Do, dwi erbyn hyn wedi
gwylio’r ddadl yn y Cynulliad, yn gwybod y canlyniad, ac os ydych chi’n darllen
y blogiad hwn debyg eich bod chi hefyd. A dwi wedi hel fy meddyliau am y pwnc
hwn ers rhai misoedd – Plaid Cymru, a’r iaith Gymraeg.
Clywsom heddiw na fydd y
Cofnod yn gwbl ddwyieithog ac ni chaiff ei gyhoeddi ar yr un adeg â’r Saesneg.
Yn amlwg, mae rhai ieithoedd yn fwy cyfartal na’i gilydd. Caiff Rhodri Glyn a Dafydd
Êl draethu faint a fynnant ond erys y ffaith nad oes yn y Cynulliad
Cenedlaethol gydraddoldeb llwyr i iaith frodorol Cymru. Dyna’n ddi-flewyn ar
dafod y sefyllfa sydd ohoni. Gadawodd y Blaid i hynny ddigwydd yn ddiffwdan. Rhoes
eraill gefnogaeth brwd iddo.
Mae’r Blaid wedi’n fwriadol
mi deimlaf ymbellhau ei hun oddi wrth yr iaith (sonnir am hyn yn gelfydd ddigon
ar flogiad gan Ifan Morgan Jones yn gynharach eleni – dwi ddim am ailadrodd); o
beidio â chodi stŵr pan fynnodd Carwyn Jones na ddylid cyfieithu dogfen
dechnegol i’r Gymraeg ar gais pysgotwyr Pen Llŷn – arwydd o iaith israddol os
bu un erioed - i’w ACau yn mynnu cyfeirio at y Blaid fel The Party of Wales (enw uffernol beth bynnag) ar lawr y siambr –
nid fel Plaid Cymru.
Nid tuedd newydd mo hon, mae
hi’n un a ddechreuwyd ers i ddatganoli ddechrau, ac fe’i gwelwyd yn glir pan na
safodd y Blaid yn gadarn y tu ôl i Simon Glyn ddegawd yn ôl eithr troi arno, a phan
fynnodd Cymuned ar ei hanterth dai a gwaith i bobl leol y Fro Gymraeg er budd
yr iaith, ac y cawsant eu hanwybyddu’n llwyr gan Blaid Cymru. Do, cafwyd Mesur
Iaith ers hynny, ond un peth oedd hynny yng nghanol degawd o ddiffyg ymdrech
gan y Blaid ar yr iaith. Ni chafodd trigolion y Fro dai na gwaith. Ymhen 15-20
mlynedd efallai na fydd ganddynt gysur amheus eu hiaith ychwaith.
Deallaf y pwysigrwydd mawr
sydd i roi sylw i’r economi ar hyn o bryd, gyda llaw – mae’n hanfodol i Blaid Cymru
wneud hynny i ennill pleidleisiau. Ond mae’r diffyg sefyll dros yr iaith, a
hynny’n gwbl ddi-sigl, yn annerbyniol i blaid sy’n honni sefyll drosti. Nid mater
o ddewis ein brwydrau yw brwydr yr iaith. Rhaid ymladd pob brwydr, a hynny
achos mae’r iaith Gymraeg yn werth
brwydro drosti. Cydraddoldeb, nid cyfaddawd. Ond yn fwy na hynny nid dyma’r
adeg i gefnu ar y Gymraeg.
Pam hynny?
Syml. Y mae’r Gymraeg yn
iaith sy’n marw. Y mae nifer y bobl sy’n ei siarad bob dydd a’r cymunedau a’i
defnyddio yn dirywio. Dydw i ddim isio meddwl pa mor echrydus y gallai
canlyniadau’r cyfrifiad fod pan gânt eu cyhoeddi fis Tachwedd, ond mi brofan
nhw fod angen ar y Gymraeg fudiad gwleidyddol cryf i sefyll drosti. Nid jyst
dros yr iaith, ond drwy hynny’r Cymry Cymraeg hwythau – yn ein hanfod, ni ydi’r
iaith.
Ni ellir cyfaddawdu ar y Gymraeg,
ac os ydi Plaid Cymru yn fodlon gwneud hynny dydi hi ddim yn sefyll drosti i’r
graddau y mae’r iaith yn ei haeddu, ac os felly rhaid gofyn ai hi ydi’r blaid
orau i sefyll drosti beth bynnag? P’un bynnag, oni fyddai’n haws gadael i’r
Blaid ollwng ei gafael ar yr iaith a gadael i arall ysgwyddo’r baich? Rhydd iddi
wedyn, tra’n aros yn gefnogol i’r iaith wrth gwrs, ddenu eraill, a mynnu fwy na
thebyg mewn hunan-dwyll most people who
vote Plaid aren’t Welsh speakers – fel petaem ni’n rhyw fath o haint afiach
– i ddenu’r lliaws ati.
Efallai y byddai. Clywid droeon
yr ‘angen’ am ail blaid genedlaetholgar yng Nghymru ond efallai nad dyna’r ateb
callaf. Bosib mai problem sylfaenol y Blaid ydi ceisio sefyll dros Gymru gyfan
a phawb yng Nghymru. Y mae rhaniadau’r wlad fach hon yn rhai dwfn, wedi’r
cyfan.
Dwi wedi tueddu i feddwl
fwyfwy ers ychydig o amser mai nid ail blaid genedlaetholgar sydd ei hangen,
eithr plaid i’r Cymry Cymraeg – Cynghrair y Cymry Cymraeg os mynnwch chi. Nid y
peth hawsaf o ystyried annhegwch y system etholiadol sydd gennym, ond pam lai?
Pam lai cael plaid a allai ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar sefyll drosom Ni, heb lyffetheiriau
plesio pawb?
Plaid i fynnu bod yn RHAID i
bopeth yn y Cynulliad fod yn gwbl ddwyieithog – yn y sector cyhoeddus o ran
hynny. Plaid i fynnu addysg gyfan gwbl Gymraeg yn y bröydd. Plaid i fynnu swyddi
i’r rhai Cymraeg eu hiaith yn eu hardaloedd eu hunain. Plaid i fynnu Deddf
Eiddo a fyddai’n sicrhau tai i’r Cymry Cymraeg yn y bröydd Cymraeg. Plaid i
fynnu bod gan y rhai Cymraeg eu hiaith hawl sylfaenol i fyw y cyfan o’u bywydau
drwy gyfrwng eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain os dymunant. Plaid i
fynnu mai ein darn ni o dir ydi hwn a bod gan yr iaith hawl ar rannau helaeth
ohoni, ac nad oes gan y mewnlifiad di-Gymraeg yr hawl i darfu arni na’i
difethaf yn llwyr, a’n hawl ninnau Gymry Cymraeg i fyw mewn cymunedau Cymraeg.
Efallai, yn wir, mai dyna’r ateb gorau.