Mae sawl goblygiad i hyn, y gallwch ddarllen amdanynt yn y Western Mail, papur gorau’r byd (haha, jôc, ma’n shait). Dwi ddim yn rhagweld Llafur yn adennill Gorllewin Clwyd, ond gallai Gorllewin Caerfyrddin/De Penfro bod yn bosibilrwydd – bid siŵr mai ras deirffordd fydd honno eto. Byddwn i fy hun yn dueddol o edrych at seddau Canol a Gogledd Caerdydd. Wn i fy mod wedi darogan Blaenau Gwent yn hollol anghywir eleni, ond yng ngyd-destun y Cynulliad a hefyd gan mai Trish Law sy’n sefyll, swni’n gyndyn o ddweud aiff yn bendant i ddwylo Llafur.
Serch hynny, mae’n anodd ar hyn o bryd weld llu newidiadau yn yr etholaethau. Dwi’n amau bod pob un o seddau’r Blaid yn ddiogel, hyd yn oed Môn, Ceredigion ac Aberconwy. Fydd Maldwyn yn ddiddorol iawn (mi grybwyllais y sedd honno fel sedd ddiddorol yn 2011 y llynedd – er eto cael slap yn fy wynab am 2010!), a bydd Ron Davies yn sicr yn gwneud Caerffili yn ddiddorol. Fentra i ddim mwy bron i flwyddyn cyn yr etholiad ei hun!
Yr hyn sy’n ddiddorol ydi’r ffigurau ar gyfer y rhestr. Mae Llafur ar 39% (+9%), Plaid Cymru 23% (+2%), y Ceidwadwyr ar 21% (d/n) a’r Dems Rhydd ar 9% (-3%). Oherwydd natur y system, yn ôl canlyniadau, gallai’r Dems Rhydd yn hawdd fod efo mwy na 6 sedd y tro nesaf, eu diystyru ni ddylid. Ac er y byddai’r Blaid ar ei fyny, colli seddau y byddai oherwydd perfformiad gwan yn y De-ddwyrain. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd targedu seddau – rhywbeth yn hanesyddol y mae’r Dems Rhydd yn dda iawn arno.
Ym mêr fy esgyrn, dwi’n teimlo mai’r rhestrau fydd yn allweddol i lwyddiant y pedair plaid yn 2011. Pôl piniwn ‘gwych’ i Blaid Cymru, nid yw (ac mi fyddai’r 13 sedd arfaethedig yn berfformiad digon pitw). Ac mae o galondid i’r Dems Rhydd wybod y gallant golli pleidleisiau ac ennill seddau. Dwi am fod mor hy â dyfynnu fy hun o’r post hwn wnaed ddwy flynedd nôl ar ôl etholiadau Ewrop, pan ddaeth y Blaid yn drydydd a’r Ceidwadwyr yn gyntaf. Yn lle ailadrodd, dyma hi - dwi'n meddwl efallai bod i mi ddweud y gwir am unwaith:
Tybed, tybed a fydd hynny yn ei hun yn ysgogiad i’r Llafurwyr nad aethent i bleidleisio i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol mewn pleidlais wrth-Dorïaidd? Gyda Phlaid Cymru yn drydydd, er yn drydydd agos, dydy hi ddim wedi ymsefydlu fel opsiwn posibl amgen i Lafurwyr oherwydd hynny, sy’n awgrymu i mi na fydd pleidleiswyr Llafur yn troi ati naill ai i brotestio, neu o ran newid sylfaenol yng ngwleidyddiaeth Cymru, fel y gwelir yn yr Alban.
Petai Plaid Cymru wedi dod yn ail, yna’r canfyddiad fyddai mai brwydr fawr y dyfodol fyddai Plaid a’r Ceidwadwyr. Y canlyniad?
Gallai colli i’r Ceidwadwyr, yn y pen draw, fod yn hwb i Lafur, a thrwy hynny o bosibl arwain at gyfnod di-dwf i Blaid Cymru