lunedì, settembre 06, 2010

Diléit

Un peth od sydd wedi digwydd yn bennaf ers i mi ddechrau cyfieithu ydi rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael y ffordd arall rownd. Yn bur aml fydda i efo gair Cymraeg yn fy mhen, ac nid gair amlwg ond yn aml yn un digon anarferol, a fydda i er fy myw methu cofio’r Saesneg. Y diweddaraf o’u plith oedd y gair ‘dirmygus’. I fod yn onest dwi ‘di methu â chofio be ydio yn Saesneg ers wythnosau ond bob amser wedi anghofio am y peth pan fo’r modd gennyf i ganfod y cyfieithiad.

Wrth gwrs, pan ofynnais i amryw bobl, Nain, Anti Nel, y chwaer, Dad a Mam (wn i ddim pam Mam achos Saesneg ydi Mam, ond mae hi newydd benderfynu dysgu Cymraeg. Mi ordrodd goffi yn gyfan gwbl Gymraeg ryw bryd yn ddiweddar, a oedd yn destun sioc i Dad, a hefyd brynu CD Bryn Fôn. Mae Mam yn licio Bryn Fôn. I like coffio dy wyneb, medd hi) beth ydi ‘dirmygus’ yn Saesneg ond ‘doedd ‘run ohonyn nhw’n gwbod beth oedd o’n Gymraeg beth bynnag.

Scornful neu contemptuous ydi ‘dirmygus’ mi wn erbyn hyn. Ac un arall diweddar oedd ‘esgeulus’. Mi allwn yn hawdd agor Cysgeir rŵan i ffeindio allan. Ond dwi’n dwat a dwi ddim am wneud. Oherwydd, er gwaethaf y teimlad rhwystredig hwnnw o methu â chyfieithu ar y pryd (fedra i ddim cyfieithu ar y pryd beth bynnag cofiwch, nid y math yna o gyfieithydd ydwi), mae ‘na ryw ddiléit dwi’n ei theimlo o wybod gair digon posh yn y Gymraeg a ddim gwbod be dio’n Saesneg, i’r fath raddau nad oes gen i glem.

Ond ew, un peth arall sy’n ddiléit i mi fod adra ydi dwi’n clwad fy hun fy acen ogleddol gomon yn llifo’n ôl. Mai’n braf gallu siarad yn digon bygythiol ac uchal heb i wneud ddweud dy fod yn bod yn ‘ymosodol’. Yn wir, dwi ‘di clywed acen Dyffryn Ogwen yn cael ei disgrifio fel ‘ymosodol’ ambell waith. Ac fel unrhyw un arall werth ei halen o Ddyffryn Ogwen, dwi’n cymryd hynny’n gompliment ar y diawl!

sabato, settembre 04, 2010

Y ddoe na ddaw yn ôl

Felly neithiwr mi gyrhaeddais Rachub fach drachefn. O fod yma ychydig ddyddiau’r flwyddyn mae’r ddelwedd berffaith sydd gennyf yn fy mhen ohoni yn dueddol o gael cnoc go hegar ond fydda i wedi hen anghofio unwaith y byddaf nôl yng Nghaerdydd. Weithiau dwi’n meddwl fy mod yng Nghaerdydd o hyd, am lawer hirach na thybiais, megis estrys â’i phen mewn bell dywod. Haws ydi hi, wedi’r cwbl.

Ond, na, er gwaethaf popeth fy Rachub i ydyw o hyd, ar ei newydd wedd ai peidio, a’m Arfon innau ‘fyd. Canai Nain o hyd

Show me the way to go home
Sir Gaernarfon neu Sir Fôn

A dwi wastad wedi uniaethu gan fod Môn, Mam Cymru (sy llawn blydi weirdos a dyna ddiwadd arni), wedi bod yn rhan lawn cymaint o’m mywyd ag Arfon gadarn. Doedd dim yn well gen i na phan fues yn nhŷ Nain ‘stalwm bob penwythnos yn clwad ei straeon o’i phlentyndod; ei bod hi’n ara’ deg yn gwisgo i’r ysgol, a’i bod yn cael ffrae gan ei thaid am fynd i’r twlc moch efo Anti Nel a neud tân yno i geisio coginio tatws. Ond, yn ddiweddar, a hithau’n heneiddio, mae rhywun yn clywed yn ei llais a rhwng llinellau ei brawddegau fod y byd yn rhy wahanol erbyn heddiw a bod y pethau bychain pwysig iddi’n araf ddadfeilio; fel na phetai cornel fach ym myd mawr heddiw i ffydd na iaith y ffordd o fyw y’i magodd.

Efallai rhyw ddydd fydda i’n cael dweud y fath bethau i bobol, wn i ddim. Dwi’n cofio Rachub fach pan oedd yn Rachub lai, cyn i Fron Bethel gael ei chodi nag ysgol y sgwâr droi’n fflatiau henoed. Dwi’n cofio ‘fyd ‘stalwm nad y ni oedd bia’r caeau sydd i’r de o’r tŷ – yr hen Huw oedd bia nhw. Cadwai ddefaid a dwy fuwch yno. Dim byd mawr, er bod buwch yn beth gweddol fawr, yn enwedig os ydach chi’n fach. A phorai’r ddwy wrth Ysgol Llanllechid weithiau a dyma fi’n dweud wrth fy ffrindiau “dwi’n nabod nhw”. Credai neb mohonof, cofiwch, ‘sneb yn credu dim y dyweda i achos mae pobol yn gallach na hynny.

Erbyn heddiw ni sy’n berchen ar y caeau. Nid oes na dafad na buwch yno mwyach – dwy ferlen wyllt yn unig (Wil a Guto!). Nid oes llif yn y ffrwd fach lle nofiai’r penbyliaid a’r gelenod oherwydd bod y caeau rŵan yn wyllt gan dyfiant. Ond gwell dwy ferlen wyllt a llystyfiant na dwsin o dai i Saeson.

Bydd fy Nain Eidalaidd wastad yn deud Arglwydd, I been in Rachub for 64 years, and I’ve enjoyed my life here.

Dwinnau ‘fyd, ac mae’n braf, doed â ddel, gofio fy mod i wedi. Pan fydd y ddinas wedi darfod â mi, dyma’r unig le yn y byd y gallwn fod. Diolch i Dduw mawr y cymylau mai hogyn o Rachub ydw i.

venerdì, settembre 03, 2010

Pwt Pethau Bychain

Dwi bron yn teimlo’n ddiog ar ddiwrnod Pethau Bychain yn blogio achos, i bob pwrpas, gwneud yr un peth â dwi wedi’i wneud ers saith mlynedd ydw i. Dwi’n siŵr, ac yn gobeithio, y bydd y we Gymraeg yn llawn gweithgarwch heddiw. Fyddai’n braf meddwl y bydd pawb yn blogio ac ambell flog newydd yn dod i’r amlwg. Ar y llaw arall fe wyddoch be dwi’n ei feddwl am drydar...

Gyda thaith i’r gogladd ar y gweill, a’r paratoadau meddyliol dwys sydd ynghlwm wrth hebrwng y Dwd yno, dyna’r oll ‘sgen i ddweud am heddiw. Yn fuan eto, gyfeillion....

mercoledì, settembre 01, 2010

Y teledu newydd

Cyn i mi fynd ymlaen efo’r crap arferol, diolch i bawb bleidleisiodd dros y blog hwn yng ngwobrau TotalPolitics eleni. Dim ond neithiwr sylwais (neu ailgofiais) i am y gwobrau ac ar ôl y saib yn arbennig do’n i’m yn disgwyl bod arno o gwbl, heb sôn am esgyn bymtheg safle i rif 21. Dwi’n cofio bod yn 21, roedd bywyd cymaint yn well ac roedd gen i wallt llawer mwy trwchus heb orfod droi at Pantene Pro-V.

Ond dwi’m am sôn am wleidyddiaeth heddiw, mae gwleidyddiaeth ar y funud yn ddiflas iawn, ac os ydach chi mor gul â mi prin edrychwch hi dros y ffin am eich dogn o wleidyddiaeth. Na, mae pethau pwysicach wedi digwydd ar Stryd Machen dros y penwythnos.

Dwi ‘di deud wrth fy hun ers misoedd maith fy mod isio teledu newydd. Doedd ‘na ddim yn bod efo’r un hen, cofiwch. Roedd y llun yn dda iawn ond hen oedd hi ‘fyd – hen dwmpath o beth hyll ar ochr yr ystafell (‘chydig fel o ni yn Dempseys nos Sul a dweud y gwir). Na, roedd hi’n amser uwchraddio i sgrîn wastad 32” Toshiba rwbath. Un da ydi hi. Mi falith, fel popeth, yn diwadd. Dyna sy’n digwydd yn Stryd Machen wedi’r cwbl. Does dim, na neb, yn para’n hir.

Felly mi dwi’n mynd i’r gogladd ddiwedd yr wythnos ac yn mynd â’r hen deledu efo fi. Mae’n rhy dda i’w luchio. Ond onid yw popeth yn Rachub draw ... mae tŷ Adra yn drysorfa o declynnod o ddegawdau fu, pethau sy’n “rhy dda i’w taflud” ac felly sy’n cael gwifrau a phob mathia gwahanol i’w huwchraddio yn hytrach na phrynu rhai newydd. Mae’r remôts ym mhob man a dwnim a oes un yn gweithio.

Felly dyma uwchraddio eto, hen deledu’r Hogyn, yr anrheg orau all roi i’w deulu bach tlawd. Oes, mae gen i galon o aur. Swni’n farw swni’n angel. Dwnim os fela mai’n gweithio chwaith ond well bod hi.

giovedì, agosto 26, 2010

Arolwg barn ITV YouGov

Fydd rhywun yn licio ei bolau piniwn, ac mae’r un diweddaraf sydd wedi dod i’r amlwg yn ddigon diddorol. Ces olwg fanwl arno yn hwyr neithiwr, wedi digwydd gweld bod Heledd Fychan yn ei drydar fel ‘gwych’ i Blaid Cymru. Yn ôl y pôl ITV-YouGov yn yr etholaethau câi Llafur 39% (+7% o etholiad 2007) o’r bleidlais, Plaid Cymru 23% (+1%), y Ceidwadwyr 22% (d/n) a’r Democratiaid Rhyddfrydol 10% (-5%).

Mae sawl goblygiad i hyn, y gallwch ddarllen amdanynt yn y Western Mail, papur gorau’r byd (haha, jôc, ma’n shait). Dwi ddim yn rhagweld Llafur yn adennill Gorllewin Clwyd, ond gallai Gorllewin Caerfyrddin/De Penfro bod yn bosibilrwydd – bid siŵr mai ras deirffordd fydd honno eto. Byddwn i fy hun yn dueddol o edrych at seddau Canol a Gogledd Caerdydd. Wn i fy mod wedi darogan Blaenau Gwent yn hollol anghywir eleni, ond yng ngyd-destun y Cynulliad a hefyd gan mai Trish Law sy’n sefyll, swni’n gyndyn o ddweud aiff yn bendant i ddwylo Llafur.

Serch hynny, mae’n anodd ar hyn o bryd weld llu newidiadau yn yr etholaethau. Dwi’n amau bod pob un o seddau’r Blaid yn ddiogel, hyd yn oed Môn, Ceredigion ac Aberconwy. Fydd Maldwyn yn ddiddorol iawn (mi grybwyllais y sedd honno fel sedd ddiddorol yn 2011 y llynedd – er eto cael slap yn fy wynab am 2010!), a bydd Ron Davies yn sicr yn gwneud Caerffili yn ddiddorol. Fentra i ddim mwy bron i flwyddyn cyn yr etholiad ei hun!

Yr hyn sy’n ddiddorol ydi’r ffigurau ar gyfer y rhestr. Mae Llafur ar 39% (+9%), Plaid Cymru 23% (+2%), y Ceidwadwyr ar 21% (d/n) a’r Dems Rhydd ar 9% (-3%). Oherwydd natur y system, yn ôl canlyniadau, gallai’r Dems Rhydd yn hawdd fod efo mwy na 6 sedd y tro nesaf, eu diystyru ni ddylid. Ac er y byddai’r Blaid ar ei fyny, colli seddau y byddai oherwydd perfformiad gwan yn y De-ddwyrain. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd targedu seddau – rhywbeth yn hanesyddol y mae’r Dems Rhydd yn dda iawn arno.

Ym mêr fy esgyrn, dwi’n teimlo mai’r rhestrau fydd yn allweddol i lwyddiant y pedair plaid yn 2011. Pôl piniwn ‘gwych’ i Blaid Cymru, nid yw (ac mi fyddai’r 13 sedd arfaethedig yn berfformiad digon pitw). Ac mae o galondid i’r Dems Rhydd wybod y gallant golli pleidleisiau ac ennill seddau. Dwi am fod mor hy â dyfynnu fy hun o’r post hwn wnaed ddwy flynedd nôl ar ôl etholiadau Ewrop, pan ddaeth y Blaid yn drydydd a’r Ceidwadwyr yn gyntaf. Yn lle ailadrodd, dyma hi - dwi'n meddwl efallai  bod i mi ddweud y gwir am unwaith:

Tybed, tybed a fydd hynny yn ei hun yn ysgogiad i’r Llafurwyr nad aethent i bleidleisio i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol mewn pleidlais wrth-Dorïaidd? Gyda Phlaid Cymru yn drydydd, er yn drydydd agos, dydy hi ddim wedi ymsefydlu fel opsiwn posibl amgen i Lafurwyr oherwydd hynny, sy’n awgrymu i mi na fydd pleidleiswyr Llafur yn troi ati naill ai i brotestio, neu o ran newid sylfaenol yng ngwleidyddiaeth Cymru, fel y gwelir yn yr Alban.

Petai Plaid Cymru wedi dod yn ail, yna’r canfyddiad fyddai mai brwydr fawr y dyfodol fyddai Plaid a’r Ceidwadwyr. Y canlyniad?

Gallai colli i’r Ceidwadwyr, yn y pen draw, fod yn hwb i Lafur, a thrwy hynny o bosibl arwain at gyfnod di-dwf i Blaid Cymru

mercoledì, agosto 25, 2010

Y lle gorau i gath


Ai fi ydi'r unig un sy'n meddwl bod y stori wirion hon wedi'i mynd yn rhy bell? Y ddynas yn cael bygythiadau i'w lladd, 18,000 o bobl wedi ymuno ar grŵp Facebook i'w chondemnio, straeon lu yn y papurau newydd. Seriws, 'runig beth nath hi oedd rhoi ffycin cath mewn ffycin bin.

Cês de.

Diweddariad:
Nodyn bodyn gan Ceren: Dwi'n falch ath y gath i'r bin

lunedì, agosto 23, 2010

Breuddwydion ieithyddol

Y penwythnos fu, roedd yn 17 wythnos ers i mi gael penwythnos di-alcohol. Digwydd edrych yn fy nyddiadur i weld beth oedd y sefyllfa a wnes, ac yna cyfrif am yn ôl a sylwi y cafwyd 16 wythnos yn olynol o yfed. Nid o reidrwydd sesh – efallai potel fach o win, howsparti (fi ydi’r person gwaethaf posibl i gael mewn howsparti, dwi’n absoliwt ffycin hunlla), peint slei – ond penwythnos dialcohol nis cafwyd ers sbel go dda.

Yn rhyfedd mi ges freuddwyd neithiwr ei bod eto’n nos Sadwrn ac fy mod wedi yfed gan felly adael fy hun i lawr. Uffernol yn de. Rhaid fy mod yn teimlo’n euog am yfed cymaint yn ddiweddar neu ni fyddwn yn cael breuddwyd mor rhyfedd. Ta waeth, mae hyn yn sicr wedi cyfrannu at daro’r boced yn galed yn ddiweddar. Dwi’n siomedig efo fy mherfformiad cyllidebol y mis hwn, er bod talu £60 i adael fy hun nôl mewn i’r tŷ ar ôl cloi fy hun allan yn sicr wedi cyfrannu.

Ta waeth, mae gen i ddehongliad digon syml i’r cyfryw freuddwyd yn does? Ond mae un freuddwyd a gaf sy’n ailadroddus a dwi’n ei chael yn weddol aml. Dwi’n nôl yn ‘rysgol, ac yn mynd i ddosbarth Ffrangeg, ond dydw i heb fod am fisoedd i ddosbarth Ffrangeg ac mae’r arholiadau’n dyfod a dwi’n gwybod dim. ‘Sgen i’m clem o ddim byd a dydi’r athrawesau yn poeni fawr ddim amdanaf.

Dwi’n meddwl mai gwraidd y freuddwyd honno ydi fy mod i’n eithaf digalon fy mod wedi anghofio cymaint o Ffrangeg ar ôl gadael ysgol – wedi’r cyfan, dyna sy’n digwydd i rywun pan fo’ch rheswm dros siarad iaith yn dod i ben, anghofio wnewch chi. Mae Ffrangeg yn iaith brydferth yn fy marn i. Ceir ambell iaith brydferth arall, megis Eidaleg a Rwsieg, dwi’n meddwl. A gall Cymraeg fod yn brydferth tu hwnt, ond mi all fod yn weddol uffernol hefyd ac, er fy mod yn anghytuno’n chwyrn, dwi’n dallt pam bydd rhai yn dweud “Welsh is an ugly language”.

Y peth da am y Gymraeg o ran hynny ydi bod y geiriau drwg, ar y cyfan, yn swnio’n hyll e.e. gwrach, mellten, afiach, hunllef, melltith, Rhagfyr ac ati; tra bod y geiriau am bethau da bywyd yn wirioneddol brydferth eu sain e.e. tylwyth teg, mêl, heulwen, bendith, torlan. Wn i ddim am unrhyw iaith arall y mae sŵn y gair yn cyfleu’r ystyr yn well na Chymraeg.

Credaf fod ambell iaith hyll, cofiwch, a dyma pam dwi’m yn mynd yn flin os bydd rhywun yn dweud hynny am y Gymraeg, achos byddwn i’n eithaf rhagrithiwr wedyn. Mae rhai o ieithoedd canoldir Asia, fel Uzbek, neu Fongoleg, yn erchyll i ‘nghlust i, a dwi ddim yn ffan o Arabeg. Dydi’r Saesneg ddim yn iaith hyll, hen iaith ddiflas ydi hi sy’n llawn haeddu’r teitl ‘yr iaith fain’.

Fedra’ i sgwennu’n weddol ddeallus pan fydda i ddim yn yfed, wchi, ac mi a ysgrifennwn am iaith drwy’r dydd pe cawn. Ond mae gen i bethau eraill i’w wneud! (sy’n ymwneud ag iaith, yn eironig)

venerdì, agosto 20, 2010

Plaid Cymru ac annibyniaeth

Un o fy mhrif broblemau â Phlaid Cymru ydi ei safbwynt ar annibyniaeth i Gymru. Rŵan, fe wyddoch bid siŵr fy mod i’n gefnogwr di-sigl mewn annibyniaeth. Gallem drafod rhinweddau a phroblemau posibl y nod hwnnw drwy’r dydd, yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol. Un o wreiddiau fy nghred ynddi ydi os nad ydi cenedl y Cymry yn fodlon cymryd cyfrifoldeb arni ei hun yna ‘does hawl ganddi gyfeirio at ei hun fel cenedl o gwbl, ac waeth iddi ymuno ag eraill genhedloedd diflanedig y byd yn y llyfrau hanes a safio lot o ofid ac ymdrech i ni gyd.

Prin fydd y rhai sy’n cytuno â hynny mae’n siŵr. Wrth gwrs, un peth dwi’n rhannu’n gryf â’r Blaid (er nad ydi hi’n gred gref gan bob elfen yn y Blaid) ydi y dylai Cymru fod yn annibynnol. Y broblem sy gen i ydi’r agwedd ‘annibyniaeth yn yr hirdymor’ y mae’r Blaid yn ei dilyn. Sut y mae diffinio ‘hirdymor’? Mae Cymru eisoes wedi’i rheoli o’r tu allan i’w ffiniau ers dros 700 o flynyddoedd - dwi’n sicr ddim yn gallu disgwyl 700 mlynedd arall!

I’r graddau hynny, dwi’n credu y dylai Cymru fod yn annibynnol rŵan, y funud hon. Dydw i ddim yn rhannu gofidiau eraill am yr economi, chwaith. Pan gawn blaid o Gymru yn rheoli Cymru fydd hi fawr o amser ar y sefyllfa’n gwella, dwi’m yn amau hynny ronyn – dydi pethau heb wella mewn difrif ers oes datganoli oherwydd mai un o’r pleidiau sy’n wasaidd i Loegr sydd wastad wrth y llyw. Pa well ffordd o gadw hunanhyder y Cymry’n isel na’u cadw’n dlawd dragwyddol a thrwy hynny sicrhau eu teyrngarwch? Ysywaeth, nid rhydd mohoni. Rhaid i mi dderbyn hynny.

Mae sôn mawr yn ddiweddar am USP Plaid Cymru, ond fawr ddim am ei USP mwyaf sef ei chred mewn Cymru rydd. Y broblem ydi, drwy fythol ddatgan annibyniaeth fel nod hirdymor mi all y Blaid ddistewi ofnau’r rhai sydd yn erbyn annibyniaeth, gan dwyllo pleidleisiau ganddynt, tra hefyd dwyllo ei phleidlais graidd i feddwl ‘sticiwch gyda ni, fe gyrhaeddwn y nod yn y pen draw’ heb wneud hynny. Mae angen ar y Blaid, er mwyn bod yn gwbl agored ar y pwynt hwn, ‘fap’ i annibyniaeth. Nid o ran amser, fel y cyfryw, dwi’n cyfaddawdu ar hynny, ond yn sicr o ran y broses ddatganoli. Er enghraifft, gallwn ddweud bod sefydlu’r Cynulliad yn cyflawni Cam 1. Ennill y refferendwm - os cawn ni un, a dwi ddim yn siŵr y cawn - ydi Cam 2. Gallai datganoli Darlledu fod yn Gam 3, pwerau dros drethi ac ynni fod yn Gam 4, datganoli’r System Gyfiawnder a’r Heddlu yn Gam 5, Senedd lawn ar fodel yr Alban yn Gam 6, Senedd â phwerau tebyg i ranbarthau’r Almaen yn Gam 7 ac annibyniaeth lawn yn Gam 8.

Awgrym ydi’r uchod o’r drefn, wrth gwrs, ond dwi’n credu’n gryf bod angen hyn ar y Blaid, oherwydd os na chaiff hynny dwi’n rhagweld hyd yn oed mewn ugain mlynedd mai ‘annibyniaeth yn yr hirdymor’ fydd ei hamcan, ac na welwn mohoni fyth. Twyllo ydi hynny, nid mwy na llai.

Wrth gwrs, mae un peth wedi’i gyflawni ers datganoli eisoes. Ddeng mlynedd yn ôl roedd gan bobl Cymru ofn o annibyniaeth - roedd hi’n eithafol, yn afrealistig. Bellach mae’r lliaws yn anghytuno â’r syniad ond eto’n derbyn ei fod yn gred wleidyddol deilwng. Newid sylfaenol o fewn degawd. Wrth i ni raddol ennill pwerau mi fydd y farn yn parhau ar duedd ffafriol, ond rhaid i’r Blaid sicrhau bod y cyfansoddiad o hyd ar yr agenda - hi yn unig all wneud hynny. A rhaid iddi wthio’n galed ac yn ddi-baid dros ennill pwerau i Gymru.

Weithiau, dwi’n meddwl mai’r rhai sydd fwyaf ofn annibyniaeth ydi Plaid Cymru ei hun. Di-sail ydi’r pryder hwnnw, dwi’n siŵr, ond credaf yn gryf bod yn rhaid ymrwymo i’r syniad, llunio camau tuag at annibyniaeth, a glynu atynt doed â ddêl. Nerys Evans ddywedodd yn ddiweddar bod yn rhaid gweddnewid Cymru, wel, dyma ffordd o roi’r gweddnewidiad hwnnw ar bapur, a thrawsnewid Cymru am y gorau. Os gall ond wneud hynny os ydi hi’n gwbl ymrwymedig i annibyniaeth, ac weithiau mae rhywun yn teimlo nad yw.