur o hyd yn fuddugol yma – a chofiwn nad Llafur ydi’r unig blaid sy’n dioddef o apathi.

Dydi hi ddim yn beth call trosi canlyniadau’r Cynulliad i rai San Steffan, ond dyma hanes pedair prif blaid Cymru yn y sedd hon. Dangosir canran y bleidleis a gafwyd, a nodir y gwahaniaeth rhwng canlyniad ’99 a chanlyniad ’07 mewn cromfachau.

Llafur : 37% (-25%)
Ceidwadwyr : 25% (+10%)
Plaid Cymru : 21% (+6%)
Dem Rhydd : 15% (+6%)

Yn debyg i Aberconwy gynt, mae Llafur ar drai gyda’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru’n elwa yn ddigon tebyg o’i dirywiad, ond gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn elwa yn yr achos hwn. Byddai proffwydo i Blaid Cymru ennill cymaint ag ugain y cant o’r bleidlais yma mewn etholiad cyffredinol yn ffôl ... ond tybed ...

Oherwydd, gyfeillion, mae un canlyniad yn sicr na fyddai neb wedi’i ragweld yma ychydig flynyddoedd yn ôl, sef canlyniadau etholiadau cyngor 2008 yn y sedd hon. Dydw i ddim am gyfrif nifer y pleidleisiau, yn wir mae gan bob ward ei hanes ei hun, ond ar ôl y cyfrif dyma faint o gynghorwyr oedd gan bob plaid yn yr etholaeth:

Plaid Cymru 7
Llafur 6
Democratiaid Rhyddfrydol 4
Ceidwadwyr 2

Os cyfrwn nifer y cynghorwyr fel ffon fesur, dyma un o ardaloedd gwannaf y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda bron i hanner seddau Llafur Caerdydd yma, a phob un o seddau Plaid Cymru’r ddinas. Er gwaetha’r ffaith ei bod yn swnio’n hurt, yn y rhan hon o Caerdydd mae gan y cenedlaetholwyr fwy o gynghorwyr na’r un blaid unigol arall, sydd ddim yn sefyllfa a adlewyrchir o gwbl yng ngweddill dinasoedd mwyaf Cymru.

O ran y Blaid, mae’r ffaith iddi ennill tair sedd y Tyllgoed a dim un yn Nhreganna yn dweud llawer am natur ei chefnogaeth yn y ddinas – yn fras, nid y Cymry Cymraeg bellach yw sail ei chefnogaeth. Yn wir, gellir mynd mor bell â dweud bod y Blaid yn y ddinas wedi creu carfan sy’n elyniaethus tuag ati o blith y Cymry Cymraeg, ond stori arall ydi honno.

Rŵan mae un etholiad arall y cawn edrych yn fras drosto, sef rhai eleni. Felly y bu o blith y pleidiau ‘mawrion’:

Llafur : 4,236 (23%)
Ceidwadwyr: 4,012 (22%)
Plaid Cymru: 3,142 (17%)
Dem Rhydd : 1,725 (9%)
Eraill : 5,214 (29%)

Ambell ffaith: i bob pwrpas roedd hon yn hollt deirffordd, cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol lai o bleidleisiau na UKIP (a fawr fwy na’r Gwyrddion) a dyma’r unig sedd y bu i Lafur ei hennill yng Nghaerdydd. Gan ddweud hynny, mae etholiadau Ewropeaidd yn ddi-eithriad yn rhoi cic i’r llywodraeth gyfredol, a 12 mlynedd i mewn i lywodraethu ‘doedd Llafur byth am wneud yn dda hyd yn oed fan hyn, ond mi enillodd waeth bynnag.

A dyma ni’n dod ati – pwy sydd am ennill? Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim – o’i gymharu â bron pob rhan arall o Gaerdydd, a hwythau’n arweinwyr y cyngor, maen nhw’n wan yma.

A beth am y Blaid? Ydi, mae hi ar gynnydd yma, heb ronyn o amheuaeth, ond nid dyma’r fath o sedd y gall drosglwyddo ei phleidlais Cynulliad yn bleidlais San Steffan, ac mae’r seiliau dal yn rhy fach yma – yn realistig, byddai trydydd parchus yn ganlyniad da iddi.

Un o ddwy sydd am ennill yma. Yn gyntaf, dau ffigur am Lafur yma ers 1987. Cafodd ei pherfformiad cryfaf ym 1992, wrth i Rhodri Morgan ennill 24,300 o bleidleisiau, ac fe ddaeth ei chanlyniad gwaethaf o ran nifer y pleidleisiau yn 2005 gan sicrhau 15,700 o bleidleisiau (Byddai’n werth nodi fan hyn hefyd hyd yn oed ym 1983 pan enillodd y Ceidwadwyr ac y cafodd y Democratiaid Cymdeithasol 10,000 o bleidleisiau y llwyddodd Llafur ennill y nesaf peth i 14,000 o bleidleisiau – gan gofio hefyd nad ydi polau heddiw yn eithriadol o wahanol i rai’r cyfnod hwnnw o ran Llafur).

A all y Ceidwadwyr ragori ar hynny? Roedd ei chanlyniad gorau hi yma ers 1987 ym 1987 ei hun gan ennill 16,200 o bleidleisiau (a oedd yn wir yn fwy na chafodd pan fu’n fuddugol yma ym 1983). Gwnaeth waethaf yn y gorffennol agos, yn 2001, gan ennill 7,300 o bleidleisiau. Poenus.

A’r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid yn yr etholiad diwethaf? 8,167. Mae’r gagendor yn fwy na’r bleidlais Dorïaidd.

Mae angen gogwydd o 12% ar y Ceidwadwyr i gipio Gorllewin Caerdydd oddi ar Kevin Brennan, sydd ddim yn eithriadol o boblogaidd dwi ddim yn meddwl, ond eto’n wyneb gweddol adnabyddus. Dydi’r polau ddim yn awgrymu bod y fath ogwydd am ddigwydd, felly sut y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill yma?

Yn gyntaf, mae’n rhaid i’r blaid ddyblu nifer y pleidleisiau a gafodd yn 2005, ac yn ail mae’n rhaid iddi obeithio y bydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau, naill ai i apathi neu bleidiau eraill. Byddai perfformiad cryf gan Blaid Cymru ac, i raddau llai, y Democratiaid Rhyddfrydol o fudd yn hynny o beth, ond amheuaf yn fawr a fyddai hynny i’r graddau y gwaneth y Democratiaid Cymdeithasol ym 1983.

Proffwydoliaeth: Er gwaetha proffwydiadau gan ambell un arall, dwi am sticio fy mhen allan a dweud na fydd hon yn ildio i’r llanw glas. Buddugoliaeth o tua 2,500 i Lafur.

venerdì, settembre 25, 2009

Nain a'r Gath

A, do, mi gafodd Nain syndod o’m gweld heddiw wrth i’r car dynnu i fyny ar y dreif. Newydd ddod nôl oedd hi ei hun, wedi bod yn nôl sglods a ‘sgod o Borth i hi a Grandad, felly mi es i mewn. Am ryw reswm roedd wedi cael un pysgodyn yn ormod, camgymeriad y ddynas siop jips, felly roedd tri ohonynt ac fe’m gorfodwyd i eistedd lawr am ginio â hwy. Colli 10 pwys mewn mis, dywedasoch? Ddim ffiars, ar y rêt yma.

P’un bynnag, felly y bu wrth i Nain roi’r hanes am y gath i mi. Mae ‘na gath yn dod i’r ardd acw ers ychydig wythnosau, mae o’n dod at y drws pan fydd Nain yno ac yn mewian isio bwyd. Bydd hithau yn bur ddwl yn rhoi bwyd iddi, wrth i’r diawl beth hysian arni, ond yn fodlon iawn ar fwyta’r bisgedi a pha beth bynnag arall y caiff – pysgodyn oedd heddiw, wrth gwrs.

“Dydi rhywbeth ddim yn iawn am y gath ‘na” meddai Nain, fel petai ganddi sgitsoffrenia.

Er bod cathod yn handi iawn am ddychryn y llygod mawr, fel y canfûm yn Grangetown, mae’n gas gen i gathod. Mae pawb naill ai’n un am gi neu’n un am gath – mae cath y fath o anifail sy’n ymylu ar haeddu cael ei cham-drin. Sgymans parasitig ydyn nhw, slieibyns sleimllyd sy’n edrych orau ar deiar ffôr bai ffôr.

Mi fethodd doethineb Nain heddiw, fodd bynnag. Y ‘berl’ oedd:

Mae rhywun yn gwneud rhywbeth os oes yn rhaid iddyn nhw, a ddim yn boddran yddyrwais. Dyna ydi bywyd, de.

Anwiredd ydi bod pobl yn mynd yn ddoethach wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.

giovedì, settembre 24, 2009

Aberconwy

Mi fyddaf yn onest; o ystyried yr holl ffactorau perthnasol dwi o’r farn mai Aberconwy fydd etholaeth fwyaf diddorol Cymru yn ystod yr etholiad nesaf. Mae hi’n etholaeth gwbl newydd, sy’n gyferbyniad rhwng cefn gwlad Cymraeg ei hiaith cenedlaetholgar a’r arfordir Seisnigaidd ei iaith a’i wedd. Roedd y rhan ddeheuol wedi’i chynrychioli gan genedlaetholwyr ers 1974, a’r gogledd gan y Ceidwadwyr ers oes pys cyn 1997, nes i Lafur ennill y flwyddyn honno, ac yn y Cynulliad gan Blaid Cymru rhwng 1999 a 2003 a Llafur rhwng 2003 a 2007. Ond tawel iawn ydi Llafur am ei gobeithion yma.

Yr hyn sydd fwyaf diddorol i mi ydi mai dyma’r frwydr gyntaf sy’n gosod Plaid Cymru yn erbyn y Ceidwadwyr ar lefel San Steffan ers ugain mlynedd (Ynys Môn yn ’87), ar adeg lle y mae Llafur ar drai ac mai’r ddwy blaid hynny sy’n elwa, yn ddigon cyfartal yng Nghymru, o’i dirywiad.

Ac mae digon o arfau gan y ddwy blaid – heb amheuaeth mae gan y ddwy bellach beiriannau pleidiol effeithlon iawn yng Nghymru; fe fydd yn ymgyrch frwd a slic. Ond cyn sôn am y cystadleuwyr, beth am yr also rans?

Yn gyntaf, y Democratiaid Rhyddfrydol. Pwy sydd ddim yn cofio’r gornestau lu rhwng yr hen Ryddfrydwyr a’r Ceidwadwyr yn hen etholaeth Conwy (heblaw amdanaf i, sy’n rhy ifanc wrth gwrs!)? Nid pleidlais ryddfrydol mohoni yn y bôn ond pleidlais wrth-Geidwadol. Cronnwyd honno gan Betty Williams a’r blaid Lafur ym 1997, ac ers hynny dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn rym yma. O hawlio traean o bleidlais Conwy yn ’97, ddeng mlynedd yn ddiweddarach ac ar ffurf Aberconwy, llwyddodd y blaid ennill llai na 10% o’r bleidlais.

Mae Llafur yn wahanol. Mae rhannau o’r etholaeth sy’n gynefin digon naturiol iddi, ond fel y gwyddom erbyn hyn mae’r ardaloedd hynny’n prinhau ac yn troi oddi wrth y blaid. Yn 2007, llwyddodd Llafur i ennill llai na chwarter y bleidlais, llawer llai na’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, er mae’n rhaid cydnabod i hynny ddigwydd ag ymgeisydd a ystyriwyd yn wan iawn.

Ond dangosai 2007 rywbeth arall, sef y gallai Plaid Cymru ennill yma. ‘Sdim dwywaith am y peth, enillodd Plaid Cymru yn llawer haws na’r disgwyl mewn sedd yr oedd y Ceidwadwyr yn disgwyl ei hennill – roedd yn dalcen caled iawn iddynt.

Y tro hwnnw enillodd Plaid drwy ddefnyddio cyn-brifathro uchel ei barch i drechu Dylan Jones-Evans, y byddai rhywun yn amgyffred o leiaf fel rhywun fyddai’n bur fodlon yn rhengoedd Plaid Cymru (p’un a fyddai ai peidio, sôn am ganfyddiadau dwi).

Ond cofiwn hyn hefyd – yn 2007 (hyd fy ngwybod) pleidleisiodd de’r etholaeth yn drymach o lawer na’r gogledd: hynny ydi, trodd yr ardaloedd Plaid Cymru allan i bleidleisio, arhosodd yr ardaloedd Ceidwadol i mewn. Nid dyma fydd y sefyllfa yn 2010.

Y tro hwn? Ymgeisydd Ceidwadol fu’n gyn-aelod amlwg o Blaid Cymru, ac ymgeisydd Plaid Cymru fu’n gyn-blismon. Ar yr olwg gyntaf, y Ceidwadwr sydd â’r fantais, ond cymrwch eiliad i feddwl: enillir Aberconwy ar draethau’r Costa Geriatrica, i bwy y byddai’r bobl hynny fwyaf tebygol o bleidleisio? Cyn-genedlaetholwr neu gyn-blismon?

Dewch i’ch casgliadau eich hun ond mae’n gwestiwn diddorol sydd yn haeddu sylw.

Peidiwn ychwaith â llwyr ddiystyru’r Rhyddfrydwyr a Llafur. Dwi’n credu fy mod i’n gywir i ddweud bod y ddau ymgeisydd yn gynghorwyr yn yr etholaeth, tra bod Phil Edwards yn gynghorydd yn etholaeth gyfagos Gorllewin Clwyd a Guto Bebb, wel, ddim. Anodd ydi rhagfesur yr effaith fechan honno, ond mae gan y ddau o leiaf seiliau lleol nad oes gan y ddau arall, o bosibl – mewn etholaeth y mae disgwyl iddi fod yn frwydr frwd, gall eu pleidlais hwy effeithio ar y canlyniad cyffredinol.

Ffactor arall fyddai’n sicr yn ddiddorol mewn sedd fel hon ydi petae UKIP yn sefyll – mae ‘na bleidleisiau i blaid fel UKIP yma, ac heb amheuaeth mi fyddai ei phresenoldeb yn dwyn pleidleisiau oddi ar y Ceidwadwyr yn fwy na Phlaid Cymru – ni fyddai’n amhosibl iddynt ennill fil neu ddwy o bleidleisiau, ac mi dybiaf yn yr etholaeth hon gallai hynny agosáu pethau’n sylweddol.

Yn ôl i bwynt a wnes yn gynharach, y bleidlais wrth-Dorïaidd a fu’n sail i bleidlais gref y Rhyddfrydwyr yn yr ardal, ac a gronnwyd yn llwyddiannus gan Lafur yn ’97, ’01 a hefyd ’05. Fel y nodais, mae’r Rhyddfrydwyr wedi dirywio’n enbyd yma, ac mae Llafur hefyd yn enwedig o golli ardaloedd lle y mae’n draddodiadol gryf (Bangor a Dyffryn Ogwen) a chael ardaloedd lle y mae’n gymharol wan (Dyffryn Conwy – er y bu’n weddol gryf yn ardal Llanrwst hyd yn ddiweddar). Y buddiolwr mawr ydi Plaid Cymru yn hynny o beth, ond mae colli’r gorllewin yn fantais i’r Ceidwadwyr hefyd.

Os am ennill, mae’n rhaid i Blaid Cymru gronni’r bleidlais wrth-Geidwadol. A all wneud hynny yn Llandudno a Chonwy a Phenmaenmawr? Byddai gwneud mewn etholiad cyffredinol yn gamp a hanner. Mae hon yn dasg y mae Plaid Cymru yn bwriadu ei chyflawni ledled Cymru – bydd Aberconwy yn feicrocosm o ba mor lwyddiannus y mae wedi llwyddo i wneud hynny.

I raddau, mae wedi llwyddo i wneud hyn eisoes yn y sir, gan arwain grŵp gwrth-Geidwadol ar y Cyngor – o leiaf felly fod fwy na thebyg ganfyddiad mai Plaid Cymru ydi’r prif blaid wrth-Geidwadol yma ac mae’n rhaid iddi fanteisio ar y canfyddiad hwnnw.

Dull diddorol o weithio pethau allan yw ystyried isafswm ac uchafswm pleidleisiau’r pleidiau, dull sy’n debyg i’r hyn a ddefnyddiodd Vaughan Roderick yn ddiweddar i wneud ambell broffwydiad. Ystyriwch hyn; yn etholiadau’r Cynulliad llwyddodd Plaid Cymru ennill bron 8,000 o bleidleisiau, a’r Ceidwadwyr tua 6,500. Byddwn i’n dueddol o feddwl bod yr 8,000 hynny nid ymhell iawn o uchafswm pleidleisiau’r Blaid yn yr etholaeth, a dydi o ddim yn afresymol dweud y gall Plaid Cymru ddisgwyl rhwng 7,000 ac 9,000 o bleidleisiau mewn unrhyw etholiad fel rheol.

Ond mae’r Ceidwadwyr yn ffactor dirgel yn hyn o beth – dydi’r lliaws sy’n gefnogol iddynt ddim am bleidleisio mewn etholiad cynulliad, ac eto mae’n amlwg bod eu lleiafswm pleidleisiau (tybiedig) rhwng 6 a 7 mil mewn etholiad cynulliad. Byddwn yn dueddol o ddweud mewn etholiad cyffredinol y gallai’r Ceidwadwyr ddisgwyl o leiaf naw mil o bleidleisiau, sef yn fy marn i, tua uchafswm Plaid Cymru.

Ond i’r Ceidwadwyr ei cholli y mae Aberconwy. Y storom berffaith i Blaid Cymru fyddai UKIP yn sefyll, a’i bod hithau yn llwyddo’n weddol dda i gronni’r bleidlais wrth-Geidwadol (ac er gwaethaf tueddiadau glas gogledd yr etholaeth mae’r bleidlais honno’n un gref), a’u bod yn llwyddo darlunio Guto Bebb fel ‘y cyn-genedlaetholwr’ a Phil Edwards fel ‘y cyn-blismon’. Dwi’n sicr fy marn y gallai’r dacteg honno fod yn frawychus o effeithiol.

Ond ar adeg lle y mae’r polau yn ffafrio’r Ceidwadwyr i’r fath raddau, mae Aberconwy yn sedd y dylent ei hennill os ydynt am ffurfio llywodraeth.

Proffwydoliaeth: mwyafrif rhwng 2,000 a 4,000 i’r Ceidwadwyr dros Blaid Cymru.

mercoledì, settembre 23, 2009

Carchar Caernarfon

Wel, fe fydd hyn yn amhoblogaidd, ond dwi’n teimlo rheidrwydd i wneud rhywbeth nad ydw i yn ei wneud yn aml iawn sef amddiffyn Plaid Cymru.

Wel, dwi’n dweud ‘amddiffyn’ ond yn hytrach ceisio rhoi perspectif ar rywbeth ydw i, sef y penderfyniad a wnaed gan y llywodraeth ganolog i beidio ag agor carchar yng Nghaernarfon. Rŵan, mae hyn wedi arwain at rai (yn benodol Dyfrig) i alw am ddod â therfyn i’r glymblaid yn sgîl y penderfyniad.

Fe wyddoch nad ydw i’n ffan o’r glymblaid – dydw i ddim yn meddwl y dylai Plaid Cymru glymbleidio â’r pleidiau Prydeinig. Ond mae’r glymblaid a’r methiant i ddod â charchar i Wynedd yn amherthnasol yn y cyd-destun hwnnw. Do, aeth y Blaid i’r glymblaid honno er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau pwysig, ond ffôl ar y lleiaf ydi meddwl y gallai ddylanwadu ar unrhyw faterion y tu allan i gylch gwaith datganoli. Ni all y Blaid Lafur yng Nghymru, a hwythau mewn grym yn Llundain hefyd, wneud hynny – ni fyddai’r Ceidwadwyr ychwaith yn gallu petaent mewn grym ym Mae Caerdydd a Llundain (yn wir, pa blaid arall sy’n gwrando llai ar ei changhennau ‘rhanbarthol’ na’r Ceidwadwyr?) – felly mae disgwyl i Blaid Cymru allu gwneud yn ffôl mae arna’ i ofn.

Agwedd ffroenuchel, di-hid San Steffan at Gymru sy’n gyfrifol am hynny. Nid Plaid Cymru.

Pa wendidau bynnag sydd i’r glymblaid, ac mae nifer echrydus o uchel o wendidau iddi, ‘does â wnelo hyn ddim â hi.

Dydi o ddim yn “ddadl wan” dweud na allai Plaid Cymru neu Lywodraeth y Cynulliad fod wedi dylanwadu ar y penderfyniad – mae’n ffaith. Mae’n dyst i’r ffaith bod pwerau’r Cynulliad yn annigonol, dyna’r oll.

Yn wir, oes unrhyw un wedi gweithio’n galetach dros geisio sicrhau’r carchar na Hywel Williams ac arweinydd Cyngor Gwynedd? Nacoes. I ba blaid y maen nhw’n perthyn? Yn union.

Methiant llywodraeth San Steffan ydi hwn, ac mae’r ffaith na wrandewid ar Hywel Williams ac na thrafodwyd ag ef yn dyst i draha’r lle a’i agwedd at Gymru – os rhywbeth mae’n dangos pam fod angen i Gymru ymwared ohoni cyn gynted â phosibl. Fe’i hysgogwyd gan ddiffyg pryder am lais Gogledd Cymru, a hefyd y llanast ariannol cyfredol a achoswyd ganddi.

Ond un peth nad ydyw ydi methiant Plaid Cymru. Ydi, mae’n rhwystredig o fewn y cyd-destun gwleidyddol sydd ohono na all y Blaid ddylanwadu i’r fath raddau, ond dyna’r system sydd ohoni.