mercoledì, aprile 07, 2010

Meini Prawf Llwyddiant Etholiad 2010

Wel, mae’n etholiad arnom, cyfnod gwych i obeithio, anobeithio, brwydro, anwybyddu a fwy na thebyg ypsetio lot o bobl. Na phoener, gymera i gyfrifoldeb am yr un olaf. Un peth fydda i ddim yn licio’i glywed ar ôl etholiad ydi pleidiau yn honni llwyddiant lle bu methiant. Roedd llinell Plaid Cymru yn 2005, er enghraifft, o fod “mil a hanner o bleidleisiau o ennill pum sedd” yn ffeithiol gywir ond yn gamarweiniol. Felly dyma asesiad byr o’r hyn y gall y pleidiau ei alw’n etholiad llwyddiannus pan ddaw Mai 7fed ymhen mis, a’r meini prawf ar gyfer gwneud hynny.

Ceidwadwyr

Noson ragorol: 16 sedd (annhebygol iawn ond posibl)
Seddau sicr: 6 sedd
Sedd i’w gwylio: Aberconwy – dylai’r Ceidwadwyr fod wedi’i chipio yn 2007 – does dim esgusodion eleni
Meini prawf llwyddiant: Oni fydd y Ceidwadwyr yn ennill o leiaf 9 sedd, sef tair ar ben y chwech sy’n sicr, ni allant hawlio iddi fod yn noson lwyddiannus yng Nghymru. I ennill mwyafrif yn Llundain, fodd bynnag, mae’n debyg y bydd yn rhaid iddyn nhw ennill o leiaf ddeg yma. Byddai peidio â chynyddu eu canran o’r bleidlais o leiaf 5% - sef yn gyfforddus uwch chwarter y bleidlais - hefyd yn fethiant ar eu rhan.

Democratiaid Rhyddfrydol

Noson ragorol: 6 sedd
Seddau sicr: 2 sedd
Sedd i’w gwylio: Gorllewin Abertawe – os ydi’r Dems Rhydd o ddifrif isio ymestyn y tu hwnt i’r ardaloedd traddodiadol ac ardaloedd myfyrwyr, rhaid ennill fan hyn
Meini prawf llwyddiant: O ystyried yr hinsawdd wleidyddol, yn gyfrinachol bydd y Dems Rhydd yng Nghymru yn fodlon ar ddal eu tir – a dyma’r unig faen prawf i lwyddo. Pe collid Ceredigion neu Frycheiniog, gellir ennill Dwyrain Casnewydd neu Orllewin Abertawe, ond sut bynnag y bydd hi ar Fai 7fed bydd llai na phedair sedd yn noson aflwyddiannus iddynt. Waeth beth fydd yn digwydd o ran seddau, byddai cael eu goddiweddyd gan y Blaid yn y bleidlais boblogaidd yn siom enfawr ac yn cadarnhau eu statws fel y bedwaredd blaid.

Llafur

Gobaith gorau: Colli 6 sedd neu lai
Seddau sicr: 14 cwbl sicr, ffefrynnau mewn tua 9 arall
Seddau i’w gwylio: Llanelli a Delyn – byddai colli’r rhain yn rhoi momentwm mawr i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr cyn 2011, ac yn dyst i ddirywiad Llafur Cymru
Meini prawf llwyddiant: yn fy marn i mae chwe sedd eisoes wedi’u colli o’r 29 presennol, felly’r gorau y gall Llafur ei wneud ydi 23 o seddau – ond gall naw o’r rheini gael eu colli ar noson wael i Lafur. O ystyried popeth, noson lwyddiannus i Lafur fyddai 21 o seddau, gan sicrhau o leiaf 37% o’r bleidlais yng Nghymru. Mae unrhyw beth arall yn aflwyddiannus.

Plaid Cymru

Noson ragorol: 7 sedd
Seddau sicr: 3 sedd
Sedd i’w gwylio: Ceredigion – roedd ei cholli yn 2005 yn warthus, ond byddai peidio â’i hadennill yn destun pryder difrifol
Meini prawf llwyddiant: does dwywaith am hyn, i hawlio noson lwyddiannus mae’n rhaid i Blaid Cymru adennill Ceredigion ac o leiaf un o’r tair sedd arall ar y radar, sef Môn, Llanelli neu Aberconwy. Byddai llai na phum sedd yn noson wael. Rhaid iddi hefyd sicrhau tua 200,000 o bleidleisiau yn genedlaethol. Fydd goddiweddyd y Dems Rhydd ddim yn hanfodol, o ran seddau na phleidleisiau, ond yn fonws mawr.

martedì, aprile 06, 2010

Y gŵyn dragwyddol

Y cefn sydd wrthi eto. Mi glywsoch droeon dros y misoedd diwethaf ond mae’r boen ar waelod fy nghefn wedi bod yn waeth dros y penwythnos nag erioed. Nid oherwydd antics nos Iau – oblegid arhosais i mewn weddill y penwythnos hir - roedd y dartiau yn ffantastig, fy math i o beth heb unrhyw amheuaeth. Roedd gêm van Barneveld a Phil Taylor ychydig yn siomedig, ond teg dweud ein bod wedi tancio digon i lorio buwch erbyn hynny. Ha ha, buwch ‘di meddwi; hoffwn weld. Wel, i fod yn deg fe welwch rywbeth tebyg ar stryd Pesda bob penwythnos ond awn ni ddim i hynny.

Hwyl a gafwyd hefyd ar ôl y dartiau mewn tafarn yng Nghaerdydd. Roedd ‘na fiwsig ymlaen, a chriw bach o ddilynwyr selog gyda’r band neu unigolyn, ac mi ges innau a Ceren hwyl yn eu heclo. Ydyn, rydyn ni’n bobl erchyll yn y bôn. Maen iawn i heclo digrifwyr ond llai felly cerddorion, yn enwedig wrth ebychu “all hwn ddim canu siŵr Dduw” pan y gall wneud yn ddigon dymunol. Ond dwi’n gwybod y math o bobl dwi’m yn licio ac roedd o’n edrych fel rhywun sy’n smygu pot a byw mewn tŷ budur felly ffwcia fo.

Ond nôl at fy nghefn. Ddylwn weld y doctor i fod yn gwbl onest, achos mae’n boen ers misoedd erbyn hyn, sy’n mynd a dod rhaid dweud. Dydw i ddim yn licio meddygfeydd o gwbl. Y tro diwethaf ro’n i yno roedd merched y dderbynfa yn anghwrtais ac un baban yn sgrechian crio i’r fath raddau y bu i mi ddwfn ystyried ceisio cic adlam efo fo. Carchar, nid euogrwydd, oedd f’unig rwystr.

Dwi bob amser yn teimlo’n wirion o flaen doctor hefyd, mae o fatha dwi methu egluro be sy’n bod efo fi. Does ‘na fawr o’m byd gwaeth na doctor yn troi rownd a dweud rhywbeth tebyg i “cymra barasetamol” a dyna’r ofn. Ac wedyn gafodd hwnnw ar ‘Caerdydd’ gancr y pancreas efo’i boen cefn. ‘Run ffordd neu’r gilydd fydda i’n teimlo’n wirion, felly os dwi’m yn well ar ôl fy mhen-blwydd, mi af at y doctor iddo gael fy niystyru. O leiaf y bydda i’n wirion yn swyddogol wedyn.

lunedì, aprile 05, 2010

Dim ond y Dems Rhydd all ennill De Caerdydd!

Dwi'n gwybod bod gan Flogmenai fonopoli ar y rhain ond dyma berl fach arall gan y Democratiaid Rhyddfrydol, y tro hwn yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth...



Er gwybodaeth dyma oedd canlyniad 2005:

Llafur  17,447 (47.3%)
Ceidwadwyr 8,210 (22.2%)
Dems Rhydd 7,529 (20.4%)
Mwyafrif Llafur dros y Ceidwadwyr: 9,237 (25.0%)

Felly'r unig blaid all ennill ydi'r un yn y trydydd safle sydd angen gogwydd sydd o leiaf 13.5% o'r blaid sy'n gyntaf gan obeithio na fydd yr ail blaid yn gweld cynnydd. Rhesymeg ragorol.

giovedì, aprile 01, 2010

Ymateb Nain i'r Wylfa

Gwelodd y mis diwethaf y nifer fwyaf erioed o ‘unique hits’ ar flog yr Hogyn o Rachub, felly mi gaf fod smyg ar ddydd y ffŵl. Wrth siarad â Nain ar y ffôn neithiwr, dyma oedd ganddi i ddweud am y newyddion bod pobl yn protestio yn erbyn Wylfa B wrth Bont Borth:

Mae pawb yn mynd o Sir Fôn fel y mae hi, heb y jobs fydd hi ‘di canu ar y Gymraeg yma. Mae pobl yn mynd wirionach, a dylia nhw fynd yn gallach.”

Sbot on, ‘rhen gneuen.

mercoledì, marzo 31, 2010

Plismona iaith

Dydw i ddim yn blismon iaith. Wel, dwi’n gobeithio ddim. Gwir, mi fydda i’n darllen golwg360 bob dydd o’r wythnos, a’r rhan fwyaf o’r amser yn twt twtian ar lu gamgymeriadau’r wefan (a’r ffaith nad ydyn nhw’n gallu cael enwau etholaethau yn iawn, hyd yn oed), ond ar y cyfan dwi ar begwn arall y sbectrwm. Mae’r blog hwn yn dyst i hynny – er, yn ddigon aml mi fydda i’n darllen ambell bost ac yn gresynu cael ambell genedl anghywir neu dreigliad coll. Pan fo chi’n ymwneud ag iaith bob dydd ddylech chi ddim cael y fath bethau’n anghywir, ond fy mlog i ydi hwn ac mi gaf felly fod mor esgeulus a dwi isio bod (a newid y cywair fel dwisho!). Dwi’n meddwl bod tafodiaith yn wych, ac y byddai’n well i bobl sy’n arfer bratiaith siarad Saesneg.

Ond mae rhai pethau y mae pobl yn eu dweud yn mynd ar fy nerfau ar lafar. Socs, shŵs, wicend, egsams, swîts. Mae hyd yn oed Ieuan Wyn Jones wrthi. Ych a fi. Buan iawn ar ôl i mi ddod i Gaerdydd y sylwish i fod gan bobl Dyffryn Ogwen Gymraeg da a digon cyhyrog ar y cyfan. Ewadd, fydda i’n meddwl weithiau, dani’n dda. Ond mae ‘na ambell i beth rhyfedd.

Byddai llawer iawn o’m ffrindiau adra yn dueddol o ddweud yr amser yn Gymraeg. Byddai hyd yn oed Dad, nad ysgolhaig mohono mewn unrhyw, unrhyw ystyr (i fod yn onast mae’n ddwl fel dafad ddall), yn dweud yr amser yn Gymraeg. Ond eto, byddai ef a hwythau’n dueddol o ddweud y dyddiad yn Saesneg: “Mae’n bum munud ar hugain i ddeg ar y ffortînth o Jwlei”.

Rhaid i mi gyfaddef fydda i bob amser yn dweud ‘Jŵn’ a ‘Jwlei’ yn hytrach na ‘Mehefin’ a ‘Gorffennaf’, ond ar wahân i’r ddau eithriad hynny mae’r misoedd yn Gymraeg i mi. Fydda i’n cyfaddawdu, wrth gwrs. Yn hytrach na dweud “yr unfed ar ddeg o hugain o Ebrill” buaswn i’n dweud “Ebrill tri deg un”, ond mae hynny’n ddigon teg, yn enwedig gan nad Saesneg mewn Cymraeg mohoni.

Un o’r ffliwcs ieithyddol mwyaf od ydi tueddiad pobl i dreiglo ar ôl berfenwau e.e. ‘sylwi fod’ yn lle ‘sylwi bod’. Rŵan, dwi’m am farnu hynny, gwell ‘sylwi fod’ na ‘realiso fod’ unrhyw ddydd, a dydi hi’m yn swnio’n erchyll ar y glust, ond dwi’n ei gweld yn rhywbeth od. Dwinnau fy hun, ar lafar, yn gwneud hynny, er fy mod i’n gwybod y rheol. Gan ddweud hynny dim ond y genedl ryfeddaf âi ati i sgyrsio yn ôl dull yr hanesydd John Davies yn ei bywyd beunyddiol.

Problem fawr y Cymry Cymraeg, mi gredaf, ac fe welwch hyn o ddarllen yn unrhyw le, ydi nad ydan ni’n gwybod sut i ysgrifennu Cymraeg, er ein bod yn cofio sut i’w siarad. Rhag ofn i chi feddwl fy mod i’n snob yn dweud hynny, nid beirniadu ydw i, am unwaith, ond dweud yn blaen nad ydym yn ysgrifennu gystal ag y gwnaethom. Dirywiad y capeli sydd gwbl ynghlwm wrth hynny, wrth gwrs. Mae pobl ifanc yn ennyn llid y genhedlaeth hŷn o ran safon eu hiaith. Ond nid unffordd mohoni o gwbl. Mae Anti Rita’n dweud bod gan fy nghenhedlaeth i ‘Gymraeg posh’!

Wn i ddim am hynny. Rhowch i mi dafodiaith dros bopeth unrhyw ddydd. Ond mae ffliwciau Cymraeg modern yn gwneud i mi weithiau wenu, weithiau digalonni ac weithiau rhyfeddu sut ddiawl ein bod ni’n dyfeisio’r ffasiwn bethau! Cenedl ryfedd o fewn cenedl ryfedd ydi’r Cymry Cymraeg, yn wir.

lunedì, marzo 29, 2010

Safio y Gwe!

Marciau llawn i Flogmenai am roi sylw i'r erchylltra etholiadol diweddaraf i gael ei chwydu o fol plaid Brydeinig.

Mae'n un peth i'r Ceidwadwyr wneud hyn yn Arfon, sef etholaeth gwbl anobeithiol iddynt, ond mae'n anhygoel bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd ati i sarhau Cymry Cymraeg gyda'r fath rwtsh mewn sedd lle mae ganddynt fwyafrif o ychydig dros ddau gant, a hynny mewn etholaeth sydd gan fwyaf yn Gymraeg ei hiaith!

Mentrais fil o fwyafrif i'r Blaid yma ymhen ychydig dros fis - ond os mae'r Dems Rhydd yn dyfeisio pethau fel hyn eto yng Ngheredigion dros y mis nesaf yna fentra i o leiaf fil yn fwy!

Rhyfela

Dyma 800fed post y blog newydd. Pa ffordd well o’i dathlu na malu cachu?

Breuddwydiais neithiwr fy mod mewn rhyfel. Dim ond rhan o’r freuddwyd oedd y darn hwnnw, roedd y gweddill yn cynnwys llygoden ddewr (yn y rhyfel) efo gwinedd hir, arth yn bwyta dau o blant a’u Mam, a minnau’n piso am ofnadwy o hir. Wna i ddim gwadu i mi deimlo eithaf rhyddhad o ddeffro mewn gwely sych. Wel, roedd hi’n sych erbyn i mi ddeffro, o leiaf.

Dwi’n meddwl bod pob un ohonom yn licio meddwl y bydden ni’n rhyfelwyr rhagorol pe deuai ati. P’un a tharem gleddyf neu fwyell neu saethu gelynion à la Arnold, mae ‘na rhywbeth digon deniadol am feddwl y gallech ddinistrio popeth a saif yn eich erbyn. Rydym ninnau’n dweud hynny fel cenhedlaeth na ŵyr erchyllterau rhyfel ein hunain, gan fwyaf, a phob amser ar ôl cyfnod o heddwch cymharol mae rhyfel yn llwyddo ailramanteiddio ei hun. Dyma pam bod ffilmiau rhyfel a gemau saethu mor boblogaidd, dwi’n meddwl. Rydyn ni’n cael gwefr o’r gyflafan heb frifo ein hunain.

Ta waeth am y rhesymau dwys ynghlwm wrth fy namcaniaeth, ac er yr hoffwn feddwl y byddwn yn farchog cryf mewn armwr sglein, dydi hynny ddim yn wir. Yn gyntaf, dwi’n wan fatha cath, allwn i’m cario bwyell ryfel heb sôn am yr holl armwr ‘na. Yn ail, fedra i ddim rhedeg yn ddigon gyflym – pan gyll y gall fe gyll ymhell, wedi’r cwbl. Wn i ddim ydw i’n ddigon call, ychwaith. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu ‘na’.

Byddai rhyfel modern fawr well i mi. Efallai y byddwn i’n sneipar digon bodlon – petawn ddistewach a ddim mor lletchwith. Wn i, saethu’r unigolyn rong y byddwn innau beth bynnag, neu efallai ryw gath randym sy’n crwydro’r gymdogaeth (fyddai’n grêt), ond a hit’s a hit fel y maen nhw’n ei ddweud (er, mae’n siŵr nad ydi sneipars proffesiynol yn cytuno â hyn – wyddoch, dydw i ddim yn y right frame of mind i fod yn sneipar, ar ôl y mymryn lleiaf o ystyried).

Na, dwi’n meddwl mai’r unig beth allwn i obeithio bod mewn rhyfel, yn llwyddiannus, ydi heddychwr. Neu weinidog mewn tawel blwyf ymhell o bopeth. Ia, hynny wnaiff y tro i mi. Pan ddaw’r Trydydd Rhyfel Byd, fydda i’n cuddio dan y bwrdd efo brechdan a Beibl. Fel y byddai unrhyw un call.

venerdì, marzo 26, 2010

Tasa ni'n ennill y Loteri...

Ddylwn i ddim cwyno am arian. Nid cyfoethocaf o bobl y byd, na Rachub hyd yn oed, mohonof, ond dwi’n llwyddo goroesi yn gyfforddus ar hyn o bryd, er fel y nodais yn y post diwethaf dwi’n gwario mwy nag yr hoffwn. Fydd y mis nesaf, fodd bynnag, yn ddrud – sy’n cynnwys fy mhen-blwydd yn chwarter canrif, sydd wrth gwrs felly’n golygu y bydda i’n gwneud antics yng nghanol dinas Caerdydd ac yn prynu rhywbeth neis i mi’n hun, a nos Iau nesaf mynd i weld y dartiau yn y CIA.

Cadwch eich orielau a’ch theatr. Rhowch i mi gwrw a giamocs pob 19fed Ebrill a daw dim drwg i’ch canlyn. Fydd hi ‘di cachu arna’ i ond peidiwch â phoeni.

Ond fel dwi’n dweud tai’m i gwyno – mae mwynhau bywyd yn bwysicach na chyfrif banc. Bydda i, fel pawb, yn teimlo’n ddigon annifyr a hunandosturiol o bryd i’w gilydd, ond dwi wirioneddol o’r farn y dylid cofio bod pobl sydd heb ddim, a bod cwyno am yr hyn sydd gennym (sy’n rhywbeth, ysywaeth, dwi’n ei wneud o hyd!) ychydig yn bathetig.

Un o’r sgyrsiau, mi dybiaf, y bydd grwpiau o bobl yn ei chael yn aml ydi ‘be fyddan ni’n neud tasan ni’n ennill y Loteri/Euro Millions’. Dwi wedi hen syrffedu ar y drafodaeth hon, rhaid i mi gyfaddef. Bydd un person yn dweud ‘prynu car i bawb’ neu ‘clirio dyledion pawb’. Wfft i hynny: noda i fy marn yma unwaith ac am byth.

Yn gyntaf, byddwn i’m yn dweud wrth fy ffrindiau, na’r rhan helaethaf o’m teulu. Byddwn i’n cynnig cymorth ariannol i’r rhai ohonynt allai wneud gydag ychydig o help, ond ni châi neb sy’n gwneud yn iawn geiniog gen i. Heblaw am yr amlwg, sef rhoi llwyth o bres i Mam, digon i weld bod y chwaer yn iawn, a byddwn i’n dechrau cwmni bach yn Nyffryn Ogwen gan brynu llwyth o dai a’u gosod i bobl leol Gymraeg am rent rhesymol, fforddiadwy. Rhown wedyn y gweddill i lwyth o sefydliadau gwahanol, Cymorth Cristnogol, Shelter Cymru, Cymdeithas yr Iaith, yr Eglwys Babyddol, ac unrhyw fath o sefydliad sy’n edrych ar ôl cŵn achos, fel y gwyddoch, dwi’n licio cŵn.

Byddai Ymddiriedolaeth y Moch Daear yn cael ffyc ôl uda i hynny rŵan, mi dalwn i rywun rhoi slap i Brian May. Ond mi gadwn wedyn ambell filiwn i mi’n hun, i fod yn gyfforddus am oes. Wedi’r cyfan, dydi arian yn dda i ddim yn y banc, yn enwedig pan fo gennych bopeth sydd ei angen arnoch. Er gwaethaf popeth, alla’ i ddim meddwl am ddim gwaeth na meddu ar bopeth yr hoffwn ei gael.