martedì, settembre 08, 2009

Henffych, fyd modern!

Ym mêr fy esgyrn mi deimlais y byddai’r busnes o osod Sky+ yn mynd o chwith – o fildars i popty newydd mae rhywbeth bob amser yn mynd yn siop siafins gen i. Ond am unwaith roedd y reddf besimistaidd honno, sy’n frawychus ac yn ddigalon o gywir fel rheol, yn reddf wallus y tro hwn. Mae gen i Sky+. Mae o’n ffantastig.

Dwi’n dweud hynny, yno fyddai am fis yn gwylio popeth dan haul yn llenwi ‘mhen â sbwriel, ac ymhen fis mi fydda i wedi diflasu i raddau ac yn cadw at ambell i sianel. Dyna, mi dybiaf, y gwna pawb mewn difri. I brofi’r peth dwi’n recordio Dudley heddiw. Fel rheol mi adawn i frain rwygo fy llygid allan cyn gwylio Dudley, ond dwisho profi’r peth. Dwi hefyd yn recordio Steptoe and Son, y fersiwn du a gwyn. Mae Steptoe and Son yn un o’r rhaglenni comedi hen ffasiwn prin iawn iawn dwi wirioneddol yn ei hoffi ac yn ei ffendio’n ddoniol – mae’r holl beth yn dywyll uffernol a llawer o’r jôcs o flaen eu hamser, ond tai’m i fwydro am hynny rŵan.

Dwi wedi torri fy nghalon braidd nad ydw i’n cael Sky Sports News, rhaid i mi ddweud. Oroesa’ i.

Gobeithio na fydd y blog hwn yn troi’n llith o’r hyn rydw i wedi ei wylio ar y teledu ac na throf yn llysieuyn, i raddau mwy helaeth o leiaf.

Y pwynt ydi, fodd bynnag, dwi wedi cymryd cam enfawr tuag at y byd modern. Yn wir, hiraetha’ fy enaid am ennyn o wybod a sicrwydd y syml a’r glân, hiraetha’ fy enaid am harmoni’r lleisiau a’r alaw sy’n burach na’r gân: ond o leiaf fydda i’n gallu ei recordio fo rŵan pan fydda i allan yn chwydu ar gornel yn rhywle.

giovedì, settembre 03, 2009

Sky+

Gyrhaeddish i adra echnos wedi blino, gan edrych ymlaen yn bur haeddiannol at noson o deledu, yn ôl fy arfer dioglyd. Ond na, nid oedd y signal am chwarae’r gêm y tro hwnnw. Yn wir, mi ddiflannodd yn llwyr. Ers i mi ganslo’r rhyngrwyd Virgin, a oedd yn gwbl uffernol hefyd o ran signal, mae’r teledu analog wedi parhau ond yn anffodus gyda Virgin wedi myned yn swyddogol, mi aeth y signal analog hefyd.

Rŵan, gwŷr ambell un ohonoch i mi brynu Freebox fisoedd nôl, na phigodd fawr o ddim fyny, felly y troais nôl at yr analog. Heb ddewis ac yn teimlo’n ddig oherwydd y gwaith o roi popeth yn y twll cywir, sy’n anodd ar yr adeg orau credwch chi fi, i fod yn bruddglwyfus i ymuno â’r byd modern, bu’n rhaid setio’r Freebox i fyny eto.

Rŵan, yn bur rhyfedd, mae’n cael ambell i sianel y tro hwn. Fe’m synnwyd. Wrth gwrs, dydi’r un sianel namyn BBC1 yn gweithio pan ddaw’r trên heibio, sef bron bob un dros hanner yr amser cyn tuag wyth o’r gloch, ond mae’n iawn. Serch hynny, dwi angen ffics Sul o Bobl y Cwm, a dydi S4C yn unman ar y radar. Mi ffoniais Sky.

Ac felly’n mae’n swyddogol. O ddydd Llun ymlaen mi fydd gen i Sky+. Wyddoch chi be, dwi’n edrych ymlaen; fydda i mor fodern fel fy mod i’n teimlo fy mod i’n byw yn Futurama.

Mae ‘na rhai sianeli dwi yn edrych ymlaen at eu cael. Dave, wrth gwrs, ydi un, a’r llall wrth gwrs ydi Sky Sports News. Wn i ddim a fyddaf byth yn gadael y tŷ o hyn ymlaen. A dwi hefyd isio UKTV Gold yn ôl. Rhaid i hyd yn oed grinc fel fi chwerthin.

Ond tan hynny byddaf yn dibynnu ar amseroedd y trenau am f’adloniant.

mercoledì, settembre 02, 2009

Cysill gachu

Ffiaidd.

Twitter

Cefais syndod, cofiwch chi, wrth galw draw i’r blog hwn heddiw. Ar gyfartaledd tua 23 o bobl sy’n ymweld â’r blog hwn y diwrnod, sydd wrth gwrs yn nifer eithaf pitw, a ‘does fawr amheuaeth mai’r un 23 o bobl sy’n gwneud bob dydd, ond am ryw reswm ddoe roedd dros deirgwaith hynny wedi bod yma.

O edrych ar hyn mae’n debyg bod llwyth o bobl wedi canfod eu ffordd yma drwy Twitter. Wn i ddim o le ar Twitter, chwaith – rhaid i mi gyfaddef nad ydw i’n ffan o’r peth. Gan ddweud hynny prin fy mod yn ymweld, ond dydi’r holl syniad ddim yn apelio ata i yn y lleiaf.

‘Doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn beth oedd Twitter tan i mi gael sgwrs ryfedd yn y Cornwall ryw bryd yn ystod cyfnod y Chwe Gwlad eleni – yr oll ydi’r peth ydi brawddeg yn dweud rhywbeth. Fedra i ddim gael fy mhen rownd pam y byddai rhywun isio’u darllen.


Efallai mai fi sy’n hen ffasiwn gan lynu at flog, ond na, dydw i ddim yn licio Twitter.

martedì, settembre 01, 2009

Welcome to North Wales, butt

Gan nad oedd fawr ddim ar y teledu neithiwr mi wyliais y ddrama ar BBC2, ‘Framed’. Roedd yn seiliedig ar lyfr nad ydw i, er tegwch, wedi’i ddarllen o’r blaen, ond roedd fwy neu lai’n ymwneud â phan guddiwyd rhai o luniau mawrion y Galeri Genedlaethol yn Llundain mewn mwynfeydd llechi yng Ngogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bod yn rhaid, oherwydd llifogydd, wneud hynny eto yn ein dyddiau ni. Y peth cyntaf feddyliais oedd y byddai wirioneddol yn braf gweld Gogledd Cymru ar deledu Prydeinig am unwaith.

Fedra i ddim credu’r portread a wnaed o Ogledd Cymru – mae gwallus yn bod yn anfarwol o neis.

Tai’m i sôn am y plot, roedd hwnnw’n ddigon hawdd i’w ddarogan a digon diflas yn y bôn, ond roedd y pentref ei hun yn gwbl anghynrychioliadwy o bentref yng Ngogledd Cymru. Ddim hyd yn oed y ardal Manod mwyach (dwi ddim yn 100% a oes union bentref o'r enw Manod, ond yn gwybod lle mae'r ardal), mi dybiaf, y mae un ysgol leol fechan sy’n cynnwys holl blant y pentref sydd rhwng tua 5 a 18 oed. Tasech chi’n ceisio dwyn o’r siop leol, prin y byddwch chi’n ymddiheuro am y peth drwy roi tair iâr i’r perchnogion. Ac ni fyddai cymuned lawn yn dod at ei gilydd i ail-agor parc a gaewyd gan y cyngor ar hap.

Efallai bod rheini yn y llyfr gwreiddiol, wn i ddim, ond roedd y llyfr hwnnw, hyd y gwn i, o gyfnod yr Ail Ryfel Byd. Yr awgrym cryf a roddwyd gan ‘Framed’ yw bod Gogledd Cymru yn union yr un fath â hynny o hyd. Ta waeth, efallai nad oedd hynny o reidrwydd yn sarhaus, dim ond yn ddwl.

Fyddech chi’n disgwyl i’r Gymraeg cael fwy o sylw – mewn ffordd mi amlygodd y ddrama broblem fawr, sef ceisio gwneud drama Saesneg ei hiaith mewn ardal Gymraeg, ‘doedd o jyst ddim yn gweithio i mi fel rhywun sy’n gwybod bod y ffasiwn beth â chymunedau Cymraeg yn bodoli. Cafwyd rhywfaint o’r iaith, ambell air nawr ac yn y man ar hap – roedd clywed ‘dere’ yn od.

Wrth i’r Sais fynd i’r siop i archebu ei bapur newydd roedd y ddynas eithriadol o sych yn siarad amdano, yn Gymraeg, o’i flaen wrth ei gŵr, cyn i bobl eraill siarad amdano wrth ei basio. Yr hyn a gyfleodd, boed ar bwrpas ai peidio, oedd ein bod ni ond yn dueddol o siarad Cymraeg pan fo Sais o gwmpas – sôn am stereoteip a hanner. Mi wadodd fodolaeth y Gymraeg fel iaith gymunedol. Deallaf fod yn anodd cyfleu hynny mewn drama Saesneg, ond iesgob, ni roddodd argraff dda o’r iaith pan y’i clywid.

Ond mae un peth wnaeth fy ngwylltio i eithafon y byd – roedd pawb, drwy ryw ryfedd wyrth, yn siarad ag acen cymoedd de Cymru, y stereoteip mwyaf sydd, sef bod gan bawb yng Nghymru acen Taffi, a hynny er ein hysbysu ar ddechrau’r rhaglen y câi’r lluniau enwog hyn eu cadw yn y gogledd. Un acen y gogledd a glywid drwy’r rhaglen gyfan, sydd nid yn unig yn dangos diffyg ymchwil nag ychwaith diogrwydd yn unig, ond dirmyg. Mae’n gallu bod yn ddigon anodd mynd i Loegr, os oes yn rhaid i chi wneud y fath beth, gydag acen ogleddol a’u hargyhoeddi eich bod yn Gymro achos dydach chi ddim yn dweud ‘there’s nice’, ‘I loves it’ ac ati.

Fel mae’n digwydd dwi’n licio acen de Cymru, ond ‘sgen i mohoni, a dydi o yn sicr ddim yn cael ei siarad yng Ngogledd-orllewin Cymru. Roedd yn gyfystyr â holl gast Last of the Summer Wine yn siarad gydag acen Cocni; hynny yw, yn wrthun.

Roedd hwn yn gyfle da i gyfleu gogledd Cymru, y da a’r drwg, i Brydain gyfan – rhywbeth sy jyst ddim yn cael ei wneud fel rheol. Roedd yn aflwyddiant, ac ro’n i’n ffendio’r ffaith bod y cynhyrchwyr yn meddwl y basan nhw’n gallu ‘plannu’ cymuned cymoedd y de yn y gogledd ac y byddai hynny’n ei chyfleu’n berffaith yn hollol sarhaus. Da iawn BBC – prin iawn y gellir cynhyrchu rhaglen sydd mor anghywir ar sawl lefel fel ei bod yn gwneud i blot mor wan edrych yn athrylithgar.

giovedì, agosto 27, 2009

Wythnos Pedwar Diwrnod

Dwi heb â chwyno i chi, yng ngwir ystyr y gair hwnnw yng nghyd-destun y blog hwn, ers talwm, ac mi fedraf sicrhau y bydd y gŵyn hon yn un a fydd yn peri i rai ohonoch wylltio oherwydd maint ei dibwysedd.

Dwi ddim yn licio wythnosau gwaith pedwar diwrnod.

Wir-yr rŵan, mae rhywbeth am wythnosau gŵyl y banc sy’n peri penbleth enfawr yn fy mhen i’r fath raddau erbyn y Gwener fydda i’n diawlio y cawsom ddiwrnod o’r gwaith yn y lle cyntaf. Ond gadewch i mi esbonio, dyna’r lleiaf yr wy’n ei haeddu. A dywedyd y gwir y mwyaf dwi’n ei haeddu ydi pizza ac mi a sglaffiwn un pe’i cawn, ac mae croeso i chi roi pizza i mi os hoffech, ond y lleiaf dwi’n ei haeddu ydi rhoi esboniad.

Ylwch, gwir y mater ydi bod diwrnod gwaith sy’n bedwar diwrnod o hyd, a hynny o ganlyniad uniongyrchol i golli dydd Llun, yn teimlo’n ddiawl o lot hirach nag wythnos arferol. Nid y fi, hyd eithaf fy nallt, ydi’r unig un a gred hyn hefyd. Am ryw reswm, mae colli dydd Llun yn gwneud gweddill yr wythnos yn slog.

Wedi pendroni, ac yn wir i raddau mor isel y gallaf ond jyst hawlio defnyddio’r gair hwnnw, deuthum i’r casgliad mathemategol. I mi mae hyn yn gryn ddatguddiad, achos dwi byth wedi ateb dim byd o’r blaen gyda mathemateg, yn bennaf achos ei fod yn ddibwys. Fydd ‘na ddim dadl am hynny fan hyn, mae mathemateg yn dda i ddim, ac, o ran pynciau ysgol, yn haeddu bod ar yr un pentwr â thebyg bynciau iwsles megis technoleg dylunio, astudiaethau cyfryngol ac, afraid dweud, Saesneg.

Ond dyma’r esboniad fathemategol, wele’r bold yn ganran o’r wythnos sydd wedi mynd heibio mewn wythnos pedwar diwrnod; ac mewn wythnos arferol, ffont arferol.

Llun: 20%/-
Mawrth: 40%/25%
Mercher: 60%/50%
Iau: 80%/
75%
hanner ffordd drwy ddydd Gwener: 90%/87.5%


Wele, nid tan olaf eiliadau dydd Gwener y mae gweithio wythnos pedwar diwrnod yn gymharol yr un fath ag wythnos arferol o ran faint a gwblheid, felly yn bur anochel fe fydd yn teimlo’n hirach. Gwir ganlyniad hyn ydi fod mod naill ai’n athrylith neu’n unigolyn ofnadwy o drist.

Er mwyn i ni beidio â checru, ddywedwn ni athrylith.

mercoledì, agosto 26, 2009

Hwra i bêl-droed!

Alla i ddim cyfleu i chi yn ei lawnder pa mor falch ydw i fod y tymor pêl-droed wedi cychwyn. Nefoedd yr adar, bu’n haf hir ond yr heulwen a ddaeth gyda dechrau’r tymor yn sicr.

Mae pethau wedi dechrau’n well eleni hefyd gan fy mod am y tro cyntaf wedi curo’r aciwmiwletyr. Os nad ydych yn gyfarwydd â’r aciwmiwletyr, beth sy’n rhaid ei wneud ydi dewis ychydig o gemau a dweud pwy sydd am ennill neu gael gêm gyfartal, ac yn ôl yr ‘odds’ mae’r peth yn cronni po fwyaf o gemau a ddewiswch. Rŵan, fel arfer dwi’n un risgi ac yn dewis tua 8-10 tîm, ond dim ond 6 a ddewisais dydd Gwener diwethaf ac mi ddaeth y peth i mewn.

Yn anffodus dim ond £22 oedd hi yn y pen draw ond tai’m i gwyno ar ôl rhoi dim ond punt i lawr. Hwra i mi!

Peth arall fydda i’n licio am y tymor pêl-droed, heblaw am y gemau eu hunain a’r bencampwriaeth a ddaw’n anochel eto at Old Trafford, ydi’r Fantasy Premier League. Fydd rhai ohonoch ddim yn gwybod am hynny chwaith, ond yn gryno rydych yn dewis tîm o chwaraewyr ac yn cael pwyntiau yn dibynnu ar wahanol ffactorau. Eleni dwi heb â chael dechrau gwych, rhaid cyfaddef, ac yn hanner waelod y ddwy gynghrair dwi’n rhan ohonynt. Wrth gwrs, dwi’n pwdu’n arw am hynny yn barod.

Ynghylch y ddau beth a nodwyd uchod mae gen i set o reolau llym y cadwaf atynt, sef byth i roi bet ar Man Utd i golli neu hyd yn oed gael gêm gyfartal, ac yn ail peidio byth yn y Fantasy League â dewis chwaraewyr Lerpwl. O leiaf fod yr egwyddor honno eisoes wedi’i chyfiawnhau eleni!

martedì, agosto 25, 2009

Y Teimlad

Na, ‘doeddwn i byth am lwyddo rhoi llith i chwi ddoe, gyfeillion a gelynion, ro’n i’n gelain i’r byd drwy gydol y dydd. Mi gefais benwythnos trwm, a deimlodd yn sicr ar y Sul yn anarferol o drwm, felly dwi’n cael saib o’r meddwi os nad y peintiau hamddenol.

Bu’r teulu i lawr, a chawsom fwyd yn Le Brasserie yng nghanol dinas Caerdydd. Mae’n lle hynod posh, ond gyda U2 yn chwarae yn y stadiwm roedd gan y bwyty fwydlen wahanol ar gynnig nad oedd hanner cystal â’r arfer. Chwadan ges i. Fel rheol dwi’n caru chwadan, dyma fy hoff gig, ond chwadan posh oedd hon, a dydyn nhw ddim yn coginio chwadan posh yn iawn. ‘Motsh gen i pa beth ddywedyd neb, mae’n rhaid coginio chwadan yn iawn, ddim yn ganolig neu ar yr ochr amrwd, yn wahanol i stêc.

Gadewais y teulu a mynd allan gyda’r cyfeillion gyda’r nos. O, mi feddwais. Dydw i ddim yn cofio llawer o ddiwedd y noson, ond afraid dweud roedd dydd Sul yn ddedfryd greulon. Mam wnaeth bopeth yn waeth wrth fynnu ein bod yn mynd fel teulu i Gastell Coch ar gyrion Caerdydd. Yn bersonol, ‘doedd gen i ddim cymhelliant i fynd, a fawr ysgogiad i fynd nôl fel mae’n digwydd – nid ydi ystryffaglu o amgylch blydi castell bach dibwrpas yn rheswm i’m deffro o drwmgwsg meddw.

Felly’n bur flinedig ro’n i’n gwely ymhell cyn wyth ar nos Sul ac ni ddeffrois tan saith fora Llun, ac ni symudias nac am bisiad nac am ddiod na dim yn ystod y cyfnod hwnnw.

Wrth gwrs dwi’n teimlo’n well rŵan, er dwi’n cael un o’r teimladau erchyll ‘be ddiawl nes i nos Sadwrn’, sy’n pur amharu ar wythnos unrhyw un.

Am gyfaill cas ydi alcohol. Tebyg at ei debyg, de.