Y flwyddyn nesaf, bydd Caerffili wirioneddol yn un o seddau’r Cymoedd y bydd dyn yn cadw llygad arni. Mae’n un o’r seddau hynny y mae Plaid Cymru wedi sefydlu ei hun fel prif wrthwynebydd y Blaid Lafur, ond er gwaethaf hen hanes isetholiad 1968 ac un tro gweddol agos yn y Cynulliad, dydi Plaid Cymru byth wedi llwyddo i ennill yr etholaeth ar unrhyw lefel.
Fel mewn ambell le, y Ceidwadwyr ddaeth yn ail yma ym 1997, fymryn ar y blaen i’r Blaid. Arferai’r Ceidwadwyr yn mynych gael bron i ugain y cant o’r bleidlais yn y sedd, ond nid ers 1992. Cafodd Llafur bron i 70% o’r bleidlais ym 1997 gyda mwyafrif o 57%.
Collodd bron i 8,000 o bleidleisiau yn 2001 wrth i Blaid Cymru bron â dyblu ei phleidlais hi. Cafodd 21% o’r bleidlais y flwyddyn honno – gogwydd o 10%. Fyddai hynny byth yn hanner digon, wrth gwrs. Y gwir ydi, mae Caerffili yn ardal gadarn i Lafur.
Erbyn 2005, dechreuodd y Ceidwadwyr adennill cefnogaeth, gan sicrhau 5,711 o bleidleisiau, wrth i Blaid Cymru ddirywio o ychydig dros wyth mil i 6,831. Gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ymhell y tu ôl, llwyddodd Llafur o hyd ennill dros 22,000 o bleidleisiau, dim ond mymryn bach yn llai na 2001. Cynyddodd ei mwyafrif i 39%.
Felly o edrych ar dair prif blaid Caerffili, dyma’r gwahaniaeth o ran pleidleisiau a’r ganran o’r bleidlais a gafwyd rhwng 1997 a 2005.
Llafur -8,100 (-11.2%)
Plaid Cymru +2,448 (+7.7%)
Ceidwadwyr +853 (+3.9%)
Felly rhwng 1997 a 2005, cafwyd gogwydd cryf at Blaid Cymru, yn hynny o beth nid oes dwywaith. I raddau yn unig y mae’r Ceidwadwyr wedi cynyddu eu pleidlais, ond mae Plaid Cymru yn sicr wedi atgyfnerthu – efallai nid yn ddigon sylweddol o ran nifer y pleidleisiau, ond o ran canran y bleidlais a gafwyd mae hi bellach yn ail blaid gadarn. Mae union bleidlais Llafur wedi gostwng tua chwarter.
Ar hyd yr un llinellau, dyma’r hanes ar lefel y Cynulliad rhwng 1999 a 2007.
Llafur -3,576 (-9.6%)
Plaid Cymru -3,002 (-8.4%)
‘Does ‘na ddim hyd yn oed pwynt i mi sôn am y Ceidwadwyr na’r Rhyddfrydwyr. Yn rhyfeddol, mae dirywiad y ddwy brif blaid yma wedi bod yn ddigon cyfartal. Yn wir, gwnaeth y Blaid yn waeth yma yn 2007 nag yn 2003 - sy’n dweud rhywbeth. Y rheswm, wrth gwrs, oedd i Ron Davies sefyll ar docyn annibynnol gan ennill bron i chwarter y bleidlais. Allwn ni ddim, mewn difrif, ddarogan beth fyddai wedi digwydd pe na bai wedi sefyll - mae’r honiadau lu mai Plaid Cymru fyddai wedi ennill yng Nghaerffili yn llwyr ddiystyru’r Llafurwyr a bleidleisiodd iddo. Yn fy marn i, byddai pethau wedi bod yn agosach, ond ddim cweit digon i’r Blaid ennill yma.
O gael y ffigurau o’r ffordd, gallwn ddadansoddi fymryn yn fwy. Yn 2008 enillodd Plaid Cymru yn hawdd yma yn etholiadau’r cyngor. Cafodd 10% yn fwy o bleidleisiau na Llafur, a mwyafrif o’r seddau. O wneud ambell sỳm, mae’n debyg mai tua 12,000 - 13,000 o bobl fwriodd bleidlais i Blaid Cymru, gydag ychydig dros ddeng mil yn gwneud yr un fath i Lafur. Gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr prin yn cystadlu, ac aelodau annibynnol ddim yn cael effaith fawr, llwyddodd y Blaid i gronni’r bleidlais wrth-Lafur.
Prin y gall gwleidyddiaeth leol ddweud gormod wrthym am ganlyniad eleni, ond o gael mwy o gynghorwyr gall unrhyw blaid gynnal ymgyrch yn haws. Heb amheuaeth, mae cael nifer o gynghorwyr mewn etholaeth yn sail gadarn i ddechrau targedu sedd seneddol. Mae gan Blaid Cymru fwy o’r rheini na Llafur yng Nghaerffili.
Yn olaf, Etholiadau Ewrop – pob plaid dros 10%:
Llafur 25%
Plaid Cymru 22%
Ceidwadwyr 14%
UKIP 12%
Ychydig gannoedd ddaeth Plaid Cymru y tu ôl i Lafur, ond byddai peidio â churo Llafur yma wedi bod yn siom enfawr iddi o ystyried ei chryfder lleol. Heb UKIP, gallai fod wedi bod yn ras deirffordd, bosib. Credaf y byddai Llafur wedi cael rhyddhad o ennill yma. O ystyried fy symiau o ran y cyngor lleol, roedd y bleidlais Lafur tua 6,000 yn is nag yn 2008, gyda’r bleidlais genedlaetholgar tua deng mil yn is.
Ond mae’n 2010 rŵan. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol, unwaith eto, yn aflwyddiannus iawn yma – ‘does ‘na ddim bwlch iddyn nhw ei lenwi. O ran y Ceidwadwyr, mae’n anodd eu gweld yn llwyddo cipio’r ail safle wrth Blaid Cymru, ond mae cefnogaeth Geidwadol yma. Fel Pontypridd i raddau, mae Caerffili yn gynyddol droi’n ardal sy’n faestref i Gaerdydd, yn rhywle i gymudwyr fyw. Y Blaid Lafur sy’n dioddef yn sgîl hynny, ond mae dyn yn amgyffred mai’r Ceidwadwyr fyddai’n elwa fwyaf. Gall y Ceidwadwyr ragori ar berfformiad 2005 o ambell fil.
Bydd UKIP yn sefyll yma eleni, ond dwi ddim yn rhagweld yma y bydd yn effeithio gormod ar y Ceidwadwyr.
Mae gan Blaid Cymru dasg fawr o’i blaen – ni fydd cadw’r ail safle yn hawdd, ond o ystyried yr ychydig ganlyniadau diwethaf dylai wneud – petawn yn Blaid Cymru byddwn i’n gobeithio ennill tua 9,000 o bleidleisiau yma eleni. Dydw i ddim yn gwybod, mewn gwirionedd, i ba raddau y bydd cefnogaeth Ron Davies i Lyndsey Whittle yn effeithio ar bleidlais y Blaid, ond all hi ddim ond bod yn dda.
Os na fydd Plaid Cymru yn gwneud yn dda yng Nghaerffili, dylai cwestiynau dwys gael eu gofyn. Gellir dadlau bod ei seiliau yng Nghaerffili yn gryfach nag unrhyw ran arall o’r Cymoedd ac mae’n rhaid iddi ddechrau trosi hynny’n bleidleisiau mewn etholiadau Prydeinig a chenedlaethol.
Beth am Lafur? Yn onest, dydi’r mwyafrif o 15,000 ddim mewn perygl o ddiflannu - ni chaiff Plaid Cymru y gogwydd angenrheidiol o 20% ychwaith. Fel mewn cymaint o seddau Llafur diogel, mae’r cyfan yn dibynnu ar faint o bobl a fydd yn cyboli pleidleisio. 59% wnaeth y tro diwethaf.
Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen, dydi’r polau fawr o ddefnydd i ni mewn seddau fel hyn – Llafur cadarn, Plaid Cymru’n ail pell. Yn sicr, dylai’r Ceidwadwyr atgyfnerthu y tro hwn, ond alla i ddim smalio gwybod o ba gyfeiriad y daw eu pleidleisiau ychwanegol.
Yn y pedwar etholiad diwethaf (2005-2009) mae Plaid Cymru wedi cael, ar gyfartaledd, tua 29% o’r bleidlais a Llafur hithau tua 38%. Felly y duedd ydi bod y cenedlaetholwyr ar gynnydd a Llafur ar drai.
O gael 56% o’r bleidlais y tro diwethaf, dydi hi ddim y tu hwnt i’r dychymyg meddwl y gallai Llafur lithro is yr hanner cant. O ystyried yr etholiadau diwethaf, dydi hi ddim yn anochel chwaith dychmygu Plaid Cymru yn cyrraedd yr ugain y cant eto. Dydi Llafur ddim yn ymladd nôl ar lawr gwlad, cofiwch – yn fy marn i – dim ond yn y polau piniwn. Mae pobl bellach yn fodlon dweud eu bod yn pleidleisio i Lafur, ond mae o hyd yn ddirywiad o 2005, a bydd y dirywiad hwnnw mi gredaf yn waeth yng Nghymru na’r unman arall.
Beth petai gogwydd uniongyrchol o Lafur i Blaid Cymru ar yr un raddfa â 2001 – deg y cant yn union? Ddim yn amhosibl o gwbl o ystyried hanes etholiadol yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf – ond i wneud pethau ychydig yn fwy realistig beth am gynyddu pleidlais y Blaid 9% a gostwng y bleidlais Lafur 11%. Ystyriwn hefyd y bydd yr un nifer o bobl yn pleidleisio. Dyma’r canlyniad damcaniaethol:
Llafur 18,000 (46%)
Plaid Cymru 10,200 (26%)
Mwyafrif: 7,800 (20%)
Dwi ddim wedi fy llwyr argyhoeddi gan yr uchod. Wedi’r cwbl, dydi’r Blaid heb heibio’r deng mil mewn etholiad cyffredinol (na chynulliad). Byddai’n rhaid gwybod gan ymgyrchwyr llawr gwlad i wybod a ydi hynny’n bosibilrwydd. Yn sicr, dydi hi ddim yn amhosibl y bydd Llafur is yr 20,000, ac os felly, Plaid Cymru ddylai elwa fwyaf.
Y gair pwysig, wrth gwrs, ydi ‘dylai’! Dwi ddim yn disgwyl i’r Blaid gyrraedd y nod 10,000 a dwi’n disgwyl y bydd y Ceidwadwyr yn rhesymol agos at gipio’r ail safle.
Proffwydoliaeth: Llafur i ennill gyda mwyafrif 8,000 – 10,000.
Nessun commento:
Posta un commento