lunedì, gennaio 18, 2010

Goruwchnaturioldeb

O ddeffro ddydd Sadwrn, y bore’n atgof pell unwaith eto, roedd yn gryn syndod i mi ganfod darn o gibab ar lawr y lownj, ac unwaith eto sos coch o amgylch fy ngwefusau peraidd. Mae’n rhaid dy fod wedi cael cibab neithiwr, felly, ddywedish i wrth fy hun cyn digalonni a gweld bod yr haul yn dechrau machlud unwaith eto.

Ychydig oriau wedyn, wedi cael Pizza Hut i, wel, i frecwast mewn ffordd, er ei bod hi o leiaf chwech erbyn hyn, eisteddais lawr o flaen yr hen Sky+. Dwi ddim yn meindio mai dim ond rybish sydd ar y cannoedd sianeli o gwbl – cyn belled y bo modd i mi ddewis pa rybish dwi am ei wylio dwi’n ddigon bodlon.

Mae’n gyfuniad anffodus iawn mai sianel 201 sy’n mynd â’m bryd a minnau’n teimlo’n sâl o’r noson gynt. Chi wyddoch i mi sôn o’r blaen am y ffordd dwi’n teimlo’n paranoid y diwrnod ar ôl sesiwn – nid am fy ffolideb amlwg o’r noson flaenorol (dwi wedi hen ymdopi efo hwnnw) ond y ffaith bod rhywun yn paranoid yn gyffredinol. Dydi cyfuno hynny â’r Unexplained Channel ddim yn ffordd dda o fyw. Mae’n ddrwg i’r meddwl, a bron cyn waethed â’r cibab i’r galon.

Dwi wrth fy modd efo’r goruwchnaturiol, i’r graddau ei fod yn un o’r pethau y disgrifiwn fel diddordeb. Dwi’n meddwl bod hyn yn deillio o pan oeddwn fachgen ac yn gasglwr brwd y Monsters in my Pocket. Mae gen i feddwl agored am bopeth hefyd – wedi’r cyfan mae ‘na wraidd i bopeth. Dydi hynny ddim yn golygu y creda’ i mewn unrhyw beth, cofiwch, wna i ddim.

A dweud y gwir mae gen i set graidd o bethau’n dwi’n credu ynddynt, a ddim. Mi ydw i yn fodlon cyfaddef fy mod i’n credu mewn ysbrydion, er enghraifft. Rŵan, enghraifft benodol ydi honno ac, mi fyddai’n onest, mae’n deillio o brofiad personol – ond beth yn union ydi ysbryd, wel, wn i ddim go iawn. Ar y llaw arall dwi ddim yn credu mewn soseri hedfan a phobol o blanedau eraill yn dod yma. Mae’n anhygoel y pethau y bydd rhai pobl yn credu ynddyn nhw – os ydach chi isio hwyl jyst teipiwch ‘werewolves’ a ‘Wales’ i mewn i Gwgl i weld y pethau dwl y dywed rhai.

Os ydych chi tua fy oed i, un o’r rhaglenni mwyaf arswydus ar y teledu yng nghrombil y nawdegau oedd Strange But True? efo Michael Aspel. Roedd yn ddi-ffael yn rhoi ias i mi. Yn bur ffodus, fe’i hailadroddir yn gyson ar yr Unexplained Channel, gan roi cyfle i mi eto fwrw golwg arni gyda meddwl oedolyn, os nad oedolyn cwbl anaeddfed.

Yn y cyfnod ôl-yfed, mi fydd Strange But True? o hyd yn gwneud i mi deimlo’n ddigon annifyr. A minnau yno ar y soffa’n llwfrhau dwi’n gwneud y peth call, aeddfed i’w wneud, sef ceisio dod i fyny gydag eglurhaon neu fynnu’n groch ‘mae nhw’n deud clwydda’/‘yn amlwg rhywbeth arall ydi hwnnw’. Gas gen i gyfaddef mai’r peth anodd i’w wneud ydi, wel, credu.

Nessun commento: