Bydd sawl un o seddau’r cymoedd yn ddiddorol iawn eleni: Castell-nedd, Pontypridd, Blaenau Gwent ac o bosibl Cwm Cynon, felly dwi am droi fy sylw at un sy’n llai diddorol, sef Torfaen.
Dwi’n dweud llai diddorol oherwydd mae’n un o’r seddau hynny y mae Llafur bron yn sicr o’i hennill. Mae’n wahanol i weddill y Cymoedd ‘go iawn’ oherwydd bod gan y Ceidwadwyr bleidlais gref yma – maent yn dueddol o gael tua 15% o’r bleidlais sy’n eu gosod yn ail fel rheol – fwy na thebyg oherwydd ‘gor-lif’ o bleidleisiau o Sir Fynwy Geidwadol gyfagos.
Mae pobl yn tueddu i feddwl mai’r unig rai a allai ddisodli Paul Murphy oedd Llais y Bobl. Dewiswyd Paul Starling fel ymgeisydd iddi ac roedd popeth i’w weld yn mynd yn weddol, ond yn ôl y sôn cafodd ei orfodi i sefyll i lawr, a ‘does fawr neb yn siŵr beth yn union sy’n digwydd o ran yr ymgeisyddiaeth.
Ond dydw i ddim yn siŵr faint o wirionedd oedd ym mygythiad Llais y Bobl yn y lle cyntaf. Dim ond tri chynghorydd llwyddodd y blaid eu hennill yn 2008 – sef yr un nifer â Phlaid Cymru. I fod yn onest, byddai dyn wedi disgwyl iddynt wneud yn well na’r Blaid o ran nifer y seddau, ond nid dyna’r achos. Yn wir, o lwyddo ennill 14% o’r bleidlais yn etholiad ’07, mae’n ymddangos fel trai yn hytrach na chynnydd yw ei hanes yma dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Os y saif eleni mae’n anodd rhagweld y bydd yn rhagori ar hynny.
Hyd yn oed yn 2007 fe’i trechwyd gan y Ceidwadwyr yma.
Felly beth am edrych ar bleidleisiau’r pedair prif blaid mewn etholiadau Cynulliad ers 1999? Gwelir y ganran a gafwyd yn 2007 a’r newid o 1999 mewn cromfachau.
Llafur 43% (+5%)
Ceidwadwyr 20% (+11%)
Plaid Cymru 12% (+1%)
Dem Rhydd 11% (-)
Mae hynny’n ddiddorol! Cafodd Lynne Neagle fwy o bleidleisiau a chanran uwch yn 2007 nac y cafodd ym 1999 – a oes sedd Llafur arall yng Nghymru sy’n adlewyrchu’r patrwm hwnnw? Mae’r Ceidwadwyr, fel y gwelwn, wedi mwy na dyblu eu pleidlais, gyda’r Blaid a’r Dems Rhydd yn segur. Beth am felly wneud yr un peth gydag etholiadau 1997 a 2005?
Llafur 57% (-12%)
Ceidwadwyr 16% (+4%)
Dem Rhydd 16% (+4%)
Plaid Cymru 6% (+4%)
Eto, mae hynny’n ddiddorol iawn – mae cynnydd y pleidiau eraill yn gyfartal â dirywiad y Blaid Lafur. Y broblem i ni ydi, er mor ddiddorol ydi cymharu etholiadau yn Nhorfaen o safbwynt ystadegol pur, dydi hi fawr o les i ni wrth ddarogan canlyniad 2010. Serch hynny, unwaith eto dwi’n ffendio’n hun yn dweud, fodd bynnag, bod y bleidlais Lafur ei hun wedi gostwng tua thraean rhwng ’97 a ’05.
Wrth gwrs, gwyddom mai’r awgrym ydi na ddaw neb yn agos at Lafur yma. Felly y bydd hi, dwi’n meddwl. Byddai hyd yn oed y gogwydd arfaethedig o Lafur i’r Ceidwadwyr a gafwyd ym mhôl Cymreig y llynedd yn rhoi mwyafrif o dros 20% i’r blaid Lafur. Welwn ni mo’r fath ogwydd yma, wrth gwrs.
Yn olaf, dyma’r canrannau a gafwyd yn Etholiadau Ewrop o ran y pleidiau a gafodd dros fil o bleidleisiau:
Llafur 25%
Ceidwadwyr 16%
UKIP 16%
Plaid Cymru 12%
Dems Rhydd 9%
BNP 8%
Felly ‘doedd hi ddim yn fuddugoliaeth gadarn i Lafur, a chafodd y Ceidwadwyr dim ond tua faint y maent yn ei gael yma fel arfer. I fanylu’n fras, ymddengys bod y rhan fwyaf o bobl sy’n pleidleisio i’r BNP yn gyffredinol yn Llafurwyr, ond mae hefyd gyfradd uchel o’r rhai sy’n pleidleisio dros UKIP hefyd (mae’n gamgymryd mawr gan bobl ddweud mai Ceidwadwyr ydi’r mwyafrif llethol o’r rhain) – felly i raddau gellir dweud, heb y ddwy blaid honno, fod y bleidlais Lafur yn uwch mewn gwirionedd na 25%, hyd at y 40%. Byddai hefyd yn ganlyniad da i’r Ceidwadwyr ar tua chwarter y bleidlais.
Felly dwi’n cael fy hun mewn sefyllfa annymunol, lle gwyddom y canlyniad, ond nid i ba raddau y bydd Llafur yn ennill.
Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol, mi gredaf, heb â dewis ymgeisydd eto, ond mae plaid arall wedi, sef y Blaid Ryddewyllysol (y Libertarian Party). Gall tebygrwydd yr enw yn hawdd ddrysu pleidleiswyr, nid yn gwbl annhebyg i’r ffordd y mae’r Blaid Ryddfrydol yn dueddol o ddwyn llawer iawn o bleidleisiau wrth y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaeth Lerpwl Gorllewin Derby. O ystyried y cyfuniad hwnnw, gallai’r Dems Rhydd ddirywio fymryn yma – er dim ond ychydig o bwyntiau canran.
Wrth gwrs, gall Llafurwyr dadrithiedig yn hawdd wneud yn iawn am y golled bosibl honno.
Dydi Plaid Cymru byth wedi gwneud yn dda iawn yma, hyd yn oed ym 1999. Er, llwyddodd ennill gynrychiolaeth yn yr etholaeth am y tro cyntaf erioed yn 2008, gan ddychwelyd tri chynghorydd i’r cyngor sir. Oni welwn newid sylfaenol yng ngwleidyddiaeth yr ardal, mae’n anodd gweld Plaid Cymru yn ennill mwy na 10% o’r bleidlais yma. Er, synnwn i ddim tasa hi’n gwneud yn weddol.
Gwelwyd eisoes y gall y Ceidwadwyr wneud yn dda yma. Tueddaf i feddwl y cânt tua 20% o’r bleidlais y tro hwn, ac efallai rhagori ar hynny fymryn, ond mae’n annhebygol y byddant yn cael llawer mwy na hynny.
Felly beth am Lafur? Y peryg mawr ydi apathi. Mewn sedd lle mae gan Lafur fwyafrif cadarn, mae’r rhai y’u dadrithiwyd yn fwy tebygol o aros adref na bwrw pleidlais i rywun arall – er fan hyn y Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru ydi’r dewisiadau amlycaf. Ond gyda llywodraeth Geidwadol yn debygol, gall sbarduno Llafurwyr i aros yn driw am un etholiad arall. Teimlaf y gallai’r ddwy sefyllfa gydbwyso ei gilydd yn y pen draw.
Yn wir, er mor galed ydi hi i genedlaetholwr gyfaddef hyn, mae Paul Murphy yn wleidydd sy’n dallt y gêm wleidyddol yn llawn. Mae angen cymeriadau cryf ar y blaid Lafur, ac mae hwn yn un – bydd hynny’n fanteisiol.
Serch hynny, a gaiff Llafur fwy o bleidleisiau na’r 20,472 a gafodd yn 2005? Fel y dywedais gyda Llanelli, yr unig ffordd y gallwch ddychmygu y caiff ydi os bydd cynnydd sylweddol yn y niferoedd sy’n pleidleisio, a oedd yn 59% tro diwethaf. Byddai rhywun yn disgwyl cyfradd bleidleisio tua 65% i weld Llafur yn cynyddu ei phleidlais.
Y peth anoddaf i rywun sy’n darogan y pethau hyn ydi darogan y niferoedd a fydd yn pleidleisio. Dwi’n tueddu i feddwl y gallai fod yn weddol segur yn nifer o seddau’r Cymoedd; dydi mwyafrifoedd enfawr, dadrithio cyffredinol a phleidiol, a’r sefyllfa economaidd gyfredol ddim yn newyddion da i Lafur.
Proffwydoliaeth: Disgwyliaf i Lafur ennill gyda thua 12,000 o bleidleisiau yma – ond gan gael llai nag 20,000 o bleidleisiau.
Nessun commento:
Posta un commento