Dydw i ddim yn blismon iaith. Wel, dwi’n gobeithio ddim. Gwir, mi fydda i’n darllen golwg360 bob dydd o’r wythnos, a’r rhan fwyaf o’r amser yn twt twtian ar lu gamgymeriadau’r wefan (a’r ffaith nad ydyn nhw’n gallu cael enwau etholaethau yn iawn, hyd yn oed), ond ar y cyfan dwi ar begwn arall y sbectrwm. Mae’r blog hwn yn dyst i hynny – er, yn ddigon aml mi fydda i’n darllen ambell bost ac yn gresynu cael ambell genedl anghywir neu dreigliad coll. Pan fo chi’n ymwneud ag iaith bob dydd ddylech chi ddim cael y fath bethau’n anghywir, ond fy mlog i ydi hwn ac mi gaf felly fod mor esgeulus a dwi isio bod (a newid y cywair fel dwisho!). Dwi’n meddwl bod tafodiaith yn wych, ac y byddai’n well i bobl sy’n arfer bratiaith siarad Saesneg.
Ond mae rhai pethau y mae pobl yn eu dweud yn mynd ar fy nerfau ar lafar. Socs, shŵs, wicend, egsams, swîts. Mae hyd yn oed Ieuan Wyn Jones wrthi. Ych a fi. Buan iawn ar ôl i mi ddod i Gaerdydd y sylwish i fod gan bobl Dyffryn Ogwen Gymraeg da a digon cyhyrog ar y cyfan. Ewadd, fydda i’n meddwl weithiau, dani’n dda. Ond mae ‘na ambell i beth rhyfedd.
Byddai llawer iawn o’m ffrindiau adra yn dueddol o ddweud yr amser yn Gymraeg. Byddai hyd yn oed Dad, nad ysgolhaig mohono mewn unrhyw, unrhyw ystyr (i fod yn onast mae’n ddwl fel dafad ddall), yn dweud yr amser yn Gymraeg. Ond eto, byddai ef a hwythau’n dueddol o ddweud y dyddiad yn Saesneg: “Mae’n bum munud ar hugain i ddeg ar y ffortînth o Jwlei”.
Rhaid i mi gyfaddef fydda i bob amser yn dweud ‘Jŵn’ a ‘Jwlei’ yn hytrach na ‘Mehefin’ a ‘Gorffennaf’, ond ar wahân i’r ddau eithriad hynny mae’r misoedd yn Gymraeg i mi. Fydda i’n cyfaddawdu, wrth gwrs. Yn hytrach na dweud “yr unfed ar ddeg o hugain o Ebrill” buaswn i’n dweud “Ebrill tri deg un”, ond mae hynny’n ddigon teg, yn enwedig gan nad Saesneg mewn Cymraeg mohoni.
Un o’r ffliwcs ieithyddol mwyaf od ydi tueddiad pobl i dreiglo ar ôl berfenwau e.e. ‘sylwi fod’ yn lle ‘sylwi bod’. Rŵan, dwi’m am farnu hynny, gwell ‘sylwi fod’ na ‘realiso fod’ unrhyw ddydd, a dydi hi’m yn swnio’n erchyll ar y glust, ond dwi’n ei gweld yn rhywbeth od. Dwinnau fy hun, ar lafar, yn gwneud hynny, er fy mod i’n gwybod y rheol. Gan ddweud hynny dim ond y genedl ryfeddaf âi ati i sgyrsio yn ôl dull yr hanesydd John Davies yn ei bywyd beunyddiol.
Problem fawr y Cymry Cymraeg, mi gredaf, ac fe welwch hyn o ddarllen yn unrhyw le, ydi nad ydan ni’n gwybod sut i ysgrifennu Cymraeg, er ein bod yn cofio sut i’w siarad. Rhag ofn i chi feddwl fy mod i’n snob yn dweud hynny, nid beirniadu ydw i, am unwaith, ond dweud yn blaen nad ydym yn ysgrifennu gystal ag y gwnaethom. Dirywiad y capeli sydd gwbl ynghlwm wrth hynny, wrth gwrs. Mae pobl ifanc yn ennyn llid y genhedlaeth hŷn o ran safon eu hiaith. Ond nid unffordd mohoni o gwbl. Mae Anti Rita’n dweud bod gan fy nghenhedlaeth i ‘Gymraeg posh’!
Wn i ddim am hynny. Rhowch i mi dafodiaith dros bopeth unrhyw ddydd. Ond mae ffliwciau Cymraeg modern yn gwneud i mi weithiau wenu, weithiau digalonni ac weithiau rhyfeddu sut ddiawl ein bod ni’n dyfeisio’r ffasiwn bethau! Cenedl ryfedd o fewn cenedl ryfedd ydi’r Cymry Cymraeg, yn wir.
2 commenti:
Fy ffefryn i ydi "Ellwch chi dalio ar?" yn Nationwide Caernarfon.
"Un o’r ffliwcs ieithyddol mwyaf od ydi tueddiad pobl i dreiglo ar ôl berfenwau e.e. ‘sylwi fod’ yn lle ‘sylwi bod’. ... Dwinnau fy hun, ar lafar, yn gwneud hynny, er fy mod i’n gwybod y rheol."
Ond does dim rheol: Yn y Golygiadur, mae Rhiannon Ifans yn dweud y gellir treiglo "bod" pan fydd yn golygu "that" e.e.:
"Yr wyf yn meddwl fod sawl ffordd o ennill rheolaeth"
"Nid wyf yn meddwl fod defnydd i hwn bellach"
(Ond mae berfau eraill yn treiglo ar ôl berfenw:
"Roeddwn yn meddwl mynd i'r dre"
"Mae John yn ystyried canu yn yr eisteddfod")
Diolch am dy sylw ar fy mlog i. Mae'n dda cael sylw.
Posta un commento