giovedì, aprile 28, 2011

Sïon

Wythnos i fynd tan y bleidlais fawr, dyma rai sïon dwi wedi’u darllen a’u clywed dros y dyddiau diwethaf. Mae hwyl i’w gael efo sïon.

·         Ron Davies yn ennill y frwydr posteri yng Nghaerffili ... ac o bosibl y bleidlais bost
·         Mae’r Ceidwadwyr yn dawel hyderus yng Ngorllewin Clwyd
·         Mae Plaid Cymru ar y llaw arall yn hyderus o gadw Aberconwy
·         Ymgyrch dda hyd yn hyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd
·         Pethau’n agos yng ngogledd y ddinas, ond Llafur sy’n mynd â hi ar hyn o bryd
·         Sïon nad yw Rhodri Glyn Thomas yn ddiogel yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

lunedì, aprile 25, 2011

Proffwydo 2011: Gogledd Cymru

Mae gen dros wythnos i ffwrdd rŵan ac mi fydda i’n defnyddio’r rhan fwyaf ohoni ar ‘sgota ac ymlacio, gan gadw draw o bawb nes y penwythnos os fedra i helpu’r peth. Ond wrth gwrs mae o hyd etholiadau arnom. Cyn i unrhyw bôl arall gael ei gyhoeddi dwi am edrych ar Ogledd Cymru heddiw. Fel pob un o’r dadansoddiadau hyd yn hyn dwi’n cadw’r hawl i newid nes y diwrnod ei hun – ond dwi’n raddol dod i’r casgliad efallai nad ydi pethau gystal ar Lafur ag awgrymiadau’r polau.

Yr Etholaethau

De Clwyd, Delyn, Dyffryn Clwyd, Wrecsam, Alyn a Glannau Dyfrdwy – pum sedd ddiogel i Lafur, er bod gan ambell un fwyafrif tila. Galwaf hefyd Arfon i’r Blaid yn gymharol ddiffwdan, er y bydd gogwydd at Lafur. Mae Ynys Môn, mi dybiaf, am fod yn agos y tro hwn, i’r fath raddau y gallai Ieuan Wyn Jones gael eithaf braw pan ddaw’r canlyniad i’r amlwg, er nad ydw i’n siŵr o ba gyfeiriad y daw’r her fwyaf iddo. Serch hynny, bydd y Blaid yn cadw Môn ... y tro hwn.

Sy’n gadael dwy sedd. Gadewch i mi ddechrau â Gorllewin Clwyd. Mae hon yn sedd Geidwadol ar bob lefel erbyn hyn ac mae’n bur amlwg yn San Steffan o leiaf fod uchafswm pleidleisiau’r Ceidwadwyr yn uwch na Llafur. Y peth rhyfedd am y sedd hon ar lefel y Cynulliad ydi ei bod yn ddigon tebygol, o ystyried ei natur, fod nifer o bobl sy’n pleidleisio i’r Ceidwadwyr ar lefel San Steffan yn ne’r sir efallai’n fwy tebygol o gefnogi Plaid Cymru mewn etholiad Cynulliad. Dim ond 3% o ogwydd sydd ei angen ar Lafur yma, ac er fy mod i’n meddwl y gallai pleidlais Llafur a’r Ceidwadwyr gynyddu yma, ar hyn o bryd dwi’n rhyw deimlo (er bod sïon sy’n gwrthddweud hyn) y bydd Llafur yn ailgipio’r sedd o fwyafrif bach.

Beth ellir ei ddweud am Aberconwy? O ystyried y polau a’r hinsawdd wleidyddol, yn ogystal â nifer o ffactorau eraill, Aberconwy ydi’r sedd anoddaf yng Nghymru i’w darogan. Ceidwadol yn San Steffan, Plaid Cymru yng Nghaerdydd, Llafur efo cyfla da o ennill. Dwi’n teimlo bod angen post cyfan er mwyn dadansoddi hon, ond dwi am ymwrthod â’r demtasiwn!

Dwi ddim am eich diflasu â’r fathemateg, ond o ystyried y bydd y niferoedd sy’n pleidleisio efallai tua 50% eleni yma mae’n rhywbeth tebyg i hyn. O ran y ganran, caiff Llafur gynydd parchus yn ei phleidlais, bydd Plaid Cymru ar ei lawr, bydd y Ceidwadwyr yn cynyddu mymryn a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn colli eu hernes. Dal efo fi?

I’r rhai sy’n darllen y postiau gwleidyddol, ‘does rhaid i mi bwyntio’r holl ffactorau fydd ar waith yma na chyd-destun yr etholiad, ond yn fathemategol, er gwaetha’r cynnydd mawr arfaethedig sydd i Lafur, dylai hon fod yn ras agos iawn, iawn rhwng Plaid Cymru â’r Ceidwadwyr. Dwi ddim yn ymddiried llawer yn y ffaith bod y Blaid yn ‘hyderus’ yma – roedden nhw’n hyderus iawn llynedd o’r hyn a ddeallais i! Ta waeth, ar y funud, dwi’n galw Aberconwy i Blaid Cymru o drwch adain gwybedyn.

Proffwydoliaeth

Llafur 6 (+1)
Plaid Cymru 3 (-)


Y Rhestr

Unwaith eto, ar ôl ychydig o symiau, ychydig o ystyried, mymryn o reddf a chan gymryd yr uchod yn ganiataol, deuthum at ganlyniad diddorol iawn ar gyfer y rhestr yng Ngogledd Cymru.

Dwi’n disgwyl i bleidlais rhestr y Blaid ddisgyn mymryn, i Lafur gynyddu ond nid i’r un graddau â gweddill Cymru, ac i’r Ceidwadwyr gynyddu mymryn ond nid llawer. Y cwestiwn mawr yn y Gogledd mewn difrif ydi a fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael llai o bleidleisiau na’r BNP. Synnwn i ddim petai’r BNP yn aros ar ei hunfan, ond mi wneith y Dems Rhydd golli pleidleisiau ... a hynny jyst ddigon i ddod tu ôl i’r BNP. Sy’n gadael y posibilrwydd o sedd i’r BNP yn y Cynulliad.

Neu ydi o? Petai gan Lafur chwe sedd yma, a Phlaid Cymru dri, mae’r goblygiadau ar gyfer y rhestr yn hynod ddiddorol. Yn ôl pob tebyg fe fyddai’r Ceidwadwyr yn ennill pedair sedd restr, ac i’r diben hwnnw byddai colli Gorllewin Clwyd a pheidio ag ennill yn Aberconwy neu efallai Dyffryn Clwyd o fudd i’r blaid oherwydd fe fyddai ganddi sedd yn ychwanegol oddi ar 2007!

Dim ond dwy sefyllfa arall y gall rhywun eu rhagweld yma – sef dim newid, neu’r Ceidwadwyr hefyd yn cipio Aberconwy. Yn fras, y goblygiadau fyddai:

Dim newid yn yr etholaethau: Ceidwadwyr i ennill tair sedd, a Llafur yn ennill y bedwaredd.

Ceidwadwyr yn cipio Aberconwy: Ceidwadwyr yn ennill y ddwy sedd restr gyntaf, Plaid Cymru yn ennill y drydedd a Llafur yr olaf.

Ta waeth am hynny, dyma’r broffwydoliaeth gyfredol o’m rhan i.

Proffwydoliaeth:

Ceidwadwyr 4 (+2)


Gyda Gogledd Cymru y rhanbarth olaf yng nghyfres fer Proffwydo 2011, petawn i’n hollol gywir (sy’n gwbl annhebygol) fel hyn y safai’r Cynulliad ar 6ed Fai:

Llafur              32 (+6)
Ceid                13 (+1)
PC                   11 (-4)
DRh                2 (-4)  
UKIP               1 (+1)

Ar yr olwg gynta’, mae’r uchod, yn benodol anffawd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn edrych yn annhebygol, ond o gyfuno ffigurau, polau, tueddiadau a lwmp o reddf yn ogystal â digon o fathemateg, dyma sut mae hi rŵan. Wrth gwrs, fydda i’n diweddaru’r uchod dros yr wythnos i ddod ac yn dod i broffwydoliaeth derfynol maes o law. Ond tan hynny felly saif Cymru Rachub hyd yn hyn!

sabato, aprile 23, 2011

Proffwydo 2011: Canol De Cymru

Ar ôl saib haeddiannol (ish) dyma ddod nôl at y dadansoddiadau (mae Emlyn wedi bod yn ddewr iawn yn rhoi ambell broffwydoliaeth am y Canolbarth!). A oes rhywun arall yn teimlo bod yr ymgyrch wedi bod yn gwbl anweledig? Yn fwy na hynny, dwi’m yn meddwl bod gan unrhyw blaid fomentwm ar y funud, chwaith – dydi’r ymgyrch ddim yn siop ffenestr dda i wleidyddiaeth Gymreig. Canol De Cymru sydd nesaf, sy’n cynnwys rhai o gadarnleoedd mwyaf Llafur a Chaerdydd.
Yr Etholaethau
Dydach chi ddim angen i mi ddweud wrthych bod pedair sedd – Rhondda, Pontypridd, Cwm Cynon a De Caerdydd a Phenarth yn gwbl, gwbl ddiogel yn nwylo’r blaid Lafur. Roedd Plaid Cymru’n anghywir i fod yn hyderus yng Nghwm Cynon y llynedd a’r Ceidwadwyr felly yn Ne Caerdydd, ac maen nhw’n fwy anghywir byth o fod eleni, os maen nhw!
Oherwydd y sefyllfa wleidyddol yn San Steffan, mae Gorllewin Caerdydd yn gymharol ddiogel i Lafur dybiwn i. Galla i weld cwymp ym mhleidlais y Blaid yma a mwyafrif parchus iawn i Lafur, gyda’r Ceidwadwyr efallai bwynt neu ddau yn uwch. Petai pethau’n wahanol yn San Steffan gallai hon fod yn sedd ddiddorol. Ond fydd hi ddim.
Mae’r un peth i raddau’n wir am Fro Morgannwg. Er i’r Ceidwadwyr ei chipio â mwyafrif cadarn y llynedd, mae’n anodd eu gweld nhw’n ailadrodd hynny ar lefel Cynulliad eleni. Efallai bod mwyafrif tila iawn o 83 gan Jane Hutt ond mentraf ddweud y caiff ei dychwelyd – a dweud y gwir ‘sgen i fawr o amheuaeth am y peth. Felly yn fy marn i, mi fydd Llafur yn cadw pob sedd sydd ganddi yn yr ardal. Ond mae’r ddwy sedd arall yn ddiddorol.
Yn gyntaf, rhan ogleddol Caerdydd, elwir yn ddigon eironig yn Gogledd Caerdydd. Mae gan Jonathan Morgan, efallai’r amlycaf o Geidwadwyr y Cynulliad, fwyafrif cryf yma sy’n agos at bum mil ac mi fyddai angen gogwydd o dros 7% ar Lafur i ennill yma. Rŵan, mae rhai, fel Vaughan Roderick, yn teimlo o reddf nad yw Llafur yn gwneud cystal ag y mae’r polau’n ei awgrymu. Er fy mod i’n raddol ddechrau cytuno â hynny, dwi ddim cweit yn chwaith – hynny yw dwi’n disgwyl i Lafur wneud fwy neu lai cystal o ran y bleidlais os nad o ran seddau o reidrwydd. Ta waeth, teimlaf fod Llafurwyr yn mynd i droi allan eleni, ac efallai na fydd yr un brwdfrydedd ymhlith Ceidwadwyr. Problem fawr Jonathan Morgan ydi nid Llafur eithr Julie Morgan, sef yr unigolyn perffaith i’w guro – er iddi golli ei sedd y llynedd, heb amheuaeth mi sicrhaodd ganlyniad gwych drwy golli o drwch blewyn, a hynny mewn sedd y rhagwelwyd y buasai’n troi’n las a hynny o gryn fwyafrif. Bydd hon yn ras agos iawn ... ar hyn o bryd dwi’n rhyw deimlo mai Julie Morgan sy’n mynd â hi.
Er gwaetha’r ffaith bod trefniadaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn frawychus effeithlon yng Nghanol Caerdydd ac nad yw’r blaid Lafur, yn ôl y sôn, yn eithriadol hyderus, bydd Canol Caerdydd yn sedd i’w gwylio. Mae’r mwyafrif yn enfawr a byddai angen gogwydd o 15% ar Lafur i ennill yma. Ond gyda Jenny Randerson yn ymddeol, y polau fel ag y maent a gogwydd yn erbyn y blaid honno nid yn unig yn 2010 ond yn wir nôl yn 2007, maen nhw mewn perygl enbyd o golli yma. Gadewch i mi ddyfynnu rhywbeth a ddywedais o gyfres Proffwydo 2010 ar Ganol Caerdydd:
Tasem mewn blwyddyn lle mai’r Ceidwadwyr sy’n llywodraethu, byddwn i ddim yn rhoi’r sedd hon y tu hwnt i Lafur, gadewch i mi fod yn hollol onest. Yn wir, dwi ddim yn amau bod hon yn un sedd y bydd Llafur ei hadennill yn y dyfodol.
Dwi’n meddwl mai 2011 ydi’r flwyddyn y bydd hynny’n digwydd, ac fel Gogledd Caerdydd, mi fydd y ras agos hon yn ffafrio Llafur. Pwy bynnag sy’n ennill, rhagwelaf y gogwydd mwyaf yng Nghymru yn y sedd hon (ac eithrio Blaenau Gwent).

Proffwydoliaeth:
Llafur 8 (+2)

Y Rhestr
Reit! Galla i’n hawdd gweld Llafur yn ennill dros hanner y bleidlais restr yma eleni, a dwi am bennu tua 55% iddyn nhw sef cynnydd o 20% - er, yn y rhanbarth hwn, gallai hynny’n hawdd fod yn fwy. Dwi hefyd yn meddwl y bydd y Ceidwadwyr ryw ddau i dri bwynt yn uwch, gyda Phlaid Cymru yn nesu am 10% a’r Democratiaid Rhyddfrydol 7-8%. Petai’r broffwydoliaeth etholaethol  yn gywir,  byddai’r Ceidwadwyr yn ennill y sedd gyntaf, a hefyd yr ail sedd, gyda Phlaid Cymru’n ennill y drydedd.  Y bedwaredd sy’n ddiddorol.
Mae’r Gwyrddion yn hyderus iawn am allu ennill eu sedd gyntaf erioed yn y Cynulliad yma ar y rhestr, ond mae’r hyn sy’n digwydd yn yr etholaethau yn gwbl allweddol iddyn nhw yma. Ac nid y Gwyrddion yn unig sydd efo siawns. Cofiwch hyn, dim ond dau gant a hanner o bleidleisiau a oedd rhyngddyn nhw, y BNP (a’u curodd) ac UKIP. Gallai unrhyw un o’r pleidiau hyn ennill y bedwaredd sedd. Yn bersonol, dwi ddim wedi fy llwyr argyhoeddi gan yr heip y mae’r Gwyrddion yn ei greu drostyn nhw’u hunain.
Gobaith gorau pob un yw bod y Ceidwadwyr yn dal eu gafael ar Ogledd Caerdydd. Ond os maen nhw’n llwyddo i wneud hynny mae hynny’n dod â Llafur i’r ras! Mae hynny heb drafod Plaid Cymru – a allai gadw ei gafael ar y bedwaredd sedd os mae ei phleidlais yn dal i fyny (sy’n annhebygol) – ac, os collant Ganol Caerdydd, y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae pethau’n fwy cymhleth byth os llwydda’r Dems Rhyd ddal eu gafael ar Ganol y ddinas ond y Ceidwadwyr golli yn y Gogledd – yn y fath sefyllfa mae’n debyg y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill 3 sedd ranbarthol gyda Phlaid Cymru’n cipio’r bedwaredd!
At hynny, os na fydd unrhyw newid yn yr etholaethau, mae’n bur debyg mai Llafur aiff â’r bedwaredd sedd. Gwnewch y symiau eich hun ... gall unrhyw un o saith plaid ennill pedwaredd sedd Canol De Cymru.
Ond pwynt y blogiad hwn ydi proffwydo – os bydd Llafur yn ennill yr wyth etholaeth, fel dwi’n dueddol o feddwl ar y funud – mae’r cyfan yn dibynnu a gaiff y Gwyrddion, UKIP neu’r BNP fwy o bleidleisiau na’r Democratiaid Rhyddfrydol ar y rhestr. A dwi ddim yn meddwl y gwnawn nhw.

Proffwydoliaeth:
Ceidwadwyr      2 (-)
Plaid Cymru 1 (-1)
Democratiaid Rhyddfrydol 1 (+1)

venerdì, aprile 15, 2011

Gorbarchusrwydd a'r Cymry Cymraeg

Dylai unrhyw genedl aeddfed allu chwerthin arni ei hun, a hynny am bob agwedd arni. Mae’r Cymry yn od yn hyn o beth. Rydyn ni’n touchy iawn pan fo’r Saeson yn cael go arnom – a dydi hynny fawr o syndod ac mae’n ddealladwy i raddau; wedi’r cyfan, mae mwy na doniolwch wrth wraidd geiriau’r Cymry a’r Saeson at ei gilydd.

Fe flogiais o’r blaen am y Cymry yn chwerthin arnynt eu hunain, ac rydyn ni’n gwella yn fawr yn hyn o beth – hynny yw, er ei fod yn beth cymharol newydd, mae’r Cymry wedi deall y gellir parchu’r genedl a hefyd fod yn ddychanol. A jyst pan fo rhywun yn meddwl ein bod ni’n gallu gwneud hynny, mae rhywun yn darllen Golwg360.

Na, nid cwyno am iaith Golwg360 dwi am wneud ond cyfeirio at un stori. Dwi’m am ailadrodd cynnwys y stori – fedrwch chi ddarllen fedrwch? – ond mae’r sylwadau oddi tani yn digon i ddyn fod isho taro rhai pobl.

Ddyweda’ i hyn – mae’r llyfrau hyn, yn amlwg, yn rhyw fath o fersiwn Cymraeg o Horrible Histories. Wnes i gael pob un ohonyn nhw nes fy mod i tua phymtheg oed ac o’u herwydd nhw dwi’n caru hanes, mae’n bwnc sydd wir, wir yn dwyn fy sylw, a phob agwedd arno ‘fyd. A nid fi oedd yr unig un, ro’n nhw’n llyfrau eithriadol boblogaidd ac mae’n siŵr bod cannoedd o filoedd o blant (a phobl) wedi’u darllen ar hyd y blynyddoedd. Roedden nhw’n cyflwyno hanes mewn ffordd ddigri, ddoniol a difyr.

Mae cael fersiwn Cymraeg o hynny ond yn gallu bod yn beth da. Yn gyffredinol, rydym ni’r Cymry, gan gynnwys y Cymry Cymraeg, yn boenus anymwybodol o’n hanes ein hunain – bai’r system addysg ydi hynny. Glywodd fy Nhad fyth am Dryweryn nes ryw bedair blynedd nôl ac mae’r boi yn agos at ei drigain.

Fydda i wastad yn amddiffynnol pan fydd rhywun yn dweud bod y Cymry Cymraeg yn sych ac mae’n rhwystredig gweld, esgusodwch iaith, nobs yn cadarnhau’r peth ac yn atgyfnerthu’r ddelwedd. Rhaid i ni edrych ar ein hanes a’n cenedl â thafod yn y foch, ac os mae hynny’n golygu gwneud hwyl am ben Hedd Wyn weithiau, grêt.

Ond dyn ag ŵyr, efallai mai fi sy’n anghywir, a thrwy ras Duw mai ffawd y Cymry Cymraeg o’u hanfod yw bod yn genedl or-barchus ddi-hyder wedi cwbl.

giovedì, aprile 14, 2011

Proffwydo 2011: De-ddwyrain Cymru

Gyda’r ymgyrchoedd yn anweledig yn y rhan helaethaf o Gymru, mae’n anodd gwybod sut mae pethau’n mynd mewn sawl rhan o’r wlad – yr unig ymgyrchu gweledol hyd yn hyn, hyd y clywaf i, ydi yng Ngorllewin Caerfyrddin. Wn i ddim a ydi hynny’n ffeithiol gywir. Ta waeth, gall y de-ddwyrain fod yn ardal ddiddorol y tro hwn am resymau gwahanol.

Yr Etholaethau

Ddechreuwn ni â’r cwestiwn, pa etholaethau allai newid dwylo yn 2011? Dwy sedd Casnewydd? Annhebygol. Merthyr neu Dorfaen? Dim ffiars. Islwyn? Annhebygol iawn. Mynwy? Dwi’m yn meddwl. Sy’n gadael dwy sedd – Blaenau Gwent a Chaerffili.

Er gwaethaf y ffaith bod Trish Law wedi cael dros hanner y bleidlais bedair blynedd yn ôl, fydd hynny ddim yn digwydd y tro hwn gan nad yw’n sefyll. Ac mae’r gwrthryfel gwrth-Lafuraidd ar ben yma – yr unig ymgeisydd y tu allan i’r pedair prif blaid yw ‘Ceidwadwr Annibynnol’ – phob lwc iddi! Dwi’n amau y bydd mwyafrif Llafur yma ymhen mis hyd yn oed yn fwy nag oedd y llynedd a synnwn i petai unrhyw blaid arall yn cael 20% o’r bleidlais.

Y sedd arall dan sylw ydi Caerffili. Petai’r sefyllfa Brydeinig ddim yn gysgod dros yr etholiad hwn, teg dweud mai Ron Davies a Phlaid Cymru fyddai’r ffefrynnau. Daeth y Blaid yn ail y tro diwethaf a Ron Davies yn drydydd agos. Ond roedd pleidlais gyfunol y ddau yn llawer mwy na phleidlais y Blaid Lafur. Serch hynny, mae’n anghywir dwi’n meddwl cymryd yn ganiataol y bydd pawb a bleidleisiodd dros Ron Davies y tro diwethaf yn fodlon pleidleisio dros Blaid Cymru y tro hwn. Ac er bod gan Blaid Cymru fwy o gynghorwyr lleol na Llafur yma, aeth rhywbeth wirioneddol o’i le yn 2010 a daeth y Blaid yn drydydd, y tu ôl i’r Ceidwadwyr.

Dwi’n llai bodlon na rhai i anwybyddu’r polau piniwn Cymreig, ac ar y funud mae arnaf ofn nad ydw i’n meddwl y bydd Ron Davies yn ennill yma – mae’r backlash Llafuraidd yn ormod. Serch hynny, mae tair wythnos i fynd, ac os bydd sefyllfa’r Blaid yn gwella hyd yn oed fymryn yn y polau gall hon fod yn sedd i’w gwylio. Mae Llafur Cymru yn anifail clwyfedig ac ar ei pheryclaf ar hyn o bryd, ac ni fydd Ron Davies yn gallu ei wrthsefyll.

Proffwydoliaeth:

Llafur 7 (+1)
Ceidwadwyr 1 (-)


Y Rhestr


Mi fydd Llafur unwaith eto’n ennill y rhestr yn hawdd yma, a synnwn i ddim petai’n gwneud hynny â thros hanner y bleidlais, efallai 55% a hyd yn oed fwy. Bydd y Ceidwadwyr fwy na thebyg fymryn ar eu colled, Plaid Cymru yn hofran ar tua 10%, ond mi allai’r Democrataid Rhyddfrydol golli hanner eu pleidlais, ac fel ambell un arall dwi’n dyfalu mai pumed y daw hi, fwy na thebyg y tu ôl i UKIP – mae hynny oherwydd bod pleidleiswyr Gwyrdd a BNP yn eithaf tebygol o gefnogi Llafur y tro hwn. Serch hynny, mae’n anodd gweld UKIP yn cael llawer mwy o bleidleisiau na’r Democratiaid Rhyddfrydol – dywedwn y caiff y Dems Rhydd 6% ac UKIP 7%.

Beth ydi goblygiadau hynny felly?

Mi all fod yn ganlyniad eithaf syfrdanol. Dylai’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ennill y ddwy sedd gyntaf, ond mi fydd y frwydr am y ddwy sedd arall yn ffyrnig. Bydd hi’n frwydr agos rhwng UKIP a Llafur am y drydedd sedd – dwi’n ei galw i UKIP o drwch blewyn – ac fe âi’r bedwaredd i Lafur. Byddai hynny’n anhygoel – byddai ennill saith etholaeth a sedd restr yn gamp, ond mi all ddigwydd yma.

Petai Ron Davies yn ennill yng Nghaerffili, mae’n gwbl bosibl o ystyried y polau diweddaraf na fyddai Plaid Cymru yn ennill sedd restr yma o gwbl ... ond y Ceidwadwyr, nid y Democratiaid Rhyddfrydol fyddai’n ennill honno yn ôl pob tebyg. Ta waeth, cawn weld – mae llawer iawn yn dibynnu ar ba mor uchel y bydd y bleidlais Lafuraidd yn cyrraedd. Dwi’n dueddol o feddwl bod y polau positif i’r blaid honno yn deillio o bleidleisiau yn pentyrru mewn ardaloedd fel Merthyr, Blaenau Gwent a Thorfaen yn hytrach nag ennill tir enfawr yn y gorllewin, ac o ran y rhestr gallai hynny sicrhau sedd yma.

Proffwydoliaeth


Ceidwadwyr 1 (-)
Plaid Cymru 1 (-1)
UKIP 1 (+1)
Llafur 1 (+1)

lunedì, aprile 11, 2011

Diwrnod efo'r Anifeiliaid

Mi ges fy ffordd a dydd Sul fe aeth tri ohonom, yr Hogyn, Lowri Dwd a Lowri Llew, i Sŵ Bryste. Gyda phobl amrywiol, y Dwd yn un ohonynt nos Wener, yn llwyddo fy hudo i bob tafarn bosib dros y penwythnos mi gyrhaeddodd bwynt nos Sadwrn lle mi ges banic mawr a rhedag adra yn barod i fynd i’r sŵ.

Ro’n i’n meddwl y buasai Sŵ Bryste yn fwy na Chaer ond ro’n i’n hollol anghywir. ‘Does ‘na ddim eliffant na theigr na chamel na jiráff yn agos at y lle. Wel, welish i mohonynt. Ond dyna ni, mae Sŵ Gaer yn anferthol, ac amwni mae pawb ‘di gweld eliffant a jiráff o’r blaen, ac mae camels yn fasdads blin, a theigrod yn blydi beryg. Dwi ddim yn poeni rhyw lawer os bydd y teigrod yn marw allan yn ystod ein hoes ni, po fwyaf diogel y byd i bobl, po hapusaf y byddwyf i.

Dachisho gwbod be oedd fy hoff bethau i? Oes siŵr, dyma pam eich bod chi’n darllen. Y fruit bats. O’dd nhw’n lyfli, ‘swn i wedi mynd ag un adra yn y fan a’r lle. Doedda nhw ddim yn gwneud rhyw lawer blaw dringo’r rhaffau de. A dweud y gwir roedd lot o’r anifeiliaid i weld yn ddiog iawn. Wnaeth y gorilas ddim byd. Ni edrychodd y panda coch arnom ac mi guddiodd y llewod yng nghefn eu lle nhw felly ni welsom mohonynt fawr ddim.

Ceir yn Sŵ Bryste ddegau o grwbanod o bob maint. Dwi’n licio crwbanod ond wnaethon nhw fawr o ddim ychwaith. Wel, maen nhw fatha rhech dydyn? A ‘dwn i ddim am y twilight zone, fel y’i gelwid, achos i anifeiliaid y nos yr oedd, ac yn anffodus roedd y lle mor dywyll ni fedrasom ni weld fawr ddim. Wnaethon ni syllu ar danc gwag am bum munud yn trio dod o hyd i anifail.

Ni phrofasai’r acwariwm yn llwyddiant mawr chwaith, ac mi ddadleusom pam bod ‘na ffrij llawn ffishffingyrs yno. Er mwyn i’r pysgod eu bwyta, meddaf i, a dwi’n sticio wrth hynny. Dio’m fel petaen nhw yno fel rhybudd i be sy’n digwydd i ffish sy’n ceisio dianc nadi?

Ac felly mi adawsom y sŵ, ar ôl cael diwrnod da, er po fwyaf i ni ddadansoddi’r peth yn Harvester gyda’r nos (achos dani’n classy) y lleiaf llwyddiannus y swniodd, yn enwedig wrth i ni rywsut fethu dinas fwyaf Cymru ar y ffordd nôl a chanfod ein hun 16 milltir i ffwrdd ac nid ymhell o Lantrisant. Ddealltish i ddim sut lwyddon ni wneud hynny a dwi’m callach rŵan.

venerdì, aprile 08, 2011

Proffwydo 2011: Canolbarth Cymru

Y mae’r polau diweddaraf yn awgrymu chwalfa’r Democratiaid Rhyddfrydol, etholiad cymharol lwyddiannus i’r Ceidwadwyr, Llafur yn ennill dros hanner y bleidlais a Phlaid Cymru’n cael ei hetholiad gwaethaf erioed ar y lefel hon. Yn reddfol, mae’n anodd anghytuno â hyn, ac mae’n gwneud ardal y Canolbarth yn un hynod o ddiddorol, gyda goblygiadau mawr i bob plaid.

Yr Etholaethau

O holl etholaethau’r rhanbarth, mi dybiaf mai tair yn unig sy’n ddiogel. Bydd Rhodri Glyn Thomas yn parhau’n AC ar Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr heb ddim trafferth, a hynny hefyd fydd hanes Dafydd Elis-Thomas yn Nwyfor-Meirionnydd. Ac er gwaethaf y polau erchyll, mewn difrif mae’n anodd gweld y Ceidwadwyr yn trechu Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Maesyfed. Un peth sydd yn sicr yn y tair sedd hyn: mi fydd y mwyafrifau mawrion yno yn llai nag yn 2007.

Mae dwy sedd sy’n gymharol ddiogel, dwi’n teimlo. Ceredigion yw’r cyntaf. Mae Elin Jones yn AC poblogaidd, yn weinidog medrus, sydd â mwyafrif cadarn, ac mae ei phrif wrthwynebwyr yn gwneud yn waeth na Phlaid Cymru hyd yn oed yn y polau. Serch hynny, alla i ddim rhagweld pleidlais brotest fawr wrth-Lundeinig yng Ngheredigion. Byddai’n well gan drwch poblogaeth ardal fel hon weld y Ceidwadwyr (gyda’r Dems Rhydd) mewn grym yn Llundain na’r blaid Lafur. I’r diben hwnnw, dybiwn i ar lefel San Steffan mai’r Dems Rhydd fydd bia hon am flynyddoedd bellach, ond dylai Elin Jones ennill yma eleni. Byddai ei cholli hi yn waeth ergyd i’r Blaid nag unrhyw un arall o’i ACau, gan gynnwys ei harweinydd.

Yr ail sy’n gymharol ddiogel ydi Preseli Penfro. Dydi mwyafrif Paul Davies ddim yn enfawr ond mae’n un o aelodau amlycaf y Cynulliad erbyn hyn, ac mi fyddai’n golled i’r sefydliad heb amheuaeth. Er ei bod yn ymddangos bod cefnogaeth Llafur dros 15% yn uwch nag yn 2007, a bo’r bwlch rhwng y ddwy blaid ond yn 11% yma, dwi’n amau y bydd gan Paul Davies ddigon o enw i fynd â hi, a chofier bod pleidlais y Ceidwadwyr yn ymddangos yn sefydlog. Agos ond dim sigâr i Lafur yma.

Mae’r tair sedd arall yn ddiddorol, ond af i ddim i fanylder mawr amdanynt, ond cynnig rhai sylwadau.

Fe ddywedais flynyddoedd nôl ar y blog hwn fy mod o’r farn yr âi’r Ceidwadwyr â Threfaldwyn yn 2011, er i mi gael pethau’n hollol anghywir y llynedd. Ta waeth, y Ceidwadwyr sydd â’r momentwm yn y sedd hon bellach, roedd buddugoliaeth Glyn Davies y llynedd yn hwb enfawr i’r blaid yn lleol, a dwi’n darogan y bydd y Ceidwadwyr yn cipio’r sedd hon a hynny â mwyafrif parchus iawn – dim ond 4.5% o ogwydd sydd ei angen arnyn nhw. Mi gânt hynny.

Beth am Orllewin Caerfyrddin a De Penfro? Dim ond 250 o bleidleisiau oedd ynddi y tro diwethaf rhwng y Ceidwadwyr yn gyntaf a Phlaid Cymru’n drydydd, gyda Llafur yn y canol. Mae pleidlais Plaid Cymru a Llafur wedi syrthio’n gyson yma ers 1999, gyda’r Ceidwadwyr ar eu fyny bob tro. Fydd hi ddim yn dibynnu ar wasgu’r bleidlais Ryddfrydol chwaith, cafodd y blaid lai na dwy fil o bleidleisiau yn 2007, er o ystyried pa mor agos yr oedd hi y flwyddyn honno gallai fod yn ffactor. Dydi Angela Burns heb greu enw iddi ei hun yn y Bae, er bod Nerys Evans wedi – un o sêr y Cynulliad a’r Blaid heb os – ond mae’r polau cenedlaethol yn gadarn yn erbyn y Blaid, a byddai cipio’r sedd hon yn gamp a hanner ar ei rhan hi. Ond yn gamp yn ormod mi deimlaf. Fe deimlir ei cholled yn y Cynulliad yn fawr. Yn ei lle, credwn y gwelwn ddychwelyd Christine Gwyther a hynny’n gymharol gyfforddus, gyda’r Ceidwadwyr yn ail. Ni cheidw’r Democratiaid Rhyddfrydol eu hernes.

Yn olaf, Llanelli. Ar bapur, mae hwn yn hawdd i Blaid Cymru – mwyafrif cadarn, ymgeisydd amlwg a chryf, a hynny yn erbyn cyn-gynghorydd ffwndrus, os hoffus, sy’n 70 oed. Ond cofiwch 2010. Roedd perfformiad Plaid Cymru yn y sedd benodol hon yn siomedig. Yn ôl y pôl diweddaraf mae Llafur tua 18% i fyny ar 2007 a Phlaid Cymru i lawr 6%. Yn Llanelli, os pleidleisia’r un nifer â’r tro diwethaf, mae hynny’n gyfystyr â buddugoliaeth o nid ymhell o 3,000 i Lafur. Mae hynny’n annhebygol iawn yma, ond yn bersonol, ar y pwynt cynnar hwn o’r ymgyrch o leiaf, synnwn i ddim petai Llafur yn ysgubo popeth o’i blaen eleni, a rhaid dweud bod y Blaid yn arbennig yn ymddangos yn gwbl ddi-glem ynghylch sut i atal hynny rhag digwydd (a bod yr hyn y mae’n ei wneud ar drywydd cwbl anghywir, yn fy marn i). Gall pethau newid yn ystod yr ymgyrch, wrth gwrs, ond petawn i’n betio heddiw, â chalon drom, dwi’n amau mai Llafur aiff â Llanelli eleni.

Proffwydoliaeth:

Plaid Cymru 3 (-1)
Llafur 2 (+2)
Ceidwadwyr 2 (-)
Dems Rhydd 1 (-1)



Y Rhestr

Dyma yn hawdd ranbarth gwannaf Llafur, a dwi ddim yn rhagweld y bydd hi’n dod i’r brig yma. Unwaith eto, dwi’n teimlo mai Plaid Cymru fydd gyntaf, gyda’r Ceidwadwyr yn ail a Llafur yn drydydd. Teimlaf y bydd y Blaid yn colli pleidleisiau yma, ond nid i’r un graddau ag ardaloedd eraill, a bod y gwrthwyneb yn wir am Lafur – ennill ychydig, ond nid cymaint â’r unman arall. O reddf dwi’n teimlo y bydd pleidleisiau gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd at gyfeiriad Llafur a’r Ceidwadwyr yma, yn gymharol gyfartal. Felly pa oblygiadau sydd i’r rhestr?

O amrywio’r ffigurau fymryn, cynnydd eithaf mawr i’r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr ar eu hennill ac ar y blaen i Lafur o fymryn, a gostyngiad ym mhleidlais Plaid Cymru, gyda’r Dems Rhydd yn cael llai na 10% o bleidleisiau’r rhestr, âi’r sedd gyntaf i’r Ceidwadwyr, yr ail i Lafur, a’r drydedd i Blaid Cymru. Y peth diddorol ydi, petai Llafur yn ennill yn Llanelli a Gorllewin Caerfyrddin, ar yr amrywiadau bach hynny mi fyddant yn debygol o golli sedd rhestr, a honno i’r Ceidwadwyr – oni threcha’r Ceidwadwyr yn y bleidlais ranbarthol. Serch hynny, mi fyddai’r gystadleuaeth am y bedwaredd sedd yn hynod, hynod agos rhwng y tair plaid hynny. Hyd yn oed gyda dim ond un etholaeth i’w henw, ni fyddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol unrhyw gyfle o ennill sedd ranbarthol yma.

Fodd bynnag, ni ddylid diystyru’r Blaid Werdd yma. Os enilla’r blaid honno dim ond tua 6% o’r bleidlais ranbarthol, bydd ganddi gyfle o ennill sedd – er nad ydw i’n rhagweld hynny’n digwydd y tro hwn. Mae hyn hefyd yn wir am UKIP i raddau llai.

Ac am rŵan, dwi am gadw at hynny. O ran y rhestrau, mi fydd y Ceidwadwyr yn cipio sedd gan y Blaid Lafur, o drwch blewyn – er ei bod yn hawdd gweld Llafur yn ei chadw, neu o bosibl Plaid Cymru yn ei chipio; mae’r cyfan yn dibynnu ar y pedair sedd sydd, yn fy marn i, ar hyn o bryd yn edrych fel petaent am newid dwylo.

Proffwydoliaeth:

Ceidwadwyr 2 (+1)
Llafur 1 (-1)
Plaid Cymru 1 (-)