Awn draw i Abertawe rŵan, yn benodol y sedd orllewinol, sef hefyd ochr fwyaf llewyrchus y ddinas. Mae’n siŵr nad oes yn rhaid i mi ddweud ei bod, yn gyffredinol, yn gadarn iawn o blaid Llafur, a hi sydd wedi’i chynrychioli yn San Steffan ers 1964 ac yn y Cynulliad erioed. Dwi ‘di penderfynu dadansoddi hon fesul plaid, a mi ddechreuwn gyda’r Ceidwadwyr.
Y Ceidwadwyr gynrychiolodd y sedd am gyfnod cyn ’64. Yn wir, yn yr wythdegau ac ar ddechrau’r nawdegau roeddent yn gymharol gryf yn y sedd, gan ennill tua thraean o’r bleidlais yn gyson, a lwyddo hefyd ennill dros 15,000 o bleidleisiau yn nau etholiad yr wythdegau.
Wel, ers hynny mae’r Torïaid wedi cilio’n ofnadwy. Syrthiodd eu canran o 20.5% ym 1997 i lawr at 16% yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, gan gael traean o’r pleidleisiau a gafodd yn ei hanterth lled-ddiweddar yn yr wythdegau. Mae hynny’n ddirywiad sylweddol, ond nid cwbl annodweddiadol. Un peth yr wyf wedi sylwi arno wrth lunio’r dadansoddiadau hyn yw bod y Ceidwadwyr o hyd yn llawer gwannach yng Nghymru nag yr oeddent cyn chwalfa 1997.
Yn gyflym, ar gyfartaledd maent wedi cael 3,709 o bleidleisiau mewn etholiadau Cynulliad, ymhell o dan ugain y cant bob tro. Un cynghorydd sy’n weddill ganddynt yn y sedd etholaethol. I fod yn deg, daeth yn drydydd digon parchus yn etholiadau Ewrop, a llai na 600 o bleidleisiau o’r safle cyntaf.
Felly a oes gan y Ceidwadwyr gyfle o ennill yma eleni? Er y gallent, ac y byddant rwy’n siŵr, yn gwneud yn well eleni, wn i ddim a fyddant eto’n heibio’r 20%, ac yn sicr ni chânt fwy na chwarter y bleidlais.
Dydi hanes Plaid Cymru yma fawr well – wel, afraid dweud, yn y rhan hon o’r byd mae cryn dipyn yn waeth. Ond fel ambell sedd debyg, mae hi’n gwneud yn well yma nag y gwnaeth o’r blaen. Cafodd gyfanswm o 3,365 o bleidleisiau yma o bob etholiad cyffredinol rhwng 1983 a 1992, ond llwyddodd gynyddu hyn i gyfanswm o 8,229 rhwng 1997 a 2005 – cynnydd sylweddol.
I fod yn deg, cafodd Plaid Cymru eithaf hwyl arni yma mewn etholiadau Cynulliad. Daeth o fewn dwy fil o bleidleisiau i drechu Llafur yn ’99, a chafodd eto bron i chwarter y bleidlais yn 2003. Parchus os nad gwefreiddiol.
Gellid o bosibl diolch i Dai Lloyd am y llwyddiannau cymharol hynny, achos mi aeth pethau o’i le yn ddifrifol yn 2007, er i nifer o sylwebyddion, gan gynnwys neb llai na Vaughan Roderick, ddarogan yr âi Gorllewin Abertawe i ddwylo Plaid Cymru. Yn y pen draw, dirywiodd ei phleidlais 7% a disgynnodd i’r pedwerydd safle. Yn wahanol i’r pleidiau eraill, ‘does ganddi’r un cynghorydd yn yr etholaeth.
Yn waeth na hynny daeth yn bumed yma yn etholiadau Ewrop. Dyma un ardal, yn sicr, na fwriwyd unrhyw wreiddiau ar ôl ’99. A dweud y gwir, byddwn i’n cael sioc petai Plaid Cymru yn cael degfed o’r bleidlais yma. I’r Blaid, mae hon yn sedd bur anobeithiol.
Canolbwyntiwn nesaf ar blaid, er gwaethaf y ffaith bod nifer yn darogan y gallai ennill dim ond un sedd yng Nghymru eleni, allai’n sicr ennill yma yn 2010; y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae pleidlais y Rhyddfrydwyr yn yr etholaeth wedi cynyddu’n aruthrol dros y pum mlynedd diwethaf. Bu bron iddynt ddyblu eu pleidlais rhwng 2001 a 2005. Y flwyddyn honno, cawsant dros 9,500 o bleidleisiau, sef 29% - mae’r ganran, os nad y niferoedd, yn sicr yn agosáu at uchafbwynt y Ceidwadwyr yn yr wythdegau.
Adlewyrchir y patrwm hwn yn etholiadau’r Cynulliad – llenwodd y Rhyddfrydwyr y bwlch a adawyd gan gwymp Plaid Cymru. Yn 2007, torrwyd mwyafrif Llafur i 1,511 wrth iddynt ennill dros chwarter y bleidlais. Yn wir, petawn yn darogan 2011 (a fydda’ i sicr ddim yn gwneud hynny eto!) byddwn i’n tueddu at ddweud y gallai’r Rhyddfrydwyr gipio’r sedd, ond mae etholiadau San Steffan wastad yn dalcen caled ar ôl etholiad Cynulliad – i bawb ond am Lafur, fel rheol.
Cynhaliwyd y llwyddiannau. Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol 17 o gynghorwyr yn yr etholaeth, sef 68% ohonynt. Ar y cyngor, mae’r llanw yn sicr yn mynd i gyfeiriad y Rhyddfrydwyr – nhw sy’n arwain y Cyngor bellach. Dydw i ddim yn gwybod pa mor boblogaidd ydi’r arweinyddiaeth honno. Yr awgrym yw ei bod yn weddol boblogaidd, a hynny gan fod nifer seddau’r blaid wedi cynyddu’n gyson ers 1999.
O ddweud hynny, mae cynghorau sir, yn ogystal â llywodraeth ganolog, yn destun gwawd gan y cyhoedd pan fydd pethau fel yr economi’n mynd o chwith. Yn wir, gall arwain cyngor ar adeg etholiad fod yn fraint annymunol iawn. Gan ddweud hynny, parhaodd y Dems Rhydd i gadw’r pwysau ar Lafur y llynedd, gan ddod o fewn 400 o bleidleisiau i’r brig.
Ac, yn ddigon cyflym, awn at Lafur. Cafodd 23,000 o bleidleisiau yma ym 1997, sy’n drawiadol; roedd ymhell dros hanner y bleidlais. Felly gwyddwn ar unwaith bod dros hanner etholwyr (sy’n pleidleisio’n dra reolaidd) Gorllewin Abertawe wedi pleidleisio dros y blaid. Ers hynny, dydi pethau ddim mor gadarnhaol, ond dydw i ddim am eich diflasu drwy fwydro am y traean enwog. Yn anffodus i Lafur, erbyn 2005 roedd y niferoedd a bleidleisiodd drosti wedi lleihau bron ddeugain y cant. Yn wir, roedd y mwyafrif yn 4,269 (12.9%) – a hynny gydag aelod seneddol poblogaidd.
Yn anffodus eto i Lafur, ni fydd Alan Williams yn sefyll eleni. I wneud pethau’n waeth, cyn-AS Canol Croydon sy’n sefyll. Er yn Gymro, mae dethol rhywun felly mi deimlaf am wneud i bobl leol feddwl ei fod wedi’i barasiwtio i mewn. F’argraff i o’r sefyllfa ydi honno, cofiwch, croeso i chi anghytuno.
Ar lefel y Cynulliad, mae Llafur yn sylweddol wannach, ond ‘does neb eto wedi’i dal. Mae ei phleidlais yn gyson wedi bod rhwng 32% a 36%. Er na alla’ i fod yn siŵr o’r niferoedd a fydd yn pleidleisio eleni, synnwn i’n fawr petai isafswm canran Llafur yma yn is na hynny.
Mensiwn sydyn i’r cyngor ac Ewrop – dim ond 7 cynghorydd sydd gan Lafur yma bellach, sy’n ddeg yn llai na’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac fel y soniwyd uchod, o drwch blewyn enillodd yma y llynedd.
Mae’n her newydd i mi geisio darogan y gogwydd rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond wn i ddim pa werth ydi hynny beth bynnag – ‘does gennym, hyd y gwn, ffigurau cadarn am hyn beth bynnag. Dwi ddim yn or-hoff o gymhwyso polau Prydeinig i Gymru, ond mi wnawn beth bynnag. Yr awgrym, yn ôl arolwg diweddaraf ICM, yw bod gogwydd o 2% o Lafur i’r Democratiaid Rhyddfrydol – o ystyried hanes polau wrth amcangyfrif pleidleisiau’r ddwy blaid (llai i’r Dems Rhydd a mwy i Lafur) mae’n debyg bod hynny’n fwy.
Ond mae angen gogwydd o 6.5% ar y Democratiaid Rhyddfrydol i gipio Gorllewin Abertawe. Nid awgrymwyd hynny ychwaith yn yr arolwg barn Cymreig a wnaed gan YouGov y llynedd. Yn ôl hwnnw, deuai’r Ceidwadwyr yn ail yma, a fedra’ i ddim rhagweld hynny.
Na, bydd rhaid defnyddio rhywfaint o reddf i ddarogan Gorllewin Abertawe. Dyma grynodeb byr o’r ffeithiau:
Llafur
O’i phlaid: Hi yw deiliad y sedd ers 1964, gyda mwyafrif canran digon iach. Mae ganddi gynrychiolaeth yn yr ardal, ac mae’n sefydledig yma.
Yn ei herbyn: Nifer ei phleidleisiau wedi gostwng dros 8,000 ers 1997, o 56% i 42%. Wedi dod yn agos at golli yma yn 2007 ac yn 2009. Arolygon barn yn anffafriol iawn a’r aelod seneddol cyfredol yn ymddeol.
Y Democratiaid Rhyddfrydol
O’u plaid: Ar gynnydd sylweddol yn yr ardal, boed hynny ar y Cyngor, neu mewn etholiadau Cymreig a Phrydeinig. Mae’r ymgeisydd yn gynghorydd yn y sir ac wedi sefyll o’r blaen, yn 2007, a llwyddodd gynyddu’r bleidlais 7%. Arbenigwyr ar dargedu seddau unigol.
Yn eu herbyn: Y farn gyffredin ydi na fydd y blaid yn gwneud cystal yng Nghymru ag yn 2005. Os bydd mwy yn pleidleisio, gallai fod angen dros 5,000 o bleidleisiau yn ychwanegol arnynt i ennill yma – sef cynnydd o tua 50% yn eu pleidlais.
Dwi’n teimlo, fel ambell un arall, fod gan y Democratiaid Rhyddfrydol y momentwm yma, ond mae mwy iddi na hynny; mae’n storom berffaith. Mae Llafur yn amhoblogaidd, mae’r aelod poblogaidd yn gadael, a chryfhau’n gyson yw hanes y blaid yma dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Mae cynsail i hyn, sef Canol Caerdydd. Er nifer y myfyrwyr yn yr etholaeth honno, roedd, ac mae, angen cefnogaeth pobl leol ar y Rhyddfrydwyr i ennill yno – hyd yn oed yng Nghanol Caerdydd, pobl leol ydi’r mwyafrif. Ychwaneger at hynny bod eisoes fyfyrwyr yn byw yn Abertawe, sy’n grŵp gweithgar a chefnogol i’r blaid, yna mae ganddynt gyfle yma.
Nid enillwyd Canol Caerdydd dros nos – gymerodd ewyllys a gwaith caled. Mae gan y Dems Rhydd hynny yma hefyd.
Mae momentwm, cangen weithgar a llwyddiannau’n lleol yn arf peryglus – a ‘does neb yn defnyddio’r arfau hynny’n well na’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Proffwydoliaeth: Sticia’ i fy mhen allan. Un o ganlyniadau mawr Cymru fydd hwn; a bydd Gorllewin Abertawe yn dychwelyd Rhyddfrydwr i San Steffan am y tro cyntaf ers 86 o flynyddoedd gyda mwyafrif yn agosáu y fil.
Nessun commento:
Posta un commento